Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Gwilym Eryri

Oddi ar Wicidestun
Grindley, Richard Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Holland, Samuel

GWILYM ERYRI[1] (William Roberts, 1844—1895).Mab i David a Catherine Roberts, a anwyd ym Mhorthmadog ar yr 22ain o Fawrth, 1844. Gwneuthurwr hwyliau ydoedd wrth ei alwedigaeth, ond bardd o anianawd. Ychydig o fanteision addysg a gafodd ym more'i oes. Bardd hunan—ddiwylliedig ydoedd. Dechreuodd gyfansoddi yn gynnar ar ei fywyd, a daeth yn gystadleuydd o nôd yn fore. Urddwyd ef yn Eisteddfod Porthmadog, 1871. Ennillodd Gadair y Gordofigion yn 1875, am "Awdl Goffadwriaethol am y Priffeirdd, o Aneurin Gwawdrydd hyd Nicander." Y mae'r awdl hon yn un o'r rhai tynheraf yn yr iaith. Y mae'i blethiad o achau'r cyn—feirdd, ei feistrolaeth ar y cynghaneddion, ei elfenniad byw, a'i fywgraffiad cryno o'r prif—feirdd, yn nodedig o gywraint a naturiol. Pa beth yn fwy byw a tharawiadol na'i englyn i Risiart Ddu o Wynedd, ac a fu farw yn yr Americ bell:—

Yn Amerig gem orwedd,—tôdd ei hâr
Risiart Ddu o Wynedd;
Ei genedl hoffai'i geinedd:
Ai dros fôr.—Pwy drwsia'i fedd?

Mor dlos yr iaith, a phrydferth y syniadau? Ymhen dwy flynedd, ennillodd y Gadair a gwobr, £21, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1877, ar awdl "Ieuenctid," allan o un ar ddeg o awdlau gwir ragorol." Barnai Hwfa Môn, Gutyn Padarn, ac Ioan Arfon, fod eiddo "Gwyndaf Hen" yn "mawr ragori ar ei gydymgeiswyr." Yr ail yn y gystadleuaeth ydoedd Elis Wyn o Wyrfai. Yr oedd Gwilym Eryri yn eisteddfodwr ffyddlon, ac yn gystadleuydd cyson; ac er nad ennillodd ond un Gadair Genedlaethol, eto byddai ei gyfansoddiadau bob amser ymhlith y goreuon. Yr oedd yn bedwerydd, allan o 14eg o ymgeiswyr, ym Mhwllheli, yn 1875, ar awdl "Prydferthwch"; yn drydydd allan o 19eg ar Cariad ym Merthyr—Tafolog yn bedwerydd; yn ail yng Nghaerdydd yn 1883 a Gurnos yn drydydd, ar "Y Llong," ond cadair wâg oedd honno. Yn Eisteddfod Lerpwl, 1884, yr oedd yn bedwerydd, allan o 13eg, ar "Gwilym Hiraethog "—Hwfa Môn a Watcyn Wyn yn ei ddilyn; yn bedwerydd, allan o 17eg, yn Llunden yn 1887, ar Victoria," a Hwfa Môn yn bumed. Yng Ngwrecsam, yn 1888, yr oedd yn bumed allan o ugain ar "Beroriaeth"; ac ym Mangor, yn 1890, yn drydydd allan o 14eg ar "Y Llafurwr." Safai hefyd yn ail i Elfed, allan o 23ain, ar "Hunanaberth," yng Nghaernarfon yn 1894, a Berw, Tafolog, Machreth, Alafon a Bethel, yn ei ddilyn. Yn Eisteddfod Caernarfon, 1886, yr oedd yn cyd-farnu â Gwalchmai ac Elis Wyn o Wyrfai, ar destyn y gadair, "Gobaith." Ennillodd amryw wobrwyon o bwys yn yr Eisteddfod Genedlaethol, megis cywydd "Yr Ystorm" yn Eisteddfod Lerpwl, 1884—William Nicholson yn ail; cywydd "Morfa Rhuddlan " yn Eisteddfod y Rhyl, 1892; hir a thoddeidiau, "Deuddeg Sir Cymru," yn yr Wyddgrug, 1873; beddargraff Cynfaen yn Llunden, 1887; "Machludiad yr Haul yng Ngwrecsam, 1888; "Y Drugareddfa " yn y Rhyl, 1892; cân goffa am "Iolo Trefaldwyn" yng Ngwrecsam, 1888; myfyrdraeth, "Brâd Aberedwy," ym Mhontypridd, 1893; englynion, "Afonydd Cymru," yn Llunden, 1887; ac englyn "Anadl" yng Nghaerdydd, 1883. Wele'r englyn:—

Anadl wan! ei doleni—yw'm cadwen,
Yn fyw'n cedwir drwyddi:
A'i dyrnod ryw ddydd, arni,
Tyr angeu fwlch,—trengaf fi.


Os nad oes barddoniaeth yn yr englyn uchod, ni wn i ym mha le i'w geisio. Mewn eisteddfodau talaethol a lleol ennillodd liaws o wobrau, yn eu plith tri englyn, "Yr Aelwyd," yn Lerpwl, 1869; yn Harlech ar "Amddiffyniad Castell Harlech"; yn Lerpwl, 1875, "Y Beibl Cymraeg "; yn Ffestiniog, 1883, Yr Archddeacon Prys"; ac yn Eisteddfod y Llechwedd, 1886, ar "Mr. Thomas Jones y Rhosydd." Gresyn na chyhoeddid ei weithiau, neu ddetholiad o honynt. Y mae llawer o'i gyfansoddiadau i'w cael yn Y Geninen, ac yng nghyhoeddiadau Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Hanes trist ac ansicr yw'r hanes diweddaf am dano. Gadawodd Ddyffryn Madog tua diwedd y flwyddyn 1894, gan gyfeirio ar draws Gwynedd a Phowys—ond beth ddaeth o hono ar ol hynny, ni wyddis. Gellir dweyd am dano, fel y dywedodd efe ei hun am Risiart Ddu o Wynedd:—

Ei genedl hoffai'i geinedd
. . . . . . Pwy drwsia'i fedd?


Nodiadau

[golygu]
  1. Yr oedd dau gyd-oeswr yn arddel yr un enw barddol; sef gwrthrych y nodiadau uchod, a'r diweddar Mr. W. E. Powell, Milwaukee, Wisconsin,—brodor o Feddgelert.