Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Codiad, Cynnydd, a Dadblygiad y Dref

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Yr Enwadau Crefyddol



TAN RALLT A THREMADOG YN 1808.

PENNOD II.
CODIAD, CYNNYDD, A DADBLYGIAD Y DREF.

Diwyllier, trefner y Traeth
Yn baradwys bur, odiaeth;
Boed bob cam o'r Morfa Mawr
Yn dyddynod addienwawr.

Y Traeth fo'n gnwd toreithiog—
Bwrw'r yd bo llwybrau'r og;
Gwisger, addurner y ddol
A chnwd o haidd marchnadol.

Doed cynnydd, peidied cwynion
Tre' ar dir fu'n gartre'r donn.

—EMRYS.


"Lle cymharol newydd yw Porthmadog. Yr oedd yr holl fro yn y môr ar ddechreu y ganrif ddiweddaf. Ar ol cychwyn cynyddodd yn gyflym, a bu am gryn dymhor yn moreu ei bywyd yn llwyddianus dros ben."—IOLO CAERNARFON.

PAN orffenwyd y Morglawdd, nid oedd y llecyn y saif Porthmadog arno'n awr ond anial tywodlyd. Deuai ambell i long, y mae'n wir, i le a elwir Ynyscyngar; ond bychan oedd y drafnidiaeth, oherwydd fod perygl mawr i longau redeg i'r lan pan gyfodai ystorm, gan mor noethlwm ac agored oedd y fan. Ond wedi gorffen Morglawdd Madocks, deuai'r dwr i mewn o'r Traeth Mawr trwy'r dorau a wnaed i'r diben hwnnw ar ochr Sir Gaernarfon, a chludwyd ymaith y tomenydd tywod gan rym y llifeiriant, gan adael sianel ddofn gydag ochr y graig. Gwelwyd yn fuan fod yn bosibl gwneud porthladd yn y lle a elwir yn awr Porthmadog.

Rhagwelai Mr. Madocks bosibilrwydd y lle fel porthladd, a daeth a mesur i'r senedd i gael hawl i ffurfio harbwr yno, ac i sicrhau'r tollau arferol iddo ef. Er gwaethaf pob gwrthwynebiad llwyddodd gyda'r mesur, a daeth yn ddeddf ar y 15fed o Fehefin, 1821. Wele grynhodeb o'r Ddeddf:—

Geo. 4. Chap. 115. 15 June 1821.

Recciting that W. A. Madock by issuing a large body of in— land waters thro' a main sluice has excavated a commodius and well established Harbour at a place extending from Garth Pen— clogwyn to Ynys Tywyn but does not afford sufficient security and that, W. A. Madock is proprietor of the land comprising the Harbour and desires to make a pier.

It is ordered that commissioners should set apart of soil of all Marsh or other lands in lieu of the rent.

That W. A. Madocks has power to make pier.

That if embankment is damaged and not repaired within 12 months all powers given by Act to be void.

Limits of Harbour, line from extreem point from embank— ment of certain lands called Trwyn Penrhyn to extream point from embankment to Garth Penclogwyn, and from such line to embankment."

Adeiladwyd y porthladd gan Griffith Griffiths, a ddaeth o Ddolgellau gyda'i bedwar mab, Griffith, Ellis, Evan a Robert, i weithio i Mr. Madocks. Daeth Robert Griffith yn un o brif adeiladwyr Porthmadog. Efe a adeiladodd Gei y Welsh Slate Co., y Cob o amgylch y "Llyn Bach," a'r pedwar tŷ yn High Street ag y mae Bodlondeb yn un o honynt. Adnabyddid ef yn niwedd ei oes fel Robert Griffith y Calchiwr." Wyr i Griffith Griffith—mab i Evan Griffith—ydoedd Mr. John Robert Griffith (yr Hafod)—blawd-fasnachydd ar raddfa eang, a gariai ei fasnach ym mlaen ym Marchnadfa Tremadog. Gorffenwyd adeiladu'r porthladd erbyn diwedd y flwyddyn 1824.

Cyn pasio y Ddeddf uchod, nid oedd ond tri tŷ yn y man y saif Porthmadog arno'n awr, heblaw Ynystowyn—tŷ a swyddfa Mr. John Williams, goruchwyliwr Mr. Madocks. Wedi hyn y bathwyd yr enw Porthmadog, Y Traeth, neu'r Tywyn, y gelwid y lle cyn hynny.

Er mai Tremadog ydoedd tref-briod Mr. Madocks, eto gwelai mai mantais i fasnach a chynnydd y cwmwd fyddai tref fwy cyfleus, ac agosach i'r porthladd; a gwnai ei oreu i gymell adeiladu yno. Mewn llythyr a anfonodd at ei weithiwr ffyddlon, Mr. John Etheridge, ar yr 28ain o Ebrill, 1828, sef blwyddyn ei farwol— aeth, dywed:—

"I had planned in my own mind a good thing for you, about building at the new Town at Towyn. I intend to let you a lease of a piece of ground at Towyn to build on, the same as John Williams and his friends, and if you will get together a good set of masons to join you, you will have £500 lent you, to begin to build on the ground of which you shall have a lease. With your own workmanship as carpenter, and a good mason joined with you, and 500 pounds, you might make some good houses at Towyn in a Lane the same as John Williams, and let them well."

Ond cyn y gellid dadblygu'r lle, yr oedd yn rhaid ei ddwyn i gysylltiad â rhyw gymdogaeth yn meddu adnoddau gweithfaol. Tua'r adeg hon yr oedd un chwarel lechi yn Ffestiniog yn weddol lewyrchus, sef eiddo y Mri. Turner a Casson, ac o hon anfonid i ffwrdd yn flynyddol tua 10,000 o dunelli o lechi. Y mae'n wir fod amryw chwarelau eraill wedi eu hagor. Dechreuasai Arglwydd Newborough chwilio am lechi ychydig cyn hyn, ond braidd yn siomedig fu'r ymgais. Yr oedd chwareli eraill wedi eu hagor yn y Manod ac ar dir y Goron, ond ni buont yn llwyddiant. Nid oedd ychwaith ond ychydig lechi yn chwarel Roberts Lloyd yn ymyl Bwlch Carreg-y-fran. Yn 1820 llwyddodd Mr. Samuel Holland i sicrhau prydles ar dir Mr. W. G. Oakeley yn Rhiwbryfdir, ac yno agorwyd chwarel a ddaeth yn fuan yn bur lewyrchus. Effeithiodd rhagolygon disglair y chwarel hon yn fawr ar gynnydd a llwyddiant Porthmadog.

Mewn cydweithrediad â Mr. Madocks, adeiladwyd cei bychan gan Mr. Holland, a gwnaed amryw welliantau eraill i hwyluso trafnidiaeth y porthladd. Cwblhawyd y gwaith hwn ar yr 21ain o Hydref, 1824, a dyma'r adeg y dechreuodd Porthmadog gynhyddu mewn gwirionedd. Deuai llongau'n gyson i'r lle i gyrchu llechi a ddygid i'w cyfarfod mewn cychod i lawr y Traeth Bach. Yr oedd yn gyffredin oddeutu ugain o'r cychod hyn, a charient tua chwe thunell, a byddai dau ddyn yn gofalu am bob cwch. Y cychod hyn hefyd a garient y nwyddau oddiwrth y llongau i gyfeiriad Aber Glaslyn. Yehydig dai oedd yno hyd yn hyn, a bychan mewn cymhariaeth oedd y fasnach; ond fel y llwyddai'r chwarelau yn Ffestiniog cynhyddai Porth— madog mewn poblogaeth a phrysurdeb. Ond yr oedd un peth eto'n rhwystr mawr i lwyddiant y porthladd, sef y drafferth a'r draul i gludo'r llechi o Ffestiniog i gyrhaedd y llongau ym Mhorthmadog. Deuid a hwy o'r chwarelau i'r Traeth Bach mewn troliau; ond wrth fyned ymhellach yn ol gwelwn nad oedd ganddynt ond meirch a mulod i'w cludo. Yna rhoddid y llechi mewn cychod i ddod a hwy i lawr y Traeth, a llwythid hwy o'r cychod i'r llongau. Gwelsai Mr. Madocks, yn 1814, fod yn rhaid cysylltu'r ddau le â'u gilydd cyn y gallesid gobeithio am lwyddiant mawr i'r naill le na'r llall. Yn y flwyddyn honno ysgrifennodd lythyr yn awgrymu'r priodoldeb o wneud ffordd haearn o Ffes— tiniog i ddod â'r llechi i lawr i'r porthladd yn uniongyrchol. Yn 1822 aeth i'r Senedd eilwaith i ymofyn hawl i wneud un.

