Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Yn Dychwelyd Adref—Gwrthryfel yn Moscow—Narva

Oddi ar Wicidestun
Yn Lloegr Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Catherine—St. Petersburg—Cymeryd Narva

PEDR YN DYCHWELYD ADREF—GWRTHRYFEL YN MOSCOW—NARVA

Cychwynodd Pedr o Loegr yn niwedd y flwyddyn 1698, ac aeth drosodd i Holland. O Holland aeth i Vienna, er ymweled ag ymerawdwr Germany, yr hwn yn ddiddadl oedd yn falch o'i weled, er mwyn ei sicrhau fel cynorthwywr yn erbyn ei hen elynion y Tyrciaid. Derbyniwyd ef gyda rhwysg mawr; ond yn nghanol y llawenydd a ddynodai ei ddyfodiad, cyrhaeddodd newydd ato fod gwrthryfel wedi cymeryd lle yn Moscow, ond ei fod wedi ei ddarostwng trwy egni a phenderfyniad y Cadfridog Gordon, yr hwn a adawsai yno fel penllywydd. Parodd y newydd yma iddo roddi i fyny y bwriad o ymweled ag Itali, yr hyn a fwriadasai wneyd; a chan deithio gyda'i gyfİymdra arferol, efe a brysurodd i'w brifddinas. Cafwyd allan yn fuan fod y Strelitziaid (milwyr y brifddinas,) wedi cael eu hanog i wrthryfel gạn y, Dywysoges Sophia, yr hon, gan gymeryd mantais ar absenoldeb ei brawd, a obeithiai feddiannu y brif awdurdod. Amryw o'r prif wrthryfelwyr a grogwyd yn ngolwg ffenestri Sophia, a chollfarnwyd ereill i farwolaeth greulonach, ac a dorwyd ar yr olwyn. Y mae haneswyr yn son llawer am greulondeb Pedr ar yr achlysur hwn, ond y mae yn dra thebyg fod hyny, fel llawer o bethau ereill, wedi eu mwyhau yn fawr gan y cyfryw.

Yn 1699, cafodd Pedr golled drom drwy farwolaeth ei gyfaill a'i gynghorwr, y Cadfridog Le Fort, ar gynhebrwng yr hwn y pentyrodd anrhydedd cyffelyb i'r hyn a dderbyniasai breninoedd blaenorol. Yr oedd ei hunan yn yr orymdaith, yn cerdded ar ol y cadbeniaid fel isgadben, canys dyna y swydd a ddaliai yn nghatrawd Le Fort. Oddeutu yr amser yma hefyd y collodd efe ei ffyddlon gadfridog, Gordon, galluoedd milwrol yr hwn a fuasai mor wasanaethgar iddo yn adffurfiad ei fyddin. Menzikoff, yr hwn a godasai o ddinodedd trwy ei dalentau a'i alluoedd, a ddaeth yn awr yn brif gyfaill a chynghorwr Pedr. Y Strelitziaid—yr offerynau hyny o wrthryfel a therfysg—oeddynt erbyn hyn wedi cael eu difodi, a'u lle wedi ei gymeryd gan saith ar hugain o gatrodau newyddion o wŷr traed, a dwy o feirchfilwyr, y rhai, yn y ystod tri mis, a ddygasid dan ddysgyblaeth ragorol. Heblaw ailffurfio y fyddin Pedr yn awr a drôdd ei feddwl, gyda bywiogrwydd dihafal, at reoleiddiad mewnol ei ymerodraeth, yr hon a ddaeth yn raddol yn fath o greadigaeth newydd.

Y pryd hyn trôdd yr ymerawdwr ei sylw at ddiwygio dillad anghyfleus ei bobl. I wneyd hyn, dechreuodd trwy osod treth ar farfau hirion a pheisiau; a chrogid cynlluniau o gotiau clòs am y corph yn y lleoedd cyhoeddus. Ond y fath oedd eu hymlyniad wrth eu hen arferion, fel y cynyddodd ei gyllid, yn lle bod eu dillad yn newid. Y mae ei symudiad nesaf braidd yn ddigrifol. Gosododd deilwriaid ac eillwyr wrth bob un o byrth Moscow, dyledswydd pa rai oedd tori barfau pob dynion a ddelent i mewn, a thori eu peisiau oddiamgylch. Fel siampl o ymlyniad y bobl wrth eu hen arferion, adroddir yr hanesyn canlynol. Ar un achlysur cyfarfyddodd yr ymerawdwr â hen ddyn yn dyfod oddiwrth yr eilliwr, a dywedodd wrtho ei fod yn edrych fel dyn ieuangc ar ol cael tori ei farf; ar hyn rhoddodd yr hen ŵr ei law yn ei fynwes, a thynodd allan y farf a dorasid ymaith, gan hysbysu yr ymerawdwr y byddai iddo ei chadw i'r dyben iddi gael ei gosod yn ei arch, fel y byddai iddo ei dangos i St. Nicholas yn y byd arall !

Oddeutu yr amser yma dechreuodd yr ymerawdwr symud dechreuad y flwyddyn o'r dydd cyntaf o Fedi i'r dydd cyntaf o Ionawr—gorchwyliaeth a barodd dramgwydd mawr i'r bobl, y rhai a dýbient ei fod yn ymgymeryd â newid cwrs yr haul. Yn nesaf sefydlodd gymdeithasau er cefnogi cymundeb cymdeithasol rhwng y ddwy ystlen, fel y gallai pobl gael mantais i ffurfio priodasau cyfaddas. Cyn hyn yr oedd У gwragedd yn cael eu ceisio yn ol dull Asia—y briodasferch yn cael ei rhoddi ymaith neu ei gwerthu gan ei rhieni, heb gael ei gweled yn flaenorol gan y priodfab bwriadedig. A thra yr oedd y diwygiadau cymdeithasol a moesol hyn yn myned yn mlaen, yr oedd Pedr yn adeiladu llynges ar yr afon Don, yn cysylltu yr afon hono â'r Volga, ac yn cynllunio i ddwyn tiriogaeth arforawl oddiar genedl ryfelgar, ar ba un y bwriadai adeiladu prifddinas newydd-St. Petersburg.

