Neidio i'r cynnwys

Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion/Spooner, James

Oddi ar Wicidestun
Spooner, Charles Easton Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i Henwogion

gan Edward Davies, Penmorfa

Tegidon (John Phillips)

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
James Spooner
ar Wicipedia

SPOONER, JAMES (1789—1856).—Brodor o Firmingham. Daeth i fyw i Glanwilliam, Maentwrog, ac oddi yno i Dan yr Allt, Tremadog. Yn 1829 symudodd drachefn i Morfa Lodge. Efe, ar gais Mr. Madocks, a gynlluniodd Reilffordd Gul Ffestiniog, o dan ei arolygiaeth y'i gwnaed, a bu'n rheolwr arni am weddill ei oes. Bu iddo ddeg o blant—pump o ferched a phump o feibion a gwnaeth un o bob rhyw enwau iddynt eu hunain—y naill fel awdures, "Gwladus o Harlech ". stori a gyhoeddwyd yng yng "Ngheinion Llen" O. Jones a'r llall fel peiriannydd, sef y Charles E. Spooner uchod. Bu James Spooner farw ar y 15fed o Awst, 1856, yn 67 mlwydd oed.

Nodiadau

[golygu]