Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Addysg

Oddi ar Wicidestun
Yr Eglwys Wladol Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Llywodraeth Leol

PENNOD IV.
ADDYSG.

Hyfforddia blentyn ym mhen ei ffordd;
A phan heneiddio nid ymedy â hi.
Pennaf peth yw doethineb; cais ddoethineb:
Ac a'th holl gyfoeth cais ddeall.
Dyrchafa di hi, hithau a'th ddyrchafa di;
Hi a'th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.
Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb,
A'r dyn a ddygo ddeall allan.
Gwell yw ei marsiandiaeth hi na marsiandiaeth o arian,
A'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth.
Gwerthfawrocach yw hi na gemau:
A'r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi.
Hir hoedl sydd yn ei llaw ddehau hi;
Ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.
Ei holl lwybrau hi ydynt heddwch. —Solomon


YR YSGOLION BORE.

ADDYSG.—Yr Ysgolion Bore—Yr Ysgol Frytanaidd—Yr Ysgol Genedlaethol—Brwydr y Bwrdd Addysg—Wedi'r Frwydr—Yr Ysgolion presennol—Yr Ysgolion Uwchraddol.

FE ellir dweyd un peth am Borthmadog nas gellir ei ddweyd am bob tref, sef yw hynny, na bu hi erioed yn ddi-grefydd, nac ychwaith yn ddi-addysg, a hynny'n bennaf o herwydd ei hagosrwydd at Dremadog; ac hefyd, am mai tref ieuanc ydyw. Tremadog yw ei mham: o honi hi y deilliodd. Hi oedd ei thref marchnad; yno y cynhelid ei llysoedd, ei chymanfaoedd yno hefyd yr addolai ei phobl, ac yr addysgid ei phlant.

Yr oedd ysgol ddyddiol wedi ei sefydlu yn Nhremadog er y flwyddyn 1816. Prif sylfaenwyr yr ysgol honno oeddynt: Mr. John Williams, Tywyn (Tuhwnt i'r Bwlch); y Parch. John Jones; Mri. Robert Jones, Madock Arms; William Morris, masnachydd; a William Williams, Y Siop. Bu gryn siarad cyn ei chychwyn ar ba gynllun i'w gweithio, pa un ai ar y Bell neu y Lancastrian, neu fel yr adnabyddid y ddwy gyfundrefn yn well ar ol hynny,—y Genedlaethol a'r Frytanaidd. Y diwedd fu, myned a'r achos i'w benderfynu at Mr. Madocks; rhoddodd yntau y flaenoriaeth i'r cynllun Brytanaidd, gan roddi caniatad i'w chynnal yn Ystafell y Neuadd. Dodrefnwyd y lle'n gyfaddas. Cafwyd rhodd o wersi oddi wrth y Fam Gymdeithas yn Llunden, a daeth gŵr o Loegr yno i gyfarwyddo'r athro, Mr. John Wynn, brodor o Gaernarfon—yn y gyfundrefn addysg. Yr unig ysgol yn y cwmpasoedd y pryd hynny ydoedd un Genedlaethol yn Llanystymdwy, ag un R. Davies yn athro arni. Pan sefydlwyd Ysgol Tremadog daeth iddi blant o Benrhyndeudraeth, Beddgelert, Nant Gwynant, Nant y Bettws, Brynengan, y Garn, Criccieth, a rhai o Lanystymdwy, fel na bu'n hir cyn dod yn ysgol bwysig a'r fwyaf blodeuog yng Ngogledd Cymru.[1] Yr oedd hynny cyn i'r Llywodraeth gymeryd addysg fel rhan briodol o'i gwaith. Ni roddwyd grant tuag at addysg hyd y flwyddyn 1833, ac ugain mil a roddwyd y pryd hynny.

Bu Mr. John Wynn yn Nhremadog am flynyddoedd; dilynwyd ef gan Cornelius Stovin—Sais o Sir Lincoln; John Parry (Treborth wedi hynny); D. Morgan Williams,—gwr a ddaeth i gryn sylw fel pregethwr o nôd gyda'r Bedyddwyr, ac a fu'n olynnydd i'r enwog Robert Hall yn Leicester; ac un Jonah Jones.

YSGOLION CYNTAF PORTHMADOG.

Yr ysgol gyntaf ym Mhorthmadog, yn ol pob hanes, yw yr un a gadwai'r hen forwr dyddorol William Griffith, ym Mhen y Cei, wrth ochr y Grisiau Mawr. Morwriaeth yn bennaf a ddysgai efe. Nid oedd gan yr hen lanc, druan, ond un ystafell at ei holl wasanaeth—i gadw ysgol, gwneud ei fwyd, golchi a phobi, byw a chysgu ynddi. Cysgai mewn hammock a grogid wrth y nenfwd. Ei flasusfwyd fyddai penwaig a wynwyn, wedi eu ffrio neu eu briwlio yn nanedd y grât. Ond er ei holl hynodion, efe ddysgodd y tô cyntaf o forwyr Porthmadog mewn morwriaeth. Yn yr ystafell honno y bu'r Bedyddwyr Albanaidd yn addoli gyntaf; ond ychydig o gyfathrach a fu rhwng yr athraw â'r crefyddwyr, ac ychydig o fendith a ddymunodd ar eu rhan.

