Neidio i'r cynnwys

Hanes Niwbwrch/Moddion Crefyddol yn 1895

Oddi ar Wicidestun
Cymeriad a nodweddion y trigolion Hanes Niwbwrch

gan Owen Williamson

Moddion Addysg

16. MODDION CREFYDDOL YN 1895

Ni chaf ond braidd eu henwi, oblegid pe bawn yn manylu gyda dim ond y defnyddiau yn fy meddiant, rhedai yr hanes hwn ymhell dros ei derfynnau rhagosodedig.

Yr Eglwys Sefydledig: Gan mai fel hynafiaethydd yr wyf yn bennaf yn gosod yr hanes yma ger bron y darllennydd, yr wyf yn dechreu gyda'r Eglwys am mai hi oedd yr unig gyssegr yma trwy'r holl oesoedd o amser y tadau eglwysig cyntaf hyd ddyddiau y tadau. Methodistaidd yn niwedd y ganrif o'r blaen. Pe gallai cerrig muriau yr Hen Eglwys hon siarad yn fwy eglur nag y maent, a phe buasai yn bosibl i ni gael y stori hir o'r digwyddiadau a'r cyfnewidiadau, dydd a nos, haf a gauaf crefydd Niwbwrch a amlygwyd ynglŷn â gwasanaethau crefyddol yr Eglwys hon yn ddidor am o ddeuddeg i bymtheg cant o flynyddoedd, caem gipolwg go lew ar hanes yr Eglwys Fawr Gristionogol er dyddiau y Seintiau Cymreig. Ond os oes llawer o bethau yn ein hadgoffa o'r cyfnewidiadau sydd wedi bod ynglŷn â hyd yn oed Cristionogaeth yn ei harferion, defodau, a seremoniau allanol, y mae muriau cysegredig hen Eglwys Niwbwrch y rhai sydd wedi sefyll i fyny am ganrifoedd lawer, yn gwneud i mi feddwl am anghyfnewidioldeb y Drefn Ddwyfol. Peth digon priodol ydyw harddu tyrau Seion; ond prydferth iawn yngolwg yr hynafiaethydd ydyw y muriau diaddurn (ond â mwsogl canrifoedd), y rhai a dystiant pa mor sylweddol nerthol a gonest oedd gwaith y seintiau ac mor fawr ac amlwg oedd eu hymroddiad a chywirdeb eu crefydd; yn gyffelyb i fel y datgan y mynyddoedd nerth a chadernid y Goruchaf. Mae'r enw cyntefig—Llanamo-megis yn dweyd fod yr Eglwys ar y cyntaf wedi ei chysegru i ryw hen sant neu santes Gymreig na wn i ddim o'i hanes.

Ond y mae 'r enwau St. Petr a St. Mair, yn awgrymu y cyfnewidiad a ddaeth dros Gymru yn y cyfnod pryd yr ymwthiodd Pabyddiaeth i anurddo symlrwydd yr Eglwys Gymreig. Bu llawer brwydr galed rhwng y Cymry a'r esgobion Seisnig a thramor yn nyddiau y tywysogion Cymreig; ond pan estynodd y brenhinoedd Seisnig eu gwialen oresgynol dros ein gwlad, cafodd y Babaeth nerth y wladwriaeth o'i thu, ac am gyfnod bu 'r Eglwys Gymreig o dan draed y gallu Rhufetnig.

Goresgynwyd Lloegr gan y Normaniaid y rhai fuont yn arglwyddiaethu am ganrifoedd; ond gorchfygwyd yr arglwyddi hynny yn y diwedd gan ymledaeniad y teimladau Seisnig a lefeinient gymdeithas. Yn gyffelyb, daeth teuluoedd Seisnig, megis Salsbri, Puleston, Middleton, Robinson, ac ugeiniau eraill, yn Gymry mwy gwladgarol na llawer o'r brodorion. Gyda 'r goresgyniad Seisnig ymdaenodd Pabyddiaeth fel mantell ddu dros Gymru am gyfnod hir; ond yn amser y Diwygiad Protestanaidd, ymlidiwyd hi o'r wlad gan y diwygwyr y rhai a drefnasant yr Eglwys yn Lloegr a Chymru o newydd yn ol cynllun esgobaethol yr hen Eglwys Gymreig a hwy a'i gosodasant ar sylfaen y Ffydd a bregethwyd yma lawer o oesoedd cyn dyfodiad Awstin Fynach.

