Hen Adgofion
- O na chawn fynd yn ol ar hynt
- Drwy’r adeg ddedwydd, iach,
- I brofi y breuddwydion gynt
- Pan oeddwn blentyn bach;
- Cawn syllu eilwaith oriau hir
- Ar flodau gwanwyn oes,
- Ac ail fwynhau ei awyr glir
- Heb gwmwl du na loes.
- O na chawn dreulio eto’n llawn
- Yr adeg lon, ddi-gur,
- Pan gylch fy llwybrau fore a nawn
- ’Roedd blodau cariad pur;
- Nid yw ond megis ddoe o’r bron
- Im gofio ienctid ffol;
- Ond dyma sydd yn rhwygo ’mron,
- Ddaw’r adeg byth yn ol.