Neidio i'r cynnwys

Hanes Niwbwrch/Achos yr Adfywiad

Oddi ar Wicidestun
Yr Adfywiad cyntaf Hanes Niwbwrch

gan Owen Williamson

Yr ail Ddadfeiliad

9. ACHOS YR ADFYWIAD

Os edrychwn dros restr yr aelodau seneddol fu 'n cynrychioli Sir a Bwrdeisdref Môn, rhwng 1553. (y flwyddyn gyntaf i Beaumaris anfon aelod,) a 1730. pryd y terfynwyd y ddadl a'r ymryson fu rhwng pleidwyr Beaumaris a'r boneddigion a wneathant ymdrech cyndyn ac egniol i ail-sefydlu breintiau bwrdeisiol trigolion Niwbwrch, ceir gweled fod dylanwad teuluoedd y Bulkeleys yn oruchaf yn y Sir yn ogystal ag yn y Fwrdeisdref oedd megis yn llaw perchennog Baron Hill yn hollol.

Rhoddaf isod ychydig esiamplau i ddangos fel yr oedd llais Môn yn y Senedd yn seinio drwy un bibell. Nid ydwyf fi yn gwybod ond ychydig iawn o hanes gwleidyddiaeth y cyfnod, ac nis gallaf ddweyd pa un o'r pleidiau ym Môn oedd yn cefnogi yr egwyddor yma neu yr egwyddor arall; ond hawdd ydyw casglu fod dosbarth o fonedd yr Ynys yn erbyn i'r un teulu gael y ddwy dorth,—y sêdd Sirol a'r sêdd fwrdeisiol hefyd.

Yn 1554., dychwelwyd Syr Richard Bulkeley, Bart., dros y Sir; a Rowland Bulkeley, Ysw., dros y Fwrdeisdref. Yn 1571., yr oedd Richard Bulkeley, Ysw., dros y Sir; a William Bulkeley, Ysw., dros y Fwrdeisdref. Yn 1588., yr oedd Richard Bulkeley, Llangefni, Ysw., dros y Sir; a Thomas Bulkeley, ieu.Ysw., dros y Fwrdeisdref.

Dyna dair engraifft, ond gallaswn enwi cyplau cyffelyb o'r un enw teuluaidd mewn amryw seneddau dilynol, yr hyn sy'n myned ymhell i hrofi nerth y gosodiad a roddais i lawr, sef bod dylanwad un teulu, am gyfnod hir, yn oruchaf yn y Sir a'r Fwrdeisdref. Nid oedd yr enwau bob amser yr un fel yr ymddangosant mor undonol yn yr esiamplau uchod; ond gellir profi fod y berthynas deuluaidd yn llawn mor agos rhwng yr aelodau pan oedd yr enwau yn wahanol, ag oedd rai gweithiau pan fyddai y ddau yn dwyn yr enw Bulkeley.

Ac nid yn unig yr oedd llawer o foneddwyr y Sir yn anfoddlon i'r un dôn gron gael ei chwareu o hyd, ond yr oedd hefyd rai o fwrdeisiaid Beaumaris yn awyddus am i'r breintiau gael eu gosod ar dir mwy cyfartal fel y gallai rhywun heblaw aelod o'r un teulu gael cyfleustra teg i ymgystadlu yn yr ymrysonfa wleidyddol.