William 4. Chap. 48. 23 May, 1822.

"Power to make Railway o'r Tramroad. From Quay at Portmadoc to Quarries Rhiwbryfdir and Duffwys in Parish of Festiniog."

Yn 1824 mesurwyd y llinell dan gyfarwyddyd Mr. Madocks, ond ni lwyddodd ef i fyned ymhellach na hyn. Y nesaf i symud ymlaen gyda'r cynllun hwn oedd Mr. Holland (ieu.), yr hwn a ymgymerodd â'r gwaith gyda Mr. Henry Archer, a than gyfarwyddyd y diweddaf gwnaed mesuriad drachefn gan Mr. Spooner.

Yn 1831 llwyddodd Mr. Holland i gyflwyno mesur i'r Senedd i roi awdurdod iddo i wneud ffordd haearn, ond oherwydd gwrthwynebiad masnachwyr, tafarnwyr, cludwyr a chychwyr, yn Ffestiniog, Maentwrog, ac ar hyd glannau'r Traeth Bach, gwnaed pob ymdrech i ddinystrio'r mesur, a thaflwyd ef allan.

Ond y flwyddyn ddilynol daeth y mesur drachefn o flaen y Senedd, a derbyniodd y cydsyniad brenhinol ar y 23ain o Fai, 1832. Ar y 26ain o Chwefrol, 1833, dechreuwyd ar y gwaith, ac erbyn mis Ebrill, 1836, yr oedd y "Rheilffordd Gul" wedi ei chwblhau. Ni ddefnyddid y ffordd haearn ar y cyntaf ond gan Mr. Holland yn unig; ond yn 1839 gwelodd y Welsh Slate Company fanteision eithriadol y rheilffordd hon, ac o hynny allan dygid eu llechi hwythau o Ffestiniog i Borthmadog ar hyd-ddi.

Yr oedd cyfalaf y Cwmni yn £25,000, a benthyciwyd £14,000 i gwblhau'r anturiaeth, a chyrhaeddai'r elw blynyddol chwech, saith, neu wyth y cant. Tua chanol y ganrif ddiweddaf cludai o 45,000 i 50,000 o dunelli o lechi bob blwyddyn i Borthmadog, a chludai'n ol i gymydogaeth y Chwareli tua 2,000 o dunelli o lo, calch, haearn, blawd, ac amrywiol nwyddau.

Oherwydd fod y rheilffordd hon, wrth fyned ar hyd y Morglawdd, yn myned a'r ffordd yr elai'r teithwyr a'r cerbydau'n flaenorol, bu rhaid darparu ffordd newydd trwy wneud y rhan a alwn ni heddyw Y Cob Isaf. Yr oedd y Tolldy cyntaf gerllaw Ynys-Towyn, a rhentid ef i bersonau, gan werthu'r hawl o'r tollau i'r uchaf ei bris. Mewn llythyr a anfonodd Mr. Madocks at John Etheridge, ar y 15fed o Fai, 1826, dywed fel hyn:—

John,—

Are you sure Williams the Baker bid 189£ for the Tolls. Let me know particulars.

A gellir meddwl oddiwrth hynny yr ystyriai'r pris yn un boddhaol.

Tua'r flwyddyn 1860 symudodd Mr. David Williams y Tolldy i ochr Meirionydd i'r Morglawdd, lle'r erys hyd heddyw.

Nid cysylltu Ffestiniog a Phorthmadog â'u gilydd yn unig a fu ymdrech olaf Mr. Madocks. Ceisiodd hefyd gan y Llywodraeth i fabwysiadu Porthdinlleyn, yn lle Caergybi, i fod yn dramwyfa o'r Iwerddon i Lunden, trwy Dremadog, Beddgelert, a'r Amwythig; ond oherwydd fod drwg deimlad yn bodoli rhwng rhai o aelodau'r pwyllgor a benodwyd i wrando teilyngdod y cynhygion, collodd y cynllun trwy un bleidlais. hon fu ei ymgais olaf i ddadblygu'r fan a garai mor fawr.

Yn 1828 ymneillduodd i'r Cyfandir, a bu farw ym Mharis ym mis Medi'r flwyddyn honno, wedi diwrnod da o waith, gan adael ei wlad yn well o'i ôl, a'i genedl yn gyfoethocach erddo.

Wrth weled llwyddiant yn dilyn agor y Rheilffordd, a chan ddisgwyl llwyddiant mwy, treuliwyd miloedd o . bunnau gan ymddiriedolwyr ystad Madocks i wneud gwelliantau yn y porthladd a'r Cei. Helaethwyd y Cei drachefn i dderbyn llechi y gwahanol gwmniau eraill, a gwneud glanfa a morglawdd—yr oll yn costio oddeutu deng mil o bunnau. Cynnyddodd y dref yn gyflym. Dechreuwyd o ddifrif adeiladu tai a masnachdai, nodwyd allan heolydd newydd, a rhoddwyd bob cefnogaeth i rai ddyfod i drigo yno.

Dechreuwyd hefyd adeiladu llongau, ac yn fuan iawn daeth y gwaith hwn yn rhan bwysig o fasnach y lle, ac yn elfen amlwg yn ei gynnydd, a'i lwyddiant. Erbyn 1838 yr oedd Porthmadog yn dref o fri, a sylweddolwyd i raddau rai o freuddwydion disglair y gwr a roddodd i lawr sylfeini ei chynnydd, sef Mr. Madocks.

Gallwn ffurfio syniad gweddol gywir am gynnydd y lle trwy sylwi ar gynnydd y boblogaeth yn ystod yr hanner cyntaf o'r ganrif ddiweddaf. Anodd yw cael ffigyrau am Borthmadog yn unig, ond wrth gymeryd nifer trigolion plwyf Ynyscynhaiarn tybiaf na chyfeiliornir ymhell. A gadael allan Borthmadog, poblogaeth lled sefydlog sy'n y plwyf. Y mae'n debyg nad yw wedi amrywio llawer yn ystod hanner canrif. Dyma'r cyfrif bob deng mlynedd o 1801 hyd y flwyddyn 1851:—

Blwyddyn Rhif y bobl
1801 • • • 525
1811 • • • 889
1821 • • • 885
1831 • • • 1075
1841 • • • 1888
1851 • • • 2347[1]


Gwelir cynnydd o 364 yn ystod y deng mlynedd cyntaf, a gellir priodoli hyn i ymdrechion Mr. Madocks yn sylfaenu Tremadog ac yn gwneud y Morglawdd. Tynnodd yr anturiaeth honno rai cannoedd o weithwyr i'r gymdogaeth, a bu raid adeiladu tai ar eu cyfer.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf y mae'r boblogaeth yn sefydlog, ac nid oeddis hyd yn hyn wedi manteisio fawr ar y gwelliantau. Lled araf hefyd a fu'r cynnydd o 1821 i 1831, oherwydd glynnu, y mae'n debyg, wrth yr hen ddulliau cyntefig o gludo'r llechi i gyrhaedd y llongau. Gwelir y cynnydd mawr yn ystod y deng mlynedd nesaf, sef y blynyddoedd cyntaf ar ol agor y Ffordd Haearn Gul o Ffestiniog, a phan ddechreuwyd adeiladu llongau. Y mae'r cynnydd o 1831 hyd 1841 dros wyth gant o nifer. Lliosogodd y boblogaeth drachefn o 1841 hyd 1851, ond nid mor gyflym o lawer a'r deng mlynedd cynt.

