Hanes Sir Fôn/Llanddwyn
← Plwyf Newborough | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Llangwyllog → |
LLANDDWYN.—Dywedir nad oes amser maith er pan weithiodd y môr ei ffordd drwy "Wddw Llanddwyn.” Gwneir cais at uno yr ynys a'r arfordir cyfagos, trwy gyfrwng math o sarn, ac felly ei chlymu â chadwen o feini wrth "arffedog Môn, mam Cymru," fel y dywed "Viator" yn Nghronicl Cymru. Dechreuwyd y gwaith -a deuparth gwaith yw dechreu. Wedi ei orphen ef, bydd yn dra gwasanaethgar. Yn y gwastadedd bychan a thywodlyd, yn orchuddedig â gwellt a rhedyn, ceir hen ferddyn llwydaidd, adfeilion y prebendŷ, ond odid, ac anedd y "Deon Du," o enwog goffadwriaeth am offeiriad olaf y plwyf a oresgynwyd er's dyddiau lawer gan donau a thywod y môr, fel ag y prawf rhai hen weithredoedd ag sydd ar gael ato.
Hefyd, ceir adfeilion monachlog ar ganol y gwastatir hwn. Y mae'r olwg arni yn bruddglwyfus,-fel un yn wylo am ei phlant, a'r gogoniant wedi llwyr ymadael o honi ers llawer dydd; ond y mae'r hyn a erys o honi yn ddigon i ddangos ei mawredd a'i chadernid gynt, pan ydoedd yn ogoniant penaf y fro. Sylfaenwyd yr adail ar lun y groes. Nid oes nemawr o'r deml odidog yn aros oddigerth y gangell. Mae muriau hon yn aros hyd y dydd hwn, ac iddi ffenestr ddwyreiniol enfawr, a dwy ffenestr ystlysol o gryn faintioli.
"Wel, dyma'th gangell wiwgu,
Ond p'le mae'th allor fawr,
Lle gwelwyd gynt yn mygu
Y thuser lawer awr ?"
Yn uniad y ddau fur gogleddol y gangell, y mae olion rhywbeth tebyg i dŵr haner-grwn.
O gylch yr eglwys mae rhywfaint o weddillion gwael mur y fynwent. Ychydig gamrau i'r gorllewin, ceir olion rhyw hen adeiladau gweddillion "pentref" Llanddwyn. Dywedir y bu yma wyth o dai bychain yn amser Iorwerth III., y rhai a elwid "Welas." Tybir i ferch Brychan seilio ei "chell" (cloister) ar yr ynys hon oddeutu y fl. 590 O.C. Dewisodd y wyryf Dwynwen neillduaeth Llanddwyn yn hytrach na mwyniant a mawredd llys ei thad. Sefydlodd ei chwaer Ceinwen ei chell yn Llangeinwen, a sefydlodd ei brawd Dyfnan ei eglwys yn Llanddyfnan, yn yr un sir. "Y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth." Ceir nifer mawr o eglwysi plwyfol Cymru yn gof-golofnau hyd y dydd hwn o dduwioldeb meibion a merched Brychan Brycheiniog. Cyfrifid Dwynwen yn "noddes cariadau," a cheir gan Dyfydd ap Gwilym, bardd serch, gywydd iddi yn dwyn y penawd "Cywydd i Dwynwen Santes, i geisio ganddi wneuthur lletyaeth rhyngtho a Morfydd." Dechreua—
"Dwynwen deyrdd anian degwch,
Deg wyr o gor fflamwyr fflwch," &c.
