Neidio i'r cynnwys

Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn (testun cyfansawdd)

gan David Morris (Eiddil Gwent)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Tredegar
ar Wicipedia


𝐻𝒜𝒩𝐸𝒮 𝒯𝑅𝐸𝒟𝐸𝒢𝒜𝑅

o

𝐃𝐃𝐄𝐂𝐇𝐑𝐄𝐔𝐀𝐃 𝐘 𝐆𝐖𝐀𝐈𝐓𝐇 𝐇𝐀𝐈𝐀𝐑𝐍

HYD YR

𝐀𝐌𝐒𝐄𝐑 𝐏𝐑𝐄𝐒𝐄𝐍𝐎𝐋.

Buddugol yn Eisteddfod Cymredorion Tredegar am y flwyddyn 1862

AT YR HYN YR YCHWANEGWYD

𝔹𝕣𝕒𝕤𝕝𝕦𝕟 𝕠 ℍ𝕒𝕟𝕖𝕤 ℙ𝕠𝕟𝕥𝕘𝕨𝕒𝕚𝕥𝕙𝕪𝕣𝕙𝕒𝕚𝕒𝕣𝕟

YNGHYD A

𝑪𝑯𝑨𝑵 𝑶 𝑮𝑳𝑶𝑫 𝑰 𝑮𝑳𝒀𝑵 𝑺𝑰𝑹𝑯𝑶𝑾𝒀, &𝒄.

——————

GAN

𝐃𝐀𝐕𝐈𝐃 𝐌𝐎𝐑𝐑𝐈𝐒,

(EIDDIL GWENT,) B.B.D.

TREDEGAR:

ARGRAFFWYD GAN J. THOMAS, HEOL-YR-RGLWYS.

1868.

To W. Bevan, Esq., Ash Vale:

——————

The following performance is with all humility dedicated to you, as a token of respect, for the readiness with which you condescended to become the Patron of this Work. This manuel History of Tredegar —though amall, has been attended with much labour and research; and a great deal of interesting information has been kindly supplied by friends. The aim of the writer has been to give in a small compass, a collection of useful and entertaining matters, and as a sketch it is hoped it will be found sufficiently extensive for the generality of readers.

Sept. 24th, 1868. ———— DM



Englynion i'r Llyfr.

Eiddil Gwent ar ei ddail gwyn,—rydd hanes
Rhwydd hynod o'n dyffryn;—
I fawrhau y llyfr byn—de'wch yn glan,
Nid o wael efrau y gwnawd ei lyfryn.

Llona ei holl ddarllenwyr,—a garant
Gwir ragorol synwyr;—
Doed y rhawg awenawg wyr—
I lefain am ei lyfyr.

Sirhowy. ———— E. DAVIES (Gwentwyson.)

ℍ𝔸ℕ𝔼𝕊 𝕋ℝ𝔼𝔻𝔼𝔾𝔸ℝ.

Pen . I. — RHAGLITH I'R HANES.

NID gwaith hawdd, ond anhawdd dros ben, yw ysgrifenu hanesyn cywir, cryno, a chyflawn am "Ddechreuad a chynydd Gwaith Haiarn Tredegar," am fod rhwystrau anorfod, braidd, ar y ffordd, fel nas gall yr hanesydd mwyaf manylgraff, bron, eu gorchfygu,—o herwydd a ganlyn. Gwyr pawb ac sydd yn gwybod ychydig neu ddim am y Gweithfeydd Haiarn, os bydd Ffwrnes wedi bod ugain neu ddegarugain o flynyddau dan Flast, fel y dywedir, ei bod yn ei thynu i lawr i'r dyben i roi Aelwyd newydd ynddi. Yn y cyfamser tynant i lawr y Tawdd—ddyddiad (Casting—date) oedd ar enau y Ffwrnes, gan ei daflu i'r malurion (rubbish), a gosod yn ei le ar enau yr Aelwyd newydd dawdd— ddyddiad arall, sef o'r flwyddyn y gosodwyd yr Aelwyd ddiweddaf i mewn. Er engrhaifft. Cefais ar fy meddwl yn ddiweddar i dalu ymweliad a hen Ffwrnesi yn Ngwaith Haiarn Tredegar, lle bum yn ymdwymo weth eu gwres, a chysgodi rhag llawer cafod oer o dan eu magwyrydd, er's mwy na 40 mlynedd ol. Gan mai fy unig neges oedd cael allan oedran yr hên Ffwrnesi, cyfeiriais fy nghamrau tuag at yr hen Ffwrnes, Rhif 3ydd, No. 3. yr hon oedd, feddyliwn, tua 60 mlwydd oed. Ond, cefais fy siomi yn fawr, pan welais ar enau yr hen Ffwrnes y dyddiad hwn—1861. Wel, meddwn wrth y toddwr, founder, yr hwn oedd gerllaw imi, "Mae yr hen Ffwrnes dros 60ain mlynedd yn ieuengach nac oeddwn i yn meddwl ei bod." "O" meddai'r Toddwr, yr ydys wedi bod yn gosod Aelwyd newydd ynddi." "Pa le mae'r hen Aelwyd y'nghyda'r dyddiad date?" "O" atebai'r toddwr, maent y'mysg y malurion, rubbish, yna yn rhywle :"—felly yr holl hen Ffwrnesi eraill namyn Rhif 5ed, No. 5, y'nghyda'r pedair Ffwrnes a elwir Cubilos. Gwelir yn amlwg oddiwrth hyn, a phethau eraill a allesid en henwi, fod yn ofynol fod yr hanesydd wedi byw flynyddau meithion yn y lle—a'i fod wedi ymgyfeillachu llawer iawn a'r hen drigolion cyn y gall dynu ymaith y mwswn sydd wedi tyfu ar hynafiaeth Gwaith Haiarn Tredegar. Ar byd y tir hwn yr ymlwybraf, gan gadw mewn golwg hynafiaeth Tredegar yn brif-nod i'm hymchwiliadau. Ni bydd imi, am y tro hwn, gyfyngu fy hun at goethder iaith nae orgraff, namyn traethu fy llen mewn iaith sathredig a dealladwy—"llafar gwlad." Nid am nad yw'r iaith Gymraeg yn ddigon cyfoethog i roi tri gair am bob un i'r Saesonaeg; ond am fod y Saesonaeg wedi bod mor aflwyddianus a rhoddi enwau mor ddiystyr a dienaid ar bethau perthynol i'r Gweithfeydd Haiarn, fel nad ydynt yn rhoddi meddylddrych lleiaf am y weithred na'r gweithydd. Gan nad oes a fyno y Testyn ag ystadegau masnachol na chrefyddol, ymateliais oddwrth hyny, gan ddilyn fy nhestyn wedi imi gael gafael—arno Medi 30ain, 1862.

PENNOD II.

HANES DECHREUAD A CHYNNYDD GWAITH HAIARN TREDEGAR.

——————

Glyn Sirhowy—Braslun neu ddesgrifiad o hono.

Cynhwysiad—Glyn Sirhowy—yr Afon—Traddodiad y'mysg yr hen drigolion am darddiad ei henw— Cynyg ar roddi iawn ystyr i'r enw—Ei Beirdd.

——————

Glyn Sirhowy,—lle saif Gwaith Haiarn Tredegar ynddo, sydd tua 16eg milldir hyd; yn cael ei amgylchynu a chadwyn o fryniau talgribog,—o du y Dwyrain gan Mynyddislwyn, ac o du y Gorllewin gan blwyf Bedwellty—yn hytrach plwyf St, Sanan; yn herwydd mai St. Sanan yw enw yr Eglwys. Nid yw Glyn Sirhowy ond cul iawn yn ei ddechreuad, ond tua phum' milldir islaw Tredegar dechreua ymagor ac ymledaenu, nes ffurfio ei hun yn un o'r dyffrynoedd harddaf a pharadwyseiddiaf ac y sydd rhwng bryniau uchel Gwent a Morganwg. Ac ar lechwedd y bryniau hyn, ie, hyd yn nod ar eu penau hefyd, —gwelir tyddyn. dai heirdd a phalasau gorwychion, —yn cael en hamgylchynu a meusydd toraethog a ffrwythlawn. Tua mis Medi, swynir meddwl yr edrychydd yn fawr, wrth weled y medelwyr ar medelesau, yn gatrodau rheolaidd yn tori i lawr cynyreh y tir,—ac ar ben pob grwn yn yfed iechyd da i'r hwsmon—a rhad Daw ar y tir—yn ol defod ac arfer yr hên Wentwysiaid. Ac os try yr edrychydd ei lygaid at odreuon y glyn, cyferchir ef gany rhesyn, y tiwlyn, y lili, y myrtwydd, y box, a'r gwynwydd, nes peri iddo dori allan mewn hwyl nefolaidd gan daro tant ar yr hên bennillion a gyfansoddodd y bardd wrth weled ei gydgenedl, y Cymry, yn myned—mintai ar ol mintai, tua gwlad y Gorllewin, sef America:— {{center block| <poem> "Hoff genyf am hên wlad fy nhadau,— Ei gelltydd, ei bronydd a'i bryniau; A'r gweinwydd mwyn llon, addurnant ei bron, A'i heirddion wiw—lwysion balasau.