Y ffordd a ymddangosai debyccaf i fantoli y pleidiau oedd ail-adeiladu, megis, hen fwrdeisdref Niwbwrch, a dwyn oddiyno fwrdeisiaid i gynorthwyo yr wrthblaid yn Beaumaris. Ond fel y ceisiwyd egluro yr oedd y lle mewn sefyllfa isel, ac y mae'n debyg fod olynwyr yr hen fwrdeisiaid, (neu gyfran fawr ohonynt beth bynnag) wedi syrthio yn is na bod yn ddiystyr o'u pleidlais, trwy fyned i ddyled, neu fod yn dirddeiliaid gwŷr cyfoethog, yn lle bod yn rhydd-ddeiliaid fel eu tadau. I wneud i fyny ddiffygion, prynodd boneddigion a thir-arglwyddi Môn erddi a lleiniau yn Niwbwrch, ac adeiladasant dai neu blâsau, yn ol eu sefyllfa gymdeithasol i geisio ymsefydlu yno fel bwrdeisiaid newyddion, Y mae sail i gredu fod y cynllun hwn wedi ei ddechreu cyn 1621., oblegid y mae y flwyddyn honno yn gerfiedig ar garreg uwch ben drws Ty'n y Coed. Ond y mae sicrwydd ddarfod i dyst o Niwbwrch wrth roddi ei dystiolaeth o flaen dirprwywyr y Senedd yn Llundain, (fel y ceir gweled etto) ddweyd yn 1709-10., fod trigolion Niwbwrch yn hawlio yr un breintiau bwrdeisol â Beaumaris er 1661.

Nis gwn i ymha ddull y darfu i Niwbwrch roddi datganiad i'w hawl, neu ei chais cyn 1698; ond y mae cofnodion y Senedd wrth roddi hanes trafodaethau yn Sir Fôn ynglyn ag etholiadau y cyfnod, yn rhoddi cipolwg i ni ar y modd y ceisid newid y sefyllfa yn Beaumaris trwy gynhorthwy etholwyr bwrdeisiol o Niwbwrch.

Ymhlith y bwrdeisiaid newyddion a hawlient bleidlais yn rhinwedd yr eiddo neu y tai oedd ganddynt yn Niwbwrch y mae'n ymddangos fod yno rhyw foneddwr cyfoethog a thra dylanwadol o'r enw Owen Hughes, Ysw., Cofiadur Beaumaris. Efe oedd Maer Niwbwrch tua 'r flwyddyn 1698.

Yn 1698 bu etholiad, pryd y daeth Owen Hughes allan i wrthwynebn ymgeisydd y blaid oruchaf sef yr hon a anfonasai Fwrdais i'r Senedd er amser Edward VI. Yr oedd bwrdeisiaid Niwbwrch wrth gwrs fel un gwr yn bleidiol i'w Maer, ac aeth deg ar hugain o honynt i Beaumaris i bleidleisio o'i du. Beth bynnag oedd yr achos, ciliodd gwrthwynebydd Owen Hughes o'r ymdrechfa a dychwelwyd Maer Niwbwrch yn ddiwrthwynebiad. Parodd hyn lawenydd mawr yn yr hen fwrdeisdref, a chyneuodd obeithion am ddyfodol anrhydeddus i'r hen dref; ond ni lwyddodd y dychweliad diwrthwynebiad i sefydlu cyn-esiampl (precedent) i'w dilyn ar ol hynny, oblegid pan y daeth y pleidiau i fesur arfau mewn ymrysonfa etholiadol, ac y darfu i faer a beiliaid Beaumaris wrthod y pleidleisiau o Niwbwrch, methodd Maer Niwbwrch a'r ymgeisydd a bleidid gan y bwrdeisiaid, brofi fod Maer a Beiliaid Beaumaris wedi ymddwyn yn anghyfreithlon wrth wrthod y pleidleisiau.

Yn niwedd y paragraff uchod cyfeirir at etholiad 1708, pryd y daeth Syr Arthur Owen, Barwnig, a Fodowen, i wrthwynebu yr Anrh. Henry Bertie, brawd-yn-ghyfraith Syr Richard Bulkeley, Barwnig, Baronhill.

Owen Meyrick, Ysw., Bodorgan oedd Maer Niwbwrch yr adeg yma, a rhyw Thomas Evans oedd y Beili. Ar ol i Faer a Beiliaid Beaumaris (y rhai oeddynt gyfeillion Mr. Bertie) wrthod pleidleisiau o Niwbwrch, nid oedd yn rhyfedd i blaid Beaumaris fod yn ddigon cref i ddychwelyd Mr. Bertie. Anfonodd Syr Arthur Owen, a Mr. Meyrick y Maer, a bwrdeisiaid Niwbwrch ddeisebau i'r Senedd yn erbyn dychweliad Mr. Bertie.

