Neidio i'r cynnwys

Henry Kirke White (Trysorfa y Plant Ebrill 1891)

Oddi ar Wicidestun
Henry Kirke White (Trysorfa y Plant Ebrill 1891)

gan Trysorfa y Plant


Erthygl o Trysorfa y Plant (gol.David O'Brien Owen) Cyf. XXX Rhif. 352— Ebrill 1891 tud 85-88.[1]

HENRY KIRKE WHITE.

NID oedd Henry Kirke White ond un mlwydd ar hugain a hanner yn marw. Ganwyd ef yn Nottingham, Mawrth 21, 1785, a bu farw yn Cambridge, Hydref 19, 1806. Mab ydoedd i gigydd (butcher), a'i orchwylion cyntaf yn blentyn oedd cario cig dros ei dad allan o farchnad Nottingham i'r cwsmeriaid. Dechreuodd yn ieuanc ddangos chwaeth anarferol at ddarllen, gymaint fel y byddai yn anhawdd ei gael oddiwrth ei lyfr at ei fwyd. Dechreuodd hefyd pan yn blentyn deimlo hoffder at brydyddu.

Pan yn 14 oed rhoddwyd ef mewn gweithdy hosanau, masnach ag y mae Nottingham yn enwog ynddi. Ond yr oedd yn wrthwynebus iawn i'r gwaith hwnw, a chyn ei fod yn 15 oed, rhoddwyd ef mewn swyddfa cyfreithiwr. Defnyddiai bob mynyd hamddenol i ddarllen a dysgu. Yr oedd swm y llyfrau a ddarllenai yn syndod, a dysgodd ychydig o Groeg, Lladin, Italaeg, Yspaenaeg, a iaith Portugal. Astudiai hefyd Gyfraith, Fferylliaeth, Seryddiaeth, Trydaniaeth, Arluniaeth, Cerddoriaeth, ac amryw gangenau eraill o wybodaeth. Mewn llythyr at ei frawd, pan nad oedd ond tri mis gyda 15 oed, dywedai, "Yr wyf yn sychedu am wybodaeth; ac er fy mod o dueddfryd naturiol ddioglyd, yr wyf yn gorchfygu hyny trwy ddarllen llyfr buddiol. Y llwybr wyf yn gymeryd i orchfygu fy annhueddrwydd at lyfrau sychion yw, dechreu eu darllen yn ymroddedig, a pharhau am un awr bob dydd; daw y llyfr fel hyn, heb yn wybod i mi, yn hawdd, a byddaf yn rhoddi heibio hyd yn nod Esboniadau Blackstone, y rhai ydynt yn sychion iawn, gyda gofid."

Tra yn swyddfa y cyfreithiwr, ac yn y llafur dirfawr hwn i gasglu gwybodaeth, ac mewn oed mor ieuanc, mynai amser i gyfansoddi darnau barddonol o deilyngdod uchel. Pan yn glerc ieuanc yn swyddfa y gyfraith, y benthyciwyd iddo gan gyfaill lyfr Scott yr Esboniwr ar "Rym Gwirionedd," a throdd ei feddwl gyda zel neillduol at grefydd a duwinyddiaeth; ac yn fuan penderfynodd gysegru ei fywyd i wasanaeth Iesu Grist a'r Efengyl. Wedi myned trwy argyhoeddiad llym, ac edifeirwch dwys iawn, dywed mewn llythyr at gyfaill, "Yr wyf yn awr yn troi fy ngolwg at Iesu, fy Iawn, gyda gobaith a hyder. Ni wrthyd bechadur edifeiriol sydd yn erfyn arno. Mae ei freichiau ef yn agored i bawb yn agored hyd yn nod i mi; ac mewn cydnabyddiaeth am y fath drugaredd, beth yn llai allaf wneyd na chysegru fy holl fywyd i'w wasanaeth?"