Y cofnodiad nesaf sydd gennym am addysg yw mewn cytundeb a wnaeth swyddogion eglwys Salem â'i gweinidog cyntaf,—y Parch. Henry Rees. Wele'r cytundeb:—"Mewn cyfarfod o'r pwyllgor sydd a'u henwau isod, a gynhaliwyd yng Nghapel yr Annibynwyr ym Mhorthmadog 11eg o Ionawr, 1830, cytunwyd ar y penderfyniad canlynol:—"Ein bod yn barod i ymrwymo i sicrhau y swm o ugain punt am y flwyddyn yn diweddu 11eg o Ionawr, 1831, i Mr. Henry Rees, a thanysgrifio'n gyfartal cydrhyngom unrhyw swm y gall cyfraniadau'r plant yn ystod yr amser fod yn fyr o'i gyrraedd, os yr ymgymera Mr. H. Rees a chynnal ysgol ddyddiol yn y capel, lle y gall unrhyw nifer o blant—heb fod dros 40 o rif ar yr un adeg—o ddewisiad y pwyllgor, gael eu dysgu mewn sillebu, darllen, ysgrifennu, a rhifyddiaeth. Y gwaith i'w wneud yn Saesneg.

J. S. SHAW, Cadeirydd.

John Williams, William Roberts, Thomas Jones, Daniel Morris, James Evans, Robert Ellis, John Watkins, David Richards, David Jones, Evan Evans, Henry Jones, Griffith Lloyd, Henry Hughes, John Griffith, Robert Griffith, W. Williams, Parch. John Evans, J. C. Paynter, Robert Griffith.[2]

Yr wyf wedi methu canfod am ba hyd y cynhaliwyd ysgol ddyddiol yng nghapel Salem.

YR YSGOL FRYTANAIDD.

Adeiladwyd y gyntaf.1838
Adeiladwyd un newydd 1869


Prif Athrawon.—Mr. Good, Mr. Morris Davies (1844-49). Mr. Evan Jones, Mr. Rhys Roberts, Mr. R. W. Jones, Mr. Hancock, Mr. Owen Griffith, Mr. John Williams (1864-73), Mr. Hugh Jones (1873-77).

Prif Athrawon Adran y Babanod.—Miss Ellen Owen (1870 -71), Miss Rachel A. Williams (1872-73), Miss Ford (1873-77). Tua'r flwyddyn 1843 ymgynhullodd goreugwyr Tre a Phorthmadog ynghyd, i ystyried y priodoldeb o adeiladu ysgol. Y prif symudydd gyda hyn eto ydoedd Mr. John Williams, Tuhwnt i'r Bwlch. Penderfynwyd adeiladu un mewn man cyfleus, cydrhwng y ddwy dref, a dewiswyd Bont Ynys Galch fel lle canolog. Codwyd yr ysgol yn y fan lle y saif y Queen's Hotel arno'n awr. Wedi ei naddu ar garreg ar wyneb yr adeilad yr oedd geiriau Solomon: Train a child in the way he should go; and when he is old, he will not depart from it."

Yr ysgolfeistr cyntaf ag y mae gennym fawr o fanylion yn ei gylch ydoedd y llenor coeth Mr. Morris Davies—Bangor wedyn—er fod un, os nad dau, wedi bod o'i flaen. Cariai'r ysgol ymlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun. Yr oedd yr ysgol i fod yn rhydd oddi wrth bob math o enwadaeth, a phleidiaeth. Bu Mr. Davies yn cadw ysgol cyn hyn ym Mhont Robert, y Fallwyd, a Llanfyllin. Credaf y gellir cymeryd yr hysbysiad a ganlyn o'i eiddo i drigolion Llanfyllin fel ei gynllun o gario'r ysgol ymlaen ym Mhorthmadog:—Morris Davies respectfully informs the Public that he intends opening a School at Llanfyllin on Monday, the 6th of March, 1826. Terms: Reading per quarter, 3/—; Writing, 5/—; English Grammar, 6/—; Arithmetic and Book—keeping, 7/—; Geometry and Mensuration, 10/—; Entrance, 1/—. The School will be conducted upon the old system, and the most scrupulous attention will be paid to the Instruction and the Morals of the Children.

Nis gellir dweyd fod Mr. Davies yn batrwm o ysgolfeistr. Yr oedd yn ddyn llawer rhy addfwyn a thyner i lywodraethu plant yr oes honno. Er ei fod yn meddu ar lawer o ragoriaethau, eto ni feddai yr un hanfodol i ysgolfeistr, sef y ddawn ddisgyblaethol. Mewn ysgrif faith ar Mr. Davies, dywed y Parch. D. Rowlands, M.A., Bangor, am dano:—"Gyda'i hynawsedd a'i fedrusrwydd i ganu y cydymdeimlad a ddengys yn ei emynnau i blant a'u natur a'u hysbryd, ynghyda'r awyddfryd a deimlai gŵr mor gydwybodol âg ef am ddwyn ei ysgolheigion ymlaen, y mae'n rhaid fod ysgol Mr. Morris Davies y dyddiau hynny yn ysgol dda. Ar yr un pryd, gan ei fod mor araf yn ei symudiadau, ac heb y fantais o gael training priodol i'r gwaith, nid ydym yn synnu fod un o'r inspectors, wedi arolygu yr Ysgol Frytanaidd oedd o dan ei ofal, yn dweyd wrth Mr. Williams, Tuhwnt i'r bwlch, He may be a good scholar but he is not a good teacher.'"[3]

Er hynny gwnaeth waith rhagorol, a rhoddir iddo dystiolaeth uchel gan rai a fu o dan ei addysg. Yr oedd yn hynod o ofalus a pherffaith yn ei ffyrdd, er yn hollol ddiymhongar. Gallasai fod wedi cyrraedd safleoedd uchel o ran ei alluoedd; ond "Os cai ymborth a dillad," ebe Mr. Rowlands, a modd i gyfranu ychydig at waith yr Arglwydd Iesu ac i bwrcasu ambell lyfr, a hamdden i ddilyn ei hoff efrydiau, yr ydoedd efe yn ddiolchgar iawn, ac yn berffaith foddlawn i bobl gael y gofalon a'r anturiaethau, ynghyd ag unrhyw wobrwyon a allent ennill trwyddynt.'