Bu adeiladu llongau yn rhan bwysig o waith a masnach Porthmadog, ond braidd yn araf fu cynnydd y diwydiant hwn ar y dechreu. Pa bryd y dechreuwyd adeiladu llongau yng nghyffiniau'r Traeth Mawr, a'r Traeth Bach, nid yw'n hysbys. Crybwyllir am Garreg-hylldrem, Minffordd, Ty Gwyn y Gamlas, Abergafren, Brothen, Aber Iâ, a Borth y Gest, fel mannau yr adeiladwyd llongau ynddynt. Ond y llong gyntaf a adeiladwyd ym Mhorthmadog oedd yr un a enwid Two Brothers. Adeiladwyd hi yn y flwyddyn 1824, gan Henry Jones. Casglaf, oddiwrth lythyrau Mr. Madocks, fod a wnelo yntau rhywbeth â hi; a'r flwyddyn ddilynol adeiladodd yr un gwr long bysgota i Mr. Madocks o'r enw Ermine. Bu gan Henry Jones ran flaenllaw yn y gangen hon o fasnach am flynyddoedd, ond ni welwyd llwyddiant amlwg hyd y flwyddyn 1840, pryd yr eangodd y fasnach yn fawr. Wele restr o'r llongau a adeiladwyd ym Mhorthmadog o'r flwyddyn 1826 hyd 1839.

Enw. Flwyddyn. Tunelli.
Mary Ann 1826 15
Barmouth 1827 23
Lord Palmerston, Brig 1828 106
Hopewell 1828 27
Eleanor 1829 34
Pwllheli Packet 1830 20
Friends 1830 40
Four Brothers 1833 35
Dinas 1834 16
Eliza 1835 37
Williams 1835 37
Integrity 1836 66
Susanna 1836 16
Trader 1837 32
Gelert 1837 37
Eagle (Schooner) 1837 111
William 1838 90
Blue Vein 1838 79
Menai Packet 1838 48
Humility 1839 84
John and William 1839 18
Gwen 1839 85
William Alexander 1839 89


Wedi'r blynyddoedd hyn dechreuodd y fasnach gynhyddu'n gyflym, a deuwyd i adeiladu llongau mwy. Yn ystod yr amser hwn cyflogid oddeutu cant o weithwyr, ac yr oedd gwerth y llongau a orffennid yn flynyddol o ugain i bum mil ar hugain o bunnau. Gwneid y llongau'n gyffredin i gario o 120 i 160 o dunelli, gan y tybid mai llongau o'r maint hwn oedd y cymhwysaf at ofyn— ion y fasnach lechi; ond gwnaed rhai mwy ar gyfer porthladdoedd eraill. Cynhyddodd y fasnach mewn llongau yn raddol nes y cyrhaeddodd gwerth yr holl longau a berthynai i'r porthladd yn 1856 y swm £125,000. Perthynai yr eiddo gan mwyaf i weithwyr cyffredin y lle. Oherwydd llwyddiant mawr chwarelau Ffestiniog, daeth galwad am longau i gludo ymaith y llechi, a chan fod ym Mhorthmadog bob hwylusdod i'w hadeiladu, cynhyddodd yr eiddo mewn gwerth. Ar rai adegau ceid tua phump ar hugain y cant o lôg ar y cyfalaf. Am gyfnod lled faith cynhyddai'r eiddo mewn gwerth oddeutu £25,000 yn flynyddol. Gwasanaeth pennaf y llongau oedd cludo llechi i borthladdoedd y Cyfandir, eto dygid llwythi'n ôl ganddynt, gan ychwanegu'n fawr at gyfoeth masnachol y dref a'r porthladd. Y mae holl nifer y llongau a adeiladwyd ym Mhorthmadog, er y flwyddyn 1824, at wasanaeth porthladdoedd cartrefol, yn 265. Gall y rhif hwn fod ychydig yn llai na'r rhif gwirioneddol, am fod 45 wedi eu tynnu ymaith ar gyfer y rhai a ail gofrestrwyd oherwydd rhyw gyfnewidiadau a wnaed yn y llongau hynny. Nid oes modd dweyd faint o longau a adeiladwyd i borthladdoedd tramor, y rhai na chofrestrwyd mohonynt ym Mhwllheli na Chaernarfon. Cynhwysa'r rhif uchod dair llong a adeiladwyd ym Mhorth y Gest.

Yn y flwyddyn 1841 sefydlwyd y Mutual Ship Insurance Society, trwy gymorth J. W. Greaves, Ysw., Tan'rallt, a Samuel Holland, Ysw., Plasymhenrhyn— y gyntaf o'i bath yng Ngogledd Cymru. Aeth ymlaen yn hwylus o'i chychwyniad, gan y gofelid am dani gan wyr medrus a chyfarwydd. Profir hyn gan y ffeithiau canlynol. Nid yw ei thal blynyddol ond 5¼ y cant ar gyfartaledd am yr ugain mlynedd diweddaf, tra y gofynir gan gwmniau yn Llunden a lleoedd eraill o 5 i7 y cant. Bu o wasanaeth mawr i'r fasnach mewn llongau, gan y gwneir trwyddi pob colled i fyny, a thrwy hynny roddi mwy o sefydlogrwydd i'r fasnach.

Yn 1880 yr oedd 137 o longau'n yswiriedig yn y Cwmni; yn 1890, 114; yn 1900, 102; yn 1912, 46.

Dengys y tabl canlynol y gofynion a fu ar yr aelodau am yr ugain mlynedd diweddaf, ac er fod y cyfalaf wedi disgyn i hanner yr hyn ydoedd yn 1892, y mae'r gofynion yn llawer llai.

Yn 1892 yr oedd y Cyfalaf £113,247 a'r gofynion yn 10 %.
Yn 1898 yr oedd y Cyfalaf £80,759 a'r gofynion yn 8 %.
Yn 1899 yr oedd y Cyfalaf £78,193 a'r gofynion yn 9 %.
Yn 1902 yr oedd y Cyfalaf £59,079 a'r gofynion yn 7 %.
Yn 1909 yr oedd y Cyfalaf £59,317 a'r gofynion yn 1%


Nid oes ar hyn o bryd ond dwy long yn perthyn i Borthmadog nad ydynt yn yswiriedig yn y Gymdeithas hon. Wele dabl eto'n dangos nifer y llongau, a gwerth yr eiddo:—

