Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llan Sadwrn

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llanfairmathafarneithaf Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanfair-Pwll-Gwyngyll

PLWYF LLAN SADWRN.

Saif y plwyf hwn yn y rhan ddwyreiniol o'r ynys, ac oddeutu pedair milldir o Pont Menai. Cysegrwyd yr eglwys yn y chweched ganrif i St. Sadwrn hen, ap Ynys Gaer Gawch, sant o Bangor Asaf. Derbyniodd y plwyf yr enw oddiwrth fod yr eglwys wedi ei chysegru i'r sant hwn.

Enw Cymraeg yw Sadwrn ar un o'r gau-dduwiau a addolid gan yr hen Frythoniaid, yn ogystal a'r rhan fwyaf o genhedloedd Ewrop ac Asia. Ystyr yr enw yw, "gŵr nerthol o fraich i ryfel:" y gwir enw yw Sawddwrn, Dywedir yn " Hanes Crefydd yn Nghymru," t.d., 158, am Sadwrn, mai mab Bicanys, a chefnder Emyr Llydaw, ydoedd.

Castellior.—Wedi i'r Cadfridog Rhufeinaidd Agricola oresgyn ynys Mon a'i harchwylio yn fanwl, efallai iddo adael ar ei ol rai cof-golofnau o'i enw. Yn y parth pellaf i'r gorllewin mae lle o'r enw "Criccill;" mae yn debyg fod yr hen Frythoniaid yn ei alw felly oddiwrth enw Agricola, fel y cafodd lle yn mhlwyf Llanidan ei alw yn Crug, neu Crig, oddiwrth yr un person. Sefydlodd Agricola gadrodau mewn dau o leoedd gwahanol yn yr ynys hon; gelwir hwy wrth yr enwau—Castellior, Dominorum castra (fortress of lords.) Y mae castell yn arwyddo amddiffynfa Rhufeinig, a iôr yn air yn yr hen Frythonaeg am arglwydd, neu lywydd; felly yr ystyr yw, "amddiffynfa yr arglwyddi." Heb fod yn mhell oddiyma ceir lle arall o'r enw Bodior, h.y., trigfa y llywydd. Hefyd, ceir lle arall eto yn nghwmwd Tal-ybolion, a elwir Presaddfed (praesidii locus—trigfa'r llywydd, neu lys barn y llywydd). Gwneir y gair i fyny mewn rhan o'r gair lladin, praesido-(llywydd); a gair Cymraeg seddfod, am lys barn, ac felly yr ystyr yw ' Llys barn y Llywydd."