Hanes Sir Fôn/Cwmwd Malltraeth
← Cwmwd Malltraeth | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llanbeulan → |
PLWYF ABERFFRAW.
Aberffraw.— Y mae y pentref hwn ar lethr ffrwythlawn, yn gwynebu tua chodiad haul; ac o dano yr ym. ddolena afon dryloew Ffraw tua'r môr. Ar yr ochr arall i'r afon, gwelir tywyn mawr llydan, yn ymddysglaerio fel yr eira gwyn a'r ddiwrnod goleu. Oddiwrth y tywyn hwn y gelwir y lle gan y beirdd yn Aberffraw wen:
"Onid Aberffraw wen hynod yw hon,
Lle tirion ar lan afon,
Lle ucha' ei bri, ar ochr bron."
Y mae enw Aberffraw yn tarddu oddiwrth "afon," a "ffraw;" ystyr y gair ffraw ydyw bywiog, cynhyrfus; ac felly ystyr yr enw yw "afon fywiog." Enw Rhufeinig Aberffraw ydoedd "Gadavia."—Gada, to fall or run down; via—way; dwfr yn rhedeg i lawr (i'r môr, efallai.)
Ni wyddys a fu y Rhufeiniaid yn trigo yma a'i peidio; y tebygolrwydd yw, iddynt fod rywbryd mewn cyfnod pur foreu, onide ni fuasai y lle yn cael ei alw "Gadavia."
Yr ydys wedi rhoddi ystyron y geiriau bod a thref o'r blaen ceir tair o ffermydd yn y plwyf hwn yn dwyn yr enw Bod-Bodfeirig (trigfa Meirig), Bodgedwydd, a Bodwrdin.
Ymddengys fod y lleoedd hyn yn brif breswylfeydd yn mhob trefedigaeth; a thra yr oedd y trefedigaethau hyn yn cynyddu ac yn lluosgi yn fân adranau teuluaidd, yr oeddynt dan orfod i dir-ranu; sef trosglwyddo iddynt eu rhanau neillduol o dir, i'w drin a'i lafurio. Dywed Mr. Rowlands fod y prif drosglwyddwyr yn cael eu galw yn mhob un o'r trefedigaethau, yn 'dir-ranwyr' (land sharers); gelwir hwy "Tyranni" yn Lladin. Rhoddwyd fferm Bodgedwydd, neu Trefod Gedwydd, yn nghantref Aberffraw, gan Llewelyn ap Iorwerth, tywysog Gwynedd, yn anrheg, gyda lleoedd eraill yn Môn, at gynal mynachlog Conwy: a bu y Cwirtau hefyd ar ol hyny yn perthyn i'r un syfydliad. Gwel Mona Antiqua, tudal. 127. Amddiffynfa Din Dryfal.—Tardda yr enw o'r gair Tin, am amddiffynfa, ac o'r gair Tryfal, am drionglog; felly yr ystyr yw, "Amddiffynfa dair onglog."
Y mae olion yr hen amddiffynfa hon i'w gweled hyd heddyw ar dir fferm o'r un enw. Ymddengys fod yr amddiffynfa hon wedi bod yn noddfa bwysig gan yr hen drigolion pan fyddai gwahanol estroniaid yn ymosod ar, ac yn anrheithio yr ynys.
Yn canlyn wele hanesyn (wedi ei ddyfynu) sydd yn dwyn perthynas a'r amddiffynfa uchod:—"Y Gwyddelod, o dan lywyddiaeth eu tywysog, Serigi Wyddel,y rhai hyn ar ol eu gorchfygu yn ardaloedd eraill Cymru, a ffoisant i'r ynys hon, a hwy a wersyllasant yn agos i'r amddiffynfa gref a elwid gan y brodorion yn "Din Dryfal": a bu brwydr galed rhwng gwŷr Môn a'r Gwyddelod yn yr ardal hono, mewn lle a elwir hyd heddyw yn "Ceryg y Gwyddil," a llawer o'r Monwysion a gwympwyd yma. Ond cyn terfynu y frwydr, daeth yno Caswallon Llaw Hir, ap Einion Yrth, ap Cunedda, a'i gefndryd Cynyr, Meilyr, a Meigyr, meibion Gwron ap Cunedda, gyda byddin gref; a gwnaethant ymosodiad ffyrnig ar y Gwyddelod, gan eu curo, a'u hymlid hyd gwr eithaf yr ynys. Ac wedi ymladd gwaedlyd, gorchfygwyd y Gwyddelod; a Chaswallon Llaw Hir a laddodd Serigi Wyddel a'i law ei hun, ac ni adawyd neb o'r estroniaid hyn yn Nghymru, oddieithr y rhai a wnaethpwyd yn gaethion. A Chaswallon a adeiladodd eglwys yn Môn, yn y fan lle yr enillodd y frwydr, ac a'i galwodd yn "Llan y Gwyddel," yn awr Caergybi, neu yn hytrach, "Côr Cybi."