Y mae 'n debyg na chedwid cofnodion eglwysig yn gyffredinol a rheolaidd, yn enwedig yn y plwyfi gwledig ac anghysbell, cyn y Diwygiad; ond os gwneid y maent wedi colli, neu eu rhoddi o'n gafael. Dyma y rheswm paham na cheir rhestr o'r hen offeiriaid plwyfol yn y mwyafrif o blwyfi, ond y rhai o amser y Diwygiad.

Cyfeiriais o'r blaen at adgyweiriadau a wnaed yn Eglwys Niwbwrch yn 1850-1, ac at y meini coffadwriaethol a ddarganfuwyd yno ac a ddygwyd i sylw y cyhoedd trwy ymdrechion y Parch W. Wynn Williams, Menaifron. Cefais achlysur i ymhelaethu ychydig ar un o'r meini hynny ag sy'n dwyn yr argraff canlynol, ond ni chrybwyllais yn y fan honno ond am enw Edward Barker yn unig. Fel hyn y mae'r argraff ag sy'n aros heb ei niweidio: + HIC: JACET: D: BARKER: CV AIE P'PICIET : D

Hynny yw, "Hic jacet Ed(wardus) Barker Cu(jus) a(n)i(m)e pr(o)piciet(ur) De...

Cyfeiriais o'r blaen hefyd at garreg oedd wedi ei gosod yn y mur deheuol tu fewn ac uwchben un o ffenestri corph yr Eglwys (St. Petr), ac arni yr argraff canlynol C: HIC: JACET: ELLENA: QUONDAM : UXOR : EDWARD.

O dan fwa ym mur deheuol y Gangell, gyferbyn ag un cyffelyb yn y mur gogleddol o dan yr hwn y mae maen-côf Edward Barker, y mae maen arall yr hwn a roddodd lawer iawn o drafferth i'r hynafiaethydd clodfawr uchod cyn y gallodd ddeongli yr argraff. maen hwn y mae delw llawn faint o uchelwr Eglwysig yn dal cwpan cymun rhwng ei ddwylaw ac yn orphwysedig ar ei ddwyfron. Ar yr ymylon ac o amgylch i'r llun y mae'r argraff canlynol: + HIC: JACET: DNS: MATHEVS AP: ELYAS CAPELLANUS BEATE: MARIE : .V: AVE MARIA: HA: NOVO(?)BERI: QVIQVE: CES. "Hic jacet D(omi)n(u)s Matheus ap Elyas capellanus Beatæ Mariæ Novo(?)beri quique ces... v Ave Maria Ha."

Yr hyn a barodd ddyryswch i'r hynafiaethydd parchedig a gwŷr hyddysg eraill oedd y gair Elyas, fel yr ymddengys ar y garreg.

Chwiliodd Mr. Wynn Williams am enw y gwr urddasol yn yr holl gofnodion o fewn ei gyrraedd. Gwelodd yr enw Mathew "Ynghofnodion Caernarfon," lle y nodir fod un Matheus, Archdiacon Môn, yn nheyrnasiad Edward III. wedi cyflwyno rhyw ddeiseb, ond yn aflwyddiannus. Ac ymhen blynyddoedd lawer darllennodd yn "Harl. Chart. 75, p. 40," a'r hyn a ymddangosodd yn Arch. Camb. cyfrol xiv., trydedd gyfres, tudalen 185.

"Et sciendum quod hoc cotum pastum est Coram Domino Elya Landavense Episcopo apud Margam &c."