Hyd yn hyn, Moscow oedd prifddinas Rwssia, yr hon, gan ei bod yn nghanol y tir, nid oedd yn gyfleus at fasnach forawl. Gyda golwg ar wneyd i fyny y diffyg, yma, penododd Pedr safle ei brif ddinas newydd ar aber yr afon Neva, yn gyfagos i Forgaingc Ffinland. Ond nid ei eiddo ef oedd y tir yn y fan hon; perthynai i Sweden. Ei amcan gan hyny oedd gafael mewn un neu ddwy o daleithiau, eu hychwanegu at Rwssia, ac yna dechreu adeiladu ei dref. I'r dyben o gyrhaedd ei amcan yn y peth hwn, yn y flwyddyn 1700, efe a ffurfiodd undeb gwladol gydag Augustus, brenin Poland, ac â brenin Denmark. Y tri phenadur hyn a ffurfiasant gynghrair yn erbyn Siarl XII., brenin Sweden, a phenderfynodd Pedr gymeryd oddiarno daleithiau Ingria a Carelia; dymunai Augustus adenill Esthonia a Livonia; ac ewyllysiai Denmark adgymeryd Holstein a Sleswick. Pedr a oresgynodd Ingria gyda 60,000 o filwyr; a chan ei fod yn awyddus i gael esgus dros ei weithrediadau, y goreu a allai gael oedd fod gormod o dâl wedi cael ei godi am ymborth ei lysgenadon tra yn pasio trwy y dalaeth hono ar eu ffordd i Holland; nid anghofiodd grybwyll hefyd iddo ef ei hun gael ei ddirmygu trwy wrthod iddo gael golwg ar amddiffynfeydd Riga!

Oddeutu diwedd mis Medi, Pedr a warchaeodd ar Narva, tref gaerog ar yr afon Narowa, yr un adeg ag yr oedd Siarl yn terfynu y rhyfel a Denmark. Wedi darfod hyny, daeth i waredu Narva, ond nid oedd ganddo ond 9000 o filwyr gydag ef. Pedr, wedi synu efallai fod y lle yn dal allan mor hir, ond heb amheuaeth na lwyddai yn y pen draw, a adawodd ei fyddin yn gwersyllu o flaen Narva, ac a aeth i gyfarfod byddin o agos i 30,000 o wŷr, y rhai yr anfonasai am danynt i'w gynorthwyo. Nid yw yn hawdd rhoddi rheswm paham y gwnaeth hyn; oblegyd yn ddiau yr oedd mwy o angen am yr ymerawdwr gyda'r brif fyddin, oddeutu 60,000 o wyr, o flaen Narva. Yn ei absenoldeb, ar y 19eg o Dachwedd, daeth Siarl i fyny i Narva, a chan gymeryd mantais ar ystorm ddychrynllyd o eira, yr hon' a gurai yn union i wynebau y Rwssiaid, syrthiodd arnynt, a chyda'i fyddin o 9000 a orchfygodd fyddin o agos i saith gwaith y nifer hwnw. Cymerwyd oddeutu 40,000 yn garcharorion ; ac o'r diwedd darganfyddwyd anghyfleustra y peisiau hirion, oblegyd rhwystrent i nifer mawr o honynt redeg ymaith! Ni fu erioed orthrechiad mor llwyr, er i'r ymerawdwr gymeryd y peth yn hynod dawel. "Gwn yn eithaf da," meddai,"y bydd gan y Swediaid fantais arnom am hir amser; ond bydd iddynt o'r diwedd ein ni i'w curo hwynt."

Ar yr achlysur o'r gorchfygiad hwn, cyfansoddodd yr offeiriaid weddi at Sant Nicholas, yr hon a offrymwyd i fyny yn gyhoeddus. Erfyniai am ei gymhorth yn erbyn y "dinystrwyr arswydus, taeog, dychrynllyd, ac anorchfygol" hyn, y rhai a syrthiasent arnynt "fel llewod ac eirth wedi eu hyspeilio o'u rhai ieuangc—yn eu dychrynu, eu clwyfo, a'u lladd hwynt wrth y miloedd" —a chyhoeddi nas gallai y fath drychineb fod wedi disgyn arnynt ond trwy "gwyngyfaredd a dewiniaeth." Pa fodd bynag, ni arosodd Pedr am help Sant Nicholas. Efe a ffurfiodd gynghair â breninoedd Denmark a Poland, ar iddynt ei gynorthwyo & milwyr, a chadw i fyny y cweryl â Siarl XII; ar yr un pryd efe a doddodd glychau eglwys a mynachlog Moscowi fwrw cyflegrau, ac a wnaeth bob parotoadau anghenrheidiol gogyfer a'i ryfelgrych yn y gwanwyn. Ond ynghanol hyn oll, ni chollodd efe ei olwg ar y cynlluniau ag oeddynt i ddwyn eu ffrwyth yn amser heddwch. Ar yr adeg hon yr oedd yn sefydlu ysbyttai ac ysgolion, yn adeiladu gweithfaoedd at wneyd lliain a phapur, ac yn dwyn crosodd ddefaid o Sacsoni, gan gasglu ynghyd ofaint, eurych, a chrefftwyr o bob dysgrifiad, ac archwilio mwngloddiau Siberia am fwnau.