Gadawodd Mr. Davies Borthmadog, a'r swydd o ysgolfeistr, i fyned i Fangor. Wedi ei ymadawiad ef ymunodd y rhai oedd â chyfrifoldeb addysg arnynt i gael ysgolfeistr cyflogedig; a phenodwyd Mr. Evan Jones—brodor o Ddolgellau, a ddechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid, ond a fu farw'n ieuanc.

Yn y flwyddyn 1851 cawn fod y Pwyllgor yn gohebu âg Eben Fardd. Yr oedd Eben, wedi bod yn cadw ysgol yng Nghlynog am dros 22 mlynedd; ond ar y 3ydd o Ragfyr, 1849, derbyniodd lythyr oddi wrth y Ficer, yn ei hysbysu nas gallai barhau'n athraw yno'n hwy, oni ddeuai'n gymunwr eglwysig. Ond yr oedd hynny'n fwy nas gallai Eben Fardd ei wneud. Gwell oedd ganddo golli yr ysgol na threisio'i argyhoeddiadau, ac hysbysodd y Ficer o hynny. Ni bu efe'n hir cyn i le arall gael ei gynyg iddo; a'r lle hwnnw ydoedd Ysgol Porthmadog. Y mae nodiadau Eben Fardd yn ei ddyddlyfr, yn y cysylltiad hwn, mor ddyddorol a gwerthfawr, fel nas gallaf ymatal rhag eu dyfynu yma, fel yr ysgrifennodd efe hwynt, ac fel y ceir hwynt yn Wales (O. M. E.), Cyf. iv.:— Feb. 11th, 1852. At Sportsman,[4] Messrs. Wm. Owen, and Robert Jones, Madoc, here for the night. Authorized them to propose me for the school.

Feb. 16th. Letter from Robert Jones, stating my unanimous appointment by the committee to the Portmadoc School. Chairman, D. Williams, Esq., Broneryri, who with S. Holland, Esq., also in my favour, are the trustees of the school.

Feb. 25th. At Broneryri with the Committee; agreed to accept the school. £80 guaranteed, with an understanding that I should attend the Borough Road School for one month previously.

March 1st and 2nd. (Bangor) with Mr. Phillips, on his advise gave up.

March 9th.

Poor Robert Jones here all the way from Portmadoc respecting my demur.

March 10th. Letters forwarded to D. Williams and Robert Jones, Esqrs., to entreat their consent to withdraw my Portmadoc engagement.

This renders my prospect very dark still, as I apprehend their angry disgust at this course, and further fear their displeasure.

May my good God who knows my heart and motives, touch their minds with sympathy and kind disposition to judge me favourably.

March 15th. Received a release from my Portmadoc engagement, couched in a very kind and courteous letter from David Williams, Esq., Broneryri.

March 22nd. Opened school (at Clynnog) on a new plan. 1852. General survey.

Engaged to accept the Portmadoc schoolmastership, and to go to London to qualify; was remonstrated with by the Clynnog people; opposition to my leaving; went to Bangor to consult Mr. Phillips, and advised to remain at Clynnog; got my Portmadoc engagement rescinded. £30 salary granted me by the Arvon Presbytery for five years.

Anfonodd Emrys hefyd lythyr o wahoddiad taer, ar iddo "fwrw ei goelbren ym mysg y Madogion.[5] Nid oes raid i'r dyfyniadau uchod wrth nôd nac esboniad. Gwyddom ni heddyw, mai mwy fu ennill Cymru na cholled Porthmadog trwy i'r cytundeb uchod gael ei dynnu'n ol. Gwelir mai dyma'r pryd y cysylltwyd Ysgol Clynog â Methodistiaeth. Y "plan newydd" ydoedd agor ysgol i ddarparu myfyrwyr ar gyfer y weinidogaeth. Y gwr a benodwyd i'r swydd ym Mhorthmadog ydoedd Mr. Rhys Roberts,—a fu am gyfnod diweddaf ei oes yn swyddog elusenol a chofrestrydd yn Harlech.

Yn fuan wedi hyn, cododd nifer o foneddigesau'r ardal ysgol i'r babanod wrth dalcen yr ysgol, yr hon a brynwyd gan Bwyllgor yr ysgol gyhoeddus, gyda chynhorthwy y Committee of Council, pryd yr aeth yr addysg o dan y drefn Frytanaidd yn gyfangwbl, ac y galwyd yr ysgol yn Tremadoc British School. Cariwyd hi'n mlaen felly am amryw flynyddau, o dan lawer o anhawsderau. O'r diwedd, llesghaodd yr ymdrech a diflannodd y sêl dros addysg, a chauwyd yr ysgol.[6] Yn y cyfamser nid oedd unrhyw fanteision addysg yn y lle ond a gyfrannai'r hen forwr ym Mhen y Cei.

