Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Brwydr Pultowa

Oddi ar Wicidestun
Catherine—St. Petersburg—Cymeryd Narva Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Prawf a Farwolaeth Alexis

BRWYDR PULTOWA

Yr oedd Pedr erbyn hyn, wedi cael yr hyn a ddymunasai, yn awyddus am heddwch; ond y mae trais bob amser yn cenhedlu awydd am ad-daliad; ac nid oedd Siarl mewn un modd yn foddlawn i golli darn o'i diriogaeth heb ychwaneg o ymladd. Efe a benderfynodd wneyd ymgyrch i Rwssia, a gosod telerau heddwch i lawr yn Moscow. Nid oedd Pedr, yr hwn a wyddai yn dda am natur gwlad Rwssia a'i thrigolion, yn cael ei ddychrynu yn y gradd lleiaf gan hyn. Yr oedd ei ddealltwriaeth clir yn dangos iddo ef yr anhawsderau ag y byddai i hinsawdd lem y wlad, a'i heangder dirfawr, ei osod o flaen y fyddin ymosodol, a chymerodd ei amser yn bwyllog i gynyddu yr anhawsderau hyn. Yr oedd byddin Siarl yn anrheithio y wlad lle y delent, ac yn rhoddi i farwolaeth gannoedd or werin, y rhai a ddrwgdybient o ddirgelu y grawn a phob mathau ereill o ddefnyddiau ymborth.

Yr ymerawdwr a'i fyddin a enciliasant yn raddol o flaen y goresgynwyr—felly yn eu hudo, o gam i gam, i ganolbarth gwlad ddiffrwyth, nes yr oedd Siarl a'i fyddin wedi ymgolli yn nghanol anialwch hen wlad y Scythiaid. Ond yr oedd sefyllfa yr ymerawdwr yn wahanol iawn i hyn. Yr oedd efe gartref, adnabyddai hyd yn nod yr anialwch, ac yr oedd mewn cymundeb dyogel a chyfleus gyda'i ddinasoedd a'i ystorfeydd ei hun. Yr oedd ei gan' mil o wŷr wedi cael darparu ar eu cyfer yn dda, a chyn i eira y gauaf ddechreu disgyn, yr oeddynt wedi myned i wersylloedd cysurus. Oddeutu yr amser yma, enciliodd Muzeppa, swyddog defnyddiol yn myddin Pedr, at Siarl, yr hyn a barodd i'r olaf newid ei gynllun i raddau, sef peidio myned i Moscow, ond yn gyntaf oresgyn gwlad Ukraine, tiriogaeth ffrwythlawn yn gorwedd rhwng her Boland a Moldavia, ac yr oedd y pryd hwnw, fel yn awr, yn perthyn i Rwssia. Mynai rhai o'r swyddogion Swedaidd gan Siari ymbwyllo, a myned i ymwersyllu goreu y gallent am y gauaf. Ond na; efe a fynai fyned yn mlaen; ac wedi colli miloedd lawer o'i wŷr trwy oerni, newyn, afiechyd, a thrueni o bob math, gwarchaeoedd ar Pultowa, tref yn Ukraine, yn mis Mai, 1709, gyda gweddill ei fyddin o 80,000, yn awr yn cyfrif llai na 20,000.

Ar y 15fed o Fehefin daeth yr ymerawdwr i gynorthwyo y dref; trwy ystryw, yr hyn a dwyllodd y Swediaid, efe a lwyddodd i gael 2000 o wyr i mewn iddi; ac yn mhen ychydig ddyddiau ar ol hyny, bu i frwydr waedlyd Pultowa gymeryd lle, mha un y llwyr orchfygwyd ac y dinystriwyd byddin y Swediaid. O ran ei heffeithiau yr oedd y frwydr hon yn un o'r rhai pwysicaf i Ewrop a ymladdwyd erioed. Pe buasai Pedr wedi syrthio, nid oes un amheuaeth na buasai ei bobl wedi myned yn ol i farbareiddiwch, o'r hwn yr oedd efe yn ymdrechu eu tynu, a buasai raid i Denmark, Poland, a Rwssia, dderbyn eu cyfreithiau gan y Swediad creulawn.