O ba deulu bynnag oedd Matheus ap Elyas yr oedd yn "Capellanus Beatæ Mariæ" yn Niwbwrch. Dywed Mr. Wynn Williams yn ei ysgrif ragorol yn Arch. Camb., dyddiedig Mai 3ydd 1873, fod yr enw Rhos-fair wedi cymeryd lle Rhosyr oherwydd i'r Capel Brenhinol gael ei gysegru i'r Fendigaid Fair.

Mae Capel Mair yn bresennol yn ffurfio cangell Eglwys St. Petr; a rhydd hynny gyfrif am yr hyd mawr sy'n nodweddu Eglwys blwyfol Niwbwrch.

Yr oedd yr Eglwys a'r Capel un adeg ar wahan, ond rywbryd tynnwyd i lawr y mur neu 'r muriau oedd rhyngddynt, ac yna cysylltwyd hwynt. Tybiai Mr. Wynn Williams eu bod unwaith yn hollol ar wahan fel ag y bu raid adeiladu oddeutu pedair troedfedd ar ddeg o fur y tu gogleddol a'r deheuol i'w cysylltu. Dywedai ef fod y mur cysylltiol mwy diweddar hwn o waith mwy anghelfydd na'r hen furiau. Ond eraill a dybiant fod talcen dwyreiniol yr hen Eglwys (St. Petr) ryw dro yn ffurfio mur gorllewinol y Capel (St. Mair); os felly yr oedd, nid oedd raid ond tynnu y pared hwnnw i lawr.

Dywedir fod Capel Mair o adeilwaith ysblenydd, ac fod y muriau tu fewn, lawer o flynyddoedd yn ol, wedi eu haddurno yn brydferth. Ond y mae goruchwyliaethau yr oesoedd diweddar trwy foddion yr ysgub fôrhesg a'r gwyngalch wedi dileu y prydferthwch â'r hwn y gwisgasid y muriau gan grefyddwyr duwiolfrydig yr hen amser gynt. Pa gyfnewidiadau bynnag sydd wedi cymeryd lle mewn rhai cyfeiriadau, y mae yn aros o hyd gelfyddydwaith ardderchog yngherfwaith cerrig y "Drws bach" a arweiniai gynt i'r Capel, ac yngwaith y ffenestri, yn enwedig y ffenestr fawr ddwyreiniol.

Mae drws y Capel yn awr yn arwain i'r Festri newydd a adeiladwyd yn 1886. Yn y flwyddyn grybwylledig adgyweiriwyd ac adnewyddwyd yr Eglwys yn y modd mwyaf sylweddol a phrydferth, yr hyn a wnaethpwyd ar draul fawr. Casglwyd yr arian trwy lafur dirfawr a chyda phryder llethol gan y Rheithor ar y pryd, Y Parch D. Jones, Ficer presennol Penmaenmawr, yr hwn sydd offeiriad gweithgar a chymeradwy ymhob ystyr.

Mae seddau newyddion yr Eglwys o dderw anadliwiedig; y mae'r screen yn hardd, ac yn gwahanu corph yr Eglwys oddiwrth y Gangell neu Gapel Mair; ac mae'r holl ffenestri yn dra phrydferth.

Y cynorthwywr a'r noddwr mwyaf blaenllaw a haelfrydig yn y gwaith da oedd yr Anrhydeddus Arglwydd Stanley o Benrhos, Caergybi; ond nid ydyw yn haeddu dim mwy o glod na'r gweithwyr lleol, y rhai efallai a ddangosasant lawer mwy o hunan-aberth.

Yr unig feini coffadwriaethol yn yr Eglwys heblaw y rhai a grybwyllwyd ydynt ddwy lech-faen er coffadwriaeth i rai o hen etifeddion y Bryniau, ac i deulu fu'n byw yn Frondeg fel tirddeiliaid. Y mae'r llechau hyn wedi eu gosod ar bared y Festri. Y mae yno hefyd gôf-golofn a godwyd gan y plwyfolion i goffadwriaeth y Parch Henry, Plas Gwyn, rheithor y plwyf o 1793 hyd 1837.