Ymhen ysbaid, dechreuwyd cynnal ysgol yn Ystafell y Neuadd, Tremadog, gan Miss Evans (Mrs. Evans, brazier). Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn, ail agorwyd Ysgol Bont Ynys Galch—y tro hwn gan yr Ymneillduwyr yn unig. Ond ni bu ei llwyddiant fawr well na'r troion cynt. Ni roddai'r Ymneillduwyr y gefnogaeth ddyladwy iddi. Yr oedd y gwahanfur enwadol yn rhy uchel iddynt allu edrych drosto, ac ni welai'r mwyafrif o honynt unrhyw werth yn yr athrawon, oni byddent "o'n henwad ni." Yn y flwyddyn 1857, adeiladodd yr Eglwyswyr yr Ysgol Genedlaethol, yn y man cyfleus y saif arno heddyw; a phan agorwyd Ffordd Haearn y Cambrian, yn y flwyddyn 1867, aeth safle'r Ysgol Frytanaidd yn anfanteisiol iddi, gan yr ofnai llawer o rieni anfon eu plant iddi, o herwydd ei hagosrwydd i'r rheilffordd.

Ymhen tua deng mlynedd wedi adeiladu'r Ysgol Genedlaethol, daeth cefnogwyr y Frytanaidd i weled eu bod yn colli yn eu dylanwad wrth aros yn y lle'r oeddynt. Yr oedd cyflwr yr adeilad hefyd yn dirywio, a phenderfynasant, os oeddynt am ddilyn ymlaen gyda'r ysgol, fod yn rhaid iddynt symud i le mwy manteisiol. Penderfynwyd ar y cwrs diweddaf, nid oddiar elyniaeth tuag at yr Ysgol Genedlaethol, ond o herwydd y teimlai'r arweinwyr fod yn ddyledswydd arnynt ddarparu addysg na chynhwysai egwyddorion unrhyw blaid grefyddol neillduol.

Hefyd, yr oedd un ysgol yn annigonol i gyfarfod ag angen y gymdogaeth. Yn nechreu'r flwyddyn 1868 gwerthwyd Ysgol Bont Ynys Galch am £325, ac ar y 30ain o Ionawr, cynhaliwyd cyfarfod yng nghapel Salem i egluro'r safle. Gwnaed hynny gan Mr. R. Rowland. Yr oedd y tir tuag at adeiladu ysgol newydd wedi ei sicrhau gan Mr. David Williams. Rhwng yr arian a gawsant am yr hen ysgol, a rhôdd y Llywodraeth tuag at adeiladu un newydd, yr oeddynt yn fyr o £450 tuag at gyrraedd yr amcan, a chodi adeilad gwerth £1,200. Cafwyd addewidion yn rhwydd yn y cyfarfod. Ymhlith y cyfranwyr yr oedd y Parch. W. Ambrose, £10; Mri. J. H. Williams, £20; William Jones, chandler, £10; Mrs. Jones, eto, £10; Mri. Thomas Parry, £10; Peter Jones, surveyor, £5; John Roberts y Felin, £5; John Lewis, plumber, £10; Capten G. Griffiths, £10 10s.; Capten Thomas Jones, shipper, £5; y Parch. Thomas Owen, £5; Mri. R. Rowland, £5; Daniel Williams, £5; Owen Hughes, £2; A. Ellis, £5; Richard Hughes, £4.

Aed ymlaen i adeiladu ysgol newydd a gynhwysai 274 o blant. Yn y cyfamser, addysgid y plant yn y Neuadd Drefol, hyd orffeniad yr ysgoldy newydd yng Ngorffennaf, 1869.

YR YSGOL GENEDLAETHOL.

Adeiladwyd 1857
Eangwyd .1868


Prif Athrawon. Mr. Malcolm, Mr. Griffiths, Mr. Maddern, Mr. Richard Grindley, (1863—78).
Adran y Babanod.—Miss Hawkridge (1868—70), Miss K. Jones (1871—76), Miss E. Parry (1876—77).
Ysgrifennydd.—Mr. John Thomas (1857—78).


Pan ail agorwyd Ysgol Frytanaidd Bont Ynys Galch, ni fynnai'r Eglwyswyr wneud dim â hi, a phenderfynasant edrych am fan cyfleus a gyfarfyddai â chynnydd y boblogaeth; ac yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd Ysgol Snowdon Street, yr hon a ddygid ymlaen o dan y gyfundrefn Genedlaethol. Ei phrif sefydlwyr oeddynt:—Mr. Edward Breese, Major Mathew, Mr. J. Humphreys Jones, Mr. John Thomas, ac Alltud Eifion. Byr a fu arhosiad y tri ysgolfeistr cyntafMr. Malcolm, Mr. Griffiths, a Mr. Maddern. Bu'r diweddaf farw ar yr 8fed o Fedi, 1863. Ar y 18fed o Fedi, penodwyd Mr. Richard Grindley, Is—athraw Ysgol Genedlaethol Caernarfon, yn olynydd iddo. Dechreuodd Mr. Grindley ar ei ddyledswyddau ym Mhorthmadog ar y 5ed o Hydref. Cyfartaledd y presenoldeb yn yr ysgol gymysg am yr wythnos gyntaf iddo ydoedd 116. Bu dyfodiad Mr. Grindley yn gaffaeliad mawr i'r ysgol: yr oedd ei brofiad, a'i ddisgyblaeth fanwl, yn ennill iddo barch a dylanwad yn y dref a'r cylch, a daeth yn fuan 1 gael ei gydnabod fel un o athrawon goreu y broydd. Cynhyddai rhif yr ysgolheigion yn feunyddiol, fel erbyn yr wythnos olaf o Ragfyr, 1864, yr oedd cyfartaledd y presenoldeb wedi codi i 251. Am ansawdd yr ysgol, dywed Mr. D. Thomas, Arolygydd y Llywodraeth, yn ei adroddiad am 1865:—"Y mae ansawdd yr ysgol hon yn dda iawn, ac yn glod i'r rheolwyr a'r athrawon. Y rhannau mwayf anfoddhaol o'r gwaith ydyw y Llawysgrifen a Sillebu y Safonau uchaf."