Cedwid Dy'gwyl Dwynwen yn mis Ionawr. Daeth ei "chell" i fri cyffredinol yn y canol-oesau, ac yn gyrchfa "pererinion" lawer, y rhai a ddygent roddion ac offrymau gwerthfawr i'w hallor, nes iddi ddyfod yn "relique church fras." Hefyd, dywedir mai Llanddwyn oedd y brebendariaeth (bersonoliaeth) frasaf ynglyn ag Eglwys Gadeiriol Bangor, yn nheyrnasiad Harri VIII. Prisir rectoriaeth Llanddwyn yn "liber regis" (King's book,) yn 14p. Y noddwr yw Esgob Bangor—dim degwm; felly, nid oddiwrth ffrwythlonedd y tir, ond oddi. wrth ofergoeledd y werin—oddiwrth bererindeithiau at graiau, ffynnonau sanctaidd, ac ofergoelion deiliaid gwaddol yr eglwys hon! Dywedir fod yn nyddiau Dafydd ap Gwilym (yn nghylch canol y bedwaredd-ganrifar-ddeg), luaws mawr o bobl o holl Gymru, yn ymgynull i eglwys St. Dwynwen, yn Môn, yr hon a elwir Llanddwyn. Yma y cedwid canwyllau cwyr yn oleu yn wastadol oddiamgylch bedd y forwyn-sant hon, a phawb a fyddent mewn cariad a ymwelent a hi, yr hyn a ddygai elw mawr i'r mynachod; ac yr oedd Dwynwen mor enwog yn mhlith yr hen Frythoniaid mewn achosion caredig, ag y bu y dduwies "Venus" erioed yn mhlith y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, Tybir mai ystyr yr enw Dwynwen yw, "Seren Ddydd y Cymry."
Tua gwawriad y diwygiad Protestanaidd, tylododd "Cyff Dwynwen," a darfu am elw y rhai a weinyddent wrth ei hallor. Yn nyddiau Owen Glyndwr, bu ychydig o ffrwgwd boeth yn nghylch y "cyff." Gosododd un Iorwerth Fychan, person Llanddoget, yn sir Ddinbych, ei law ar yr offrymau; ond rhoddodd Griffith Young, Ll.O., Canghellwr y Tywysog Owen, derfyn ar driciau Iorwerth.
Cyfeirid at y ffrwgwd hon mewn hen weithred Lladin, yr hon sydd ar gael hyd heddyw. Dyddiwyd hi"19 Januarii, Anno Dom. 1404."
Aneddai y prebendari-Richard Kyffin, LI.D., Deon Bangor, yn nheyrnasiad Rhisiart III. a Harri VII., fel y sylwyd eisoes, yn Llanddwyn. Chwareuodd y "Deon Du," fel y gelwid ef oddiwrth ei wedd dywyll, yn ol pob tebygolrwydd, ran bwysig yn helyntion ei amserau cythryblus. Ymohebodd trwy gyfrwng ei gyfaill, yr Esgob Morton, â Harri VII., Duc Richmond y pryd hyny, pan oedd ar encil yn Brittani, yn Ffraingc, a chymerodd ran weithgar gyda Syr Rhys ap Tomas, o'r Deheudir, i ddwyn oddiamgylch adferiad y teyrn hwn. Anfonai Cyffin ei negeseuau i Lydaw gyda llongau pysgota o'r goror anial ac anghysbell hon. Gallesid tybio ei fod mewn ffafr fawr gyda'r brenin; a phe buasai yn ddibriod, tebyg y dyrchafesid ef gan ei deyrn i'r faingc esgobol. Cafodd rodd o diroedd lawer am ei wasanaeth pwysig, a chaniatad i seilio a gwaddoli chancel ar y tu deheuol i Eglwys Gadeiriol Bangor. Gwaddolodd mawl-dŷ a degymau Llangoed, Llaniestyn a Llanfihangel Dinsylwy yn yr ynys hon. Claddwyd y "Deon Du" yn eglwys Bangor, ac yr oedd cerflun o hono ar efydd, gyda'r feddargraff isod yn llawr yr Eglwys Gadeiriol:—"Orate pro anima Richardi Kyffin, hufus Ecclesia Cathedralis decani, qui in dicta Ecclesia fundavit cantoriun sacredatum, ordinavit at celebrandum pro anima Abiit XXII, die mensis Augusti, MECCCCII," (1502).
Desgrifir Llanddwyn gan un hanesydd fel "a cell of benedictive Monks **** a very small chapter of canons." Cysegrwydd eglwys Llanddwyn oddeutu y fl. 465, i St. Dwynwen. Codwyd y drysorfa fel y crybwyllwyd yn barod oddiwrth offrymau amryw ddiofrydwyr, y rhai oedd yn dra lluosog. Hefyd, codid treth gan y Monks of benediction ar y dieithriaid, y rhai fyddai yn gofyn am eu tynged dyfodol, yr hyn a rhagfynegid gan ymddangosiad pysgodyn ar wyneb dyfroedd ffynnon oedd yn cael ei galw yn "Ffynnon Fair" (St. Mary's Well.)