Y Cymro, er morio'r Amerig.— Dros donau i'r llanw pellenig, Hiraethu a wna—a'i galon fydd gla— Am Walia fwyneiddia fynyddig.

'E genir am randir yr India,— Gan ganmol dewisol wlad Asia; (Boed iddynt eu clod) mae trysor yn bod— Diddarfod dan waelod hên Walia.

Afon Sirhowy. Dywed yr enwog Drayton yn y Polyolbion[1]:— "Nid oes prin aber yn Morganwg na Gwent nag ydyw yn dwyn ei thras at groth ffrwythlawn Brycheiniog." Felly Afon Sirhowy, sydd yn tarddu allan o welyau tywod a chalchfaen Brycheiniog. Dechreua yr afon hon, sef Sirhowy, daenu ei gwely o fewn i dair milldir i Dredegar, sef wrth y lle a adnabyddir wrth yr enw Ffynon y Dug (Duke's Well). Er nad yw ond eiddil a gwanaidd yn nechreu ei thaith, fel braidd y dichon orchuddio hyd yn nod twmpath y wadd—na myned ychwaith dros gareg fechan heb ymddoleni o'i hamgylch wrth geisio gweithio ei ffordd ymlaen i'w thaith. Ond derbynia i'w mynwes lawer nant ar ei thaith, yn enwedig ffynon Sion Sieffrey, yr hon sydd yn arllwys ei ffrydiau iddi fel rheieidr nerthol. Ac ar ôl cyrhaedd Blaen y Cwm, ceir nentydd ereill yn talu eu teyrnged iddi yn awr â yn ei blaen fel cawres gan dorchi ei lewisau—a dangos ei breichiau gwynion, fel pe b'ai am roddi hèr i bob rhwystrau, a osodid ar ei ffordd, i'w lluddias ar ei thaith. Ar ol iddi fel hyn adnewyddu ei nherth, a theithio tua thair milldir o ffordd, dechreua weinyddu ei chymwynasau, trwy fwydo chwythbeirianau Gwaith Haiarn Sirhowy, ynghyda rhol—beirnianau a chwyth—beirnianau perthynol i Waith Haiarn Tredegar. Yna a yn ei blaen gan adnewyddu ei nherth o hyd. Mae'r afon 'nawr yn cael ychydig seibiant—yn dechreu canu un o'r peroriaethau melusaf, fel merch soniarus â llais toddedig, yn sio y baban i gysgu:— mae'r holl goedydd a'r llysiau yn talu parch iddi. Mae'r gwydd yn tyfu o amgylch ei thraed, y myrtwydd yn gwarogi yn ddistaw ger ei bron, y lili, er yn wylaidd, fel morwyn bur yn sirioli ac yn chwerthin arni; fel nas gall calon fawr, gynes, ac enynol y bardd na darfelyddion mwyaf cyfoethog eu crebwyll, osod allan mewn mawlgerdd y filfed ran o'i theilyngdod fel cyfrwng cynhaliaeth dros naw mil o drigolion. A gellir dywedyd am dani, mewn cysylltiad a'r Glyn—"Gwlad yr hon y mae ei cheryg yn haiarn." (Deuter. 8 b. 9 ad.) Mae afon Sirhowy wedi, ac yn bod, yn enwog am ei brythillod, fel y canodd rhyw hên brydydd o'r Glyn dribanau iddi—

"Mi dreuliais lawer d'wrnod,
Ar lan Sirhowy wiwglod,
I dynu cuau ar frigau'r fro,—
A thwyllo y brythilod."

Ar lan yr afon hon y ganwyd a magwyd yr enwog D. Rees Stephen—a rhwng ei chorlenydd meillionog y cyfansoddodd ei epistol cyntaf erioed, yn yr iaith Gymraeg, yr hwn sydd i'w weled y dydd heddyw yn "Seren Gomer," pan oedd o dan olygiad ein hanwyl, anwyl GOMER. Ar lan yr afon hon y treuliodd Mr. J. Jones, Gellygroes, bên ddisgybl i IOLO MORGANWG, ac Aneiryn Jones, ei fab. (Aneiryn Fardd) y rhan fwyaf o'u dyddiau. Hefyd y byth gofiadwy David James, Cwm Corwg (Dewi ap Iago), yn'ghyda'i frodyr, Ieuan ap Iago a Thomas ap Iago,—

A degau o lon—feirdd digoll,
A Brychan fad, eu tad hwynt oll.

O ie, bum bron ao anghofio yr hên Eiddil Gwent, yr hwn sydd wedi treulio y rhan fwyaf o'i ddyddiau ar lan Sirhowy. A meddyliwyf mai nid anmhriodol fyddai gosod y bardd Cynddelw yn rhestr beirdd Glyn Sirhowy, canys y mae ef wedi treulio llawer blwyddyn bellach yn Sirhowy, ac yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yn nyfroedd tryloew yr afon hon.

Enw yr Afon.—Rhydd yr hên drigolion hanes digrif iawn am darddiad yr enw Sirhowy—a thyma fe, "Pan oedd y Cymry a'r Saeson mewn rhyfel a'u gilydd daeth y Cymry pan oeddynt ar eu hencil (retreat) hyd at Ffynon y Dug (Duke's Well) idd y dyben o ddibuddedu eu hunain, ac i dori eu syched. Ond pan welodd y Dug, eu Pencadben, y gelynion yn agoshau, gwaeddai allan, nerth ei ben, Pwy o honoch sydd yn barod i wynebu'r gelynion—wele hwynt yn d'od?' Ac atebai un o'r milwyr, Syr 'wy i,' un arall atebai Syr 'wy i,' nes iddi fyned yn Syr 'wy i' trwy yr holl fyddin. Y'mlaen a hwy, law a chalon yn erbyn y gelyn, gan ladd ar y de a'r aswy, nes oedd eu saethau yn cymylu'r awyr, ac enill y fuddugoliaeth yn llwyr ar y gelynion A mynodd y Dug, meddant hwy, alw yr afon yn Syr 'wy i' byth wedi byn. Er fod rhyw ddigrifwch i'w weled yn y traddodiad hwn o eiddo'r cyndrigolion—gwelir yn amlwg nad ydyw ddim namyn na ffugchwedl (romance).

Cynyg ar iawn ystyr i'r enw.—Meddyliwyf mai gair cyfansawdd yw Sirhowy, o sir, gwreiddyn y gair siriol, a gwy neu wy, sef hên air Cymraeg am ddwfr, neu ddyfroedd. Felly ystyr y gair yw siriolddw'r, neu ddyfroedd dymunol i sirioli'r meddwl. Felly ceidw yr afon yr enw priodol hwn iddi ei hun hyd nes y llyncir hi i fyny gan yr afon Ebw. Ond saif Glyn Sirhowy yn gof golofn o'i henw tra tywyno haul ar fryniau Gwalia hên. Wel, hwyrach y cwynir arnaf am ymdroi fel hyn cyn dyfod at fy nhestyn; ond, meddyliwyf fod cysylltiad anwahanadwy rhwng y Glyn—a'r Afon—a Hanes Dechreuad a Chynnydd Gwaith Haiarn Tredegar. Hefyd, barnwyf byddai rhoi hanes noeth am Weithfa Haiarn Tredegar, heb fyned yn amgylchiadol i'r testyn, ond hanesyn sychlyd ac annyddorol dros ben

PENNOD III—TREDEGAR.