Penderfynodd yn awr fyned i'r weinidogaeth, a chyhoeddodd gyfrol o Farddoniaeth, er mwyn i'r elw ei gynnorthwyo i fyned i'r Coleg. Yn anffodus cafodd ei lyfr feirniadaeth lem, llawer mwy llym nag yr haeddai. Parodd hyn ofid dirfawr iddo. Yn yr ysbryd hwn y cyfansoddodd ei gân nodedig i "Siomedigaeth." Daliai o hyd yn benderfynol i fyned i'r weinidogaeth yn yr Eglwys Sefydledig, os gallai; ond os nad allai, mewn rhyw enwad arall. Cafodd gyfaill caredig yn Southey y bardd, ac wedi hyny yn Henry Martyn, y cenadwr enwog. Ac o'r diwedd, agorwyd y drws iddo i fyned i Cambridge, a gobaith am gael myned i bulpud yr Eglwys. Yn 1804 rhoddodd ei swydd fel cyfreithiwr heibio, ac aeth i'r Brifysgol y flwyddyn ganlynol.

Yr oedd ei iechyd eisoes yn wael, ac arwyddion go eglur o'r darfodedigaeth i'w canfod. Ond er hyny ymroddai i lafur dibaid, llafur oedd yn ddigon i nychu cyfansoddiad llawer cryfach. Yr oedd ei lwyddiant gyda'i addysg yn nodedig, rhagolygon dysglaer o'i flaen, ac anrhydedd penaf y Brifysgol o fewn ei gyrhaedd. Ond, yr oedd ei iechyd yn cilio yn gyflym. Yr oedd ei ysbryd yn llosgi gan awydd am fyned yn ei flaen, a'i brofiad yn uchel ac addfed. Ond tywyllodd ei holl ragolygon daearol, a rhoddwyd terfyn ar ei oes fer, lafurus, a dysglaer, gan y darfodedigaeth, yn Cambridge, Hyd. 22, 1806, ac yno, yn Eglwys All Saints, y claddwyd ef, ac y mae Tablet er coffadwriaeth iddo wedi ei gosod i fyny yno. Nid oes genym ofod i sylwi ar ei farddoniaeth. Mae amryw o'i emynau yn gyfarwydd, megys "Awake, sweet harp of Judah," &c., "O Lord, another day is flown," &c. Cyfieithodd Alun ei "Star of Bethlehem" i'r Gymraeg, a rhoddwn y cyfieithiad i ddilyn yr ysgrif hon. Y mae rhai gwersi pwysig i bobl ieuainc yn cael eu dysgu gan fywyd dyddorol Kirke White.

1. Y gall bachgenyn tlawd, trwy ymroddiad ac ymddygiad da, gyrhaedd yr anrhydedd uchaf mewn addysg a chymeriad.

2. Fod y corff yn gystal a'r meddwl, yn gofyn am y gofal mwyaf, oblegid heb y naill mae y llall yn methu, a'r bywyd yn cael ei dori i lawr cyn hanner ei ddyddiau.

3. Y gall bywyd byr iawn fyw i lawer o bwrpas, a gwneyd ei ôl yn arosol mewn llenyddiaeth a barddoniaeth.

4. Fod y meddiant o rym crefydd y Bibl yn gynnorthwy i gyrhaedd llwyddiant ac enwogrwydd llenyddol.

SEREN BETHLEHEM.
(CYFIEITHIAD ALUN O KIRKE WHITE.)

PAN fo ser annhraethol nifer
Yn britho tywyll leni 'r nen,
At un yn unig trwy 'r eangder
Y tâl i'r euog godi ei ben:
Clywch Hosanna 'n felus ddwndwr
Red i Dduw o em i em,
Ond un sy 'n dadgan y Gwaredwr,
Hono yw Seren Bethlehem.

Unwaith hwyliais ar y cefnfor,
A'r storm yn gerth, a'r nos yn ddu,
Minnau heb na llyw nac angor,
Na gwawr na gobaith o un tu;
Nerth a dyfais wedi gorphen,
Dim ond soddi yn fy nhrem;

Ar fy ing y cododd seren,
Seren nefol Bethlehem.

Bu 'n llusern a thywysydd imi,
Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd,
Ac o erchyll safn y weilgi,
Dyg fi i borthladd dwyfol hedd:
Mae 'n awr yn deg, a minnau 'n canu,
F' achub o'r ystorom lem,
A chanaf pan fo 'r byd yn ffaglu,
Seren, Seren Bethlehem.


Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.