Ar ol y frwydr, Pedr a wahoddodd y swyddogion Swedaidd a gymerasid yn garcharorion i gydginiawa ag ef, ac yfodd eu hiechyd fel "ei feistriaid ef yn y gelfyddyd o ryfela." Yr oedd ei eiriau daroganol yn Narva yn awr wedi eu gwirioneddoli: yr oedd y Swediaid wedi dysgu i'r Rwssiaid eu curo. Pa fodd bynag, anfonwyd y nifer mwyaf o'r "meistriaid" hyn—yn swyddogion a milwyr cyffredin—i Siberia; canys yr oedd Siarl wedi gwrthod cyfnewid carcharorion cyn y frwydr, ac ni wnai Pedr hyn ar ol y frwydr. Yn y cyfamser diangodd Siarl i Bender, a chymerodd noddfa yn mhlith y Tyrciaid. Trwy ei genadon efe a ddangosodd i'r Sultan fel yr oedd gallu Rwssia yn cynyddu, ac adfywiodd ynddo y gobaith o adenill Azoph, a gyru y Řwssiaid o'r Môr Du; ac yn y diwedd llwyddodd i gael gan y Sultan gyhoeddi rhyfel yn erbyn yr ymerawdwr. Dechreuodd y Tyrciaid y cweryl trwy garcharu teyrngenad Rwssia, ac ar hyny cododd Pedr fyddin, ac a ymdeithiodd i gyffindiroedd Twrci gyda 40,000 o wyr.

Wedi i Pedr groesi yr afon Pruth, cafodd ei hun yn agos i Jassy, wedi ei gau i fyny rhwng byddin o Dyrciaid ac un arall o Dartariaid, gyda ffrwd gref yn llifo rhyngddo â'i diriogaethau ei hun, heb braidd ddim ymborth, ac heb ganfod y moddion i gael peth; ac fel hyn y delid y Rwssiaid gan elynion a rifent yn agos i 200,000. Eto ymladdasant yn ffyrnig—math o frwydr yn myned yn mlaen yn barhaus am dri diwrnod, yn ystod pa amser y collwyd 18,000 o wŷr. Yr oedd sefyllfa yr ymerawdwr yn arswydus. Gallai un ddychymygu ing ei yspryd wrth feddwl y gallasai ei hunan gael ei ddwyn i Gaercystenyn, a'i arddangos fel carcharor. Eto yr oedd encilio yn amhosibl; a diangc rhag angeu neu gaethiwed a ymddangosai yr un mor anobeithiol.

Yn y cyfyngder yma cauodd yr ymerawdwr ei hun i fyny yn ei babell, naill i ymgynghori âg ef ei hun, neu ynte i guddio ei deimlad dwfn. Rhoddodd orchymyn pendant nad oedd neb i'w aflonyddu; ond anturiodd ei wraig, yr hon a gyfranogasai o'i beryglon, ac a wyddai ei galon, i droseddu y gorchymyn hwn, a gwnaeth ei ffordd at ei ochr. Cafodd ef mewn dirdyniadau arswydus—ymosodiad o'r ffitiau yr oedd yn ddarostyngedig iddynt wedi cael eu dwyn arno gan ing ei feddwl. Catherine, yr hon a feddai ar allu neillduol i'w dawelu ar yr achlysuron hyn, a gymhwysodd y cyfferi arferol; a chan ymddangos yn siriol, desgrifiodd y cynllun a ddaethai i'w meddwl hi fel y moddion i ddiangc rhag y dinystr oedd yn eu bygwth. Yr oedd y meddylddrych yma mor syml a naturiol, dan yr amgylchiadau, fel y mae yn syndod na fuasai wedi ymgynyg i feddwl Pedr neu ei gadifaenoriaid. Cynygiai fod cais i gael ei wneyd at ymheddychiad; ac er cydymffurfio â'r dull o gael ymddiddan â phrif weinidog y Sultan, sef trwy anfon anrhegion iddo, hi a dynodd ei pherlau, ac a chwiliodd yr holl wersyll am bethau a fuasent yn deilwng o dderbyniad ganddo.