Erbyn y flwyddyn 1871—blwyddyn brwydr y Bwrdd Addysg yr oedd cynnifer a 425, gan gynnwys Ysgol y Babanod, ar y llyfrau. Derbyniwyd y flwyddyn honno grant y Llywodraeth, £150; tanysgrifiadau, £47; cyfraniadau'r plant, £105. Wele enwau'r athrawon:—Richard Grindley, athraw trwyddedig; R. E. Williams, athraw cynorthwyol; John Roberts, P.T., iv.; Owen Roberts, P.T., ii.; Wm. Davies, P.T., ii.; Wm. Thomas, P.T., ii.; Richard Roberts, C; Robert Humphreys, C.

Athrawes y Gwniadwaith: Miss Mary A. Eccles.

BRWYDR Y BWRDD ADDYSG.

Pan basiwyd Deddf y Bwrdd Addysg, yn 1870, daeth tair elfen bwysig i mewn i lywodraeth addysgol y wlad, sef oedd y rheiny,—Treth leol orfodol, cynrychiolaeth awdurdod leol, ynghyda gorfodaeth ar bob plentyn i fynychu'r ysgol. Yr oedd y Bwrdd Ysgol i sefydlu ysgolion mewn mannau lle nad oedd y cyfleusderau addysg yn ddigonol, neu pan wneid cais am un gan yr etholwyr. Pan ddaeth y Ddeddf uchod i rym yr oedd cefnogwyr yr Ysgol Frytanaidd, a chefnogwyr addysg rydd ym Mhorthmadog, yn awyddus i'w mabwysiadu; a'r un modd rheolwyr yr Ysgol Genedlaethol ar y cyntaf. Yn nechreu Tachwedd ymwelodd boneddwr, oedd yn dal cysylltiad âg addysg, â Phorthmadog, i egluro'r Ddeddf, a chyffesai'r ddwy blaid mai mantais a fuasai mabwysiadu'r Bwrdd.

Yn nechreu'r flwyddyn 1871 cynhaliwyd cyfarfod i'r diben o anfon cais am dano. Yr oedd y Parch. Daniel Rowlands, M.A., wedi ei wahodd i'r cyfarfod i egluro'r Ddeddf. Cynhygiodd y Parch. William Ambrose:—"Fod y cyfarfod yn ystyried ei bod yn ddymunol anfon cais am gael Bwrdd Addysg yn y plwyf.' Cefnogwyd Mr. Ambrose gan y Parchn. William Jones a Thomas Owen. Ceisiodd y Parch. D. Rowlands annerch; ond gwrthwynebai Mr. Homfray, Mr. R. Isaac Jones, a'r Parch. Henry Jones (clerigwr), ar y tir nad oedd Mr. Rowlands yn drethdalwr yn y plwy. Cynygiodd Mr. R. I. Jones welliant i'r cyfarfod, sef, —

"Fod y cyfarfod yn gwrthod anfon cais am Fwrdd Addysg."

Cefnogwyd ef gan Mr. Lewis Hughes. Pleidleisiodd saith ar hugain dros y gwelliant, a saith a deugain dros y cynygiad gwreiddiol—mwyafrif o ugain. Wedi. hynny anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. D. Rowlands.

Er i'r cyfarfod hwnnw basio gyda mwyafrif o blaid, penderfynodd Mr. R. Isaac Jones a'i bleidwyr gyhoeddi cyfarfod arall i'w gynnal ymhen ychydig amser. Yn y cyfarfod hwnnw, o dan arweiniad Mr. Jones, pasiwyd eu bod yn condemnio gwaith y cyfarfod blaenorol. "Bwgan y Dreth" oedd ei brif arf, a thriniodd ef yn ddeheuig. Yr oedd y cyfarfod yn un pur gynhyrfus. Aeth Mr. R. Rowland yno i'w rhybuddio o'u hafreolaidd-dra, gan eu hannog i ymbwyllo; er hynny troi'n glust—fyddar i Mr. Rowland a ddarfu'r cyfarfod, a phasio i anfon y penderfyniad i'r awdurdodau i Lunden. Achosodd hyn gryn gynhwrf a brwdfrydedd yn y dref.

Ar y 3ydd o Fawrth, 1871, cynhaliwyd Festri, trwy orchymyn swyddogol Clerc y Gwarcheidwaid, yn ystafell y Neuadd Drefol, i gymeryd llais y trethdalwyr o berthynas i fabwysiadu'r Ddeddf. Llywyddwyd gan Mr. Edward Breese, ac eglurodd amcan y cyfarfod mewn modd eglur a diduedd. Yr oedd trefniadau'r cyfarfod wedi eu cwblhau'n flaenorol. Cynnygiodd Mr. W. E. Morris, a chefnogodd Mr. William Jones, chandler,

"Ym marn y cyfarfod, fod yn angenrheidiol mabwysiadu Bwrdd Ysgol yn y plwyf.'

Cynygiwyd gwelliant gan Major Mathew, y Wern, a chefnogwyd yntau gan Mr. J. Humphreys Jones:—"Ym marn y cyfarfod hwn, nad ydyw na doeth nac angenrheidiol ffurfio Bwrdd Ysgol yn y plwyf hwn."