Enw'r Llong Goruchwyliwr
(Ship's Husband)
Tunelli Adeiladwyd. Dosbarth Gwerth
£
Y Swm
Yswiedig.
£
Blodwen David Davies 129 1891 1 1667 1255
Blanche Currey Griffith Prichard 193 1875 1 1513 1130
Cadwaladr Jones David Davies 103 1878 1 927 696
Cariad David Jones 114 1896 1 1600 1200
Cordelia Edward Roberts 110 1863 2 660 440
David Morris David Morris 161 1897 1 2350 1763
Edward Arthur Griffith Prichard 151 1872 2 1332 999
Elizabeth David Williams 156 1892 1 2065 1549
Evelyn Griffith Prichard 216 1877 1 1850 1388
Edith Eleanor Griffith Prichard 104 1881 1 1000 750
Ellen James John Jones 165 1904 1 2667 2000
Elizabeth Eleanor John Williams 168 1905 1 2667 2000
Eliz'beth Pritchard Griffith Prichard 126 1909 1 2397 1796
Elizabeth Bennett LI G Llewelyn 161 1884 1 1350 1013
Ellen Roberts Ll G Llewelyn 99 1868 2 660 441
George Casson Griffith Prichard 154 1863 2 1000 667
Gracie David Davies 126 1907 1 2268 1701
Isallt David Williams 133 1909 1 2527 1896
Jenny Jones Mrs Ellis 151 1893 1 2038 1529
John Llewelyn Ellis Jones 170 1904 1 2667 2000
John Pritchard Robert Prichard 118 1906 1 2242 1682
Katie Robert Prichard 124 1903 1 2080 1560
Lizzie David Davies 110 1872 1 715 477
Lady Agnes Joseph Williams 91 1877 1 728 546
Mary Lloyd Mary Lloyd 172 1891 1 2322 1742
Miss Morris David Morris 156 1896 1 2184 1638
M Lloyd Morris David Morris 166 1899 1 2490 1868
M A James John Jones 126 1900 1 2016 1512
Mary Annie John Jones 154 1893 1 2000 1500
Robert Morris Thomas Jones 145 1876 2 1281 854
Rose of Torridge Richard Hughes 114 1875 2 907 605
Royal Lister Ll G Llewelyn 140 1902 1 2240 1680
R J Owens Griffith Prichard 123 1907 1 2268 1701
Sarah Evans E W Roberts 110 1877 1 980 735
Sydney Smith David Williams 176 1895 1 2398 1799
Tyne David Lloyd 156 1867 2 936 624
Water Ulric Evan Williams 112 1875 2 964 643
W D Potts Ll G Llewelyn 112 1878 2 1000 667
William Pritchard Griffith Prichard 170 1903 1 2667 2000
William Morton Ellis Jones 167 1905 1 2667 2000


Cynhwysa'r tabl uchod yr holl longau a berthyn i Borthmadog, oddeithr y ddwy long y Lucy a'r Trebiskin. Y mae'r fasnach adeiladu llongau wedi lleihau'n ddirfawr yn ddiweddar, oherwydd nad yw'r fasnach lechi mor lwyddiannus ag y bu, ac oherwydd fod llongau hwyliau'n prysur ddiflannu i roddi lle i longau ager.

Rhoddwyd sylfaeni llwyddiant masnachol Porthmadog i lawr yn ystod yr hanner can mlynedd cyntaf o'r ganrif o'r blaen, ac o hynny hyd yn awr, ei hanes yw cynnydd mewn ystyr iechydol a chymdeithasol. Yn wir, hyd y 30 mlynedd diweddaf yr oedd ei chynnydd masnachol yn gyfatebol; ond ni ellir dweyd hyn mwyach.

Er fod Porthmadog yn dref gynhyddol yn 1850, yr oedd ei chyflwr cymdeithasol yn anfoddhaol iawn, os ydym i dderbyn fel gwirionedd y pethau a ddywedir gan ysgrifennwyr y cyfnod hwn. Yr oedd nifer weddol o dai helaeth a chysurus, ond dywedir fod amryw o deuluoedd yn byw mewn selerydd gwlyb ac oerion, a llawer o dai wedi eu gorlenwi. Heblaw hynny, cyfyngid ar y tai, oherwydd amharodrwydd y tirfeddianwyr i osod tiroedd i adeiladu ac i wneuthur y cyfleusderau angenrheidiol, fel mai amhosibl oedd i'r preswylwyr gael lle i ddodi'r ysgarthion, ac i ddarparu cyfleusderau eraill. Nid oedd unrhyw fwrdd cyhoeddus i edrych ar ol y lle, a gadewid i'r trigolion ymdaro drostynt eu hunain goreu y gallent. Aflan oedd yr heolydd, a'r lleoedd o'r neilldu, ac anfoddhaol iawn ydoedd y mannau cyhoeddus,—ni ofalai neb am gysur a glanweithdra. Nid aethai neb, hyd yn hyn, i'r drafferth a'r draul o wneud carthffosydd; a phrin, a gwael ei ansawdd, oedd y cyflenwad o ddwfr glân i'r lle. Cyndyn iawn oedd y gwyr cyhoeddus i symud ymlaen i geisio gwelliantau. Ond yr oedd rhai yn enwedig Mr. David Williams, Castell Deudraeth—yn fyw i gyflwr anfoddhaol Porthmadog, ac yn gwneud eu goreu i geisio cynhyrfu'r trigolion i gael diwygiad.

Fel canlyniad i'w hymdrechion hwy, anfonwyd deiseb i'r awdurdodau yn Llunden, yn erfyn am i ymweliad swyddogol gael ei wneud i gyflwr y dref. Cynhaliwyd yr ymchwiliad ar y 10fed o Fehefin, 1857, ac wele'n dilyn gynnwys yr adroddiad a dynnwyd allan gan Alfred L. Dickens, Ysw., C.E., Superintending Inspector, i'w gyflwyno i Lywydd Bwrdd Iechyd:—"On the Sewerage, Drainage, supply of water and sanitary condition of the Inhabitants of the Parish of Ynyscynhaiarn in the County of Carnarvon."

Dyddiad yr adroddiad yw Gorffennaf 1, 1857.

Wele ddyfyniadau ohono:—

General Board of Health, Whitehall,

July 1, 1857.

"Sir,
On the 20th of April last a petition was received by this Board from the Portmadoc district of the Parish of Ynys-Cynhaiarn, praying for a preliminary inquiry under the Public Health Act 1848. On investigation it was ascertained that this petition had not emanated from a place having a known and defined boundary, as is required by the Act of Parliament; it was therefore sent back in order that sufficient number of signatures might be affixed to it, so as to extend the inquiry to the whole parish of Ynyscynhaiarn. On the 11th day of May last the petition was received in its amended form by this Board, and I have the honour of receiving your instruction to hold the inquiry. caused the ordinary notices to be inserted in the North Wales Chronicle, and the Carnarvon and Denbigh Herald, both published on the 23 of May, and copies of the same were also posted at all Public Buildings, and other places, where notices relating to public matters are usually affixed within the district to which the inquiry related. 12 o'clock at noon on the 10th day of June was the time fixed for the meeting. By some error the place fixed for holding the inquiry was stated in the notices sent to the newspapers, to be the Town Hall Tremadoc, while on the notices affixed to the public buildings, it was the Town Hall Portmadoc. Immediately on finding out this mistake, I opened the proceedings formally at the Town Hall Tremadoc, in the presence of David Williams and Samuel Holland, Esqrs., and at once adjourned it to the Town Hall Portmadoc, where I had the pleasure of meeting the following ratepayers. Messrs. Samuel Holland, David Williams, David Homfray, Edward Breese, S. Jones, Robert Griffith, Robert Jones, E. W. Mathew, David Richards, McMoran, William Morris, Jones, Surgeon, and medical officer of the Union.

The general state of the district was described by several of the gentlemen present as being very much in want of improved drainage and water supply.

David Williams, Esq., the representative of a very considerable proportion of the property within the Parish stated:—

That there is no systematic sewerage whatever. About twelve months since a sewer was made in one of the worst parts of the town under the Nuisance Removal Act, that Sewer is being extended at the present time. The want of proper sewerage has caused very much disease. The Water Supply is very bad in quality, and very deficient in quantity. Many persons pay as much as 1/- per week for fetching better water from a distance. Indeed they have to go across the boundary of Carnarvon into Merionethshire for it. An excellent supply of water is to be obtained from a lake above Tremadoc at a height of from 400 to 500 feet above the general level of the place. It is called Cwmbach. The Nuisance Removal Act has been partially carried out in the district, but it was found to be quite insufficient in its powers to be of any material service in remedying the evils existing. Many of the cellars are occasionally flooded. This could be remedied by a proper system of drainage. Tremadoc is a few feet lower than Portmadoc. The general level of the street is about five feet above the highest water mark. In most cases it has been the habit to let the privy refuse soak into the ground. The town is generally built on sand, and alluvial deposit. The cesspools are mere holes dug in the ground without any proper lining, so that constant permeation is going on. The water is affected by this soakage, besides which it is strongly unpregnated with iron pyrites; from both of these causes it is rendered undrinkable.

The Number and Sanitary Condition of the inhabitants.

