Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llan Gefni

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llanffinan Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Tre' Gaian

PLWYF LLAN GEFNI.

Saif y plwyf hwn yn agos i ganolbarth yr ynys hon, a tardda ei enw oddiwrth afon Cefni, yr hon sydd yn rhedeg trwy ganol y lle. Cysegrwyd yr eglwys i St. Cyngar, mab Garthog ap Caredig, ap Cunedda, yn ol y Dr. W. O. Pughe: ond dywed Mr. Rowlands, ei fod yn ewythr i Cybi, mab Geraint ap Erbin.

Teimlir ychydig anhawsder i gael allan beth yw tarddiad ac ystyr enw afon Cefni; tybia rhai iddo darddu oddiwrth ryw sant o'r enw Gefni, ond nad yw yn hysbys mewn hanesiaeth. Eraill a dybiant iddo darddu oddiwrth ansawdd y lle, oherwydd ceir arwyddion eglur fod gorlifiad mawr wedi cymeryd lle yma yn rhyw gyfnod yn oes y byd—y mae y nant a'r fosydd dyfnion oddiamgylch y lle yn cadarnhau y dybiaeth yma. Dywedir y bu môr y yn dyfod yn agos i Langefni, cyn codi argae neu gob Malltraeth, ac iddo orlifo yn rhyw gyfnod, fel y galwyd y lle mewn canlyniad yn Llan-y-cefn-llif.

Hefyd, ceir lle arall yn agos yn dwyn y cyffelyb ystyr, sef "Careg-y-forwyllt," (eruption rock); y mae hŵn wedi derbyn yr enw oddiwrth y cynhwrf a wna'r dwfr wrth redeg rhwng y ceryg mawr sydd yn afon Cefni. Tybir mai llygriad yw'r gair Cefni o Cefnllif.

Mae'r eglwys bresenol yn lled newydd; a phriodolir ei hadeiladu i'r diweddar Arg. Bulkeley. Rhoddodd y tir, cyfranodd yn deilwng o hono ei hun fel boneddwr tuag ati; ac adeiladodd bersondy hardd yn nglyn a hi, yr hwn sydd yn un o'r rhai harddaf yn Môn.

Y mae yn y dref addoldai cyfleus gan y pedwar enwad Ymneillduol Cymreig. Yma hefyd y cynhelir Cwrt y mân ddyledion (County Courts). Ar ddydd Iau y cynhelir y marchnadoedd; a'r ffeiriau ar Ion. 2, Maw. 14, Ebr. 17, Meh. 10, Awst 17, Medi 15, Hydr. 23, a'r 6 marchnad wedi hen Galan a'r Nadolig Newydd; a gellir eu hystyried y cynulliadau lliosocaf yn Môn.

Tref Garnedd.—Y mae'r lle hwn yn sefyll oddeutu milldir o bentref Llangefni. Tardda ei henw oddiwrth garnedd fawr o geryg (sepulchral heap of stones) yr hon sydd mewn cae cyfagos.

Yr oedd y lle hwn ar y cyntaf yn breswylfa Ednyfed Fychan, dewr-lywydd byddinoedd, a phrif gynghorwr Llewelyn Fawr, a chyndad Owain Tewdwr; ac hefyd i'r pendefigion, y rhai a'i dilynasant i orsedd Lloegr.

Yr oedd hefyd yn lle genedigol Syr Gruffydd Llwyd, ŵyr Ednyfed; yr hwn a wnaed yn farchog gan Iorwerth I., yn nghastell Rhuddlan, yn y fl. 1284, pan aeth i'w hysbysu am enedigaeth ei fab Iorwerth II., yn nghastell Caernarfon. At yr amgylchiad yma y cyfeiria Ceiriog yn y geiriau canlynol yn nghantawd Tywysog Cymru:—

"A'r brenin mewn eiliad, heb ofyn ei genad,
Wnaeth Gruffydd yn farchog, cyn symud o'r fan!"

ond, er yr anrhydedd yna i gyd, dywed yn mhellaeh:—

"A Chymro fel arfer yw Gruffydd Tre'r Garnedd,
Ffyddlonach o'r haner i faner y Ddraig !"


