Helaetha derfynau dy deyrnas

Oddi ar Wicidestun
Rwy'n teimlo f'enaid 'n awr yn caru

gan Morgan Rhys

427[1] Helaethiad y Deyrnas.
98. 98. D.

1 HELAETHA derfynau dy deyrnas,
A galw dy bobol ynghyd;
Datguddia dy haeddiant anfeidrol
I'th eiddo, Iachawdwr y byd.
Cŵymp anghrist, a rhwyga ei deyrnas,
O! brysied a deued yr awr;
Disgynned Jeriwsalem newydd
I lonni trigolion y llawr.

2 Eheda, efengyl, dros ŵyneb
Y ddaear a'r moroedd i gyd,
A galw dy etholedigion
O gyrrau eithafoedd y byd.
O! brysia'r cyfarfod heb lygredd,
Na rhyfel, na chystudd, na phoen,
Dydd Jiwbil yr etholedigion,
A chydetifeddion â'r Oen.

Morgan Rhys


427[2] O! heda, Efengyl Dragwyddol.
98. 98. D.

1 O! HEDA, efengyl dragwyddol,
Ar gyflym adenydd y wawr,
Nes cilio o'r noson gaddugol,
A'r fagddu orchuddia y llawr;


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 427, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
  2. Emyn rhif 427, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930