Hanes Sir Fôn/Plwyf Coedana
Gwedd
← Plwyf Gwredog | Hanes Sir Fôn gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth) |
Plwyf Ceidio → |
PLWYF COEDANA.
Saif y plwyf hwn rhwng Llangefni a Llanerchymedd. Tardda yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Anne, neu Aneu, neu Anef ap Caw Cawlwyd. Ond dywed eraill mai boneddiges Gymreig o'r enw Anne ydoedd. Hefyd, tardda oddiwrth lwyn o goed. Yr ystyr yw "Llwyn, neu Goedwig raslawn."