Eglwys y Beili.—Ystyr y gair Beili yw "allanfa," lle cauedig, carnedd, a bedd-dwyn Yr oedd y bedd. -dwyn gan y Derwyddon yn cael ei gyfrif yn lle eysegredig. Dywed Clem. Alex. in potrept—"Templa, dici fuisse autem Sepulchra, i.e., Sepulchra ipsa vocate fuisse templa"; h.y., fod 'bedd-le' ei hun yn cael ei alw yn deml. Gwel "Brython," cyf. 4., tudal. 202.
Gwisgai y Derwyddon eu bedd-leoedd â llwyni o dderw cysegredig; ymddangosent yn yr addurniadau hyn fel temlau neu fanau cysegredig—y gwydd yn fur, a'r awyr las uwchben yn do! Ymgynullent i'r temlau hyn i addoli, oblegyd barnent fod Duw yn un rhy fawr i drigo mewn temlau o waith dwylaw. Yr oedd yn naturiol i'r rhai hyny, pan eu henillwyd oddiwrth dderwyddiaeth i gofleidio y ffydd Cristionogol, iddynt adeiladu eu heglwysi yn yr un man ag y byddent yn arfer addoli gynt: oblegyd yr oedd ymlyniad a serch ganddynt at y cyfryw fanau yn fwy na rhyw leoedd eraill.
Dywed Mr. Rowlands, yn y Mona Antiqua, fel hyn:—"Our Christian churches have generally been built at, or near those ancient sanctuaries." **** "and probably, people's mind were sooner drawn to make their Christian meetings at their antiently accustomed places of assembling. I say our Christian churches do seem on this account to have their name Llan, from that of Llwyn, with the addition of some christian name that had been signalized in that place, instead of their former heathenish characters and terminations." Page 229.
Y mae yn bur debygol mai mewn lle o'r fath yma yr adeiladwyd yr eglwys uchod; ac iddi oddiwrth hyny gael ei galw yn "Eglwys y Beili," neu y bedd-le. Gan bwy, a pha bryd yr adeiladwyd hi, nis gwyddom; ond, tybir iddi gael ei hadeiladu lawer o amser o flaen eglwys y plwyf. Safai yr hen adeilad yn yr un fan ag y saif yr Ysgol Rad waddoledig, yr hon a adeiladwyd gan Syr Arthur Owen, Bodeon, yn y fl. 1729, ac a roddwyd ganddo, yn ei ewyllys, yn y fl. 1735, i'r dyben o ddysgu plant tlodion y lle. Safai y gladdfa o'r tu cefn i'r adeilad yma—cyrhaeddai i lawr i erddi Bryn-yr-Efail; cafwyd amryw esgyrn dynol yn y lle ar wahanol adegau.
Eglwys y Plwyf.—Adeiladwyd hi oddeutu y fl. 615, gan St, Beuno, mab i Hywgi neu Bugi ap Gwynlliw Filwr, o Perfferen, merch Llewddyn Lluyddog, o Ddinas Eiddin, yn y gogledd; ac felly yr oedd yn gâr agos i Catwg Doeth, ac yn gefnder i Cyndeyrn, seilydd Esgobaeth Llanelwy, â'r hwn hefyd yr oedd efe yn cydoesi. St. Beuno, pan ddaeth gyntaf i Wynedd a ymsefydlodd yn ngodreu mynyddoedd Arfon, mewn lle o'r enw Clynog; ac adeiladodd yno eglwys a mynachlog. Yr oedd y fynachlog yn fath o athrofa i gymwyso dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Yr oedd St. Beuno yn ŵr diwyd a gweithgar gydag achos crefydd. Bu yn foddion i grynhoi cynulleidfaoedd cristionogol, ac adeiladodd eglwysi yn Aherffraw, Treftraeth, a lleoedd eraill.
