Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Rhiwbryfdir

Oddi ar Wicidestun
Croesor Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Tabernacl
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Rhiwbryfdir
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Blaenau Ffestiniog
ar Wicipedia




RHIWBRYFDIR.

Capel y Rhiw ydoedd y trydydd, o ran trefn ac amser, a adeiladwyd gan y Methodistiaid yn Mlaenau Ffestiniog, a'r eglwys ymgynulledig ynddo ydoedd y drydedd gangen a ffurfiwyd o fewn i'r un cylch. Ymwahanodd y gangen hon oddiwrth eglwys Tanygrisiau yn y flwyddyn 1856, megis yr oedd Tanygrisiau wedi ymwahanu oddiwrth Bethesda, ddeunaw mlynedd yn flaenorol. Perthyna i ardal y Rhiw gryn lawer o hanes, cyn bod eglwys wedi ei ffurfio yn rheolaidd ynddi, yn enwedig mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Ysgrifenwyd hanes yr ysgol yn dra chyflawn gan Mr. T. J. Roberts, Ael-y- bryn, a chyhoeddwyd ef gydag Adroddiad yr Ysgolion Sabbothol am 1874. Mae y ffeithiau dyddorol a gasglwyd ynghyd y pryd hwnw yn werth eu corffori a'u cadw, fel rhan o weithrediadau yr eglwys hon.

Oddeutu 1820, nid oedd neb yn proffesu crefydd yn y rhan yma o'r ardal gyda'r un enwad, oddieithr un wraig, sef Ellin Williams. Bu Ysgol Sul yn cael ei chynal gan yr Annibynwyr dros ryw ysbaid o amser yn Rhiwfawr; ond, oherwydd colli ei phrif noddwr, bu raid ei rhoddi i fyny. Yn y cyfamser, teimlai ychydig deuluoedd a breswylient yn y Cwm, y rhai oeddynt yn magu plant, awydd cryf am i'w plant gael eu dysgu i ddarllen y Beibl. Yn ngrym yr awydd hwn, aeth William Jones, Griffith Ellis, Owen Dafydd, ac Isaac Edwards, i Neuadd-ddu (yno yn unig y cynhelid pob moddion crefyddol yn y Blaenau y pryd hwn), i gyfarfod athrawon, er gosod y cais gerbron. Yr oedd hyn tua Hydref, 1825. Yr oeddynt yn bur ddigalon ar eu ffordd yno, rhag i'w cais fyn'd yn fethiant. Meddai W. Jones, "Tybed y llwyddwn ni?" "Mae arna' i ofn na wnawn ni ddim," meddai G. Ellis. "Gadewch i ni fyn'd yno i dreio," meddai O. Dafydd, "os na chawn laeth, fe gawn y piser," ac ymlaen yr aethant. Ond derbyniad lled oeraidd a roddwyd i'w cais. Ond digwyddodd fod y Parch. W. Thomas, brawd y Parch. Robert Thomas, Llidiardau, yn y cyfarfod, yr hwn, ar y pryd, oedd yn adeiladu capel Bethesda. "Frodyr bach," ebe y gŵr hwn, "dylech, ar bob cyfrif, wrando ar gais y cyfeillion." Felly, trwy ei gyfryngiad ef, llwyddasant; a'r Sabbath canlynol, daeth dau frawd o'r Neuadd-ddu i sefydlu ysgol yn Rhiwbryfdir, mewn lle a elwid Pant-y-lleidr, yr hwn le sydd er's talm wedi ei gladdu dan rwbel y chwarel. Y flwyddyn y sefydlwyd hi, daeth gwr o'r enw W. Williams (Gwilym Peris), i fyw i Talywaenydd, yr hwn, ynghyd a'i wraig, oeddynt yn proffesu crefydd. Yr oedd ef yn fwy galluog na'r cyffredin, a manteisiodd yr ardalwyr lawer trwy ei ddyfodiad i'w plith. Mewn cysylltiad â Bethesda, ceir ei hanes yn gwneuthur cais i ddysgu Gramadeg Cymraeg yn yr Ysgol Sul. Rhif yr ysgol hon, pan yn cael ei sefydlu, ydoedd 46.