Gorchymynwyd i ymchwiliad gael ei wneud i'r matter ddydd Sadwrn yr ail o Ebrill yn y flwyddyn ddilynol. (Yn Nhachwedd 1709, apwyntiwyd dirprwywyr i gymeryd dan eu hystyriaeth ddeiseb arall i'r un pwrpas a'r uchod.)

18. Chwefror 1709-10, gosododd Mr. Crompton ger bron y Tŷ adroddiad mewn perthynas i etholiad Beaumaris. Dywedai Dadleuydd y deisebwyr fod yr hawl i ethol Bwrdais dros fwrdeisdrefi Môn ym meddiant Maerod, Beiliaid, a Bwrdeisiaid Niwbwrch a Beaumaris. Cyfeiriai yn y lle cyntaf at Ddeddf 27 Harri VIII., ac hefyd at un 35 o'r un teyrnasiad. Ychwanagai y dadleuydd mai Niwbwrch oedd prif dref y Sir hyd deyrnasiad Edward VI. Cyfeiriai at y deddfau a basiwyd (1 and 2 Ed. VI.) i ryddhau Niwbwrch oddiwrth y beichiau trymion ynglyn â'i sefyllfa fel y brif dref. Y casgliad a dynnai y Dadleuydd oedd mai at drosglwyddiad i Beaumaris o Niwbwrch achosion y Sir, a dyledswyddau a gyflawnid yno fel prif dref, y cyfeiriai y deddfau a nodwyd, ac nid at un weithred o dynnu ymaith hawl bwrdeisiaid Niwbwrch i bleidleisio. Dangosid breinlen yn dwyn y dyddiad 27 Elrill, 17 Edward II. (1324.,) yr hon a brofai fod Niwbwrch yn fwrdeisdref a chorphoriaeth yr amser hwnnw.

I brofi y byddai bwrdeisiaid Niwbwrch yn arfer pleidleisio mewn etholiad Bwrdais i gynrychioli Beaumaris, galwyd ymlaen John ap John Rowland, yr hwn a dystiai ei fod yn hysbys yn arferion bwrdeisiol Niwbwrch ers 55mlynedd. Honnai y bwrdeisiaid hawl i bleidleisio ers 48 mlynedd beth bynnag, oblegid fel yr ychwanegai y tyst, aethai deg ar hugain o'r bwrdeisiaid i Beaumaris i bleidleisio o du Mr. Owen Hughes, ymgeisydd, a maer Niwbwrch, yn 1698; ond ni alwyd arnynt i gofnodi eu pleidleisiau, oherwydd i Mr. Hughes gael ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad. Atebwyd dadl yr ochr a anfonasai y ddeiseb, gan ddadleuydd yr Aelod (Mr. Bertiê). Dywedai y gwr hwnnw mai ym meddiant Maer a Bwrdeisiaid Beaumaris yn unig yr oedd yr hawl i ethol Bwrdais Seneddol. Dywedai ymhellach nad oedd Niwbwrch yn gorphoriaeth o gwbl, oblegid, er fod gan y lle hwnnw freinlen yn 17 Edward II., eto yr oedd breinlen 15 Harri VIII., yr hon a adroddai gynhwysiad y breinlenni eraill, (ac felly yr unig freinlen safadwy tra bu mewn grym), wedi ei dirymu; a chan fod y freinlen olaf wedi ei rhoddi i fyny, nid oedd pentref bychan Niwbwrch, fel y disgrifiai 'r lle, mwyach yn gorphoraeth, ac felly nid oedd y trigolion yn meddu un hawl fwrdeisiol.

