Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Bodwrog

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Ceirchiog (Bettws-y-Grog) Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llandrygarn

PLWYF BODWROG.

Gorwedda y plwyf hwn oddeutu tair milldir o Langefni. Y mae y fywioliaeth yn guradiaeth barhaus yn archddeoniaeth Môn ac esgobaeth Bangor, ac yn nawdd prif-athraw a chyfeillion Coleg yr Iesu, Rhydychain, i'r hwn le y cyflwynwyd y degymau a'r elw gan Dr. Wynne, Cangellydd Llandaf, yn y fl. 1648, ar yr amod fod i bum'-swllt-a'r-hugain gael eu talu yn flynyddol i dlodion y plwyf. Yn Rhydychain hefyd y penodir un (o'r ysgolorion) i'r fywioliaeth. Cysegrwyd yr eglwys i St. Twrog, efallai mab Ithel Hael o Lydaw, yr hwn a ddaeth gyda Cadfan i'r ynys hon: efe a wnaeth eglwys Llandwrog yn Arfon, a Maentwrog yn Meirion, os yr un ydyw.

Gellir tybied i'r eglwys hon gael ei hadeiladu oddeutu y chweched ganrif. Ystyr yr enw yw "Trigfa Gadarn." Y mae lluniau tri tarw i'w gweled yn ffenestr ddwyreiniol yr eglwys, yr hyn sydd yn lled arwyddo fod teulu y Bwlceiad, o Beaumaris, yn dwyn rhyw berthynas a'r lle.