Er mwyn gweled beth oedd ansawdd yr achos yn gyffredinol yr adeg yr oedd yr ysgol yn Pant-y-lleidr, nodir y ffaith, ar sail tystiolaeth un o'r hen frodorion, R. Williams, gynt o Conglywal, nad oedd ond oddeutu 40 o aelodau eglwysig perthynol i'r Methodistiaid yn yr oll o Flaenau Ffestiniog. Bu ysgol lewyrchus, wedi hyn, yn y Mynachlog. Ar ol colli y lle hwn, buwyd gydag un o'r enw Mr. Homfray, yn ymofyn am le i adeiladu ysgoldy, a dywedir i hyny gael ei ganiatau. Aeth y brodyr yr Annibynwyr ato gyda'r un neges, pryd yr atebodd yntau, "Fi wedi rhoi lle. Chi myn'd at eich gilydd. Chi am fod hefo'ch gilydd yn y nefoedd, chi bod gyda'ch gilydd ar y ddaiar hefyd." Ni adeiladwyd ysgoldy, fodd bynag, gan y naill na'r llall. Bu yr ysgol yn crwydro o dŷ i dŷ am yn agos i ugain mlynedd. Nodwedd arbenig yn perthyn i'r Ysgol Sul yn y gymydogaeth hon oedd, y byddai llawer iawn o weddio ar yr Arglwydd ar ei rhan. Bob haf, am flynyddoedd, byddai cyfarfodydd gweddio yn cael eu cynal ar gylch yn y tai, am chwech o'r gloch boreu Sabbath, ac yn ystod y gauaf, ar noson waith. Teimlai yr ychydig broffeswyr oedd yn Cwm y Rhiw, hefyd, yn ddwys dros eu cymydogion dibroffes. Cynhelid cyfarfodydd ganddynt, y rhai y gellid eu galw yn seiat, i'r diben o adrodd eu profiadau gyda gwaith yr ysgol. Yn un o'r rhai hyn, profiad un o'r hen frodyr ydoedd, "O frodyr, gweddiwch drosom." "Wel," meddai yr hen frawd John Jones, o Dolyddelen, "Rhaid i ti weddio dy hun yn gyntaf, Evan. Dydi o ddim diben i ti geisio gan eraill wneyd hyny drosot, heb i ti weddio dy hun yn gyntaf." I hyn yr atebwyd gan y chwaer Ellin Williams. Tai'rfrest, "Mae yn debyg, John Jones, ei fod wedi dechreu gweddio ei hun, cyn y buasai yn ceisio gan eraill i wneyd hyny drosto."[1]

Yn 1842, cafwyd lle pwrpasol i gynal yr ysgol trwy adeiladu Ysgoldy y Dinas. Yr oedd cymydogaeth y Rhiw y pryd hwn o dan nawdd yr achos yn Nhanygrisiau, ac felly arnynt hwy yno y disgynodd y draul o adeiladu. Cynyddodd yr ysgol yn fuan wedi myned i'r adeilad hwn, i 143. Yn Awst 1848, sefydlwyd cangen ysgol drachefn yn Talywaenydd, a G. Williams, ieu., wedi hyny, y Parch. G. Williams, Talsarnau, oedd un o'r rhai a osodwyd i ofalu am yr ysgol hon. Dywediad y gwr parchedig mewn cysylltiad â hyn ydoedd, "Y bydd i bwy bynag a ymgymero â gofalu am gornelau fel y daeth i'w ran ef gyda'r ysgol, wneyd lles i eneidiau anfarwol." Adeiladwyd y capel cyntaf, yr hwn a adnabyddir yn awr fel Hen Gapel y Rhiw, yn 1856, pryd y ffurfiwyd yr eglwys. Ei rhif ar y cychwyn ydoedd 100. Cyn pen pedair blynedd, mae y capel yn cael ei helaethu. A buan drachefn, oherwydd cynydd cyflym y boblogaeth, y mae yn myned yn rhy fychan i'r gynulleidfa, ac mae yr eglwys yn gwylio ei chyfleusdra am le cyfaddas i adeiladu y drydedd waith, ac o'r diwedd yn llwyddo, ond ar delerau tra anffafriol, gyda dim ond 40 mlynedd o brydles. Yn ngwyneb yr anfantais hon, cymhellai y diweddar Barch. E. Morgan, y Dyffryn, yr eglwys i fyned ymlaen "trwy ffydd," ac felly gwnaed. Ac yn Nhachwedd, 1868, agorwyd y capel presenol. Yn y flwyddyn 1887, mae yr eglwys yn llwyddo i brynu y capel a'r tŷ yn freehold am 300p., a gair Mr. Morgan yn cael ei wirio, sef y byddai rhywbeth yn sicr o ddigwydd i beri i'r eglwys gael y capel yn feddiant. Y flwyddyn ganlynol, adeiladwyd ysgoldy eang ynglyn â'r capel, yr hwn a agorwyd Mawrth, 1889. Y draul ynglyn â'r adeiladau sydd fel y canlyn:—

