Hen Fibl Fawr fy Mam/Claddedigaeth y Morwr
← Cyn y Frwydr | Hen Fibl Fawr fy Mam gan John Phillips (Tegidon) |
→ |
CLADDEDIGAETH Y MORWR.
TÔN—"The Sailors Grave."
Ein llong oedd bell, bell bell o dir,
Pan drôdd y glanaf o'n dynion pur
Yn welw ei wedd, a gwywo wnaeth;
Fel hwyrddydd hafddydd ymaith aeth.
Gwyliasom wrth ei orwedd fan, bat
Faith oriau, gyda gobaith gwan;
Daeth angeu ato heb un braw,
Bu farw'n dawel dan ei law.
Hardd gostus amdo iddo nis gwnaed,
Dwy belen blwm roed wrth ei draed,
Ac yn ei hamoc teimlai mor glyd
A'r brenin yn ei farmor drud.
Cyn ini ei gladdu yn y don,
Rhoem faner Prydain ar ei fron;
Fel prawf nad oedd yn forwr llwfr,
Yna 'roedd barod i'w fedd o ddwfr.
Mewn moment soddai megys maen,
A threiglai'r tonau fel o'r blaen; odust
Ond dwys och'neidiai llawer bron
Wrth gladdu'r morwr yn y don.
Daw dydd ceir morwr dewr o'r don,
Pan ferwo hon, heb fawr o hedd,
Yn bwysau dyn, heb eisiau darn,
I'r olaf farn, o'i ddirgel fedd!
Argraffwyd gan H. Humphreys, Caernarfon.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.