Tredegar sydd dref boblogaidd iawn, yn cynhwys 9.776 o drigolion. Ei phellder o Lundain yw 156, trwy y Feni; o Gaerdydd, 32; o'r Feni, 12; Gasnewydd, 24; ac o Ferthyr 8 o milldiroedd. Cafodd Tredegar ei henw oddiwrth Tredegar Fawr, sef enw y palas neu drigle yr hên Forganiaid, y rhai oeddynt ddisgynyddion o Cadifor Mawr, ap Collwyn;—a pherchenogion y tir lle saif Tredegar arno. Rhoddir llawer iawn o ystyrion i'r gair Tredegar. Y mysg eraill geilw rhai ef Tri—deg—erw, a mynant, er bodd ac anfodd, mai dyna yw'r iawn ystyr o'r enw. Ond pan ystyriom mai yr hên air Cymraeg am Ddaear nea Daear, yw Ar, ac os digymalwn y gair Tredegar—fel hyn, Tre Deg Ar, gwelwn yn amlwg mai iawn ystyr yr enw yw Tre—daear—deg. Mae llawer iawn o balasai yr hên fone- ddigion Cymreig, y'Nghymru, yn myned dan yr enw Trefel Trenewydd, palas yr anrhydeddus Arglwydd Dinevor hefyd Tregoib, palas ardderchog Mr. Hughes, ger Llandeilo Fawr, a llawer o balasau ereill a allesid eu henwi.

PEN. IV.

DECHREUAD GWAITH HAIARN TREDEGAR

Wedi i Mr. Munkas, mewn cysylltiad a Mr. Fothergill, gael addewid am afaelrwym (lease) ar y man lle saif Gwaith Haiarn Tredegar arno, yn ffodus iawn, daeth Mr. Humphrey, Penydaren, i mewn i fod yn rhanfeddianydd o Weithfa Tredegar. A chan fod Mr. Humphrey yn frawdynghyfraith i Sir CHARLES MORGAN, TREDEGAR FAWR, llwyddasant i gael gafaelrwym (lease) ar y fan ddewisedig ganddynt. Ond wedi iddynt daflu golwg gyffredinol ar y lle, fel man cyfleus i adeiladu Gweithfa Haiarn, siomwyd hwy yn fawr, canys yr oedd rhyw fân diroedd mewn cysylltiad ar man dewisedig, yn eiddo i un Paul Harri, yr hwn oedd yn byw y pryd hwnw mewn amaethdy bychan, gerllaw y lle mae ystablau Tredegar yn nawr. Y'ngwyneb hyn nid oedd dim yw wneyd ond ceisio denu yr hen wr i werthu ei afaelrwym, lease. Ond yr oedd yr hen Baul yn parhau i nachâu o hyd, nes o'r diwedd i'r masiwn, yr hwn oedd yn adeiladu y Ffwrnesi, i ddenu yr hen wr ar y cruse, fel y dywedir. Ac yn llechwraidd fel hyn llwyddodd arno i werthu ei hawlfraint o'r tir, hwyrach ag oedd wedi bod am ganoedd o flynyddoedd yn meddiant ei deulu,a hyny am ryw swm fechan o arian ar lawr, ynghydag wyth swllt yr wythnos tra byw!! Ond nid efe yw'r unig Esau y'mhlith y Cymry, a werthodd ei enedigaeth fraint am un saig o fwyd. Wedi cael pob peth i gyddaro fel hyn, awd ymlaen a'r gorchwyl o adeiladu. Adeiladwyd y tair Ffwrnes gyntaf rhwng y flwyddyn 1800 a 1801, ond ni ddichreuwyd eu gosod dan Flast cyn y flwyddyn 1802. Cadarn- heir ni yn hyn, pan ystyriom nad oedd holl drigolion plwyf Bedwellty yn y flwyddyn 1801 ond 619. Gwel Pigot's Directory am y flwyddyn 1831, tudalen 665. Ac yn y flwyddyn 1811, y'mhen naw mlynedd wedi i Waith Tredegar gael ei ddechreu yr oedd trigolion plwyf Bedwellty yn 4,590, ac yn y flwyddyn 1821 yn 6,384, eto yn 1831 yr oedd rhif y trigolion yn 10,637, a bernir fod yr hanereg, moiety, yn perthyn i Dredegar. Gwel yr un llyfr, sef Pigot's Directory, a'r un tudalen. Mae yn ddiamheuol fod yn rhwyddach adeiladu wyth ffwrnes mewn blwyddyn yn awr nag adeiladu tair ffwrnes yn Nhredegar driugain mlynedd yn ol. Yn ngwyneb pob anfanteision, ie, anfanteision o'r mwyaf, yr adeiladodd Cymdeithion, Company, Tredegar, y gwaith sydd yn awr yn destyn ein hymchwiliadau. Yr oedd celfyddyd y pryd hwnw y'mhell iawn yn ol, at beth yw hi 'nawr yn ein dyddiau ni. Yn yr amser hwnw, driugain mlynedd yn ol, yr oedd cymaint o draul ar y Cwm'ni am gludo un Chwythbeiriant, Blast Engine, o Fonachlog Castelnledd i Dredegar, ac yw gwerth y peiriant yr amser presenol. Canys, am nad oedd Tollffyrdd, turnpike, yr amser hwnw, o Feni na Merthyr ychwaith i Dredegar, gorfu iddynt dalu am gludo'r horse-head, prif ysgogydd y peiriant, o'r Fonachlog i Gasnewydd, ac o Gasnewydd i'r Feni, ac o'r Feni, dros y mynydd, i Dredegar. Ac wrth ystyried mai un cymal o'r peiriant oedd hwn, a bod y cymalau eraill ar ol, gwelwn ar unwaith fod traul aruthrol arnynt pan yn adeiladu y Gwaith ar y cyntaf rhagor yn awr. Heb law hyn, yr oedd anhawsderau eraill ar y ffordd, sef dyfrlynoedd i fwydo'r Peirianau, a chledrffyrdd i gludo'r mwn a'r glo tua'r ffwrnesi. Yn herwydd hyn buont yn ymboeni am rhyw amser, gan wneuthur y goreu o'r gwaethaf. Cloddiasant ddyfrlyn bychan, y'nghyda man gwteri, idd y dyben o fwydo y llyn, pond. Wel, yr oedd hyny yn ateb o'r goreu yn y gauaf, ond pan ddeua'r haf nid oedd o fawr werth canys yr oeddynt yn gorfod talu am gario dwfr i'r llyn, yr hwn a alwent yn Cawnel Ond trodd y rhôd er daioni i filoedd heblaw'r Cwmpeiui trwy iddynt, mewn cysylltiad a Chwmpeini Sirhowy, gael caniatad gan y Duke of Beaufort i wneyd dyfrffos trwy ei dir ef:hefyd i wneyd gored tuag at droi dwfr yr afon i'r ddyfrffos, feeder, at wasanaeth Sirhowy a Thredegar. Dyma'r tro cyntaf a gafodd yr afon i weinyddu ei chymwynasau di—dor ac anmhrisiadwy. Dyma'r amser hefyd y gwnawd y llyn a elwir Pownd y Gwaith.

PENNOD V.

YR ADEILADYDD, AC EREILL.

Adeiladydd Ffwrnesi Gwaith Haiarn Tredegar ydoedd Rees Davies, tad J. Davies, yr hwn sydd yn byw yn awr yn Rumni, a llysdad i'r enwog D. Rees Stephens. Yr oedd Mr. Davies, pan ymgymerodd i adeiladu Ffwrnesi Tredegar, yn byw yn Llangynidr. Ond wedi dechreu ar y gwaith, nid hir y bu cyn symud i Dredegar. A mwy na thebyg mai efe a adeiladodd y tŷ cyntaf yn Nhredegar, sef ei dŷ ei hun, yr hwn sydd y'ngodreu Heol yr Haiarn, Iron Street, yn yr hwn hefyd y bu ef farw. Yr oedd Mr. Davies yn un oedd yn caru pawb a phawb yn ei garu yntau.

