Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Bodewryd

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Rhosbeirio Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Amlwch

PLWYF BODEWRYD.

Mae'r lle hwn oddeutu pedair milldir i'r gorllewin o Amlwch. Tardda yr enw oddiwrth fod rhedfa afon yn agos yno: ac, fel y dywed un—"Bodewryd, is the mansion at the rippling ford." Cysegrwyd yr eglwys i Marc Bodewryd, &c., mor foreu a'r fl. 1291 O.C. Yn y "Record of Carnarvon," ceir fod plwyf Bodewryd yn cael ei alw" Bettws Ysgellog;" ac fod ei ddegymau yn perthyn i Briordy Penmon.