RHESTR O REITHORIAID NIWBWRCH.

Hugh ap Robert, Clerk.

1554. Robert ap Hugh, Clerk per privat Hugh ap Robert, conjugati

1596. Edward Griffith, M.A., per mortem Robert ap Hugh.

1610. Robert White, M. A., and D.D., per cession Edward Griffith. John Davies, M. A.

1695. Hugh Griffith, M.A. per mortem J. Davies. Robert Humphreys, M.A., a Merionethshire man

1705. Evan Jones, M. A., per cession R Humphreys.

1722. William Williams, M. A., per cession E. Jones.

1746. Edward Jones, M.A., per mortem W. Williams.

1746-7. Owen Jones, B.A., per cession E. Jones. (Ei gurad ef oedd y Parch. M. Pughe a gollodd ei fywyd yr un adeg a'i wraig Anne Pughe pan suddodd ysgraff Abermenai yn 1785. Claddwyd y ddau ym meddrod curad fu'n gwasanaethu yma o flaen Mr. Pughe. Gweler y garreg fedd a dalen bres arni, ar y dde i'r rhodfa, ac yn agos i borth y fonwent.)

1793. Henry Rowlands, Plas Gwyn. (Gwel ei gof-golofn.) Ei guradiaid oeddynt y Parchn. John a Hugh Prichard, Dinam.

1837. Rice Robert Hughes, mab i Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch. Efe a adeiladodd Talgwynedd, Llangeinwen.

1851. David Jeffreys.

1867. Thomas Meredith, Rheithor presennol Llanddeusant.

1882. David Jones, Ficer presennol Penmaenmawr.

1888. Richard Evans.

Wardeniaid (1894-95)-Hugh Jones, a Thomas Thomas.

Clochydd-Hugh Williams, Pen y Gamfa.

St. Thomas,—Ystafell Genhadol: Yn y flwyddyn 1867 olynwyd y Parch. David Jeffreys gan y Parch. Thomas Meredith. Pan ddaeth yr offeiriad gweithgar hwn i'r plwyf nid oedd yno gynulleidfa eglwysig, oblegid er fod yno ychydig eglwyswyr, er hynny yr oedd rhyw achosion wedi gyrru eglwysyddiaeth Niwbwrch i'r man isaf, fel nad oedd yno wasanaethu rheolaidd yn yr Eglwys. Os oedd hi felly yn isel iawn yr adeg honno, cododd y llanw yn dra buan i'w fan uwchaf. Ni fu yn Sir Fôn ers llawer o oesoedd y fath adfywiad yn Eglwys Loegr mewn un plwyf ag a fu yn Eglwys Niwbwrch o dan arweiniad yr offeiriad doeth gweithgar a dylanwadol—Mr. Meredith. Wrth ysgrifenu fel hyn nid ydwyf yn anwybyddu y gweithgarwch sefydlog dwfn a llwyddiannus fu ar hyd y blynyddoedd yn y ddau blwyf cyfagos yn nyddiau y diweddar Ganon W. Williams, Menaifron, a'i fab efengylaidd Mr. Wynn Williams yr hynafiaethydd clodus; ond yr oedd twf gwaith Mr. Meredith yn eithriadol o gyflym, os oedd y llall yn sicr, araf, a nerthol. Dirgelwch llwyddiant Mr. Meredith oedd y gallu rhyfeddol perthynol iddo fel arweinydd a threfnydd. Canfu ef yr ymddyhead lleygol oedd yn dechreu magu nerth, a phrofodd mewn modd eglur, a thrwy arddangosiad o waith eglwysig mawr a llwyddiannus, fod modd gweithio yr Eglwys yng Nghymru ar linellau poblogaidd heb wrthdaro na pheryglu esgobyddiaeth. Mae plant ac olynwyr ei hen gydweithwyr yn gôfgolofnau i'w lwyddiant, ac yn brotest amlwg yn erbyn diogi a chulni offeiriadol mewn mannau eraill.