Yr un a dorodd fan y Ffwrnesi oedd Mr. Abram Richard, tad Mrs. Bees, gweddw y niweddar William Bees, o'r Moulder's Arms, Sirhowy. Digwyddodd pan oedd Abram Richard yn tyni y tir i lawr i'r dyben o gael lle i'r sylfaen, i ran o'r tir syrthio arno a'i anafu yn dost, a theimlodd oddiwrtho tra fu byw. Wedi adeiadu y Ffwrnesi—gosod i fyny y Peirianau—a phob peth—mewn trefn i'w gosod ar Flast—nid oedd neb yn eu plith yn gwybod dim am y gelfyddyd o doddi haiarn, fel bu gorfod ar Gwmpeini Tredegar anfon at Gwmpeini Sirhowy i fegian arnynt i anfon toddwr, founder, iddynt yr hyn a wnawd gyda'r ewyllysgarwch mwyaf, (canys yr oedd Mr. Atkins, un o Gwmpeini penaf Gwaith Sirhowy, yn frawd y'nghyfraith i Mr. Munkas.) Enw'r gwr a anfonasant oedd Lawrence Hughes, founder, yr hwn a dreuliodd weddill ei ddyddiau yn Nhredegar—a gwnaeth lawer o les trwy ddysgu eraill. Goruchwyliwr y Ffwrnesi oedd William Jones, yr hwn a adnabyddid wrth yr enw Wil Sion y Gof. Prif Oruchwyliwr, Manager, oedd Mr. Richard Fothergill, a'r Talwr, Cashier, oedd Mr. Roland Fothergil. Y pwyswr cyntaf oedd Mr. Henry Jones, tad Mr. Richard Jones, Tredegar. Yr ysgrifenyddion yn swyddfa'r gwaith oeddynt Mr. Hunter, tad y diweddar Samuel Hunter, Chwegfaelwr, Grocer, Tredegar, a Mr. Morgan Rees, tad Mr. John Rees, Crydd, Tredegar, a Mr. Stephen Ells. Wel, dyna'r oll a ellir ar y pen hwn.

v

CYNNYDD Y GWAITH.

Yn y flwyddyn 1806 adeiliadwyd y Ffwrnes rhif 4 No. 4. Ac yn y flwyddyn 1807 adeiladwyd y pudling Mae yn naturiol ddigon gofyn yn y man hyn, beth oeddynt yn ei wneuthur o'r metel yn ystod pum mlynedd o amser ? Gellir ateb——eu bod yn ei werthu, fel yr oedd Cwmpeini Peny-y-cae a Sirhowy, a'i gludo ar gefnau'r mulod i Weithfeydd Haiarn Merthyr, canys yn yr amser hwnw nid oedd un ffordd o Dredegar i Ferthyr, namyn ffordd geffyl neu droedffordd. Y ffordd i Ferthyr y pryd hwnw oedd heibio i Balasdŷ Mr. Theophilus Jones, lle mae W. Bevan, Ysw. yn byw yn awr, a thrwy Rasa Brynoer a Phantywaun. Yr oedd olion rhyw hen ffordd i'w gweled o Bantywaun yn myned heibio Nantybwch a thros Dwyn y Duke—a'i chyfeiriad tua'r Feni. Galwai yr hen drigolion hi, "Y ffordd Rhufeinig." Ond y mae yn fwy na thebyg mae fforth y Porthmon, Drover, oedd hon yn yr amser gynt. Ond rhag crwydro fel hyn, awn at y testyn Wedi gorphen o honynt y llecheirnfa, pudling, yr oedd mor anhawdd iddynt gael gweithwyr oedd yn deall ei gweithio ag oeddynt i gael toddwr, founder, i weithio y Ffwrnesi. Ond i gyflawni y diffyg hwn, anfonodd Mr. Humphrey, Penydaren, ryw nifer o hen weithwyr i Dredegar i ddechreu y puddling, ac i ddysgu ereill. Yn eu plith yr oedd Thomas Hughes, David Morris,[2] a James Matthews, tad Mr. Matthews, yr hwn fu'n brif arolygydd y Felin Newydd. Dyma'r amser, sef yn 1807 y dechreuodd Cwmpeini Tredegar wneyd haiarn yn barod i'r farchnad; a llwyddasant i gael cymeradwyaeth nid bychan yn y marchnadoedd haiarn, a hyn oedd prif achos ei gynydd graddol. Wedi i weithfa haiarn Tredegar fel hyn wneyd ei hun yn gyhoeddus i'r byd masnachol, daeth galwad anghyffredin am ei haiarn, fel y bu gorfod arnynt brynu metel am rai blynyddau o waith haiarn Rumni. Mae'r ysgrifenydd yn cofio am hyn,—sef fod un Thomas Davies yn cludo metel mewn men pedair olwyn o Rumni i Dredegar, a hyny am rai blynyddau. Ond y peth mwyaf ei bwys mewn cysylltiad a llwyddiant a chynnydd y gwaith oedd, nad oedd ffordd o Dredegar i Gasnewydd, idd y dyben o drosforu'r haiarn. Am hyny anfonasant ddeiseb i'r Senedd i gael cledrffordd o Dredegar i Casnewydd, a llwyddasant yn eu hamcan. Ar ol hyn awd y'nghyd a gwneyd y ffordd am dymor, temporary, ond bu rai blynyddau cyn dyfod i'r perffeithrwydd y mae ynddi 'nawr. Un o'r rhai cyntaf a gludodd haiarn ar hyd y gledrffordd newydd hon oedd Morgan Saunders,—a'r un cyntaf a dorodd y telpyn glo (yr hwn oedd o faintioli anferth, yn pwyso tua dwy dynell) oedd George Williams—maent eill dau yn y bedd er's llawer blwyddyn. Tua'r amser hwn, sef 1812, y gwnawd y llyn sydd yn myned dan yr enw "Pownd y Brynbach." Ac idd y dyben o rhwyddhau masnach mynodd y Cwmpeini geiniogau gopr wedi eu bathi, ac arnynt "Tredegar Company, One Penny Token, 1812." Gwelwn yn amlwg, wedi i'r Cwmpeini gael pob peth i gyd—daro, yr oedd y gwaith yn myned y'mlaen yn hwylus. ac yn cynyddu. Yn y ffwyddyn 1817 adeiladwyd rhif 5ed, No. 5, a helaethwyd y balling a'r pudling. Ar yr olwg hyn gellir dywedyd am Dredegar fel y dywedai Gildad wrth Job gynt. "Er fod dy ddechreuad yn fechan, eto dy gynnydd a fydd yn ddirfawr."

Y pryd hwn yr oedd Mr. Forman, Penydaren a Mr. Thompson, Llundain, yn rhanog yn y gwaith, yn ffurfio y Cwmpeini cryfaf ar y llinell haiarn, iron line. Yr oedd Mr. Thompson yn cael ei ystyried yn un o'r dynion cyfoethocaf yn y Deyrnas, hefyd yn un o'r marchnatawyr goreu yn y farchnadfa haiarn. Tua 18 mlynedd yn ol, daeth i dalu ymweliad a Thiedegar, a chafodd ei daro yn glaf,—a bu farw mewn ychydig ddyddiau, er colled, nid bychan, i Waith Haiarn Tredegar. Yn y flwyddyn 1834 adeiladwyd melin haiarn newydd, yr hon a elwir y Guide—mill. Yr oedd y Gwaith pryd hyn yn myned y'mlaen yn hwylus a llwyddianus iawn, fel bu gorfod ar y Cwmpeini adeiladu un o'r melinau haiarn mwyaf ar y llinell haiarn—yn cynwys pedair melin, neu bedwar par o roliau, rolls. Dyma ni 'nawr wedi dilyn y Gwaith o'i ddechreu i'w ddiwedd, namyn yr ogwyddffordd, incline, a wnawd yn amser y bythgofiadwy Mr. Davies, yr hon sydd yn dwyn i mewn i'r Cwmpeini tua £500 yn y flwyddyn, Ond bu farw y dyngarwr enwog hwn; ond bydd ei enw yn uchel ac anrhydeddus o genedlaeth i genedlaeth.

ADFEDDYLIADAU.

