Neidio i'r cynnwys

Hanes Sir Fôn/Plwyf Llanrhwydrys

Oddi ar Wicidestun
Bettws Llanbadric, Neu Cemaes Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Llanfair yn Nghornwy

PLWYF LLANRHWYDRYS.

Gorwedda y plwyf hwn oddeutu wyth milldir i'r gogledd-orllewin o Lanerchymedd. Rhoddwyd yr enw hwn ar y lle oherwydd fod yr eglwys wedi ei chysegru i St. Rhwydrys, neu Rhydrys ap Rhwydrin, brenin Connaught, yn yr Iwerddon, yn y seithfed ganrif, yn ol "Bonedd y Saint;" ond, yn ol y Mona Anti. yn 570. Saif yr eglwys yn agos i fôr Iwerddon, ac heb fod yn mhell o Cemlyn.