Hen Gymeriadau Dolgellau/Owen Parry y Llifiwr

Oddi ar Wicidestun
John Evans y Criwr Hen Gymeriadau Dolgellau

gan Edward Williams (Llew Meirion)

Bardd Odyn


OWEN PARRY Y LLIFIWR.—Dyma un o drindod o hen gymeriadau y dref, y rhai oedd bob amser gyda'u gilydd. Y ddau arall oedd Owen Dafydd Bacan ac Edward Robert. Yr oedd Owen Parry yn enwog iawn ar gyfrif tri pheth,—llifio cordiau, dadlwytho y wagen fawr, a ffeirio watches. Do, mi lifiodd Owen Parry filoedd o droedfeddi o gordiau, a thynnodd gannoedd o dunelli ar ei ol gyda'i dryc, a ffeiriodd ugeiniau o watches. 'Dallsa fo ddim diodde gweld watch noblach na'i gilydd heb ofyn Ffeiri di, ngwas i?" Am Owen Dafydd a'r Hen Local, o anwyl barch, gallaswn eich cadw am amser hir yn ail adrodd ei hanes ef ei hun ac Owen Dafydd. Ond gadawn hwy heno.