Y Mwnwyr a'r Glowyr.—Pan ddechreuwyd gwaith haiarn Tredegar, yr oeddynt yn codi mwn at y gwaith trwy glirio ymaith wyneb y tir i'r dyfnder ag oedd y mwn yn gorwedd yn y tir, yr hwn a alwent hwy patch Nid oedd y cyfeir—ogofau, levels, yn bodoli yn yr amser hwn, oherwydd fod y mwn y pryd hyny i'w gael mor agos i wyneb y tir—ond ni fuwyd yn hir cyn gweled yr angenrheidrwydd o Gyfeirogofau, Levels. Yr oedd Mr. Theophilus Jones, pan yn fyw, yn un o'r meistri level henaf,—a threuliodd y rhan fwyaf o'i ddyddiau fel y prif arolygydd tanddaearawl Tredegar. Enwau y mwn a godir yn ngwaith Tredegar ydynt—y wythien goch, y wythien lâs, y wythien dlawd, pin Siencin, pin garw. Enwau'r glo—hen lo, gloyn tan, cilwych, llathed, trichwarter, gloyn llathed, gloyn mawr heled, bedelog, glo engine, glo bach, &c. Y cyfeirogofau (levels) cyntaf oedd level Brynbach, level y brewhouse, a level y yard. Ac er cymaint o fwn a glo a godwyd o ddechreuad y gwaith hyd yn awr mae digon o hono y'ngrombil y ddaear am ganoedd o flynyddau eto. Er y clywir dynion yn siarad fel hyn weithiau : "dear anwyl, beth ddaw o'r tai a meddianau y dynion sydd a hwy 'nol i'r gweithfeydd ddarfod?" Ond bydd y gweithfeydd haiarn yn bodoli rhwng bryniau Gwalia hen pan bydd wyrion, ie, orwyrion y plant sydd y'nawr wedi meirw. Dywed yr enwog Ddaearegwr, Mr. Llewelyn, Pontypool, y pery cae glo Cymru ei weithio am saith cant o flynyddau eto. A dywed un gwr galluog arall—fod digon o lo y'Nghymru ei hunan i ddiwallu y deyrnas hon am ddwy neu dair mil o flynyddau. Am hyny na ddigaloned neb y'ngwyneb hyn, Fe ddaw Rhagluniaeth lawn a'i thoraeth iach, helaeth yn ei chol. Er bod mewn prinder, cawn fyw mewn llawnder, mae'r amser goreu 'ol. Prif arolygyddion y gwaith y'nawr yw Mr. Reed a Mr. Bevan. Ond mwy na thebyg yw fod holl ofalon y gwaith o tan y ddaear ac ar y ddaear—yn pwyso yn drwm ar ysgwyddau Mr. W. Bevan, Ash Vale-house. Wedi myned o honom fel hyn dros fanylion gwaith haiarn Tredegar—mae un peth sydd yn teilyngu ein sylw manylaf, sef Samuel Homphrey, Yswain, yr hwn fu yn brif arolygydd ar waith haiarn Tredegar am 48 o flynyddoedd, iddo ef yn unig mae y Cwmpeini yn ddyledus am lwyddiant a chynydd gwaith haiarn Tredegar. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr holl waith o'r flwyddyn 1817 hyd at amseriad y Felyn Newydd, yn 1849. Ar ei ysgwyddau ef, fel prif arolygydd, y gorweddau holl bwysau a gofalon y gwaith; a gallwn sicrhau hyn—na fu un gwaith haiarn ar fynyddau Cymru yn myned y'mlaen yn fwy hwylus a rheolaidd na gwaith haiarn Tredegar, o dan olygiad Samuel Homphrey, Ysw. Hwyrach y beiir arnaf am beidio tynu ystadegau o'r haiarn a wnawd trwy'r holl amser y'ngwaith haiarn Tredegar. Wel, nid gwaith anhawdd fyddai hyny, ond cael gwybod pa faint o amser y buont yn segur. Ond fel y maent y'nawr mewn gwaith, a gadael eu bod yn gwneuthur 80 tynell yr wythnos, byddai hyny i naw ffwrnes yn 37,440 yn y flwyddyn.

Bydded i'r darllenydd manylgraff gofio, fy mod yn cyfrif amser S. Homphrey, Ysw., o'r amser y daeth i fod yn brif arolygydd gwaith haiarn Tredegar, hyd yr amser y gwerthodd ef ei hawl ac yr ymneillduodd o fod yn rhanfeddianydd yn y gwaith.

Wele fi wedi rhoddi braslun o hanes gwaith haiarn Tredegar—fel drws agored i'r neb a fyno ymhelaethu arno.—Byddwch wych. Dengys y Daflen hon sefyllfa Gwaith Haiarn Tredegar o'r flwyddyn 1821 hyd y flwyddyn 1862.

Heblaw pedair o beirianau mawrion sydd yn codi y dwfr o'r pyllau y'nghyda'r man beirianau sydd o amgylch y gwaith.



Y Ffwrnesi a'u Dyddiadau.

Rhif 1, 2, a'r 3, a adeiladwyd yn y blynyddau 1800 a 1801; rhif 4 a adeiladwyd yn y flwyddyn 1806; rhif 5 yn 1817. Dyna yw dyddiadau yr hen ffwrnesi.

Y Pedair Cubilo.

Adeiladwyd y ddwy gyntaf yn y flwyddyn 1840; adeiladwyd y ddwy arall yn y blynyddau 1853 a 1856.



Rhif Trigolion Tredegar yn ol yr hanereg (moiety,) o drigolion y plwyf—yn 1801 oedd 619; yn 1811 4,590; yn 1821, 6,382; yn 1831, 10,637. Rhif trigolion Tredegar ar ben ei hun—yn 1851 oedd 8,305; yn 1862, sef y flwyddyn hon, 9,776.

Cofier mae hyd y flwyddyn 1862 mae'r hanes yn cyrhaedd.

BRASLUN
O
HANES PONTGWAITHYRHAIARN.




PONT-GWAITH-YR-HAIARN sydd rhyw fath o bentref bychan a dinod, ar lan afon Sirhowy, o ddeutu tair milldir a haner goris Tredegar. Cafodd yr enw hwn arno oddiwrth y ffwrnes a fu yno yn toddi haiarn flynyddoedd meithion yn ol—a saif yr enw hwn ar y lle, hwyrach, tra b'o afon Sirhowy yn golchi traed clogwyni Manmoel, a gwae fyddai i ên y gwr a gynygai newid yr enw hwn a gysegrodd yr hen ffwrnes arno, gan Arglwyddes Hall, Llanover, (Gwenynen Gwent,) am mai yr Arglwyddes yw perchenog y lle; hefyd ei sel a'i brwdfrydedd dros gadw i fyny yr enwau Cymreig sydd ar lefydd y'Nghymru. Haner can' mlynedd yn ol, sef yn y flwyddyn 1818, y telais ymweliad gyntaf a Phont—gwaith—yr—haiarn. Y pryd hyny nid oedd achos i'r hynafiaethydd mwyaf manylgraff, betruso am funud yn ei feddwl am fodolaeth hen ffwrnes Pontgwaith—yr—haiarn, canys yr oedd y tyrau duon o farwor cinders, oedd yn ei amgylchynu yn brawf digonol dros fodolaeth ac hynafiaeth yr hen ffwrnes hon. Ac er fod y tyrau duon o farwor oedd yn ei amgylchynu wedi ei gordoi a glaswellt, a'r hen ffwrnes hefyd wedi chuddio bron gan ddanadl—ac fel un wedi ei llwyr esgeuluso gan fys traddodiad—a'i dibrisio gan hanesyddiaeth eto mae hi fel un am hawlio ei bod mor hen, os nid yn hynach, nag un o hen ffwrnesi Cymru :megys ffwrnes Pont-y-gwaith, yn mhlwyf Merthyr, ffwrnes Pontyrhun, flwrnes Cwmywernlas, ffwrnes Melin y Cwrt a hen ffwrnes Caerphily. Yn ystod yr haner can mlynedd a dreuliais yn y lle hwn, sef Tredegar, dia mau imi fod ddegau o weithiau yn Mhontgwaithiarn, a phob tro yn holi y trigolion o berthynas i BONT gwaith-yr-haiarn; ond byddai yr un peth imi ofyn i ddyn y lleuad a gofyn iddynt hwy, canys yr ateb oedd, "Ni wyddom ni ddim." Ond pa ryfedd oedd, canys dyfodiaid oeddynt oll, a hen drigolion cyntefig y lle wedi meirw—heb adael ar eu hol gymaint ag un traddodiad, namyn enw y lle, sef Pont-gwaithyr-haiarn. Tua 37ain yn ol mesurais yr hen ffwrnes, a chefais ei bod yn mesur tua 40 troedfedd o amgylchedd, circumference, a'i thryfesur, diameter, yn ddeg troedfedd a thair modfedd. Ond bum yn talu ymweliad yn ddiweddar a'r hen ffwrnes, ac er fy siomedigaeth, nid oedd namyn 30 troedfedd o amgylchedd, a'i thryfesur yn ddeg troedfedd. Hwyrach y gellir priodoli hyn i'r dirywiad a wnaeth amser arni yn ystod y 37 mlynedd sydd wedi myned heibio,—am ei bod yn awr yn gydwastad a'r ddaear, ie, dair troedfedd, neu ragor yn is yn awr na phan gwelais hi gyntaf.

Ond wedi ymdroi fel hyn amgylch ogylch yr hen ffwrnes, rhaid imi bellach arwain y darllenydd at y ffeithiau sydd yn profi, yn ddiymwad, fodolaeth Pontgwaith-yr-haiarn.

"A wado hyn aed a hi,
A gwaded i'r haul godi."

