Neidio i'r cynnwys

Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Yr Adeiladydd, ac Ereill

Oddi ar Wicidestun
Dechreuad Gwaith Haiarn Tredegar Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn

gan David Morris (Eiddil Gwent)

Cynnydd y gwaith


PENNOD V.

YR ADEILADYDD, AC EREILL.

Adeiladydd Ffwrnesi Gwaith Haiarn Tredegar ydoedd Rees Davies, tad J. Davies, yr hwn sydd yn byw yn awr yn Rumni, a llysdad i'r enwog D. Rees Stephens. Yr oedd Mr. Davies, pan ymgymerodd i adeiladu Ffwrnesi Tredegar, yn byw yn Llangynidr. Ond wedi dechreu ar y gwaith, nid hir y bu cyn symud i Dredegar. A mwy na thebyg mai efe a adeiladodd y tŷ cyntaf yn Nhredegar, sef ei dŷ ei hun, yr hwn sydd y'ngodreu Heol yr Haiarn, Iron Street, yn yr hwn hefyd y bu ef farw. Yr oedd Mr. Davies yn un oedd yn caru pawb a phawb yn ei garu yntau.

Yr un a dorodd fan y Ffwrnesi oedd Mr. Abram Richard, tad Mrs. Bees, gweddw y niweddar William Bees, o'r Moulder's Arms, Sirhowy. Digwyddodd pan oedd Abram Richard yn tyni y tir i lawr i'r dyben o gael lle i'r sylfaen, i ran o'r tir syrthio arno a'i anafu yn dost, a theimlodd oddiwrtho tra fu byw. Wedi adeiadu y Ffwrnesi—gosod i fyny y Peirianau—a phob peth—mewn trefn i'w gosod ar Flast—nid oedd neb yn eu plith yn gwybod dim am y gelfyddyd o doddi haiarn, fel bu gorfod ar Gwmpeini Tredegar anfon at Gwmpeini Sirhowy i fegian arnynt i anfon toddwr, founder, iddynt yr hyn a wnawd gyda'r ewyllysgarwch mwyaf, (canys yr oedd Mr. Atkins, un o Gwmpeini penaf Gwaith Sirhowy, yn frawd y'nghyfraith i Mr. Munkas.) Enw'r gwr a anfonasant oedd Lawrence Hughes, founder, yr hwn a dreuliodd weddill ei ddyddiau yn Nhredegar—a gwnaeth lawer o les trwy ddysgu eraill. Goruchwyliwr y Ffwrnesi oedd William Jones, yr hwn a adnabyddid wrth yr enw Wil Sion y Gof. Prif Oruchwyliwr, Manager, oedd Mr. Richard Fothergill, a'r Talwr, Cashier, oedd Mr. Roland Fothergil. Y pwyswr cyntaf oedd Mr. Henry Jones, tad Mr. Richard Jones, Tredegar. Yr ysgrifenyddion yn swyddfa'r gwaith oeddynt Mr. Hunter, tad y diweddar Samuel Hunter, Chwegfaelwr, Grocer, Tredegar, a Mr. Morgan Rees, tad Mr. John Rees, Crydd, Tredegar, a Mr. Stephen Ells. Wel, dyna'r oll a ellir ar y pen hwn.

Nodiadau

[golygu]