Dywedodd y cyfreithiwr ymhellach fod breinlen Beaumaris, yr hon a ganiatawyd yn 42. Elizabeth, yn dweyd mai yng nghorphoriaeth Beaumaris, cynwysedig o Faer, dau feili, ac un ar hugain o brif fwrdeisiaid Beaumaris, yr oedd yr hawl i ethol Bwrdais i'w cynrychioli yn y Senedd.

Taflwyd y ddeiseb allan.

Yn y flwyddyn 1722, bu ymrysonfa arall. Mr. Bertie oedd ymgeisydd plaid Beaumaris; ond, y tro yma, William Bodvell, un o fwrdeisiaid Niwbwrch, oedd ymgeisydd y blaid arall.

Deisebodd William Bodvell yn erbyn dychweliad Mr. Bertie, gan gwyno a phrotestio yn erbyn ymddygiad anghyfreithlon Robert Coetmore Ysw., Maer Beaumaris; a Cadwalader Williams a Lancelot Bulkeley, beiliaid, yn ffafrio Mr. Bertie trwy wrthod caniattau i lawer o etholwyr o Niwbwrch (Newburgh yn y cofnodion) i bleidleisio, a thrwy drais rwystro pleidleiswyr eraill i fyned i mewn i neuadd y bwrdeisiaid.

Yn Ionawr 1723-24, anfonwyd deiseb arall i'r un pwrpas; ac un arall ar y 13eg Tachwedd 1724.

1 Chwefror 1727-28,-deise bodd William Bodvell yn erbyn Watkin Williams Wynne, Ysw., yr hwn a ddychwelasid mewn ymrysonfa rhyngddo ef, Mr. Bertie, a William Bodvell.

15 Chwefror 1727-28,—deise bodd cyfran o fwrdeisiaid Beaumaris, a bwrdeisiaid Niwbwrch, gan ddwyn cwynion yn erbyn Maer a Beiliaid Beaumaris oherwydd iddynt wrthod cymeryd eu pleidleisiau.

22 Ionawr 1728-29,-Deisebodd William Bodvell drachefn.

3 Chwefror 1728-29,-Anfonwyd dwy ddeiseb, un gan fwrdeisiaid Beaumaris a'r llall gan fwrdeisiaid Niwbwrch. Gorchymynwyd hwynt i ystyriaeth y dirprwywyr.

26 Ionawr 1729-30.—Gorchymynwyd i'r deisebwyr gael eu gwrando ger bron y Tŷ ar ddydd Iau, 26ain o Chwefror.

Gohiriwyd drachefn hyd 3 Mawrth 1729-30.

Ar ol i ddadleuwyr y gwahanol bartion gael eu gwrando gorchymynodd y Llefarydd iddynt ymneilltuo, ac yna aeth y Tŷ ymlaen i ystyried y tystiolaethau a'r atebion a roddwyd gan y dadleuwyr. Yna aethpwyd ymlaen i geisio dyfod i benderfyniad terfynnol.

Cynygiwyd penderfyniadau, a chynygiwyd gwelliantau ar y rhai hynny. Yn y diwedd derbynwyd y penderfyniad canlynol: "Fod yr hawl i ethol Bwrdais dros y fwrdeisdref ym Maer, beiliaid, a phrif fwrdeisiaid y ddywededig fwrdeisdref, Beaumaris, yn unig." Galwyd y dadleuwyr yn ol i'r Tŷ drachefn, a gwnaed yn hysbys iddynt benderfyniad y Tŷ. Atebodd dadleuydd y deisebwyr nad oedd gan y deisebwyr ddim tystiolaeth ychwanegol i'w chynnyg.

Dyna 'r tro olaf i achos bwrdeisiaid Niwbwrch gael ei wrando tu fewn i furiau Senedd Lloegr.

