Hen Benillion

Oddi ar Wicidestun

(Detholiad)

On'd ydy yn rhyfeddod
Bod dannedd merch yn darfod?
Ond tra bod yn ei cheg hi chwyth
Ni dderfydd byth mo'i thafod.


Beth wneir â merch benchwiban?
Beth wneir â cheffyl bychan?
Beth wneir â thaflod heb ddim gwair?
Beth wneir mewn ffair heb arian?
Wel, rhoi y ferch benchwiban
I werthu'r ceffyl bychan,
A chadw'r daflod nes daw gwair
A mynd i'r ffair â'r arian.


O fewn y môr mae morwyn,
A'i gwallt yn blethi melyn,
Ond ow! Anghenfil yw er hyn:
Â'i chynffon yn bysgodyn!


Mae gennyf bedair o gariada'
Mi af i'w gwerthu i ffair y Bala,
Un am ddim a'r llall am ddima'
A'r ddwy arall am geinioga'!


Dacw 'ngariad yn y dyffryn:
Llygaid hwch a dannedd mochyn,
A dau droed fel gwadan arad',
Fel tylluan mae hi'n siarad.


Os ei di i garu, dos yn gynnar,
Cyn i'r merched fwyta'i swpar;
Ti gei weled yn y gwydyr
Pwy sy'n lân a phwy sy'n fudur.


Mae dwy Fari yn y Penrhyn,
Mari'r ferch a Mari'r forwyn;
Mari'r ferch yn lân odidog,
Mari'r forwyn yn hyll gynddeiriog.


Mae gen i ac mae gan lawer
Gloc ar y mur i ddweud yr amser,
Mae gan Moses Pant-y-meysydd
Gloc ar y mur i ddweud y tywdd.


Robin Ribin dannedd cribin,
Hwch yn pregethu a Robin yn brathu.


Dau lanc ifanc aeth i garu,
Gyda'r afon - ar i fyny -
Un a'i wn a'r llall â'i gledde:
Cysgod bedwen trodd nhw adre.


Yma'n gorwedd yn y clai
Mae Modryb Sian o'r Hafod,
Yr hon yr Wythfed dydd o Fai
Ddechreuodd ddal ei thafod.


Maen nhw'n dweud draw yn Llanrhaead
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad,
A'r rheswm pam ddaw golau drwyddo? -
Ei fod hb orffen cael ei bwytho!


Cynheuwch bwt o gannwyll frwyn
Fy modryb fwyn drugarog,
I edrych a ydym yma i gyd
'R ôl bod ar hyd y fawnog!


Rwyf yn ddall ac rwyf yn gweled,
Rwyf yn fyddar, rwyf yn clywed,
Rwyf yn glaf ac yn fy iechyd,
Rwyf yn fyw, yn farw hefyd.