£
Gwerth y capel cyntaf yn 1856 400
Yr helaethiad arno yn 1859 250
Y capel newydd yn 1868, gan gynwys y tŷ 3,800
Capel Talywaenydd yn 1872 180
Pryniad y capel yn freehold yn 1887 300
Yr Ysgoldy Newydd yn 1889 700
£5630

Talwyd y ddyled trwy y moddion canlynol:—(1) Casglu yn fisol yn yr Ysgol Sabbothol; (2) Arian yr eisteddleoedd: (3) Y Gymdeithas Arianol. Pan adeiladwyd y capel presenol, yr oedd y swm o 1100p. wedi ei gasglu erbyn amser ei agoriad. O'r flwyddyn 1868 hyd ddiwedd 1878, casglwyd gan yr Ysgol Sabbothol 1806p., a derbyniwyd o arian yr eisteddleoedd 1112p. A threiglwyd y swm o oddeutu 9000p. trwy y Gymdeithas Arianol, mewn corff 12 mlynedd o amser, trwy yr hyn yr arbedwyd talu llogau.

Ar y cyntaf yr oedd Rhiw a Thanygrisiau yn un daith. Yn Nghyfarfod Misol Medi, 1864, rhoddwyd caniatad iddynt fyned yn ddwy daith.

Prif nodweddion yr hen grefyddwyr yn Nghwm y Rhiw ydoedd, sel, ffyddlondeb, a duwioldeb amlwg. Er i nifer mawr o frodyr, y tu allan i'r swyddogaeth, weithio yn rymus gyda'r achos yma o'r cychwyn, ni chaniata terfynau yr hanes i nodi ond ychydig engreifftiau o'r rhai hynotaf. William Sion, Trai'rfrest, oedd un o'r pedwar a aeth gyntaf i ymofyn am yr ysgol i Neuadd-ddu. Yr oedd cywirdeb a gonestrwydd gyda chrefydd yn amlwg iawn ynddo ef. Coffheir am un Sabbath hynod yn ei hanes, pan yr oedd ef a'i ddosbarth yn darllen yr ail benod yn Llyfr yr Actau yn yr ysgol. Disgynodd rhywbeth hynod arnynt, nes oedd y dagrau yn treiglo i lawr ar hyd gruddiau yr athraw ac amryw o'r disgyblion, a dyna ddywedodd yr hen dad, "Wel, bobl, dyma ni wedi cael yr Esboniwr Mawr ei hun atom heddyw. Pe caem yr esboniwr hwn gyda ni bob amser, gallem yn hawdd esbonio'r Beibl wedy'n." Gŵr duwiol a ffyddlon ydoedd Griffith Williams, tad y Parch. G. Williams, Talsarnau. Dygwyd ef i fyny yn ardal Dolyddelen, ymysg cewri o bregethwyr, sef meibion Tanycastell. Yr oedd ei awyddfryd am lwyddiant y weinidogaeth bob amser yn fawr iawn. Arferai ddweyd nad aeth yr un Sabbath heibio hyd ddiwedd ei oes, byth wedi i'w fab Griffith ddechreu pregethu, na fyddai yn myned a'i achos yn bersonol gerbron gorsedd gras. Hysbysir ei bod yn ffaith yn ei hanes, am yn agos i 50 mlynedd y bu yn gweithio yn y chwarel, nad aeth ond unwaith o'r tŷ yn y boreu heb gadw dyledswydd deuluaidd, ac iddo y tro hwnw, wedi cael hamdden ar ei ben ei hun yn y Machine, gadw dyledswydd