Tua dwy flynedd ar bymtheg ar ugain yn ol, aethym i le a elwir Llaniddel i weithio wrth fy ngelfyddyd a phwy gyfarfyddais yno ond Mr. Rees Davies, mab Mr. Rees Davies, yr hwn a adeiladodd ffwrnesi Tredegar, o rif y cyntaf hyd rhif y bumed Yr oedd Mr. Davies wedi bod yn Ffrainc am rai blynyddau yn cadw gwaith haiarn. Ond wedi i'r chwyldroad yn Ffrainc ddechreu, dychwelodd yn ol i Gymru yn foneddwr cyfoethog a chymmeradwy dros ben — a chymerodd at dawdd-dy, foundry, Llaniddel. Un diwrnod cyfarfyddais a Mr. Davies, a dywedodd wrthyf ei fod o'r diwedd, wedi cael allan hanes Pont-gwaithyr-haiarn i'r manylion. Gyda phwy Syr, atebais inau. Gyda Mrs. Thomas—hen foneddiges ag sydd wedi cael ei chaethiwo gan henaint rhwng echwynion ei gwely—yn y ty ag sydd wrth ochr y foundry. Mae'r foneddiges hon yn famgu i Mr. John Thomas, Pontymeistr, gynt——ond yn awr yn Ffrainc. A dywedodd Mr. Thomas wrthyf, pan oeddwn yn Ffrainc, mai ei dylwyth of a ddechreuodd Pont-gwaith-yrhaiarn,a dyma ei eiriau oll wedi eu gwireddu gan ei famygu— "a dos dithau at Mrs. Thomas, a diau y bydd iddi roi yr un manylion i ti fel ag y cefais inau hwynt—canys y mae ei chof yn lled dda wrth ystyried fod ei hoedran yn bedwar ugain a phump o flynyddau.—Oes hir onite ddarllenydd?

Parodd y newydd hwn rhyw anesmwythder yn fy meddwl—ac anesmwyth y bu'm hefyd, nes imi weithio'm ffordd i gael ychydig o ymgom a'r hen wraig barchus hon. Craffed y darllenydd ar yr ymddiddanion a fu rhyngom, canys nid oes genyf ddim, ond a ddywedodd hi wrthyf, fel sylfaen dros fodoliaeth ac hynafiaeth Pont-gwaith-yr-haiarn—a gobeithiaf fod hyny yn ddigon i undyn mewn pwyll a synwyr, pan yr ystyrio o enau pwy y daeth allan.

Yr Ymddiddan.— Wedi talu moes—gyfarchiad i'r hen foneddiges, dywedais wrthi—"Mae yn debyg Mrs. Thomas eich bod chwi yn cofio ffwrnes Pont—gwaithyr—haiarn yn gweithio?" Ydwyf, 'machgen i—yno oedd fy nhad yn gweithio pan ganwyd fi—yno oedd tylwyth fy ngwr wedi hyny yn gweithio." Pa le yr oeddynt yn cael glo Mrs. Thomas?" "Nid glo oeddynt yn ddefnyddio y pryd hyny, ond cols coed; yr oedd y llywodraeth yn erbyn llosgi glo y pryd hyny, am ei fod, meddent hwy, yn gwenwyno yr awyr." Beth oedd ganddynt yn chwythu'r tan y pryd hyny Mrs. Thomas" "O, meginau." "A fu eich tylwyth yn byw yn Mhont—gwaith—yr—haiarn?" Naddo; ond yr oeddynt yn lletya yno, ac yn cyrchu tre bob nos Sadwrn, i Dwyn-yr-odyn, Merthyr; a phan ddelai dydd Llun, cymerent lwybr llygad oddiyno i Bont-gwaith-yrhaiarn." A wyddoch chwi Mrs. Thomas yn mha le yr oeddynt yn cael mwn tuag at wneyd haiarn?" "Yn nghymydogaeth y Bont yr oeddynt yn ei gael, ond nis gwn yn mha le yno." "Pa un a'i Cymry neu ynte Seison oedd y meistri?" "Cymry meddent hwy oeddynt, ond Cymry o Ffrainc oeddynt; dau foneddwr heb eu bath oeddynt hefyd—coffa da am danynt." "Mae yn wir Mrs. Thomas i fod cenedl o Gymry yn gwladychu yn Ffrainc er ys deuddeg cant o flynyddau, y rhai a alwn ni yn Llydawiaid." "Wel dyna nhwy." "Wel, beth a ddaeth o'r boneddion hyn?" "Wel, aethant i dir eu gwlad, sef Ffrainc, ond er hyny, buom yn cael llythyrau oddiwrthynt am rai blynyddau, canys yr oedd fy nylwyth i—sef y Thomasiaid, Twynyrodyn, Merthyr, yn ddynion cymeradwy iawn yn eu golwg a'u meibion hwy a ddenasant John, fy wyr, o Bontmeistr i Ffrainc i gadw gwaith haiarn—a dyna lle mae ef y dydd heddyw." "Beth oedd eich oedran y pryd hyny?" "Wel, gallwn fod o ddeg i ddeuddeg mlwydd oed." "Beth yw eich oedran yn awr?" "Wel, yr wyf yn bedwar ugain a phump." Amlwg yw pe byddai yr hen foneddiges hon yn fyw yn awr, y byddai yn chwech ugain ac wyth mlwydd oed. Wel, dyna i chwi sylwedd yr ymddiddanion a fu rhyngof a'r hen foneddiges oedranus hon o berthynas i Bont-gwaith-yr-haiarn; a phe buaswn heb eu chroniclo yr amser hwnw, diamau genyf, y buasai hanes Pont-gwaith-yr-haiarn wedi ei golli yn llwyr, hwyrach am byth. Yn y man hyn, teg yw hysbysu'r darllenydd—y gall yr ysgrifenydd ei gyfeirio os bydd galw, at wyrion, orwyrion, a goresgynyddion yr hen foneddiges hon, a hyny heb fyned 10 milldir o ffordd.

Y casgliad naturiol oddiwrth yr uchodion, yw, i'r Llydawiaid ddyfod drosodd i Gymru at eu cydgenedl, yn amser y rhyfel boeth oedd rhwng Lloegr, Ffrainc, a Spaen, yn nheyrnasiad Sior yr ail, ac iddynt, wedi'r heddwch a wnawd yn y flwyddyn 1748, yn nheyrnasiad yr un brenin fyned (o fewn i ddwy neu dair blynedd,) yn ol i Lydaw, yn Ffrainc. A chasgliad naturiol arall yw, iddynt adeiladu ffwrnes Pont-gwaith-yr-haiarn tua'r flwyddyn 1738 neu 1739. Yn amser y brenin Iago yr oedd holl ffwrnesi y deyrnas hon yn 300 mewn rhifedi; ac yn y 40 flwyddyn o deyrniasiad Sior yr ail lleihawyd hwy i 59, ac yr oedd Pont-gwaith-yr- haiarn yn un o honynt.

'R hen ffwrnes gadarnwych ail huan oleuwych,
Amliwiaist yr entrych yn fynych gan fwg;
Er lles—trwy hanesion o lawr dy falurion,
Cawd dyfnion ddirgelion i'r golwg.



This manuel history of Tredegar and Pont-gwaith-yr-haiarn will soon appear in English, by Mr. David Hughes, Manchester House.

CAN
O GLOD I GLYN SIRHOWY.

Ton,—"Belisle's March."

Dewch brydyddion mwynion manol,
Urddasol raddol ryw,—
I ganu clod i Glyn Sirhowy,
Man tawel—arail yw;
Rhwng ei meusydd—dolydd deiliog,
Meillionog, enwog un,
'E glywir peraidd lais yr Eos,
Ar Llinos hardd ei llun;
Y Gôg fwyn serchog sydd,
Trwy'r fro tra dalio'r dydd,
Yn canu'n beraidd hwyr a borau,
Eur odlau ar gangau'r gwydd.
Wrth wrando'i swynol lwysol leisiau,
A'i mhelys odlau hi,
Fe ddaw allan bob blinderon
O nghalon union i;—
Mae rhai mewn uchel gri,
Yn gwaeddi "Mon i mi;"
Yn nglyn Sirhowy bloeddiwn ninau
Pob rhyw bleserau sydd.
Yn mhlith yr ie'nctid mwyn serchiadol
Hyfrydol ddenol ddawn,
Boddi'r gofid mewn llawenfyd,
Hoen hyfryd yno wnawn.