Yn y fl. 1317, anturiodd Gruffydd i ffurfio cyngrair gyda Iorwerth Bruce, yr hwn a gymerodd teyrn—goron Iwerddon; ac yn y fl. 1322, gwrthgiliodd yn amlwg i anrheithio yr holl wlad, a gorchymynodd amryw weithredodd echryslawn. Rhoddodd y Saeson aergad iddo nes y gorfu iddo encilio i'w amddiffynfa yn Nhregarnedd, yn yr hon y gwarchfyddinoedd yn flaenorol. Hefyd, adeiladodd ef loches gadarn arall—"Ynys Cefni," yn y morfa ychydig bellder oddiwrth ei drigfan. Amgylchynid yr amddiffynfa hon gan ffos lydain a dofn. oedd olion yr hen amddiffynfa hon yw gweled ychydig flynyddau yn ol os nad yn awr hefyd. Cadwodd ei hunan am amser yn y sefyllfa gadarn hon, ond o'r diwedd cymerwyd ef yn garcharor a chludwyd ef i Gastell Rhuddlan, ac yr fuan wedi hyn torwyd ei ben yn y lle hwn. Y mae safle Tregarnedd yn awr yn cynwys adeiladau amaethyddol. Nodir allan ei helaethder gan glawdd sydd o'i hamgylch. Ei harwyneb sydd yn agos i bump aer. Tybia rhai hynafiaethwyr fod rhan o hen ffordd Rufeinaidd i'w gweled, yr hon gynt oedd yn arwain o Moel-ydon ferry ar draws Menai i orsaf Caergybi. Pan gymerwyd i lawr yr hen eglwys Llangefni yn y fl. 1824, cafwyd hyd i gareg fawr o dan ei sylfaen gydag amryw argraffiad au cywrain mewn llythrenau Rhufeinaidd. Hyn yn unig sydd yn ddarllenadwy "Cvlidon Jacit Secverd." **** Yr oedd wedi ei gosod mewn lle unionsyth yn y fonwent, ar y fan lle yr oedd hi wedi ei chael yn y fl. 1829. Wrth symud rhyw glawdd bychan yn ymyl Glanhwfa, yn agos i'r dref, cafwyd hyd i ddeugain o weddillion dynol skeletons, y rhai oddiwrth eu gosodiad yn y lle yr oeddynt yn gorwedd, a ddengys iddynt gael eu claddu mewn prysurdeb, Ac mewn maes yn gysylltiedig a'r lle y mae rhifedi mawr o esgyrn dynol yn wasgaredig ymhob cyfeiriad; y rhai'n a dybir oedd gweddillion o'r dynion a gwympodd wrth warchae Ynys Gefni. Yn agos i'r dref y mae "Chalybrate Spring," yr hwn darddell oedd ar y cyntaf mewn bri mawr, ond yn awr yn ddyladwy i gymesuredd a dwfr arall; gyda'r hwn y mae effeithiolrwydd meddyginiaethol i'r rhai a wanhawyd gan afiechyd.

Hefyd, o berthynas i afon Cefni, ceid ar lafar gwlad oddeutu triugain mlynedd yn ol, yr hyn a ganlyn:-Bu cyfnod o sychder ar Ynys Fôn i'r fath raddau fel y bu llawer o'i thrigolion farw o syched: ni cheid dwfr yn un man ynddi; yr oedd godrau'r cymylau wedi eu rhwymo, a ffynonau y dyfnder fel wedi myned yn hysp. Yn y cyfnod hwn, rhoddwyd careg fawr yn afon Cefni a'r ar graff ganlynol arni—'Pwy bynag am gwel i a wyla,' gan gyfeirio at ymysgaroedd y wlad yn teimlo o eisiau dwfr.

Yn y "Gwyneddon" ceir y sylwadau dyddorol a ganlyn am blwyf Llangefni:—"A large common, called Rhos-y-meirch, is in this parish; and on the west side of the turnpike-road is a chalpheate spring in great repute for rheumatic complaints. In this parish is Lledwigan, where a thresher, of the name of Morris Lloyd, heroically and successfully resisted, and defeated several of Oliver Cromwell's soldiers."