ei hunan. Parhaodd yn iraidd ac ieuanc ei ysbryd hyd y diwedd. William Sion, Soar, hefyd, oedd un o hen grefyddwyr disglaer yr ardal, er y byddai yn bur hawdd ganddo achwyn ar ei grefydd ei hun. Un noson seiat, aeth y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, yr hwn a ddigwyddai fod yn arwain y cyfarfod, ato, a gofynodd iddo, pa fodd yr oedd yn teimlo gyda'i grefydd erbyn hyn, pryd yr atebodd yr hen frawd, "Yr wyf yn ofni yn fawr, Griffith bach, fy mod hebddi hyd heno." "Onid yw yn beth rhyfedd, fewyrth," ebai G. W., "eich bod wedi dod i'r un farn â ninau am eich crefydd?" Ac meddai yr hen bererin yn ol, "Does genyt ti ddim gwell meddwl na hynyna am fy nghrefydd i, Griffith?" A chyn diwedd yr ymddiddan yr oedd yn grefydd i gyd. Yn ei hen ddyddiau fe wnaeth Mr. Holland ef yn bensioner, ac yr oedd G. Williams, hynaf, wedi ei wneyd felly gan Gwmni y Welsh Slate. Byddai y ddau bensioner ar adegau yn canlyn eu gilydd, ac un tro, pan yr oeddynt yn Pantyrafon, yn cerdded ar hyd y ffordd, meddai G. W. wrth W. S., "Wel di, tyr'd dipyn bach yn mhellach," ac yna hudodd ef o'r ffordd, a gofynodd iddo, "Wel, Wil bach, sut y mae hi arnat ti? A oes genyt ti ddigon o grefydd i fyned oddiyma?" Trodd ei hen gyfaill ato, gan ddywedyd, "Ai dyna dy falais di, Guto, yn dod a fi i'r fan yma, i chwilio fy mhac i, ac i wybod faint o grefydd sydd genyf fi?" Cafodd Griffith Jones, Glanypwll, ac Evan Roberts, eu hargyhoeddi tua'r un adeg. Cyfeiriai y cyntaf bob amser at ryw brydnhawn Sadwrn, pan yn sefyll ar gareg y drws, y daeth yr adnod hono yn rymus i'w feddwl, "Melldith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol." Addunedodd gyflwyno ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobl, a chyflawnodd ei addewid. A'r Sabbath canlynol ymunodd E. Roberts hefyd â chrefydd. William Jones, Glandwyryd, er heb fod yn swyddog rheolaidd, a wnaeth lawer o waith y swydd. Dywediad un o'r blaenoriaid am dano ydoedd, y byddai yn edrych arno fel dyn wrth gefn. Bu William Jones, Penygroes, yn arwain y canu gyda ffyddlondeb mawr am y chwe' blynedd cyntaf ar ol ffurfiad yr eglwys, ac a fu farw yn anterth ei nerth yn Rhagfyr, 1862. Mab iddo ef ydyw yr arweinydd galluog ac adnabyddus presenol. John Williams, Tŷ Capel, gynt, a wnaeth ei ran fel disgybl ffyddlon, trwy wasanaethu am dymor hir ar y pregethwyr, a thrwy lafurio llawer gyda'r plant.