O mor laned yma 'leni,
I'n lloni ar bob llaw,
Gwelir llwyni—gerddi gwyrddion,
Ar lwysion droion draw;
Pur a llawnion yw'r perllanau
O flodau afalau fyrdd,
Hi'n gu lonwych yw blodau'r glynoedd

Ar g'oedd mewn gwisgoedd gwyrdd.
Heb law—mae yma lu,
O ddynion ceinion cu—
Ffermwyr, mwnwyr,glowyr glewion,
Serchoglon ffraethlon ffri.
Pwy'n fwy ffyddlon o blaid Union[3]
Na'r dynion haelion hyn,
O wiwbryd dwysdeg heb un dibrisdod
Pur glod tra pâr y glyn.
Gan fod fath ddynion mâd,
Fel hyn y'nglyn o'ngwlad,
'Rwy'n gallu'n dawel lwyr anghofio
Hen fwthyn gwyn fy nhad;—
A bwrw'm hiraeth—araeth wrol.
Mewn gwlad estronol glyd,
Gan gael yn llonwedd bob tangnefedd
Ymgeledd hedd o hyd.

'E fu blynyddau nad oedd ond llwybrau
Trwyr caeau i fyn'd i'r calch,
Y nos wrth groesi rhai mor geimion
Bu gwirion lawer gwalch[4]
I'r mab mwyneiddgu 'doedd ffordd i dramwy
At Sianu morwyn Sion.
Yn amser geua, gan rew ac eira,
Ow, dyna oedd ei dôn—
"Ffarwel fy anwyl Sian,
Fwyn wisgi lwysgi lân,
'Does genyf obaith mwy dy weled
Nes toddo'r eira man.
'Nol estyniad dydd, fy nghariad,
Mi wnaf yn ddiwad ddod,
I gael eto mwyn gyfrinach
Yn nhafarn bach y co'd."
Ond 'nawr na fyddwn brudd—
O'r diwedd daeth y dydd—

Cerbydau haiarn cadarn cydwedd,
Weis hoew-wedd yma sydd,
Yn teithio'n gyflym hylym hylon,
Heb lwybrau ceimion cul;
Mae gobaith weithian caiff Wil Sion Ifan
Weled Siwsan bob dydd Sul.


Can o glod i
MR. THOMAS ELLIS,

Y PEIRIANYDD ENWOG,

Yr hwn a osododd i fynu Felin Newydd Gwaith
Haiarn Tredegar.

Deuwch feirddion ceinion cenwch,
A rhoddwch er mawrhad,
Glod i ELLIS hwylus haelaf,
A'r glewaf ddyn trwy'n gwlad;
Mae e'n haeddu cael ei barchu,
A'i godi 'leni'r lan,
I sylw'r glewion ddysgedigion,—
Rhai mwynion yn mhob man.
Nid oes, ni welwyd chwaith,
Trwy Gymru fwyngu faith,
Un ail iddo fel peirianwr,—
Mae'n gampwr ar y gwaith;
'Does achos anfon i wlad y Seisor,
I 'mofyn estron mwy,
Tra'n bod rhwng bryniau Cymru loniach
Un taerach nag y'nt hwy.
De'wch fwnwyr, glowyr glân,
Mewn llonwres gynes gân;
Chwithau weithwyr, hoenwyr heini,
Sy'n tynu o flaen y tân,
I daenu'n serchus felus foliant
Drwy haeddiant draw i hwn,
Am ei wych ystig heirdd orchestion,—
Sai'n goron iddo, gwn.

Melin haiarn, un gadarn gododd,
Ni welodd neb o'i hail;
Sai'n destun moliant i'r Cymro gloyw,
Tra'r bedw yn dwyn dail;
Rhoes hon mor gadarn ar g'lofnau haiarn,
Hi saif tra darn o'r tir;
Yn fywioliaeth lan i filoedd
O'n tiroedd—oesoedd hir.
De'wch 'nawr o fawr i fan,
Trwy'r gwres a thes y tan,
A mawl diderfyn fel un dyrfa,
I'r lwys olygfa lan;
Cawn wel'd y rhodau ar eu pegynau,
Yn gyru y rholiau ar hynt,
Trwy rym angerddol y periant nerthol,
Fel gwenol yn y gwynt
Er bost ac ymffrost Ffrainc,
A Lloegr yn y gainc,
Ni ro'wn y purlwys Gymro purlan
Yn fwynlan ar y fainc;
Fe bia'r belt—rho'wn am ei ganol,
Was siriol, ac aed son
Am yr adeilad fawr glodadwy,
O Fynwy draw i Fon.

Tra byddo mês ar goed y meusydd,
Lliw dydd, a lleuad wen,
A thra b'o seren yn dysgleirio,
Gan nofio fry'n y nen,
Bydd enw ELLIS fel peirianwr.
A noddwr gweithiwr gwan,
Fel mêl ar danau'r telynorion
Rhai mwynion yn mhob man.
Rho'wn dair—llef fonllef fawr,
Nes siglo seiliau'r llawr,
O blaid ein ELLIS, blodeuyn hylon
O'r Brython wiwlon wawr;
Pob parch a chariad iddo'n wastad

Da fwriad hyd ei fedd;
Boed iddo'n siriol, 'nol taith ddaearol,
Dragwyddol lwysol wledd.
Cyn hir e dyr y wawr,
Cawn, weithwyr, fach a mawr,
A fu'n ymboeni dan lwyth caledi,
Ein lloni ar y llawr;
E ddaw rhagluniaeth lawn â'i thoraeth, llawnder,
Iach helaeth yn ei cho'l;
Er bod mewn prinder, cawn fyw mewn
Mae'r amser goreu 'nol!


To S. Homfray, Esq., Bedwellty House,
and his Family.

May Bedwellty House be decked
With the leaves of ever—green;
And from age to age protected
By that bounteous hand unseen;
May they prosper like the willow
Tree upon the river side;

And crown'd beyond the rocks and billows
With a never ebbing tide.
Whilst the lark on Cambria's mountains
In his winged charriot flies,
Beyond the heath and chrystal fountains,
To bliss—in radiance of the skies—
IVOR's race so long may flourish
In virtue, as in time of yore;
Their names be blessed—the Mill accomplish—
The brightest scene on Britain's shore!


Can' Mlynedd i'Nawr.

O deffro fy awen o ddyffryn cysgadrwydd,
Lle buost yn llechu, rho weled dy wawr;
Y tafod sy'n 'awr yn dy anerch mor hylwydd,
A drig mewn dystawrwydd, can' mlynedd i 'nawr.

Can' mlynedd i 'nawr, 'roedd rhai o fy nheidau—
Yn wridgoch ei gruddiau, eur lwythau ar lawr;
Ond heddyw yn gorphwys yn dawel mewn beddau,
'R un modd byddaf finau can' mlynedd i 'nawr.

Rhyw fyd cymysgedig yw'r byd ag wyf ynddo—
Weithiau yn llawen ac weithiau yn drist;
Weithiau mewn gwisgoedd sidanaidd yn rhodio,
Ac weithiau'n newy nog heb geiniog'n y gist.

Weithiau rhwng tonau a chreigiau echryslon,
Bryd arall rhwng meillion, rhai gwyrddion eu gwawr;
Fel hyn 'rwyf yn teithio, rhaid cofio, i'r ceufedd,—
Lle byddaf yn gorwedd can' mlynedd i 'nawr.

Pe rhoddid holl berlau yr India ddwyreiniol,
A chyfoeth gwlad Affric—Americ―i mi;
A chael breniniaethu ar bawb o'r hil ddynol,
Ar orsedd eirianol wiw freiniol o fri;

A rhodio'r dinasoedd mewn cerbyd o arian,
A phawb i ymostwng i mi hyd y llawr;
"Gwagedd o wagedd "—a fyddent, y cyfan,
Gadawent fu'n unig can' mlynedd i 'nawr.

Dos di, y credadyn, ar dy bererindon,
Er cwrdd a bwystfilod a llewod y llawr ;—
Ymwroled dy galon, cryfhaed dy ysbryd—
Cei fil gwell cyfeillion can' mlynedd i 'nawr.


Can' mlynedd i 'nawr dy ffydd droir yn olwg—
A'th obaith, sy'n wanllyd, yn hyfryd fwynhad;
Can' mlynedd i 'nawr cei weled yn amlwg,
Yr hyn mewn addewid a roddodd y Tad.

Cei sefyll yn wrol ar fryniau Caersalem,—
Cei goron i'th ben, a thelyn i'th law;
Rhy faith fyddai enwi'r dedwyddwch anrhaethol
A fydd yn dy feddiant can' mlynedd i 'nawr.


NADOLIG CRIST.