Tyst bychan i weithgarwch yr offeiriad poblogaidd, ac sydd yn llefaru yn hyawdl os yn ddistaw, ydyw St. Thomas, yr Ystafell Genhadol a adeiladwyd yn 1870.[1]

Capel y Methodistiaid Calfinaidd: Nid oes ofod mewn llyfryn bychan fel hwn i wneud chwareu têg a'r Adfywiad crefyddol bendithiol a gynhyrfodd Gymru yn y ddeunawfed ganrif. Y mae'n sicr fod yr awelon ysbrydol yn chwythu y marworyn bychan yn fflam yn Niwbwrch yn fuan ar ol cychwyniad y gwaith da yn y Deheudir tua 1740-50. Tua'r adeg yr oedd y swn yn nyffryn claddedigaeth yn treiddio o'r naill eglwys blwyfol i'r llall, yr oedd Eglwys blwyfol Niwbwrch yn myned o dan ryw fath o adgyweiriad. Ar adegau felly byddai y gwasanaethau crefyddol yn cael eu hesgeuluso, oherwydd diffyg lle i'r holl blwyfolion gydgynnull i addoli. Ond yr oedd yn byw yn Ty'n Rallt (amaethdý cyfagos i'r Eglwys) un Shôn Dafydd, gwr crefyddol ac eglwyswr dylanwadol. Pan oedd drysau'r Eglwys yn gauedig am y rheswm a nodwyd, cynhaliai Shon Dafydd gyfarfodydd crefyddol yn ei dŷ, a'r cyfarfodydd hynny, fel rhai cyffelyb mewn cannoedd o fannau, a ffurfiasant gnewyllyn y peirianwaith mawr a dyfodd mewn amser diweddarach i fod yn un o'r cyfundebau crefyddol mwyaf dylanwadel yng Nghymru.

Bu cynnydd y mudiad yn Niwbwrch yn dra chyflym canys er fod y lle yn dlawd ac megis o'r neilltu adeiladwyd yma y capel cyntaf yn yr amgylchoedd hyn. Mewn pennod arall rhoddais resymau eraill i geisio profi y gallasai hen enwogrwydd bwrdeisiol Niwbwrch i ryw fesur ddylanwadu ar Fethodistiaid y rhan yma o'r Cwmwd i adeiladu eu capel cyntaf yn y dreflan hon. Ond os gallwn sylfaenu opiniwn mewn perthynas i gymeriad yr hynafiaid yn Niwbwrch fel arweinwyr blaenllaw a hunanymwadol, ar weithgarwch penderfyniad a'r ysbryd cydymgeisiol ag sydd yn nodweddu eu disgynyddion gallwn bron fod yn sicr i'r capel cyntaf gael ei adeiladu yma oherwydd fod y trigolion yn amlwg yn eu zêl grefyddol wresog; ac efallai eu bod yn dangos parodrwydd mawr i aberthu llawer er mwyn cadw i fyny gymeriad da hen brif dref y Cwmwd. Adeiladwyd y capel yn 1785, yr un flwyddyn ag y digwyddodd trychineb cwch Abermenai.

Adgyweiriwyd neu ail-adeiladwyd y capel ddwywaith yng nghorph y pymtheng mlynedd ar hugain diweddaf; ac heblaw hynny y mae gwelliantau ac ychwanegiadau mawrion a chostfawr, mewn ystafelloedd ac adeiladau angenrheidiol wedi eu gwneud drwy ymdrechion lleol. Mae'r capel hardd a'r cyfleusterau ynglŷn ag ef yn profi fod Methodistiaid Niwbwrch wedi bod yn dra haelionus tuag at y gwaith o berffeithio cyfleusterau eu hachos crefyddol, ac felly wedi cyfrannu yn deilwng o'r cyfoeth â'r hwn y bendithiwyd hwy yn yr adfywiad cymdeithasol diweddar.