At the present time it is estimated that in Portmadoc alone there is population of from 1,800 to 2,000; and in Tremadoc from 500 to 600.

Average annual mortality to 1,000 persons living, 20.3.

Mr. Jones, Surgeon, stated,

That he considered much of the mortality is due to preventible disease, which is much assisted by the want of proper drainage and water supply.

Mr. Jones, Medical Officer of the Union, stated:

That the deaths from scarlet fever in 1835 were very numerous. The cases spread throughout the district, but the worst cases occured in those places ill-drained and badly supplied with water. Overcrowding in some of the dwellings is common. He has known as many as twenty seven persons living in a six roomed house. This was one of the houses where fever occured. Has no doubt that better drainage and better water would have the effect of very materially improving the sanitary condition of the place."

General description of that part of Ynyscynhaiarn, comprising the District of Tremadoc, Portmadoc, &c.

On the cliff above Portmadoc, it is proposed to erect a first class hotel, and villa residences, with a good and accessible road from them to the beach. There is little doubt if this is done that Portmadoc will become one of the finest watering places in the Kingdom. The view obtained from the Cliffs are truly magnificent. The eye takes the whole sweep of the noble Cardigan Bay, with the bold and picturesque ruins of Harlech Castle, on the opposite side. Looking inland, you see the bright green of the recovered marsh lands, and beyond the broken outline of the mountains leading towards the great Snowdon range. These mountains are occasionally magnificently wooded; some green almost to the summit, while the broken ridges of the others are of the bare slate rock. Nothing can exceed the grandeur of these hills looking towards Beddgelert and across the Glaslyn in the opposite County of Merionethshire. A railway is projected from Carnarvon to Portmadoc, which if carried out cannot fail to add materially to the improvement of the district. Portmadoc is in a very dirty and undrained state, and as was stated in the evidence is very badly supplied with water. The state of paving is very bad. At the back of London Road some drains have been recently constructed under the Nuisance Removal Act, which have led to a marked improvement in the condition of the yards to the houses. In those cases where the yards and cesspools have not been drained it is a common thing to find offensive soaking into the houses. Scarlatina was very prevalant in the worst parts. Overcrowding seems very common. . .. The situation of the privies are almost unexceptionally bad. In many instances they form part of the houses. **** The little village of Borth consists only of a few houses; it is close to Portmadoc. At the present time shipbuilding is going on there. . . . . The road is in a wretched condition from there, there being no proper means of carrying off the surface There is a strong stream running down it, rendering it almost unpassable. **** Tremadoc although of a more suburban character than Portmadoc, is greatly in want of improvement. The state of the yards is much the same as those I have already discribed in Portmadoc.


Rates, Rateable Value, &c., Parish of Ynyscynhaiarn.
Poor rate for year ending March 25 at s in £ £
1853 6/- 800 5 1½
1854 6/- 807 3 1
1855 5/6 776 3 1
1856 5/6 797 1 7
1857 5/6 808 7 3

Highway rates for 4 years at 3d. in £ ending Mec. 25, 1856 £122 8 0
Highway rates for 1 year at 4½ in £ ending Mec. 25, 1857 £51 13 2
Watching and lighting £95 15 1
Acreage of the Parish 5065a 2r 3p
Rateable value of land £1664 18 8
Rateable value of the whole Parish £2823 2 4


Number of houses rateable
under £5 228
£5 and under £10 34
£10 and under £15 5
£15 and under £20 3
£20 and under £30 1

Farms and houses with land not inclusive.


General Remarks and Recommendations.

There is nothing whatever in the general position of Portmadoc to render works of drainage necessarily costly—on the contrary, I am of opinion, with improved water supply, the whole place may be very economically and perfectly drained. Tremadoc can also be very cheaply drained, but the outfall requires consideration. Portmadoc can also be easily drained into the sea. But Tremadoc, being a mile inland, does not afford the same facilities in this respect. There is an open drain at present in existence. from Portmadoc to the Glaslyn. This has little fall and I doubt whether it would be found desirable to concentrate the town sewerage into this outlet. This is a question however that may safely be left for the consideration of the Local Board, and the gentlemen, they can call in to advise them on a general system of drainage and water supply.

As I have stated before, the situation of the lake Cwmbach is admirably adapted for the purpose of supplying both Tremadoc and Portmadoc with water. There are no circumstances that occur to me to suggest the necessity of incurring any very great cost in constructing the works for that purpose. On consideration of all the circumstances of the case, I am of opinion that the present state of the populated part of the parish of Ynyscynhaiarn calls for improvement, and that improvement can be more efficiently and economically carried out under the Public Health Act, than by any other means. This likewise was the opinion of the whole of the gentlemen who attended the enquiry, the meeting being unanimous in favour of the application of the Act, not only to Tremadoc and Portmadoc, but to the whole Parish.

I have therefore the honour of recommending

1. That the Public Health Act 1848 in accordance with the desire of the meeting held on the 10th day of June, 1857, be forthwith applied to the Parish of Ynyscynhaiarn in the County of Carnarvon.

2. That the Local Board to be elected under the Powers of the said Act shall consist of nine members.

3. That every person shall at the time of his election and so long as he shall continue in office by virtue of such election be resident as in the said Public Health Act 1848 is required and be seised and possessed of real or personal estate, or both, to the value or amount of not less than £500; or shall be so resident and rated to the relief of the poor upon the annual value of not less than £10. I am sir,
Your obedient servant,

ALFRED L. DICKENS, Superintending Inspector.

The Right Hon. W. Monsell, M.P.,

President General Board of Health.

Nid oes angen dweyd ychwaneg am gyflwr Porthmadog ar y pryd. Dengys yr adroddiad uchod fod y lle mewn cyflwr truenus, mor bell ag yr oedd darpariadau ar gyfer iechyd y trigolion a gweddeidd-dra cymdeithasol yn y cwestiwn. Ond er gwybod yn dda yr holl fanylion adgas hyn, hwyrfrydig iawn fu aelodau Festri'r Plwyf i fabwysiadu Deddf Iechyd. Dywedir i'r Festri a gynhaliwyd yn Eglwys Ynyscynhaiarn basio i wrthod myned o dan y ddeddf, ond ar eu ffordd allan o'r fynwent cyfarfyddwyd yr aelodau gan Mr. D. Williams, a hysbyswyd ef o'r penderfyniad y daethpwyd iddo. Ceisiodd yntau eu cymhell i ddod yn ol gydag ef i gael rhai o'u rhesymau, ac i ddadleu'r achos drosodd drachefn. Wedi peth petrusder, cytunwyd i ail agor y cwestiwn, a than ddylanwad geiriau Mr. Williams pasiwyd i ddiddymu'r penderfyniad cyntaf ac i sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol dan y Public Health Act, 1848. Sefydlwyd y Local Board of Health ar y 9fed o Fawrth, 1858. Symudwyd ymlaen yn ddiymdroi i geisio'r gwelliantau a gymeradwyai yr adroddiad gyflwynasid i Fwrdd Iechyd y Llywodraeth; ond aeth blynyddoedd heibio cyn i gyfundrefn y carth-ffosydd ddod yn un effeithiol, a lled araf y buwyd cyn cael cyflawnder o ddwfr glân i'r lle. Yn 1871 ffurfiwyd Cwmni i ddod a hyn o gwmpas yn effeithiol, ond y tebyg yw na chafwyd boddlonrwydd hyd y flwyddyn 1880, pan basiwyd gweithred Seneddol i ffurfio cwmni newydd i ymgymeryd â holl gyfrifoldeb yr hen gwmni, ac i wneud darpariadau helaethach. Wele gopi o deitl y weithred Seneddol:—

Corfforiad Cwmni i gyflawni Porthmadog a lleoedd eraill â dwfr. Trosglwyddiad o gyfrifoldeb a galluoedd yr Hawlwyr dan y "Portmadoc Water Order" 1871 gan gyflwyno'r unrhyw i'r cwmni sydd i'w ffurfio. Cynhaliad y gwaith sy'n bod yn awr, ac adeiladu gwaith Dwfr newydd, Croni dwfr, Pryniad gorfodol tiroedd, Cyfalaf ychwanegol, Diddymiad y "Portmadoc Water Order" 1871, Corfforiad y Mesurau Seneddol a dibenion eraill."

