Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/George, D Lloyd

Oddi ar Wicidestun
Evans, Owen Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Greaves, John Ernest

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Lloyd George
ar Wicipedia

GEORGE, D. LLOYD.—Nid yw'n hawdd dweyd dim newydd am Mr. Lloyd George. Y mae bob carreg mewn hanes, y gallai fod rhywbeth tani yn dwyn cysylltiad âg ef, wedi ei throi a'i chwilio'n fanwl; a phob person ag a fu a rhywfaint o law yn ei hyfforddi a'i ddwyn i'r amlwg, eisoes wedi derbyn mesur helaeth o glod am eu gwaith. Ond y mae un nad wyf fi eto wedi gweled crybwyll ei enw ynglyn â hyn, sef yw hwnnw, yr hynafiaethydd a'r llyfrbryf diwyd Myrddin Fardd. Iddo ef y mae Porthmadog, o leiaf, yn ddyledus am iddi gael y fraint o roddi cychwyniad i un o wyr enwocaf Cymru. Yn wir, y mae'n amheus a fuasai Mr." Richard Lloyd wedi llwyddo i sicrhau lle i'w nai o gwbl fel twrne, oni bai am ei gyfaill ffyddlon o Chwilog. Yr oedd Myrddin yn gyfaill personol i Mr. Edward Breese pennaeth firm y Mri. Breese, Jones, a Casson, ym Mhorthmadog. Cyfathrachai'r ddau lawer â'u gilydd ynglyn â hynafiaethau, ac ar ei gyngor ef yr ymofynodd Mr. Lloyd am le i'r bachgen yn y ffirm. Cafodd addewid o hynny. Ond aeth cymaint o amser heibio nes yr aeth Mr. Lloyd i bryderu, ac i ameu y doethineb o ddisgwyl yn hwy. Amlygodd hynny i Myrddin; dywedodd yntau wrtho y byddai ef yn myned at Mr. Breese rai o'r dyddiau dilynol, ac yr ymddiddanai âg ef yn ei gylch. Felly y bu. Gofynnodd i Mr. Breese a oedd ganddo ddim lle i "hogyn Rhisiart Lloyd bellach; a dywedodd Mr. Breese i Mr. Lloyd fod yn siarad rhywbeth am hynny, ond nad oedd arno angen am yr un yn neillduol y pryd hynny. Ac ebe Myrddin: "Yn eno'r tad, cymerwch o, y mae o'n siwr o fod yn hogyn garw, ac mi fydd yn glod i'ch offis chi ei gael o. "Os wyt ti'n dweyd hynny, dywed wrth Richard Lloyd am ddwad a fo yma erbyn naw yfory," ebe Mr. Breese. Felly fu; ac yng Ngorffennaf, 1878, ac efe'n 16 oed, aeth ei ewythr parchus ag ef i ddechreu ar yrfa a ddygai fendith i'w genedl, ac a barai syndod i'r gwledydd. Ym Mhorthmadog y dechreuodd ysgrifennu i'r wasg ac areithio a dadleu'n gyhoeddus; yno y daeth i sylw gwlad; yno y priododd; ac oddi yno, ar y 10fed o Ebrill, 1890, yr aeth i'r Senedd fel aelod dros Fwrdeisdrefi Arfon.

Nodiadau

[golygu]