Neshawn, mae'n llawn bryd, o ddafryd y ddwy fron,
At breseb yr ŷch, mewn ceinwych amcanion;
Duw-dyn mewn cadachau ar liniau'r un lanaf,
O gariad at ddynion, ei alon, a welaf.—
Lawr o'i dragwyddawl le breiniawl, i brynu—
I ddynion rhyddhad, doeth wysiad, daeth Iesu;
Gogoniant cyd-ganwn trwy dwthwn tra dethawl,
 
Cawd medddyg i'r clwyfus anafus—un nefawl.
Rhyfeddod gwel'd brenin pur iesin mewn preseb—
I'selder annhraethawl—daeth unol doethineb.
Seion bydd lawen—cun addien, can iddo,
Twr cadarn yw Arglwydd dwys—hylwydd dy Silo.




Er rhyddhau, do rhoddwyd iawn—dwys a chur,
'Does achos am ail-iawn;
Yn gyfaill Duw, cein-Dduw, cawn
Yr annuw, drwy yr un-iawn.


Rhagoroldeb Heddwch ar Rhyfel.

O heddwch, o heddwch, ffynonell cysuron,
Gogoniant teyrnasoedd, ac addurn pob gwlad;
Canol-bwynt dedwyddwch pawb, nef a da'rolion
Erioed ni lechwynwyd ei gwisgoedd a gwa'd.
Eisteddai fel mychdeyrn ar orsedd y cread,
A than ei 'mherodraeth bedryfon y byd;
Amwisga'i holl ddeiliaid a mentyll o gariad,
A ch'lymai y nefoedd a'r ddaear y'nghyd.
Pryd hyn 'roedd dynoliaeth'n gyd stad a'r angylion,
Mewn perffaith ddedwyddwch yn nofio mewn hedd,
Ond heddyw dan warthrudd heb orsedd na choron,
Yn saethuod i'r magnel, y bicell, a'r cledd.
Awn draw i'r cyfandir ar wibdaith fyfyriol,
A gwnawn ei lechweddan yn orsaf i'n traed,
Cawn wel'd y torlanau-a manau dymunol
Oedd gynt mewn gwyrddlesni, yn gochion gan waed.
Swn meirch yn gweryru i 1yfel sydd yno.
Taran-lais y magnel, clyndarddiad y eledd,
A dynion analus mewn coochwaed yn nofio.
Y'nghenllif y soriant-yn borthiant i'r bedd.
Terchioni'r deyrnwialen, dymchwelyd gorseddau,
Anrheithio dinasoedd-a'u gosod ar dan—
Gan sawyr y pylor, a swn y magnelau—
'Does edyn trwy'r goedwig yn cynyg rhoi can.
Tyr'd bellach, f'awenydd, adenydd y doniau,
Gad wersyll y dial-dir anial i rhai'n;
Gwell sain can a moliant, na swn y magnelau,
O fewn i dir Brydain hardd gywrain werdd gain;
Lle nad oes un llew nag arth yn y goedwig,
Na blaidd yn atalfa ar rodfa yr wyn,
Ond dewrwych frodorion rhwng llwyni caeadfrig,
'N ymuno a'r ednod, telynau y llwyn,
I ganu plygeingerdd o fawl idd eu cre'ydd,
Ar lenydd meillionog-afonydd o hedd;
A thestyn eu hanthem yw "moliant tragyfyth
I Dduw am arbediad rhag clwyfiad y cledd."

Holl ddeiliaid beddychol oddiar eu gwybyddiaeth
Mae Duw sy'n teyrnasu ar bawb is y nen,
Nid ofuant dymestloedd, ond credant trwy'r arfaeth,
Dwg llywydd y eread bob bwriad i ben.
Efe sy'n teyrnasu, dwys-gryned y bobloedd,
Calonau breninoedd y'nt oll yn ei law;
Efe d'wallta'r phiol—ond hwnw a'i llanwodd,
Gaiff yfed ohoni, er dychryn a braw.
Prif gysur holl ddeiliaid llywodraeth heddychol
Yw edrych a syllu ar bethau fel hyn;
Gan wybod y byddant yn nhywalltiad y phiol
Mor ddiogel a Lot, draw ar lechwedd y bryn.


BWRDWN I'R GAN.

Dan aden Duw lon b'o'n tirion Victoria,
A'i lliesu'n dywysog—ei deiliaid 'run wedd;
Dyger pawb is y rhod, 'nol gorfod eu gyrfa
Y'myd y gorthrymder—i lawnder y wledd.


GAIR O GYNGHOR

Os yw y byd yn cicio,
Paid byth a bod mor ffol,
A rhoi y goreu iddo—
Rho iddo gic yn ol;
Rho gwff am gwff a chic am gic,
Ni phery'r ymdrech fawr,
A thal eu dda am bob hen dric,
Gan gadw'i ben i lawr.

"Dyw'r byd i mi ond tegan—
Yn llawn o ffwdan ffol,
Os caf beth ganddo heddyw,
Fe'i mhyn e foru 'nol;
Pob tamaid bach a gefais—
Oedd gan rhagluniaeth Ior,—
Caf eto, os bydd angen,—
Mae'i 'stên yn llawn o stor.


PENNILLON AR DDOETHINEB,

Doethineb—mawr yw'th enw,
Tydi sy'n llanw'r llawr;
Dy waith sydd yn y nefoedd,
Ac yn y moroedd mawr;—
Pob rhyw lysieuyn lliwgar,
Trwy'r ddaear lwysgar:faith,
Haul , lloer , a sêr sy'n datgan,
Dy burlan wiwlan waith.

Rbo'ist wen—wisg bardd i'r lili,
Sy'n tyfu'n mysg y coed,
Ni wisgwyd Sol'mon frenin
Mewn harddach gwisg erioed;
A mur o ddrain o'i chwmpas,
Iawn bwrpas, addas yw;
Pob peth o'th waith , mae ddilys,
Sydd fys a ddengys Dduw.

'Rhoet ti yn nhragwyddoldeb
Cyn llunio gwyneb llawr,
A chyn rho'i bod serchoglan
I'r huan wiwlan wawr;
Yn ffurfio ffordd gyfreithlawn,
A chyfiawn i iachau,
Doluriau cas gwenwynig
Yr holl syrthiedig rai.

'E genir it'ogoniant,
Y'ngwlad y mwyniant maith,
Am godi dyn i fynu,
A'i dynu i ben ei daith,
A glanio'n llaw rhagluniaeth ,
Tu fewn i'r dalaeth dêr,
Tragywydd ddedwydd adąil ,
A'i sail uwch caerau'r şêr.


ANERCHIAD
CYFLWYNEDIG I
MR. D. MORRIS,
(Eiddil Gwent)
Ar ei 70ain mlwydd oed.

O Eiddil Gwent talentog,
Yr hynaws anwyl fardd,
A'i awen wir odidog,
A'i blodau'n ber a hardd:
Daeth drosto bwyrddydd bywyd,
Gauafol hensint du,
Daeth dyddiau blin a'i fferawl hin,
I loesu 'i fynwes gu.

Mae'r dyn oedd gynt mewn nwyfiant
'Nawr dan drallodus len,
A lifrau-blodau henaint,
Yn brydferth ar ei ben;
Mae'r cof yn ymbleseru
Ar hafaidd droion gynt,
Pan ar ei rawd dan wenau ffawd,
A difyr ar ei hynt.

Mae'r llygaid yn bur graffus,
A'r teimlad sydd yn fyw,
Y meddwl sy'n ramantus,
A gwych yw'r cof a'r clyw;
A mor o chwedlau difyr,
I'n boddio draetha'n dêr,
A'n maethu gawn a melus rawn—
Yr awen ffrwythlawn bêr.


Anadlodd gwych ganiadau,
Sy'n fywyd drwy y wlad;
Llenoriaeth mwys wybodau,
Fu'n denu i dalent mad;
O gelloedd cudd henafiaeth,
Cawn geinion ganddo ef,
Gwresoga'n llon ein gwladgar fron,
A hanes lawn o'n trof.

Er henaint du a'i dolur,
I nychu'i dyner fron,
Boed iddo balm gwir gysur,
Dan bob adfydus dón,
Ei hwyrol ddydd fo'n hyfryd,
Fel huan llawn o hedd,
Dan iesin wawr yn myn'd i lawr,
I'r tywyll distaw fedd.

Tredegar.—S. THOMAS (Gwgan Gwent.)




Argraffwyd gan J. Thomas, Tredegar.

Nodiadau

[golygu]
  1. For almost not a brook in Morganwg or Gwent, But from her fruitful womb fetch her high descent.
  2. Tad yr hanesydd.
  3. Cyfeiriad at yr Union oedd gan y gweithwyr 35 mlynedd yn ol.
  4. Gwr caru.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.