Hirlas Owain

Oddi ar Wicidestun

gan Owain Cyfeiliog

Gwawr pan ddwyreai, gawr a ddoded -
Galon yn anfon anfud dynged.
Geleurudd ein gwyr gwedi lludded - trwm
Tremid gofwy mur Maelawr drefred.
Deon a yrrais dygyhused,
Diarswyd ar frwydr, arfau goched.
A rygoddwy glew, gogeled - rhagdaw:
Gnawd yw o'i ddygnaw ddefnydd codded.
Dywallaw di, fenestr, gan foddhäed
Y corn yn llaw Rys yn llys llyw ced -
Llys Owain ar brain yd ry borthed,
Porth mil a glywy, pyrth egored.
Menestr a'm gorthaw, na'm adawed,
As deuy â'r corn, er cydyfed,
Hiraethlawn, amliw, lliw ton nawfed,
Hirlas ei arwydd, aur ei duded.
A dyddwg o fragawd wirawd worgred
Ar llaw Wgawn draws dros ei weithred.
Canawon Goromwy gwrdd gynired - gwyth,
Gwyr a obryn tâl ym mhob called;
Gwyr ynd ngawr gwerthfawr gwrdd ymwared,
Bugelydd Hafren, balch eu clywed,
Bugunad cyrn medd, mawr afneud.
Dywallaw di'r cprm ar Gynfelyn
Anrhydeddus feddw o fedd gorewyn;
Ac or mynny hoedl hyd un flwyddyn,
Na didawl ei barch, can yd berthyn.
A dyddwg i Ruffudd, waywrudd elyn,
Gwin â gwydr golau yn ei gylchyn;
Dragon Arwystli, arwystl terfyn,
Dragon Owain hael o hil Cynfyn,
Dragon a'I dechrau, ac niw dychryn - cad,
Cyflafan argrad, cymwy erlyn.
Cydwyr ydd aethant er clod edwyn.
Talasant eu medd mal gwyr Belyn - gynt
Teg eu hydrefynt tra fo undyn.
Dywallaw di'r corn, can y'm puchant,
Hirlas yn llawen yn llaw Forgant,
Gwr a ddyly gwawd, gwahan foliant,
Gwenwyn ei adwyn, gwân edrywant,
Areglydd defnydd dioddeifiant,
Llafn llyfn ei ddeitu, llym ei amgant.
Dywallaw di, fenestr, o lestr ariant
Celennig edmig can ardduniant;
Ar llawr Gwestun Fawr gwelais irdant;
Ardwy Goronwy oedd gwaith I gant.
Cedwyr cyfafaeth ydd ymwnaethant;
Cad ymerbyniaid, enaid ddichwant.
Cyfarfu ysgwyn ac ysgarant - aer,
Llas maer, llosged caer cer môr lliant.
Mwynfawr garchaeawr a gyrchasant -
Meurig fab Gruffudd, frym darogant.
Neud oedd gochwys pawb pan atgorsant;
Neud oedd lawn o haul hirfryn a phant.
Dywallaw di'r corn i'r cynifiaid,
Canawon Owain, cyngrain cydnaid.
Wynt a ddyrllyddant, yn lle honnaid,
Glud, men ydd ânt, gloyw hëyrn ar naid.
Madawg a Meilyr, gwyr gorddyfnaid
Trais, tros gyferwyr gyferbyniaid;
Taranogion torf, terfysg ddysgaid;
Trinheion faon, traws arddwyaid.
Ciglau am dâl medd myned haid - Gatraeth,
Cywir eu harfaeth, arfau llifaid.
Cosgordd Fynyddawg, am ei cysgaid
Cawsant eu hadrawdd, casflawdd flaeniaid.
Ni waeth wnaeth fy nghydwyr yng ngraid - Faelawr
Ddillwng carcharawr, ddyllest folaid.
Dywallaw di, fenestr, fedd hidlaid - melys,
O gyrn buelin balch oreuraid.
Ergyrayw gwrys gochwys yn rhaid,
Er gobryn bobrwy gwerth eu henaid.
A'r gnifer anun a borth cuniaid
Nis gwyr namyn Duw, ac a'i dywaid.
Gwr ni dwng, ni dâl, ni bydd wrthwir,
Daniel, draig cannerth, mor ferth hywir.
Menestr, mawr o waith ydd oleithir
Gwyr ni olaith llaith oni llochir.
Menstr, medd ancwyn a'm cydroddir,
Gwrdd dân gloyw golau, gwrddleu babir.
Menestr, gwelud galchöed - gyngrain,
Yng nghichyn Owain gylchwy enwir.
Pan breiddwyd Cawres, taerwres trwy ddir,
Praidd ostwng orflwng a orfolir.
Menestr, na'm diddawl, ni'm diddolir;
Poed ym mharadwys y'n cynhwysir.
Gan ben tëyrnedd boed hir - ein trwydded,
Yn y mae gweled gwaradred gwir.