Hiraeth (cân)

Oddi ar Wicidestun

Hiraeth, cân draddodiadol Cymraeg a gasglwyd ar Ynys Môn gan Dr. J Lloyd Williams yn yr hanner cyntaf yr 20fed ganrif.


Dwedwch fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roedd ynddo
Na ddarfyddo wrth ei wisgo.
Derfydd aur a derfydd arian,
Derfydd melfed derfydd sidan;
Derfydd pob dilledyn helaeth,
Eto er hyn ni dderfydd hiraeth.
Hiraeth mawr a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn torri 'nghalon,
Pan fwy' dryma'r nos yn cysgu
Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry
Hiraeth, hiraeth, cilia, cilia
Paid â phwyso mor drwm arna',
Nesa' tipyn at yr erchwyn,
Gad i mi gael cysgu gronyn.