Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Marwolaeth Pedr Fawr

Oddi ar Wicidestun
Prawf a Farwolaeth Alexis Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

MARWOLAETH PEDR FAWR

Yn Ngorphenaf 1724, yr ydym yn ei gael yn arwain llynges yn erbyn Sweden, ac wedi cyflawni ei bwrpas, yn dychwelyd i Cronstadt, lle y gwnaeth arddangosfa o'i lynges. Treuliodd ei flynyddoedd diweddaf mewn dwyn ymlaen amryw welliantau mawrion a phwysig; yn mhlith y rhai y gellir nodi ei waith yn gwneyd darpariadau gogyfer â'r llifogydd a fygythient ei brifddinas newydd ar brydiau—estyn camlas Ladoga—sefydlu athrofa wyddonol—edrych i mewn i dreialon a chospedigaeth troseddwyr gwladol—cefnogi llafur y dosbarth a ffurfient gyfreithiau yr ymerodraeth—alltudio y Capuchiaid o Rwssia, a llunio cynghrair masnach o'r newydd â Sweden. Efe hefyd, yn 1724, a ddyweddïodd ei hoffus ferch Anne â'r Duc Holstein, wedi iddo yn gyntaf osod y goron ymerodrol, gyda rhwysg mawr, ar ben ei wraig Catherine, ar y 15fed o'r mis Mai blaenorol, fel arwydd o'i gariad a'i edmygedd. Darparodd hefyd fod i addysg briodol gael ei rhoddi i fab yr annedwydd Alexis, y fath ag a weddai i un a ddeuai yn y dyfodol yn ymerawdwr Rwssia.

Er fod iechyd Pedr wedi bod yn gwaethygu er's rhai misoedd, ymddengys fod ei farwolaeth wedi cael ei achlysuro gan weithred o ddyngarwch. Tua diwedd y flwyddyn 1724, pan yn myned i arolygu gefail a gwneuthurfa arfau yn Systerbeck, efe a ganfu fâd, yn llawn o filwyr a morwyr, mewn perygl ar y lan, ac anfonodd gwch ysgafn er eu cynorthwyo, yr hwn a ffaelodd yn ei anturiaeth. Yn benderfynol i gyrhaedd ei amcan, efe a aeth ei hunan at y lle; a chan na allai ei lestr eu cyrhaedd, efe a neidiodd i'r dwfr, ac a rydiodd at y cwch, ac a lwyddodd i'w gael oddiar у lan. Anwyd trwm a ddylynodd y weithred beryglus, ond dyngarol hon, ac yn ychwanegol at yr afiechyd poenus y buasai yn dyoddef o dano yn flaenorol, a barodd i ymddangosiadau o'r fath mwyaf angeuol amlygu eu hunain. Daeth y pethau hyn yn mlaen mor ddisymwth yn y diwedd, ac yr oedd ei ddyoddefiadau mor fawr, fel y bu yn analluog i amlygu ei ddymuniadau olaf fel y dewisai. Nid oes, er hyny, un amheuaeth nad oedd yn bwriadu apwyntio ei wraig fel ei olynydd. Yr oedd ei eiriau olaf, mor belled ag y gellid eu deall, yn arwyddocâu hyny: ac ar ddydd ei farwolaeth, hi a'i dylynodd ef heb i neb ei gwrthwynebu. Catherine a wyliodd wrth ochr ei wely, heb ei adael o gwbl am y tair noson olaf o'i fywyd; ac efe a anadlodd yr anadl olaf yn ei breichiau ar y 28ain o Ionawr, 1725, ac efe ond yn unig yn dair ar ddeg a deugain oed.

Yr oedd Pedr Fawr yn ddyn o athrylith nerthol a gwreiddiol; gwnelai bobpeth ei hunan, ac ni fyddai byth yn offeryn yn llaw neb arall. Tymherid ei wresogrwydd gan ddoethineb a phenderfyniad. Tarddai ei golliadau oddiar y gallu annherfynol oedd yn ei ddwylaw, a'i ddiffygion addysgiadol. Yr oedd ei wasanaeth i genedl anwybodus a barbaraidd o'r gwerth mwyaf; yn wir gellir dyweyd fod yr holl ddaionus bethau a feddiannir gan Rwssia yn awr, heb unrhyw ormodiaith, wedi tarddu oddiwrtho ef. Oni bai efe gallasent fod heddyw mor anghelfydd a diallu ag oeddynt pan y cafodd afael arnynt; ac y mae gweithrediadau fel yr eiddo ef yn ymestyn eu dylanwad yn mhell i'r dyfodol, ac yn enill enw na dderfydd tra pery y ddaear!