Wedi dadleu brwd, rhoddwyd y gwelliant i bleidlais y cyfarfod, yn gyntaf drwy godi deheulaw; ac ebe Ioan Madog:—

"Daliwch i godi'ch dwylaw,
Purion peth i droi'r dreth draw."


Yna "rhanwyd y tŷ," drwy orchymyn i bleidwyr y gwelliant sefyll ar un ochr i'r neuadd, a phleidwyr y cynnygiad gwreiddiol" sefyll yr ochr arall. A'r gwelliant a orfu.

Ond ni fynnai pleidwyr y Bwrdd fod y cyfarfod hwnnw yn arddanghosiad teg o wir deimlad y trethdalwyr, a gofynasant am poll.

Cynhaliwyd yr etholiad ar ddydd Gwener, y 17eg, a chafodd y rhai a'i hawlient weled nad oedd pethau cynddrwg ag yr ymddanghosent eu bod bythefnos cyn hynny. Allan o 750 o drethdalwyr, pleidleisiodd 648. Wele'r modd y pleidleisiasant:—

Mwyafrif

Yn erbyn Dros Yn Erbyn Dros
Porthmadog 197 189 8
Borth y Gest 72 34 38
Pentrefelin 27 20 7
Tremadog 51 58 7
Cyfanswm 347 301 53 7

Gwelir mai'r mwyafrif yn erbyn y Bwrdd Ysgol ydoedd 46; ac y mae'n ddyddorol sylwi mai yn Nhremadog yn unig y caed mwyafrif o'i blaid. Priodolid y gwrthodiad i Fwgan y Dreth, a chyflwr llewyrchus yr Ysgol Genedlaethol—a'r Ysgol Frytanaidd erbyn hyn. Ebe Alltud Eifion am y dreth:—

Pwy wyr beth fydd y dreth drom, A'i dwrn ofnadwy arnom?"

WEDI'R FRWYDR.

Wedi i'r etholiad fyned heibio, ac i'r brwdfrydedd dawelu, aeth addysg ymlaen yn weddol esmwyth, er y teimlai amryw nad oedd y trethdalwyr wedi rhoddi'r ystyriaeth ddyladwy i'r cwestiwn. Yr oedd cymaint wedi ei wneuthur o bwnc y dreth gan wrthwynebwyr y Bwrdd fel ag i greu rhagfarn mawr ym meddyliau'r dosbarth mwyaf anwybodus, heb ystyried gwir deilyngdod yr achos. Credent hwy—yn eu hanwybodaeth, y mae'n sicr—fod ceiniog yn yr wythnos dros blentyn pump neu chwech oed, a hanner coron dros y plentyn deg neu dair-ar-ddeg oed, yn ddigon i dalu holl gostau'r ysgol, pryd mewn gwirionedd nad ydoedd arian y plant yn ddigon i dalu i'r athrawon cynorthwyol, heb son am gyflogau'r prif athrawon a chostau'r adeiladau. Ni sylweddolent hwy drymed oedd y draul ar ysgwyddau caredigion addysg, y rhai oedd wedi cyfrannu ugeiniau o bunnau tuag at yr amcan.

Ond yn araf caed addfedrwydd i symud ymlaen am Fwrdd Ysgol, a daeth amryw o'i wrthwynebwyr pennaf yn bleidwyr iddo. Y cam cyntaf tuag at hyn, wedi'r etholiad yn 1871, ydoedd gwaith Pwyllgor yr Ysgol Frytanaidd, yn nechreu'r flwyddyn 1877, yn anfon hysbysiad i'r Awdurdodau Addysg yn Llunden, o'u penderfyniad i gau'r ysgol i fyny ymhen chwe' mis. Yn y cyfamser, penodwyd Mr. William Davies, o Goleg Cheltenham (Golan yn awr), yn brif athraw yr Ysgol Frytanaidd.

Yn wyneb y penderfyniad uchod, gwelwyd y byddai un ysgol yn annigonol i gyfarfod âg anghenion y dref a gofynion Deddf Addysg 1876, a deuwyd i'r penderfyniad mai doeth fyddai cymeryd llais y trethdalwyr unwaith eto ar y priodoldeb o fabwysiadu'r Bwrdd Addysg. Tuag at gael sicrwydd am rif y plant yn y plwyf—plant rhwng tair a phedair ar ddeg oed—penodwyd gwr cymhwys i fyned oddiamgylch i wneuthur ymchwiliad. Cafwyd fod 1,111 o blant yn y plwyf 851 yn mynychu'r ysgolion, a 260 yn absenoli eu hunain.

Mewn Festri Blwyfol a gynhaliwyd yn nechreu Ebrill, 1877, cynhygiodd Dr. Jones Morris, ac eiliwyd ef gan Capten Jones—eu bod i ffurfio Bwrdd Addysg. Pasiwyd y penderfyniad bron yn unfryd, heb ond tri yn ei erbyn, sef oedd y rheiny—y Parch. John Morgan, curad Porthmadog, Mr. R. I. Jones, a Mr. John Jones, Tyddyn Adi.