Croes Ladys.—Saif ar y cwr gogleddol o dywyn Aberffraw, wrth ymyl yr afon Ffraw, gyferbyn a Bwlan, yn yr hwn le y ceir olion o hen aneddau hyd heddyw. Ni wyddis beth oedd yr achos i'r lle hwn gael ei alw yn Croes Ladys, os nad rhyw le ydoedd yn y cyfnod pabyddol i gartrefu boneddigion o'r urdd fynachaidd. Yr oedd amryw y pryd hyny yn credu fod ymneillduo oddiwrth y byd am eu hoes i fyw yn y cyfryw sefydliadau, a myned trwy ffurfiau y grefydd babaidd, yn ddigonol aberth i'w rhyddhau oddiwrth eu holl bechodau—a myn eglwysi Rhufain i'w deiliaid gredu y pethau hyn eto. Efallai fod yr enw hwn yn tarddu oddiwrth" Wladys," sef Claudia,"—hen enw arferedig ar fenywod gynt.
Y rheswm dros y syniad cyntaf ydyw, fod tebygrwydd yn unigrwydd a neilluedd y lle; ac ystyr yr enw yn tueddu i gadarnhau y syniad mai sefydliad o'r fath fu yma.
Bryn Fendigaid.—Y mae y lle hwn yn sefyll wrth ochr y ffordd sydd yn croesi y Tywyn o Aberffraw i Llangadwaladr. Beth achosodd iddo gael yr enw hwn, nid oes sicrwydd, os nad oedd yn lle cysegredig gan y pabyddion. Mae traddodiad fod amryw ddrwgweithredwyr wedi eu dienyddio ar y bryn hwn yn amser y tywysogion. Cafwyd gweddillion dynol yma wrth glirio y lle i godi ceryg―y rhai oeddynt weddillion y drwg-weithredwyr, fel y tybir.
Henllysoedd.—Ceir pedair o ffermydd yn y plwyf hwn dan yr enwau Henllys; sef Henllys Fawr, Henllys Groes, Henllys Wen, a Phen Henllys. Dywedir mai yr achos i'r lleoedd hyn gael eu galw yn Henllysoedd ydoedd, mai rhyw fath o lysoedd oeddynt yn amser y tywysogion.
Rhydd Dr. W. O. Pugh yn ei Eirlyfr, ddarnodiad o'r cyfryw lysoedd a fodolant y pryd hyny, dyma ydyw:"1. Llys y brenin; 2. Llys breyr; hyny yw, Llys y barwn; 3. Llys Cwmwd; 4. Llys benadur, Llys beunyddiol; hyny yw, y prif neu y Pen llys; 5. Llys dygynull; hyny yw, Llys galw yn nghyd; 6. Llys ail goffa; hyny yw, Llys gohiriad.' Y mae yn debyg mai rhai o'r llysoedd hyn fu yn y lleoedd uchod.
Clafdy.—Y mae y lle hwn oddeutu haner milldir yn y cyfeiriad gogleddol o bentref Aberffraw. Yr achos i'r lle gael ei alw yn Clafdy oedd, mai yno yr oedd yr ysbytty yn amser y tywysogion.
Bryn Llewelyn.—Saif y bryn hwn oddeutu chwarter milldir yn y cyfeiriad gorllewinol o bentref Aberffraw. Dywedir mai yr achos i'r lle hwn gael ei alw yn Bryn Llywelyn ydoedd, oblegyd mai oddiar y bryn yma y byddai y Tywysog Llywelyn yn arfer codi arwydd i alw ar ben-llywydd y fyddin, yr hwn oedd yn byw y pryd hyny yn Trefeilir; yr hwn le a saif ar dir uchel tua phum' milldir o'r bryn uchod.
Dywed Llyfr Coch Asaph am Aberffraw, y gelwid hi "Vetty," o'r afon sydd yn ei hymyl, lle oedd gynt Lys enwog i Dywysog Gwynedd, a'r afon hono a elwir Ffraw; a gwyr pawb mai Aber cyn y Vrutanet a arwyddoca yn gyffredin gydhyriad a thrawiad avon yn y môr Tegaingl, sef Tanact. Felly" Aberffraw yw aber yr afon Ffraw."