Derbyniodd y gyfraith uchod y cydsyniad brenhinol ar yr ail o Awst, 1880, a derbynir yn awr gyflawnder o ddwfr o lyn Tecwyn, ac nid oes achos i gwyno mwy, oherwydd y cyflenwad a'r ansawdd.

Yn y flwyddyn 1855 gwnaed y darpariadau cyntaf i oleuo Porthmadog trwy ffurfio Gas Co., gyda chyfalaf o £3,500, a godwyd trwy gyfranddaliadau o £5 yr un; a goleuwyd yn rhannol yr heolydd â nwy mwnawl (mineral gas), a gynyrchid gan Mri. Holland & Co., Huddersfield, ar y draul o £28 yn flynyddol. Sicrheid yr arian i dalu'r treuliau trwy gyfraniadau cyhoeddus.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, sef ar y 23ain o Fai, 1857, cafwyd tystysgrif corfforiad Cwmni Nwy Porthmadog (The Portmadoc Gas Co., Ltd.), dan y Joint Stock Companies Act, 1856. Cyfarwyddwyr cyntaf y Cwmni oeddynt y Mri. David Williams, Nathaniel Mathew, John Whitehead Greaves, Samuel Holland, Edward Windus Mathew, David Homfray, John Humphreys Jones, Robert Griffith, John Robert Griffith, William Evans Morris, William Lloyd, a Robert Isaac Jones. Caniatawyd prydles i'r Cwmni am 90 mlynedd, yn ol yr ardreth o bunt yn y flwyddyn, gan D. Williams, Ysw., dyddiad y brydles y 12fed o Dachwedd, 1861. Dan y "Gas Provisional Order," dyddiedig Ebrill, 1877, sicrhawyd y gwaith nwy oddiar "Y Cwmni Nwy Porthmadog gan y Bwrdd Lleol. Dyddiad y weithred yw'r 21ain o Ragfyr, 1877. Costiodd y Gwaith Nwy i'r Bwrdd Lleol y swm o £4,177. Cafwyd y "Provisional Order" newydd ar y 17eg o Ebrill, 1909, ac o dan hon sicrhawyd tir y Cwmni fel eiddo rhydd-ddaliadol.

Gellir ystyried y pethau a grybwyllir uchod fel pethau hanfodol i sicrhau iechyd trigolion Porthmadog, ac hebddynt yr oedd cynnydd gwirioneddol y dref mewn ystyr fasnachol a chymdeithasol bron yn amhosibl. Cafwyd gwelliantau eraill hefyd oeddynt yn hwylusdod


PORTHMADOG A'R MORGLAWDD YN 1840

mawr i fasnach, a thrwyddynt ychwanegwyd yn ddirfawr at gysur a chyfleusderau preswylwyr y lle ac ymwelwyr. Un o'r gwelliantau hynny ydoedd agoriad

Lein Bach, o Borthmadog i Ffestiniog, fel rheilffordd gyhoeddus, yr hyn a gymerodd le y 23ain o Hydref, 1863. Cyn hyn tynid y wageni llechi gan geffylau, ond yn awr cafwyd peiriant ager, trwy offerynoliaeth y peirianydd medrus, Mr. Charles Easton Spooner, ac yn 1865 agorwyd y lein i gludo teithwyr. Bu hyn yn gaffaeliad nid bychan i deithwyr. Gwelir pwysigrwydd y cam hwn pan gofiwn nad oedd yr un ffordd haearn arall yn rhedeg trwy Borthmadog ar y pryd; felly rhaid oedd i'r trigolion a'r masnachwyr ddibynnu ar wageni'r Lein Bach, neu gerbydau eraill. Tua'r un adeg gwnaed paratoadau i ddyfod a Llinell y Cambrian o'r Abermaw trwodd i Bwllheli, ac agorwyd hi ar y 10fed o Hydref, 1867. Trwy y llinell hon cysylltwyd Porthmadog â'r byd mewn ystyr drafnidiol. Tybid y buasai gwneud Llinell y Cambrian yn hwylusdod i ddod ac ymwelwyr wrth y cannoedd i'r lle; ond er na sylweddolwyd y disgwyliadau hyn yn llawn, nid oes ddadl na fu'n gymorth mawr i ddwyn dieithriaid i weled rhyfeddodau Eryri. Dichon na fu o nemor help i ddadblygu adnoddau y gymdogaeth, nac i gyfoethogi Porthmadog; ond profodd yn gyfleustra mawr i fasnach y lle. Dygir miloedd o ymwelwyr i'r ardal ar eu taith i weled Beddgelert a mannau eraill, a phriodol y gelwir Porthmadog yn Borth Eryri. Y mae'r pentref sydd ar y ffiniau, sef Borth y Gest, ar gynnydd, a nifer yr ymwelwyr yn lliosogi o flwyddyn i flwyddyn. Ymhen rhai blynyddoedd cysylltwyd Ffestiniog â'r Bala, gan Linell y Great Western, ac â Bettws y Coed a Llandudno, gan Linell y London a North Western. Cyn hyn dibynai ardal boblog Ffestiniog bron yn gyfangwbl ar y Lein Bach am ei nwyddau, ond bu agoriad y ddwy Reilffordd a enwyd yn hwylusdod mawr i'r trigolion i ddod i gysylltiad mwy uniongyrchol â chanolfannau pwysig masnachol, sef Lerpwl, Manchester, a Llunden. Nid oes amheuaeth na ddygwyd rhan helaeth o fasnach Porthmadog oddiarni trwy y cyfnewidiadau hyn, gan ei bod yn dibynu cymaint ar ardaloedd a phentrefi eraill am ei hadnoddau. Yn y flwyddyn 1901 pasiwyd Deddf Seneddol, yn rhoi awdurdod i'r "Portmadoc, Beddgelert and South Snowdon Railway Company," i ddod a'r Rheilffordd Gul, sy'n cychwyn yn Dinas ac yn terfynu yn Rhyd Ddu, trwy Feddgelert i Borthmadog. Gelwid y lein hon yn Llinell Drydan (o dan yr enw Gallu Trydanol a Symudol Gogledd Cymru). Torrwyd y dywarchen gyntaf i'r llinell hon yn Ionawr, 1904. Y prif gymerwyr oeddynt Mri. Bruce Peebles a'i Gyf., Edinburgh. Yn 1908 cafwyd awdurdod Seneddol drachefn i'w hymestyn o Feddgelert i Gapel Curig, a thrachefn yr un flwyddyn i fyned â hi o'r Dinas i Gaernarfon. Gwariwyd miloedd ar yr anturiaeth hon; ond trwy ryw anghaffael, bu raid gadael y gwaith ar ei hanner. Gresyn hynny, gan y buasai y rheilffordd ysgafn hon yn sicr o ychwanegu llawer at lwyddiant Porthmadog, trwy ei chysylltu âg ardaloedd y Wyddfa.

Ym mlynyddoedd cyntaf y 50's agorwyd chwarelau Isallt a Gorseddau, yn Nyffryn y Pennant a Chwmstradllyn, a dilynwyd hwy gan chwarelau Moelfra, Hendre Ddu, a Chwmtrwsgwl. Yn y flwyddyn 1858 agorwyd rheilffordd i gludo'r llechi a wneid yn chwarelau'r ardaloedd hyn i gyrhaedd y llongau. Bu'r chwarelau hyn yn bur lwyddiannus am gyfnod o tuag ugain mlynedd; ond ers llawer blwyddyn bellach, nid oes gwaith yn yr un o honynt, ac nid oes ychwaith ond olion ac enw'r Ffordd Haearn Bach ar gael.