Ar y 19eg o Fehefin, ymgynhullodd pwyllgorau gwahanol ysgolion y plwyf i'r Ysgol Genhedlaethol, i gyfarfod â Mr. Jebb, Arholydd y Llywodraeth, er trafod y moddion goreu i gario addysg ymlaen yn y plwyf, ac er gwneud trefniadau i symud ymlaen am y Bwrdd. Penodwyd dyddiad yr etholiad i fod ar y 3ydd o Hydref. Ar y cyntaf yr oedd pymtheg wedi eu henwi fel aelodau cymhwys, tra nad oedd ond pump yn eisiau; ond ymneillduodd wyth cyn dydd yr etholiad. Yr enwau oedd yn aros oeddynt—E. S. Greaves, Robert Rowland, Owen Williams, Owen Morris, David Morris, David Roberts, a John Thomas. Y ddau ddiweddaf fu'n aflwyddiannus.

Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Bwrdd ar y 18fed o Hydref, pryd yr etholwyd Mr. E. S. Greaves yn Gadeirydd, ac yr apwyniwyd Mr. John Thomas yn Ysgrifennydd.

YSGOLION Y BWRDD.

YSGOLION SNOWDON STREET.

Prif Athrawon.—Mr. Richard Grindley, 1878-93; Mr. Evan Evans, 1893.
Adran y Babanod.—Miss Mary Evans, 1878—86; Miss A. J. Richards, 1886—92; Miss Anne Williams, Ionawr, 1893.

YSGOL CHAPEL STREET.

Prif Athrawon.—Mrs. Katherine Humphreys, 1878—79; Miss Ellis, 1879—81; Miss A. Griffith, 1881.
Adran y Babanod.—Miss Anne Williams, 1887—92.

Yr Ysgrifenwyr.—Mr. John Thomas, 1878—87; Mr. W. Morris Jones, 1887—1903.

Er mabwysiadu'r Ddeddf, a sefydlu Bwrdd Addysg, nid oedd yr anhawsderau oll wedi eu goresgyn.

Gan fod dyled o uwch law £300 ar yr Ysgol Frytanaidd, ni dderbyniai'r awdurdodau hi. Yr oedd y chwe mis rhybudd wedi dyfod i fyny yn niwedd 1877, a'r ysgol yn gauedig, a'r un Genedlaethol mewn canlyniad wedi ei gorlenwi.

Ar y 14eg o Chwefrol, 1878, mewn cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried y sefyllfa, penderfynwyd codi treth wirfoddol o swllt yn y bunt tuag at ddiddymu'r ddyled. Ond gan y cymerai casglu'r dreth beth amser, trefnodd y Bwrdd Ysgol i wahanu'r bechgyn a'r genethod oddi wrth eu gilydd, trwy agor ysgol i'r genethod yn y Neuadd Drefol ar y 4ydd o Fawrth—y bechgyn i aros yn Ysgol Snowdon Street. Yr athrawon yn y Neuadd Drefol oeddynt: Mrs. Katherine Humphreys, Miss A. Williams, a Miss Jane Roberts.

Ni bu raid i'r plant aros yn hir yn y Neuadd cyn i Ysgol Chapel Street gael ei hail agor yn Board School. Gwnaed hynny ar yr 28ain o Hydref, 1878. Bu Mrs. Humphreys yn brif athrawes ynddi hyd y 7fed o Fawrth, 1879, pryd y dilynwyd hi gan Miss Ellis. Ymadawodd hithau ar y 10fed o Ionawr, 1881, pryd y cymerwyd ei lle gan Miss A. Griffith, yr hon a leinw'r swydd hyd heddyw. Yn 1882 gwnaed yr Infant School bresennol. Yn flaenorol i hynny, mewn class-room yr addysgid y babanod. Athrawes y babanod ar y pryd ydoedd Miss Mary Evans, a pharhaodd yn y swydd hyd 1886, pryd y cymerwyd ei lle gan Miss A. J. Richards (Mrs. Pierce Roberts yn bresennol). Yn niwedd 1892 ymadawodd Miss Roberts, a phenderfynodd y Bwrdd ar fod i fabanod y ddwy ysgol—Snowdon Street a Chapel Street—i gael eu dysgu yn Ysgol y Babanod Snowdon Street, o dan ofal Miss Williams.

Yng ngwyliau'r haf, 1893, bu farw Mr. Richard Grindley, prifathro Ysgol Snowdon Street, wedi bod yn athraw ffyddlon yno am ddeng mlynedd ar hugain. Ym Medi, 1893, penodwyd Mr. E. Evans, prifathro Ysgol y Bwrdd, Cwmdâr, i fod yn olynydd iddo. Erys ef yn ei swydd hyd heddyw, yn fawr ei barch gan y plwyf, ac iddo air da gan ei gydnabod oll.

Nid oes ond un digwyddiad o bwys wedi cymeryd lle yn ddiweddar ynglyn âg addysg ym Mhorthmadog, sef troi Ysgol Snowdon Street yn Ysgol Uwch-Safonnol yn y flwyddyn 1909. Tylododd hyn Ysgolion Tremadog a Borth y Gest yn fawr, ac nid heb wrthwynebiad cryf yr anfonwyd plant y lleoedd hynny iddi.

YR YSGOLION PRESENNOL.

Ysgol Uwch-Safonnol Snowdon Street. Prifathraw, Mr. Evan Evans, a phedwar o athrawon trwyddedig. Cyfartaledd y presenoldeb, 170. Rhif ar y llyfrau, 194.

YSGOL CHAPEL STREET.

Prifathrawes, Miss A. Griffiths, a chwech o athrawon cynhorthwyol. Cyfartaledd y presenoldeb, 229. Rhif ar y llyfrau, 259.

YSGOL SNOWDON STREET (y Babanod).

Prifathrawes, Miss A. Williams, a phedair o athrawesau cynhorthwyol. Cyfartaledd y presenoldeb, 181. Rhif ar y llyfrau, 226.

