Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Evans, Evan

Oddi ar Wicidestun
Ellis, W T Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Evans, John Rhys

EVANS, EVAN.—Ysgolfeistr a cherddor, a aned ym Mrynaman, wrth droed y Mynydd Du, yn Sir Gaerfyrddin. Y mae'n nai fab cyfnither i Watcyn Wyn. Derbyniodd ei addysg elfennol yn Ysgol Frytanaidd ei bentref enedigol—ysgol y bu enwogion o fri'n brif athrawon ynddi:—George Gill, Thomas Jones, a'r Athro Henry Jones. Arfaethodd ddilyn crefft ei dad yn saer coed ac adeiladydd; ond ar benodiad Mr. Henry Jones yn brif athraw'r ysgol, daeth yn fuan i gysylltiad agos âg ef; ac o dan ddylanwad yr Athro aeth ato'n pupil teacher—swydd y bu ynddi am bum mlynedd. Yna aeth yn llwyddiannus drwy Arholiad y Queen's Scholarship i fyned i Goleg Normalaidd Bangor. Wedi dwy flynedd yno, aeth yn brif athraw cynorthwyol i Ysgol y Bwrdd, Aberdâr. Cyn pen tair blynedd efe a benodwyd gan yr un Bwrdd Ysgol yn brif athraw Ysgol Cwmdâr, lle'r arhosodd am ddeng mlynedd. Ym Medi, 1893, pennodwyd ef yn olynydd i Mr. Richard Grindley, yn brif athraw Ysgol y Bechgyn ym Mhorthmadog. Yn 1909 gwnaed yr ysgol yn un Uwch Safonnol, gyda Mr. Evans yn brif athraw—swydd a leinw gyda pharch ac anrhydedd hyd heddyw. Bu'n cynrychioli'r athrawon ar Gyngor Addysg y Sir, a chymer ran flaenllaw gyda cherddoriaeth y dref, fel is—arweinydd i'r Gymdeithas Gorawl a'r Gerddorfa.

Bu yn arweinydd Cymanfa Leol yr Annibynwyr amryw weithiau.

Nodiadau

[golygu]