Y mae ffordd haearn arall i gludo llechi o chwarelau'r Rhosydd a Chroesor yn rhedeg ar hyd y Traeth Mawr i Borthmadog.

Yn gyfochrog â chynnydd y moddion trafnidiol i Borthmadog, helaethid a pherffeithid yr harbwr, trwy ychwanegu at rif y ceiau i gyfarfod â galw'r llwytho, fel ag y mae heddyw gynifer a naw o geiau cyfleus yn: y porthladd:

Y Cwmniau. / Rhif y Ceiau
The Oakeley Slate Quarry Ltd. / 3
J. W. Greaves and Sons, Ltd. / 2..
Davies Brothers ./ 1

The Votty and Bowydd, Ltd. / 1
The Maenofferen Slate Quarry, Ltd. / 1
The Manod Quarry, Ltd. /1

The Croesor Slate Quarry, Ltd
/ 1
The Rhosydd Slate Quarry, Ltd

Ond y mae un peth eto'n peri rhwystr i'r fasnach, a phryder i'r perchenogion, sef, gwely'r Laslyn o'r porthladd i'r môr. Rhai blynyddau'n ol, ymunai afon Maentwrog â'r Laslyn rhwng y Cei Newydd a Chei Balast, nes peri fod llif y ddwy yn cadw'r gwely'n union a dwfn a diberygl; ond er's rhai blynyddau bellach y mae afon Maentwrog wedi newid ei chwrs, ac yn ymarllwys yn nes i'r môr, gan effeithio'n niweidiol ar wely'r Laslyn, am na fedd hi'n awr ar ddigon o nerth i gadw'i chwrs yn glir. Er fod modd dyfod a'r Ddwyryd i'w chwrs gyntefig ni wneir dim i hyrwyddo hynny, ac oni bydd i'r Harbour Trust anturio'n fuan i'r draul angenrheidiol, fe ddiflanna gobaith eu helw hwy, ac ni bydd Porthmadog mwyach yn borthladd Eryri.

I roddi syniad am gynnydd poblogaeth a llwyddiant masnachol Porthmadog yn ystod y triugain mlynedd diweddaf, ni allaf wneud yn well na rhoddi'r ystadegau canlynol o boblogaeth Plwyf Ynys Cynhaiarn:—

Blwyddyn. Poblogaeth
1851 • • • 2347 cynydd
1861 • • • 3059 cynydd 712
1871 • • • 4260 cynydd 1201
1881 • • • 5506 cynydd 1246
1891 • • • 5097 lleihad 409
1901 • • • 4883 lleihad 214
1911 • • • 4445 lleihad 438


Poblogaeth y gwahanol rannau o'r Plwyf, ar wahan, yn ol cyfrifiad 1911, ydyw: Porthmadog, 3,177; Borth y Gest a Morfa Bychan, 708; Tremadog, 560.

Gwelir cynnydd o dros saith cant yn ystod y deng mlynedd cyntaf, sef, o 1851 hyd 1861; ond y mae cynnydd yr ugain mlynedd nesaf yn enfawr. Mwy na dyblodd y boblogaeth yn ystod deng mlynedd ar hugain. Gellir priodoli'r cynnydd hwn i'r prysurdeb mawr fu'n y gwaith o adeiladu llongau, ac yn enwedig i fywiogrwydd eithriadol y fasnach lechi yn ystod y 70's. Dyma gyfnod euraidd y fasnach, a dyma'r adeg hefyd y cyrhaeddodd tref Porthmadog ben llanw ei llwyddiant. Dechreuodd y dirywiad amlwg tua diwedd 1878, a chafwyd llawer o flynyddoedd dirwasgedig hyd 1894, pan yr adfywiodd y fasnach lechi drachefn. Ond lleihau yr oedd poblogaeth Porthmadog er y cwbl, a buasai'r lleihad yn amlycach oni bai am gynnydd Borth y Gest yn ystod yr un cyfnod.

Yn dilyn, wele dabl yn dangos nifer y tunelli o lechi a allforiwyd o Borthmadog yn flynyddol er gorffeniad y porthladd:—


Gwelir oddi wrth y daflen uchod i'r cynnydd fod yn weddol sefydlog hyd y 70's, ac mai yn y flwyddyn 1874 y dechreuodd y llanw droi-llanw na ddychwelai'n ol ond unwaith mewn deng mlynedd. Gwelir hefyd mai'r flwyddyn 1892 sy'n cario'r llawryf—ond tywysen lawn ym mysg tywysennau teneuon oedd honno. Trist sylwi i'r llanw dreio mor bell erbyn hyn, ac nad yw ffigyrau'r blynyddoedd diweddaf yn hanner yr hyn a fuont yn amser llwyddiant; ond credir heddyw y clywir murmur ei donnau yn dynesu tuag atom unwaith eto.

Wele'n dilyn dabl arall, i ddangos cynnyrch y gwahanol chwarelau yn eu hamser goreu. Cyfrif ydyw yn dangos y swm o lechi a allforiwyd o Borthmadog gan y gwahanol chwarelau yn ystod y tri mis diweddaf o'r flwyddyn 1874:—


Dyna ychydig o hanes masnach Porthmadog yn ei bri a'i llwyddiant, ac hefyd yn ei gwendid. Fel pob hanes, y mae'n gymysg o'r llon a'r prudd. Ond y mae pob lle i gredu heddyw, fod y nos wedi rhedeg ymhell, a bod dyddiau gwell ar wawrio ar y dref a'r cymdogaethau.

Fel yr agorai chwarelau'n y cymdogaethau cyfagos, ac y cynhyddai pwysigrwydd y porthladd a'r dref ieuanc. nid yn unig yr oedd y tai annedd a'r masnachdai'n amlhau, a rhif y boblogaeth yn cynnyddu, ond gwelwyd fod y dref yn fan cyfleus i ddiwydiannau eraill, megis gweithfeydd haearn a chalch, a melinau blawd_a choed. Codwyd y Foundry gyntaf ym Mhorthmadog gan Gwmni y Rheilffordd Gul Ffestiniog, ym Moston Lodge, pan ydoedd y rheilffordd honno'n cael ei gwneud. Tua'r flwyddyn 1848 codwyd y Britannia Foundry, yn bennaf, gan y Capten Richard Pritchard. Gwerthwyd hon yn 1851 i Mr. John Henry Williams, tad y perchennog presennol—Mr. Robert Williams. Tua'r flwyddyn 1850 sefydlwyd yr Union Iron Works,—y pryd hynny yn Ffatri Tremadog, ond symudwyd oddi yno cyn pen hir i Borthmadog, a daeth y gwaith i'w adnabod fel eiddo y Mri. Owen Isaac ac Owen.

Yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd y Felin Flawd gan y Mri. M. a J. Roberts,—brodorion o Fangor. Yn 1890, prynwyd hi gan gwmni o Lerpwl—y Mri. W. a J. Caroë—a hwynthwy yw y perchenogion presennol, a chariant y fasnach ymlaen o dan yr enw "The Portmadoc Flour Mills Co."

Sefydlwyd dau Ariandy yn y dref mor fore a'r flwyddyn 1836—y National and Provincial Bank of England, a'r North and South Wales Bank—y naill yn nhŷ y Capten Richard Pritchard yn Lombard Street, a'r Capten yn rheolwr arno, a'r llall ym mhen y Cei. Dywed Mr. Owen Morris i banic gymeryd lle ym myd yr arianwyr, ac i'r North and South Wales Bank fethu a dyfod trwyddo, fel y cauwyd ei fanciau. Ymhen ysbaid gwnaed trefniadau i'w hail agor mewn gwahanol leoedd yng Nghymru, ond ni wnaed hynny ym Mhorthmadog. Ond sefydlwyd ariandy arall yn ei le gan y Mri. Casson o Ffestiniog, ym mhen y Cei—swyddfa bresennol y Mri. Prichard, y brokers, a buont yno hyd y flwyddyn 1865, pryd y symudasant i fan mwy canolog erbyn hyn, gan adeiladu ariandy yn High Street. Yn 1877 ymneillduodd y Mri. Casson, a gwerthwyd y busnes i'r North and South Wales Bank. Yn 1908 unwyd y N. & S. W. gyda'r London City and Midland Bank Co., Ltd., ac o dan yr enw hwnnw y cariant y busnes ymlaen heddyw. Yn 1871 sefydlwyd ariandy arall yn y dref, sef cangen o'r Carnarvonshire District Bank, o dan reolaeth Mr. Robert Rowland. Yn 1888 prynwyd ef gan y National Bank of Wales, hyd oddeutu'r flwyddyn 1893, pryd y prynwyd ef gan y Metropolitan Bank of England and Wales.