Bu 'n frwydr boeth dros ysbaid llawer o flynyddoedd; a phe buasai dyfalbarhad yn ddigon i argyhoeddi gwŷr y Senedd, cawsai Niwbwrch ei hen freintiau yn ol. Ond yr oedd galluoedd cryfion a dylanwad nerthol yn ei herbyn, ac felly cafodd ei threchu er pob ymdrech o'i thu. Yr oedd Beaumaris yn gref o'i chymharu â Niwbwrch, ac yr oedd dylanwad teuluoedd mawrion yn cael ei daflu i'r clorian yn ffafr y dref flaenaf i daflu hawliau 'r olaf o'r golwg.

Ond nid oedd gan Niwbwrch dir safadwy i sefyll arno, oblegid yr oedd y ddeiseb a anfonasid oddi yno i Senedd 1 a 2 Edward VI., i ofyn am ryddhad, fel drychiolaeth yn cyfodi yn ei herbyn, ac yn allu anorchfygol o du dadleuydd y blaid wrthwynebol.

Pwy, tybed, oedd yr hen Shon ap Shon Rowland a anfonwyd i Lundain i roddi tystiolaeth ger bron y dirpwywyr Seneddol? Mae'r enw Rowland yn gwneud i mi gredu ei fod yn hen frodor, oblegid y mae 'r enw mewn llawer o deuluoedd yno hyd heddyw. Ymddengys yr hawliai Shon bleidlais yn 1698, ond erbyn 1709 yr oedd, oherwydd rhyw reswm, wedi rhoi ei fraint i fyny. Efallai mai gwerthu ei etifeddiaeth a wnaethai i rai o'r newydd-ddyfodiaid.

Pwy oedd William Bodvell? Y mae 'n debyg ei fod o wehelyth John Bodvell, Llaneugrad, yr hwn oedd yr aelod seneddol dros y Sir yn nheyrnasiad Charles I. Mae amaethdŷ ym mhlwyf Niwbwrch yn dwyn yr enw Tir Bodfel; ac y mae Lon Bodfel yn ffurfio rhan o'r terfyn rhwng Niwbwrch a'r Rhandir. Efallai mai fel perchennog yr amaethdŷ uchod yr oedd William Bodfel yn hawlio braint fwrdeisiol ynglyn a Niwbwrch. Oni bai mai hunanoldeb yn bennaf sydd yn cynhyrfu pobł i ymgeisio am seddau a llawer o swyddi, buaswn yn cynnyg pleidlais o ddiolchgarwch i William Bodvell, Ysw., a boneddigion eraill, am eu hymdrechion with geisio ail-adeiladu bwrdeisdref Niwbwrch. Heddwch i'w llwch lle bynnag y mae'n gymysgedig â llwch y monwentydd. Clywais yn ddiweddar fod coffadwriaeth i William Bodvell yn gerfiedig ar faen mewn Eglwys heb fod ymhell o Draeth Coch.

Yn fuan iawn ar ol i'r Senedd benderfynnu nad oedd gan drigolion Niwbwrch un hawl fwrdeisiol i alw eu tref yn chwaer Beaumaris, daeth cwmwl i orchuddio 'r pelydryn goleuni fu 'n sirioli 'r hen dref am ennyd fechan; ni fynychid y lle ond gan ychydig o foneddigion y Sir ar ol iddynt fethu ei anrhydeddu. Clywais yr arferai Llwydiaid, Maes y Porth, gymeryd dyddordeb mawr yn Niwbwrch yn nechreu y ganrif bresennol, ac y byddai llawer o ddefodau bwrdeisiol yn cael eu cyflawni yno hyd yn oed mor ddiweddar a'r blynyddoedd hynny.

Sign Hare oedd hen blâs y Llwydiaid, ac yno ar ol troi 'r plâs i dafarn y ciniawid ac y cedwid noswaith lawen yn hwyr ar ddydd yr helfa flynyddol. Y mae 'r hen dŷ wedi ei werthu ers blynyddoedd lawer, ond y mae o hyd yn dal i fyny enw y teulu sydd wedi ymadael o'r cwmwd, os nad wedi darfod, oblegid y mae mor llwyd ei agwedd a chrymedig ei gefn ag y gall henaint ddylanwadu arno.

Nodiadau

[golygu]