Hinon Ha'

Oddi ar Wicidestun

Y Teulu hynod haelion,
Cyd ganwn yn deg union,
Fawl gydlais, fêl, gaeadlon,
Ar dirion hinon ha';
Ac eiliwn gyda'n gilydd
Yn llawen i'n Pen Llywydd
Ganmoliaeth helaeth hylwydd
Am ddedwydd dywydd da.

Wrth glywed llais yr adar
A sain eu llefau'n llafar,
A gweled wyneb hawddgar
Y ddaear glaear glyd,
A rhywiog wlith y bore,
Cenhadon i ddwyn cnyde,
Disgwyliwn am des gole
A ffrwythe gore i gyd.

Y gwenyn hyd gweunydd
A dynnant dan adenydd
Y mêl o bob meillionwydd,
Yn gelfydd, hirddydd ha';
Gwnawn ninnau'n gywrain unwedd
Y gorau o bob trugaredd
I lân gyweirio'n buchedd
At gyrraedd diwedd da.

Edward Samiwel (1674-1718)