Nid ydwyf fi yn ddigon hyddysg yn hanes y Corph i wneud sylwadau mwy trwyadl ar yr amrywiol bethau ynglŷn ag ef fel Cyfundeb, nae ynglŷn â chapelau neilltuol, a fuasent efallai yn ddyddorol i rai darllenwyr; am hynny nid oes genyf ond annog y cyfryw i ddarllen "Methodistiaeth Cymru," a "Methodistiaeth Môn," neu chwilio i ffynhonellau eraill, am ychwaneg o fanylion. Ceir hanes am flaenoriaid ac enwogion y Cyfundeb yn y llyfrau enwyd, ond gwell genyf fi fuasai hanes helyntion y werin.

Ymhlith yr hen wyr crefyddol fu'n cadw'r drws ac yn ddefnyddiol yn y cylchoedd bychain yr oedd Moses, Tan y Graig, Owen Gribwr, a William Paul. Yr oedd Catrin Roberts, Cae'r ychen, yn dân i gyd; a'r hen Agnes mor ffyddlon a zelog a phe buasai wedi ei geni yn Galilea. Nid oedd crefydd y rhai hyn ac eraill yn amlyccach mewn dim nag yn eu zêl dros gysegredigrwydd y Tŷ yr hyn a amlygid yn aml yn y gosb a weinyddent ar blant direidus am redeg yn ol ac ymlaen i fyny ac i lawr y grisiau. Ffafriwyd fi gan Owen Lewis y Saer, trwy iddo barottoi y rhestr ganlynol o flaenoriaid y Corph yn Niwbwrch o'r dechreu hyd yn awr. Bu amryw yn enwog fel hyrwyddwyr yr achos Methodistaidd yn y lle cyn penodi John Hughes y blaenor cyntaf. Ond efallai nad oedd Shôn Dafydd, Shôn Shôn Dafydd, Owen Jones, ac eraill,—gwyr yr oes gyntaf,-yn flaenoriaid yn yr ystyr gyffredin. Beth bynnag am hynny, nid oeddynt yn ddim llai dylanwadol na 'u holynwyr.

Blaenoriaid: John Hughes, Rallt, Llangaffo; William Hughes, Hên Dŷ, Dwyran; Thomas Williams, Pwll yr hwyaid, Llangeinwen; Hugh Evans, y Saer, Niwbwrch; Robert Jones, Gwning-gaer, Do.; David Roberts, Maes y ceirchdir, Do.; Hugh Williams, Frondeg, Do. ; Escu Davies, Shop, Do.; Robert Hughes, Tyddyn pwrpas, Do.; Richard Jones, Tŷ'n y coed, Do.; W. Iorwerth Jones, Bodiorwerth, Do.; (Voel Ferry Stores); Owen Lewis, y Saer, Do.; William Roberts, Maes y ceirchdir, Do.; R. P. Jones, Draper, Do.; Hugh Evans, Masnachydd, Chapel St. Do.; Hugh Hughes, Saer maen, Bryn goleu, Do.

Capel y Wesleyaid:— Cylchdaith Caergybi; adeiladwyd yn 1804. Blaenoriaid,—Hugh Williams, Gwehydd, Dwyran; Hugh Roberts, Erw wen. Hen ffyddloniaid oes fwy diweddar,—James Lloyd, a Daniel Hughes.

Capel y Bedyddwyr:— Adeiladwyd yn 1851. Blaenoriaid, Samuel Davies, John Davies, Thomas Williams, Owen Owens.

Capel yr Anibynwyr:— Adeiladwyd yn 1864. Blaenoriaid, Joseph Roberts, Ty'n Rallt; Escu Davies; Robert Jones.

Nodiadau

[golygu]
  1. Cynhelir Ysgol Sul ym Mhen Lon.