Catherine ei hun hefyd a ddewisodd y swyddog a ystyriai yn fwyaf deallus ac o ymddiried i fyned ar y neges bwysig hon at y prif weinidog, a hi hefyd a'i cyfarwyddodd pa sut i weithredu. Ond trwy fod amryw oriau wedi myned heibio er pan ymadawsai, ofnid ei fod wedi cael ei ladd, neu ynte ei ddodi yn ngharchar; a chynaliwyd cynghor rhyfel, yn mha un yr ydym yn cael fod Catherine yn bresenol. cynghor hwn penderfynwyd, os byddai i'r Tyrciaid wrthod ymheddychu, yn hytrach na rhoddi eu harfau i lawr a thaflu eu hunain ar eu trugaredd, y byddai i'r Rwssiaid beryglu eu bywydau trwy ymdrechu tori eu ffordd trwy y gelynion. Yn y cyfamser Pedr, yn anobeithiol o gael unrhyw ganlyniadau ffafriol oddiwrth y genadwri, a ysgrifenodd at ei senedd yn Moscow"Os syrthiaf i ddwylaw y gelyn, nac ystyriwch fi mwyach yn benadur arnoch, ac naç ufuddhewch i unrhyw orchymynion a ddeuant atoch o'r lle y byddaf yn garcharor, hyd yn nod pe byddent wedi eu harwyddo â'm llaw fy hun. Os lleddir fi, dewiswch y teilyngaf yn eich mysg fel olynydd i mi."

Pa fodd bynag, ataliwyd y mesurau eithafol hyn trwy ddychweliad y genad, yr hwn a ddygai yr hysbysiad fod cytundeb heddwch anrhydeddus wedi cael ei gynyg gan y prif weinidog Tyrcaidd. Y mae pleidwyr Siarl XII yn arfer bob amser son am ymddygiad y llywydd Tyrcaidd ar yr achlysur hwn fel llwfreidd-dra; ond ymddengys i ni ei fod wedi ymddwyn mewn dull urddasol a goleuedig, a'i fod, trwy gytuno i derfynu y rhyfel, wedi ystyried lles y wlad yn ganwaith mwy na phe buasai wedi aberthu rhagor o filwyr i wrthwynebu Pedr, a gyru y fyddin Rwssiaidd i eithafion. Darfu yr ymladd ar unwaith; ac yn fuan wedi hyny arwyddwyd cytundeb, yn ol pa un yr oedd Azoph i gael ei hadferu i'r Tyrciaid, y Rwssiaid i gael eu cau allan o'r Môr Du, y fyddin i encilio o'r tu hwnt i'r Danube, ac addewid am fynedfa. rydd i Siarl XII. trwy Rwssia i'w wlad ei hun. Er cymaint o aberth oedd hyn i Pedr, fod gwasanaeth Catherine yn cael ei ystyried yn rhyfeddol a brofir tu hwnt i bob dadl; ac yn mhen rhai blynyddau ar ol hyny, pan oedd yn cael ei choroni yn ymerodres, Pedr a'i cydnabyddodd drachefn yn gyhoeddus, gan gyfeirio at yr -achlysur arswydus" yn y geiriau hyn—"Hynododd ei hun mewn modd neillduol trwy wroldeb a phresenoldeb meddwl uwchraddol i'w hystlen, yr hyn sydd yn berffaith hysbys i'r holl fyddin, ac i holl ymerodraeth Rwssia."

Yn 1715-16 ymbleserodd Pedr trwy gymeryd ail daith trwy Ewrop, gan gymeryd Catherine gydag ef. Ymwelodd â Saardam, lle y buasai, ddeunaw mlynedd yn ol, yn gweithio fel saer llongau; a lle y derbyniwyd ef yn awr gyda phob arddangosiadau o barch a serchlondeb. Dywedir iddo ddangos i'r ymerodres, gyda llawer o ddyddordeb, y caban bychan yn mha un y buasai yn gweithio ac yn byw. Bu yn Holland am dri mis, ac wedi llwyddo i wneyd cynghrair â Ffraingc, efe a ddychwelodd i St. Petersburg.