Amser i'w gofio yn Nghwm y Rhiw ydoedd adeg y diwygiad grymus yn 1859. Byddai cyfarfodydd gweddiau yn cael eu cynal, dros ryw ysbaid yn flaenorol, ar gylch ar hyd y tai, am 4-30 y Sabbath. Bu dau gyfarfod gweddi tra hynod felly yn Llechwedd a Thalywaenydd, nes ydoedd bron a thori allan yn orfoledd. Am chwech yn yr hwyr, yr un Sabbath, cynhelid cyfarfod gweddi yn y capel (pryd nad oedd yno bregeth), a thystiolaeth pawb oedd yn bresenol ydoedd, fod rhyw ddwysder arbenig iawn ynddo, hyd nes yr oedd amryw bron a cholli eu hanadl. Ar ei ol drachefn cynhelid cyfarfod gweddi y bobl ieuainc, ac yn hwn y dywedir y torodd y diwygiad allan, a hyny tra yn canu yr hen benill, "Fel bo'i mhechod gael ei glwyfo a'i wanhau," yr hwn a ganwyd laweroedd a llaweroedd o weithiau. Yr wythnos ganlynol, o'r 9fed i'r 16eg o Hydref, 1859, yr oedd yn wythnos o weddio ddydd a nos. Llwyr adawai y chwarelwyr eu gorchwylion o'r holl chwarelau, yn ystod y dydd, ac ymgynullent yn dyrfaoedd i Ffriddybwlch (llechwedd o fynydd gerllaw) i gynal cyfarfodydd gweddio, a byddai y capelau yn orlawn o bobl hyd yn hwyr y nos, a "sain cân a moliant," a swn gorfoledd mawr oedd i'w glywed ar hyd y gymydogaeth, trwy yr holl wythnos gofiadwy hono. Bu y diwygiad hwnw o fendith annhraethadwy i'r cymydogaethau hyn. Ychwanegwyd at yr eglwys drwyddo yn y Rhiw yn unig o 100 i 150 o aelodau. Un Sabbath yn fuan wedi hyn, yr oedd y Parch. Daniel Evans, y Penrhyn, yn pregethu yn y Rhiw, gyda hwylusdod a dylanwad pur fawr, oddiar y geiriau, "Yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni." A'r noson hono, er llawenydd mawr i'r holl fro, arhosodd William Williams, Rhiw House, prif oruchwyliwr cwmni chwarel y Welsh Slate, ar ol yn y cyfarfod eglwysig, a'i ateb i'r gweinidog, yr hwn a aeth i ofyn gair iddo, ydoedd, "Ei fod yntau wedi meddwl am gael rhan yn yr etifeddiaeth." A ganlyn ydyw rhestr o swyddogion yr eglwys:—

EVAN ROBERTS

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, fel blaenor yn Nhanygrisiau, Mai, 1842. Efe oedd yr unig swyddog a symudai gyda'r eglwys oddiyno i'r Rhiw. Bu yn swyddog am 44 mlynedd,-14 yn Nhanygrisiau, a 33 yn y Rhiw. Bu farw yn 1886. Arferai ddweyd ei hun iddo fod o dan Sinai am gryn amser yn nechreu ei oes. Ymunodd â chrefydd yn eglwys Bethesda, a bu yn hynod o ffyddlon ar hyd ei yrfa grefyddol. Y mae yn ffaith yn ei hanes na wnaeth esgeuluso gymnaint ag un moddion crefyddol. Meddai ar fedr neillduol i arwain mewn cyfarfodydd eglwysig, ac yr ydoedd yn dda yn ei gynghorion gyda'r amcan o ddiddanu a chadarnhau y saint; ac os byddai angen ceryddu, meddai ar allu i fod yn llym, ac i ddangos y llywodraethwr, a safai yn dyn dros ddisgyblaeth eglwysig. Bu yn hynod o selog gyda'r Ysgol Sul yn y Cwm yn ei blynyddoedd cyntaf, ac yn athraw ynddi cyn bod yn aelod eglwysig. Llanwodd y swydd o arolygwr yr ysgol am flynyddoedd meithion, a gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlawn mewn dilyn Cyfarfodydd Misol. Cerddodd lawer iddynt amser yn ol, gyda mawr sel. Dioddefodd gystudd maith, a bu farw gan ymorphwys ar y Person y cafodd y fraint o'i wasanaethu dros amser mor faith.

HENRY TREVOR ROBERTS.

Ymhen ychydig amser wedi ffurfio yr eglwys yn y Rhiw, symudodd y brawd ieuanc duwiol hwn o Garmel, Llandwrog, i Ffestiniog, i fod yn gyfrifydd yn chwarel Mr. Holland. Codwyd ef yn flaenor yn Llandwrog pan ydoedd yn ddyn ieuanc 21 oed, ac yn fuan wedi ei ddyfodiad yma, neillduwyd ef i'r swydd gan yr eglwys hon. Bu yn swyddog am 17 mlynedd rhwng y ddau le. Yr oedd yn wr ieuanc gweithgar gyda chrefydd, yn hynod am ei dduwiolfrydedd, ac am ei wybodaeth Ysgrythyrol. Colled fawr i eglwys y Rhiw oedd colli y fath un. Bu farw Ebrill 30, 1871, yn 38 oed.

HUGH DANIEL HUGHES.

