Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanfihangel yn Nhowyn

Oddi ar Wicidestun
Plwyf Llechgynfarwydd Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanfair Yn Neubwll

PLWYF LLANFIHANGEL YN NHOWYN.

Plwyf bychan ar ochr dde-orllewinol Ynys Môn. Y mae y tir ardrethol yno o dan 1000 o erwau; a chommins tua'r un mesur yn perthyn i'r lle. Saif y commins hwn ar yr ochr ddeheuol i'r plwyf, a therfyna ar y môr, a gelwir ef" Tywyn trewain." Y mae y gair Tywyn yn tarddu o ddau air, tywod a gwyn: o berthynas i darddiad yr enw Trewain, tybia rhai iddo darddu o'r gair waen, oherwydd gwastad-dir oedd yma cyn i'r tywod gael ei chwythu i fyny o'r môr. Casgla eraill mai Tywyn Trewyn ydoedd. Dywed Mr. Rowlands am dano, mai Tywyn Tre Owain ydoedd; y mae traddodiad yn yr ardal fod yma dref wedi bod unwaith, lle yn awr y mae bryniau tywod; ac fod y dref hono yn cael ei henwi oddiwrth rhyw Owain. Y mae rhan o'r Tywyn hwn yn perthyn i blwyf Llechylched.

Eglwys y Plwyf.—Yr oedd yr eglwys gyntaf yn nghanol Tywyn Tre Owain, tua 150 llath i'r de-orllewin o'r coping sydd ar y railway yn y tywyn; a dyma paham y galwyd y plwyf yr "Llanfihangel yn Nhywyn." Hefyd, gelwir y lle yn "Ferddyn Eglwys." Dywedir fod hen bobl yn cofio y muriau yn sefyll, a rhai yn cofio eu hen deidiau yn dywedyd iddynt fod mewn gwasanaeth yma tua 170 mlynedd yn ol. Ond symudwyd yr hen ferddyn ymaith i wneud brag-dy mewn ffermdy cymydogaethol, a dyna ddiwedd hen eglwys Llanfihangel yn Nhywyn. Y mae yr eglwys bresenol tua milldir-ahaner i'r gogledd o'r hen eglwys: ac yr oedd yn adeiladaeth o'r cyfnod Elizabethaidd, cyn ei hail-adeiladu yn ddiweddar. Saif hon yn nghanol y tir llafur yn y plwyf, ac felly mae yn fwy manteisiol i'r trigolion: mae yma hefyd ysgol berthynol i'r eglwys, yr hon a gynhwysa 100 o blant. Yr oedd yma hyd yn ddiweddar gymunroddion blynyddol at ysgol plant tlodion—30s. oddiwrth y Deon Jones, Bangor: a 10s. bob blwyddyn yn dyfod o Bresaddfed, i'w rhanu rhwng y ddwy hen ferch hynaf yn y plwyf, heb fod yn derbyn cynorthwy plwyfol. Cyfartaledd blynyddol trethi y plwyf at gynorthwyo y tlodion ydyw, 71p. 13s8. Ceir yma le addoliad hefyd gan y Trefnyddion Calfinaidd.

Trwy gŵr y plwyf hwn yr oedd y brif dramwyfa o'r Iwerddon i Loegr, cyn gwneud yr hen lôn bost, fel ei gelwir; ac, y mae y ffordd yma yn dangos yn eglur ei bod wedi bod unwaith yn ffordd Rufeinig; gwelir gwaelodion yr hen ffordd hon rhwng ffermydd Bryn Prudd-der, a Glan y Gors; a rhwng Allwen Ddu, a'r Allwen Goch. Yr oedd i'r gogledd o'r ffordd hon, tua 200 llath o hẹn gastell, neu amddiffynfa a elwir Caer Elen; tybir i'r enw yma darddu oddiwrth Elen, mam Cystenyn Fawr. Yr ystyr yw—Amddiffynfa gwbl ffrwythlawn. Dywedir fod hon wedi gwneud amryw ffyrdd yn y Dywysogaeth. Y mae y gaer yma yn mhlwyf Bodedern, ar y bryn uchaf yn y gym'dogaeth. Cafwyd amryw feddau Bryteinig yma. Y mae fferm arall yn sefyll ar ochr orllewinol y plwyf, rhwng llynau Llewelyn a Dinan; gelwid hi yn Llyn Llywelyn, oddiwrth ynys fechan sydd yn agos yn cael ei galw yn Ynys Llewelyn. Dywed traddodiad mai palas yn perthyn i Llewelyn ydoedd: ond y tebygolrwydd cryfaf yw, mai tŷ at hela ydoedd, gan fod lleoedd yn dwyn yr enw Ceryg yn aml yn dangos terfynau helwriaeth ein hynafiaid. I'r gorllewin o'r fan yma, mewn lle isel a elwir "Ynys y Penrhyn," y mae hen gladda Frytanaidd helaeth; ond erbyn hyn mae y ceryg teneuon y gwastadoedd oedd yn cyfansoddi y feddadeiladwaith, gan mwyaf wedi eu cludo ymaith i adeiladu ty yn y gymydogaeth.

I'r gorllewin o'r fan yma mae Carna, neu "Carnedd yr Esgobion." Yr oedd y tywyn hwn yn faenoriaeth i Esgobion Bangor, a dyma lle yr oedd terfynau y faenoriaeth, a charnes coffadwriaeth terfynau i dir esgobol. I'r dê-ddwyrain o'r Tywyn y mae Rhos Neigr, pentref bach ar lan y môr, a dim ond tywod gwyn ar yr ochr ddeheuol iddo. Tybir mai llygriad o'r gair rus am wlad, a'r gair neigr, o'r gair niger am ddu; ac felly yr ystyr yw "gwlad ddu," am mai mawnog yw y tir. Wrth ddilyn yr afon Crigyll i'r gogledd am tua milldir. a-haner, deuir i le a elwir "Porthor," yn briodol "Porth Ior," neu "Porth y Llywydd."

Ac yn mlaen, haner milldir yn nes i'r gogledd, cyrhaeddir Castellior, lle ceir olion hen amddiffynfa fawr. Gwel ystyr yr enw Castellior, yn y sylwadau ar blwyf Llansadwrn, yn nghwmwd Tindaethwy. Hefyd, i'r gogledd o Porthor, ar ochr orllewinol Crigyll, mae fferm o'r enw Trephwll (Tre-bwll) eto. Mae yn y tir yma gyferbyn a Castellior, olion hen amddiffynfa mae yn deby,gol mai math o ol-amddiffynfa i'r Castellior ydoedd. Ceir fferm arall o'r enw 'Ceryg Cynrig," (dywed un o'r beirdd mai y Cynrig hwn ydoedd mab Meredydd Ddu). Yn nhir Allwen Wen, ar y terfynau, y mae ceryg ar eu penau, ac yr oedd ychydig flynyddau yn ol gareg arall ar ei gwastad tu cefn iddi i'w gweled, a chroes tua phymtheg modfedd o hyd, a deg o led, wedi ei thori yn lled ddofn ynddi. Tebygol yw mai careg fedd rhyw ŵr duwiol o'r hen amser a gladdwyd yno ydyw.