Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia
← Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia | Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Dan Addysgiaeth → |
PEDR FAWR, YMERAWDWR RWSSIA
PEDR, ymerawdwr Rwssia, yr hwn yn gyffredin a elwir PEDR Fawr, ydoedd un o'r dynion hynotaf mewn hanesyddiaeth ddiweddar. Bydd hanes ei fywyd yn ddyddorol, gan ei fod yn cyfleu esiampl o'r hyn a ellir wneyd er llesiant dynolryw trwy un meddwl anturiaethus a phenderfynol. Ond yn gyntaf, ni a soniwn ychydig am y wlad y bu ei dynged i reoli arni.
Y mae Rwssia yn diriogaeth dra eang yn ngogleddbarth Ewrop ac Asia. Arddengys bob amrywiaeth o hinsawdd; ac y mae, mewn gwirionedd, yn gydgasgliad o amrywiol wledydd, ac arddangosid hi yn yr eilfed ganrif ar bymtheg gan boblogaeth farbaraidd, yn meddu ond ychydig iawn o gymundeb gyda chenedloedd mwy gwareiddiedig y ddaear. Yr oedd ei safle mewn gwybodaeth ac ymarferion cymdeithasol yn dra thebyg i eiddo Twrci ein hoes ni. Ni wyddai y Rwssiaid nemawr neu ddim am y celfyddydau; yr oeddynt yn anghoeth mewn moesgarwch, wedi eu gwisgo mewn dillad afrosgo,—y dynion yn mabwysiadu barfau hirion, yn ol hen ddefodau y cenedloedd Asiaidd, ac nid oedd yn eu plith braidd unrhyw fath o addysg ysgoleigaidd, heblaw eu bod gyda hyny yn dra choelgrefyddol. Yr oedd hyd yn nod eu hoffeiriaid yn ddwfn mewn anwybodaeth a choelgrefydd.
Ar y pryd y cyfeiriwn ato-oddeutu canol yr eilfed ganrif ar bymtheg, neu oddeutu yr adeg pan yr oedd y gwrthryfel yn cymeryd lle yn Lloegr, dan arweiniad Oliver Cromwell—gallesid rhanu pobl Rwssia i bedwar dosparth. 1. Y Boyards, neu y bendefigaeth, y rhai a gyfrifent eu cyfoeth yn ol nifer y caethddeiliaid neu y caethion a fodolent ar eu hetifeddiaethau—y caethion truain hyny, y mwyaf lluosog yn ddiau o'r holl gorph gwladwriaethol. 2. Y Milwyr—dosbarth terfysglyd, y rhai y cawn alw sylw atynt eto, a'r rhai a ymarferent y dulliau mwyaf anfad i dywallt gwaed; y rhai hyn oeddynt yn lluosog iawn. 3. Yr Offeiriaid, ac yr oedd y grefydd sefydledig yn fath o gydffurfiad ag Eglwys Groeg, fel ag y mae heddyw. 4. Y Caethddeiliaid (Serfs), nid yn gaethion yn yr un ystyr ag y byddai caethion yn America, ond ar y cyfan mor waethed eu sefyllfa a'r rhai hyny.
Yr oedd y deyrn-benaeth yn cael ei chyfrif yn uwchraddol i bob awdurdod, ond Duw ei hun—ewyllys y penadur oedd y gyfraith. Os pallai epil gwrywol yr hen benaduriaid, fel y bu yn y flwyddyn 1613, ac amryw ymhonwyr ymddangos am y goron, byddai i'r prif Gynghor—y Boyards—benderfynu pwy a fyddai yn deyrn. Ar yr adeg hono—pan yr oedd pethau felly—penderfynodd y cynghor hwn mai dyn ieuangc o'r enw Michael Romanow oedd i fod yn ymerawdwr. Yr oedd efe yn fab i foneddwr cadarn, ac yn dal perthynas, ar ochr y fam, â'r hen linell. Yr oedd у tad yn garcharor ar y pryd gan y Poliaid, gyda pha rai yr oedd y Rwssiaid yn rhyfela. Trwy gyfnewid carcharorion, daeth yr hen wr adref, a bernir iddo lywodraethu, tra fu byw, yn enw fab. Wedi marw Michael olynwyd ef gan ei fab, Alexis Michaelowitz, yr hwn a esgynodd yr orsedd trwy olyniaeth treftadol.