YR YSGOLION UWCH-RADDOL.

Yr Ysgol Uwch-Raddol gyntaf y crybwyllir am dani ym Mhorthmadog ydyw Ysgol Misses Anne a Mary Rees—merched Dr. William Rees (Gwilym Hiraethog). Cynhelid yr ysgol yn y tŷ agosaf i gapel Salem,—siop Mr. W. Morris, fferyllydd, yn awr. Byr fu arhosiad y Reeses ym Mhorthmadog, ac ni pharhaodd yr ysgol ond am tua thair blynedd. Yr oedd hynny yn y 50's. Ystyrid yr ysgol hon yn un ragorol i ferched, a bu amryw o ferched mwyaf diwylliedig y cyfnod ynddi, yn eu plith Mair Eifion, a'r ddwy chwaer, Mrs. Capten J. Jones, y Borth, a Mrs. S. P. Owen, Porthmadog—y ddwy ddiweddaf eto'n fyw.

Yn y 60's symudodd Mr. George Davies, a gadwai Ysgol Ramadegol yn Nhremadog, i fyw i Borthmadog, a chariai yr ysgol ymlaen yn yr ystafell lle mae swyddfa argraffu Mri. Lloyd a'i Fab yn awr; ond symudodd oddi yno i dŷ yn y Park Square. Ystyrid hon hefyd yn ysgol ragorol, a throdd allan wyr grymus.

YSGOL LLWYN ONN.

Yr Athrawon.—Mrs. Davies, Mr. Davies, Mr. J. Hamer Lewis, B.A., 1877—88.

Wedi ymadawiad Misses Rees agorwyd Ysgol Llwyn Onn gan Mrs. Davies, priod Mr. Edward Davies, llech fasnachydd. Bwriedid ar y cyntaf i'r ysgol fod yn un i ferched, a pharhaodd felly tra bu Mrs. Davies yn ei chadw. Dilynwyd hi gan Mr. Davies, a throwyd yr ysgol yn un Ramadegol. Hoff feusydd Mr. Davies oedd Groeg a Lladin, a chodwyd yr ysgol i gryn sylw. Wedi ymadawiad Mr. Davies daeth Mr. J. Hamer Lewis, B.A., i'w chynnal, a daeth yr ysgol yn boblogaidd a llwyddianus. Derbyniodd llawer o'r rhai sydd erbyn heddyw wedi esgyn i safleoedd pwysig eu haddysg uwch-raddol yn yr ysgol hon.

YR YSGOL GANOLRADDOL.

(The County School).

Sefydlwyd 1893. Agorwyd Medi 3ydd, 1894. Prif hyrwyddwyr yr Ysgol Ganolraddol, a'r rhai a wnaethant fwyaf erddi, oeddynt Mr. Jonathan Davies, Dr. Samuel Griffith, Mr. J. E. Greaves, y Parch. Ll. R. Hughes, M.A., Dr. W. Jones Morris, a Mr O. M. Roberts.

Ysgrifennydd Mygedol, o Awst, 1893, hyd Mehefin, 1894, Mr. Jonathan Davies. Ysgrifennydd er Mehefin, 1894, Mr. W. Morris Jones.

Y Llywodraethwyr (Governors) presennol (1912).

Mrs. Casson; Miss Pugh Jones, Criccieth; Mri. Jonathan Davies; R. Davies, J. T. Jones, T. Burnell, Criccieth; William George, Criccieth; Thomas Griffith, Llanystymdwy; D. R. Thomas; y Parch. W. J. Nicholson; Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D.; Mri. J. Jones Morris; J. R. Owen, a J. Rhys Evans, M.A.

Y Prif Athraw.—Mr. J. Rhys Evans, M.A., late scholar of Christ College (Cantab), B.A. (London).

Athrawes.—Miss A. E. Griffith, B.A. (Wales).

Athrawon. Mr. W. H. Griffith, M.Sc. (Victoria), Mr. W. H Gibbon, B.A. (Wales), Hons. in Welsh,

Technical Instructor.—Mr. O. P. Hardy (City and Guild Diploma).

Singing.—Mr. J. C. McLean, F.R.C.O.

Telerau, £4 5s. y flwyddyn (yn cynnwys stationery). Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn, a enillir drwy arholiad. Hefyd rhoddir cynhorthwy (bursaries) tuag at gostau teithio, llyfrau, &c., y rhai a roddir yn ol amgylchiadau'r rhieni.

Llwyddiant yr Ysgol.

Scholarships and Exhibitions to the aggregate value of £1,600 won direct from the school.

Open Exhibitions for Mathematics at Queen's College, Cambridge, and Jesus College, Oxford.

20 Entrance Scholarships and Exhibitions at University Colleges (including First Places at Bangor and Aberystwyth).

12 County Exhibitions.

Central Board Certificates.

57 Honours (Distinctions in Higher Mathematics, Latin, English Literature, History, Welsh).

97 Senior (68 Distinctions), 121 Juniors (165 Distinctions), Civil Service. During 1912—13 three pupils were successful at Boy Clerks Examination, being placed 9th, 30th, and 40th, out of 800 candidates; one took first place in French and in Latin.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mr. John Wynn yn yr Herald am Gorffennaf, 1868.
  2. Y Dysgedydd, 1870. tud. 123.
  3. Y Traethodydd, 1877, tud. 233.
  4. Sportsman, Clynnog, mae'n debyg.
  5. Adgof uwch Anghof, tud. 273.
  6. Yr Herald Gymraeg, Mawrth, 1871.