Yn fuan wedi i Rowland Hill gario'i welliantau pwysig yng nghyfundrefn y Llythyrdŷ yn 1840, a sefydlu'r llythyrdoll ceiniog, agorwyd Llythyrdŷ ym Mhorthmadog, yn y fan lle y saif y Clwb Ceidwadol yn awr. Yn flaenorol i hynny, yn Nhremadog yr oedd unig Lythyrdy'r cwmwd. Yr oedd Mr. Madocks wedi llwyddo i gael y llythyrau yno er ddechreu'r ganrif, trwy anfon llythyr-gludydd at Bont Aberglaslyn ddwywaith yn yr wythnos, i gyfarfod Mail Caernarfon a Maentwrog. Yr oedd y gost o anfon llythyr y pryd hynny o 4c. y 15 milldir hyd at swllt y tri chan' milldir, a phob llythyr i gynnwys dim ond un ddalen, neu byddai'n agored i dâl dwbl, ag eithrio llythyrau'r aelodau seneddol, y rhai a gludid yn ddi-dâl. Yn 1850 symudwyd y Llythyrdy i swyddfa argraffu Mr. Evan Jones, lle saif y Brynawen Vaults yn awr. Yn 1857 symudodd Mr. Evan Jones i'r tŷ agosaf i Ynys-Tywyn o'r tri sydd gerllaw i'r Clwb Ceidwadol. Yn 1906 symudwyd i'r adeilad lle y mae ynddo'n awr, a sefydlwyd ynddo'r Public Telephone Call Office.

Yn 1846 adeiladwyd marchnadfa fechan ym Mhorthmadog. Ychydig flynyddoedd cyn hyn cynhelid marchnad helaeth yn Nhremadog,—yn enwedig mewn blawd. A pharhaodd yn ei bri hyd nes y daeth Porthmadog yn gyrchfan ffermwyr a masnachwyr y cylch. Yn 1875 adeiladwyd y Farchnadfa bresennol sy'n Mhorthmadog. Rhoddwyd prydles am 80ain mlynedd gan R. Vaughan Williams ac eraill, i'r Portmadoc Hall Co. Dyddiad y brydles yw Tachwedd 12fed, 1875. Telid pum punt o ground rent yn flynyddol. Yr oedd holl draul y neuadd oddeutu tair mil a hanner o bunnau. Yn 1895 cymerwyd hi drosodd gan y Cyngor Dinesig, a thalasant £1,700 i fortgagees y Cwmni. Dyddiad y weithred yw y 25ain o Dachwedd.

Hyd yn ddiweddar, nid oedd mynwent gyhoeddus yn y gymdogaeth. Ond yn y flwyddyn 1879 prynwyd tir gan y Bwrdd Lleol i wneud mynwent rydd yn ymyl Penamser. Gosodwyd y gwaith o wneud y fynwent i Mr. Beardsell, a'r adeiladau sydd ynddi i Mr. William Pritchard. Cymerodd y gladdedigaeth gyntaf le ynddi ar yr 21ain o Dachwedd, 1879, sef Mr. John Francis, Sportsman Hotel, Porthmadog, un a fu ar un adeg yn Brif-oruchwyliwr Chwarel y Penrhyn. Cysegrwyd rhan o'r fynwent, gan Arglwydd Esgob Bangor, ar y 30ain o Awst, 1905. Ar y 9fed o Ionawr, 1907, gwnaed archeb gan y Cyngor Sir, yr hon a gadarnhawyd gan un arall yr ail o Orffennaf, 1907, o eiddo'r Llywodraeth Leol, i'r diben o drosglwyddo'r awdurdod a'r dyledswyddau dan y Ddeddf Claddu oedd yn eiddo Dosbarth Ynyscynhaiarn, a rhanbarth Uwchyllyn, oddiar Gyngor Dinesig Ynyscynhaiarn fel awdurdod claddu, i Gyngor Dinesig Dosbarth Ynyscynhaiarn a Chyngor Plwyf Treflys, a'r awdurdodau a'r dyledswyddau i'w gweithredu gan bwyllgor unedig, wedi ei nodi gan y ddau Gyngor crybwylledig. Daeth yr archeb hon i weithrediad ar yr ail o Orffennaf, 1907.

Gwerth trethiannol y Plwyf ar y 25ain o Chwefrol, 1913, tuag at amcanion Treth y Tlodion, £17,292 15s.

Gwerth trethiannol at amcanion Treth cyffredinol y Dosbarth (Treth y Cyngor), £15,298 17s. 6c.

Swm Treth y Tlodion yn y bunt am y flwyddyn yn diweddu 31ain o Fawrth, 1913, 5/2.

Swm Treth y Cyngor yn y bunt am y flwyddyn yn diweddu 31ain o Fawrth, 1913, 2/8.

Gan fod hanes llawn i'w roddi yng nghorff y traethawd ar gynnydd addysg a chrefydd ym Mhorthmadog, boddlonaf yn y bennod hon ar nodi'r ychydig ffeithiau canlynol.

Yn y flwyddyn 1838 adeiladwyd Ysgol Pont Ynysgalch, a chariwyd yr addysg ymlaen o dan y Gyfundrefn Frytanaidd. Safai'r ysgol hon ar y fan y saif y Queen's Hotel arno'n awr.

Yn y flwyddyn 1857 adeiladwyd Ysgol Genedlaethol, a chynhelid hi â rhoddion gwirfoddol ac â thâl y plant.

Yn y flwyddyn 1869 adeiladwyd Ysgol Chapel Street (y Frytanaidd).

Dyna'r ysgolion cyhoeddus hyd sefydliad y Bwrdd Addysg yn 1878.

Nid oedd dref yng Nghymru ag amgenach manteision addysg na Phorthmadog. Sefydlwyd yr Ysgol Ganolraddol yn 1894, a gwnaeth waith rhagorol er pan agorwyd hi, a pharha i droi allan fechgyn sy'n glod i'w hysgol ag i'w gwlad.

Yr ymgais ddiweddaf tuag at berffeithio cyfundrefn addysg y dref oedd sefydlu yr Ysgol Uwch Safonol, ar gyfer rhai wedi cyrhaedd y safonnau uchaf yn ysgolion elfennol y cylch.

Yr enwad crefyddol cyntaf i gychwyn achos ym Mhorthmadog oedd yr Annibynwyr. Adeiladwyd y capel cyntaf, sef Salem, yn 1827. Yma y bu'r bardd a'r llenor enwog Emrys yn weinidog am 36 mlynedd. Dyma'r blynyddoedd yr adeiladwyd y capelau eraill:

Ebenezer (Wesleyaid) 1840
Seion (Bedyddwyr) 1841
Moriah, y Garth (Methodistiaid) 1845
Berea (Bedyddwyr Albanaidd) 1854
Sion (Bedyddwyr Cambelaidd) 1860
Tabernacl (Methodistiaid) 1862
Eglwys Sant Ioan 1875
Capel y Wesleyaid Seisnig 1877
Capel Coffadwriaethol (Annibynwyr) 1879
Eglwys Seisnig y Methodistiaid 1893
Capel Newydd y Garth 1896


Nodiadau

[golygu]
  1. O Adroddiad y Bwrdd Iechyd yn 1857.