Brodor ydoedd ef o Rostryfan. Yr oedd yn arwain y canu yn Nhanygrisiau cyn dyfod i fyny i'r Rhiw. Prif nodwedd ei gymeriad ydoedd manylder. Gwnaeth lawer gyda chaniadaeth y cysegr, yn neillduol gyda'r plant, a mawr oedd ei sel am eu dysgu mewn moesau da. Seren ydoedd yntau a fachludodd yn foreu. Gwasanaethodd swydd blaenor ychydig dros ddwy flynedd, a bu farw Rhagfyr 26, 1859, yn 37 oed.

ROBERT OWEN.

Brodor o Rostryfan oedd yntau. Daeth i Ffestiniog fel goruchwyliwr yn chwarel Mr. Holland. Codwyd ef yn swyddog yn y Rhiw, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Tachwedd 1857. Gwnaeth lawer o wasanaeth gyda'r achos cyn bod yn swyddog eglwysig, ac yr oedd yn un o'r rhai a gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw gydag adeiladu y capel cyntaf yn y Rhiw, a chymerodd lawer o drafferth arno ei hun drachefn i ddwyn oddiamgylch adeiladu y capel presenol. Un yn dewis gweithio o'r golwg ydoedd ef. Er hyny, yr oedd yn wr o synwyr cryf, barn addfed, a phenderfyniad diysgog, yr hyn a roddai iddo ddylanwad nid bychan ymhob cylch o ddefnyddioldeb. Heblaw bod yn ffyddlon i achos crefydd, mawr fu ei wasanaeth hefyd i addysg yr ardal. Bu farw yn 1869.

EVAN THOMAS, LLECHWEDD.

Un o frodorion Ffestiniog ydoedd ef. Dewiswyd ef yn flaenor ar y cyntaf yn Peniel, ac wedi hyny yn Maentwrog; a phan yr ymgymerodd a bod yn oruchwyliwr chwarel Mr. Greaves, symudodd i fyw i'r Llechwedd. Bu yn ddiacon gweithgar a dylanwadol yn eglwys y Rhiw am 20 mlynedd, Gweithredodd fel trysorydd yr eglwys, a hyny yn y cyfnod pwysicaf yn ei hanes, ynglyn â thalu dyled y capel, fel yr aeth rhai miloedd o bunau trwy ei ddwylaw yn y Gymdeithas Arianol. Meddai ar synwyr cryf, cymeriad disglaer, a barn addfed, a gallu i'w thraethu yn glir ac argyhoeddiadol. Meddai hefyd ddawn a deheurwydd arbenig i gynghori pobl ieuainc. Dringodd o sefyllfa gweithiwr i fod yn oruchwyliwr ar un o'r chwarelau mwyaf, sef y Llechwedd, eiddo Mr. Greaves. Enillodd y fath ymddiried, fel y dywedai ei feistr am dano wrth y gweinidog a weinyddai yn ei gladdedigaeth, Yr ydym heddyw yn claddu y dyn goreu yn y wlad." Enillodd yr ymddiried hwn o eiddo ei feistr heb golli ymddiried y gweithwyr. Anhawdd ydyw meddwl am oruchwyliwr, cyfaill, a blaenor ffyddlonach. Hoffai fod o'r golwg, ac nid oes neb dynion, ond ei gyd-swyddogion, a allant ffurfio un math o syniad am ei wasanaeth i'r achos. Bu farw Mawrth, 1887.

Neillduwyd Mr. W. Bleddyn Lloyd i'r swydd, ond symudodd, cyn pen hir, i Lanrwst. Y blaenoriaid yn awr ydynt, Mri. G. Jones, T. J. Roberts, Aelybryn, David G. Jones, a G. G. Davies.

Cychwynodd dau i'r weinidogaeth o'r eglwys hon, sef y Parch. R. V. Griffith, yn awr yn yr America, yn Nhachwedd, 1864; a'r Parch. J. O. Jones, yn awr o Lanberis, yn Mehefin, 1867. Mae y Parch. D. Roberts mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys er y flwyddyn 1868. Nifer y gwrandawyr, 712; cymunwyr, 336; Ysgol Sul, 495.

Nodiadau[golygu]

  1. Adroddiad yr Ysgol Sabbothol, gan Mr. T. J. Roberts, Ael-y-bryn.