Alexis oedd tad Pedr Fawr, ac yr oedd yn ddyn goleuedig. Ymddengys er hyny mai ychydig o gefnogaeth a gafodd i ddwyn diwygiad i Rwssia. Bu farw yn sydyn yn y flwyddyn 1677, yn 46 mlwydd oed. 'Buasai ddwywaith yn briod; ac o'i wraig gyntaf cafodd ddau fab a phedair neu chwech o ferched. O'i ail wraig, yr hon a fu fyw ar ei ol, efe a adawodd PEDR FAWR a'r Dywysoges Nathalia. Yn gymaint a bod Alexis wedi gorchymyn am i Theodore, ei fab hynaf, esgyn yr orsedd ar ei ol ef, oddeutu blwyddyn cyn ei farw, dyna a fu; a choronwyd ef yn bymtheg mlwydd oed. Bu farw yn fuan, modd bynag, a'r un modd ei frawd Ioan, yr hwn nid yn unig oedd braidd yn ddall a byddar, ond hefyd yn ddarostyngedig i ddirdyniadau gewynol.
PEDR FAWR, gan hyny, oedd yr etifedd nesaf i goron ymerodrol Rwssia. Ganwyd ef yn Moscow ar y 30ain o fis Mai, yn y flwyddyn 1672. Nid oedd Pedr ond pedair blwydd oed ar 'adeg marwolaeth ei dad, a bu am ysbaid heb i un sylw gael ei wneyd o hono. Ar farwolaeth ei frawd Theodore esgynodd Pedr yr orsedd. Nid oedd y pryd hyn ond naw mlwydd oed, ac yr oedd un o'i chwiorydd, Sophia, wedi rhagweled ei dalent, ac yn benderfynol o gymeryd meddiant o'r orsedd ei hunan. Yn y flwyddyn 1689, priodwyd Pedr gydag un o'r enw Eudoxia Federowna Lapuchin, trwy ddylanwad ei fam, ac felly yr achubwyd ef o ddwylaw Sophia, yr hon oedd yn amcanu ei lygru ef; ond rhoddodd yr amgylchiad yma afael newydd iddo yn serch y bobl. Yr oedd Sophia wedi ffurfio bradwriaeth i'w ladd ef a'i wraig, a'i fam a chwaer arall, ar ddiwrnod y briodas, er mwyn cael meddiant o'r orsedd ei hunan; ond trwy ffyddlondeb a diysgogrwydd ei gyfeillion, efe a ddiangodd rhag y brad, ac a gymerodd nawdd yn mynachlog y Drindod. Y canlyniad o hyn fu rhyfel cartrefol arswydus; ar ol llawer o dywallt gwaed terfynwyd trwy i Pedr fuddugoliaethu, ac i Sophia gael ei hanfon i fynachlog, a'i phleidwyr eu halltudio i Siberia. Wedi hyn aeth i mewn i Moscow, ac yn ngwydd yr holl bobl efe a gofleidiodd Ioan, yr hwn a adawodd ei holl awdurdod yn llaw ei frawd Pedr, am mai efe oedd y mwyaf galluog. O'r adeg hon y dechreuodd lywodraethu dan yr enw
PEDR I, NEU PEDR FAWR
Er fod enw yr analluog Ioan yn cael ei gyplysu gydag ef fel cyd-ymerawdwr. Ymddengys i'w chwaer Sophia wneyd ei goreu er ei hudo i bob gormodedd a gloddestwaith, ac hefyd i'w gadw mewn anwybodaeth dybryd, nes yr oedd yn ddeuddeng mlwydd oed. Nis gellir tybied iddo ddiangc oddiar holl ddichellion ei chwaer; ond y mae yn wirionedd am dano, fel y dywedodd un, "Ei rinweddau oeddynt oll yn eiddo ei hun, ond ei golliadau a berthynent i'w addysg a'i wlad.". Yn foreu efe a arddangosodd feddylfryd mawr ystyriaeth o'i anwybodaeth ei hun, ynghyd a'r syched mwyaf awyddus am wybodaeth. Perthynai iddo hefyd y gallu hwnw nas gellir ei wahanu oddiwrth lywodraethwr diledryw—sef adnabyddiaeth o'r talentau hyny a'u galluogent ef i gario allan ei gynlluniau. Er engraifft o hyn, un diwrnod pan oedd yn ciniawa gyda llysgenad yr Iseldiroedd yn Moscow, tarawyd ef gan foneddigeidd-dra ac ymddiddanion yr ysgrifenydd cyfrinachol, a chanfu ar unwaith uwchraddoldeb ei feddwl. Genoiad ieuangc oedd hwn, o'r enw Le Fort, yr hwn a ddygasid i fyny gyda golwg ar fasnach; ond trwy duedd naturiol at orchwylion milwrol, a hudasid nes llwyr ymroddi i'r ganghen hono o addysgiaeth.