Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Arwyrain y Cymrodorion

Oddi ar Wicidestun
Yr Ieuan Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Tri Englyn Milwr

ARWYRAIN Y CYMRODORION.

Ar y Pedwar Mesur ar Hugain, 1755.

1. Englyn Unodl Union.

MAWL i'r Ion! aml yw ei rad,—ac amryw
I Gymru fu'n wastad
Oes genau na chais ganiad,
A garo lwydd gwyr ei wlad?


2. Proest Cadwynodl.

Di yw ein Tŵr. Duw a'n Tad,
Mawr yw'th waith ym môr a thud;
A oes modd, O Iesu mad,
I neb na fawl, na bo'n fud?


3. Proest Cyfnewidiog.

Cawsom fâr llachar a llid,
Am ein bai yma'n y byd;
Tores y rhwym, troes y rhod,
Llwydd a gawn, a llawn wellhad.


4. Unodl grwcca.

Rhoe Nefoedd yr hynafiaid
Dan y gosp, a dyna gaid;
Llofr a blin oll a fu'r blaid,—flynyddoedd,
Is trinoedd estroniaid.


5. Unodl Gyrch.

Doe Rhufeinwyr, dorf, unwaith
I doliaw'n hedd, dileu'n hiaith,
Hyd na roes Duw Ion, o'i rad,
O'r daliad wared eilwaith


6. Cywydd Deuair hirion.

Aml fu alaeth mil filoedd,
Na bu'n well, ein bai ni oedd.


7 Cywydd Deuair fyrion, ac—8. Awdl Gywydd ynghyd.

Treiswyr trawsion
I'n iaith wen hon.
Dygn adwyth digwyn ydoedd
Tros oesoedd, tra y Saeson.


9. Cywydd Llosgyrnog, a—10. Thoddaid ynghyd.

Taerflin oeddynt hir flynyddoedd,
Llu a'n torai oll o'n tiroedd
I filoedd o ofalon:
Yno, o'i rad, ein Ner Ion—a'n piau
A droe galonau drwg elynion.


11. Gwawdodyn hir

Ion trugarogonid rhagorol
Y goryw'r[1] IESU geirwir rasol?
Troi esgarant[2]traws a gwrol—a wnaeth,
Yn nawdd a phenaeth iawn ddiffynol.


12. Gwawdodyn hir.

Coeliaf, dymunaf, da y mwyniant,
Fawr rin Taliesin, fraint dilysiant;
Brython, iaith wiwlon a etholant
Bythoedd, cu ydoedd, hwy a'i cadwant,
Oesoedd, rai miloedd, hir y molant—Ner
Moler; i'n Gwiwner rhown ogoniant.


13. Byr a Thoddaid.

A ddywedai eddewidion, a wiriwyd
O warant wir ffyddlon,
Od âi'n tiroedd dan y taerion,
Ar fyr dwyre[3] wir Frodorion,
Caem i'r henfri Cymry hoenfron,
Lloegr yn dethol llugyrn doethion,
Llawn dawn dewrweilch Llundain dirion,—impiau
Dewr weddau Derwyddon.


14. Hir a Thoddaid.

Llwydd i chwi, eurweilch, llaw Dduw i'ch arwedd,
Dilyth eginau, da lwythau Gwynedd;
I yrddweis Dehau urddas a dyhedd,
Rhad a erfyniwn i'r hydrwiw fonedd;
Bro'ch tadau, a bri'ch tudwedd,—a harddoch,
Y mae, wŷr, ynoch emau o rinwedd.


15 Hupynt byr

Iawn i ninau
Er ein rhadau
Roi anrhydedd
Datgan gwyrthiau
Duw, Wr gorau
Ei drugaredd


16. Hupynt hir.

Yn ein heniaith
Gwnawn gymhenwaith
Gân wiw lanwaith
Gynil union
Gwnawn ganiadau
A phlethiadau
Mal ein tadau,
Moliant wiwdôn


17. Cyhydedd fer.

Mwyn ein gweled mewn un galon;
Hoenfryd eurweilch, hen frodorion,
Heb rai diddysg, hoyw brydyddion,
Cu mor unfryd, Cymru wenfron


18. Cyhydedd hir.

Amlhawn ddawn, ddynion, i'n mad henwlad hon,
E ddaw i feirddion ddeufwy urddas,
Awen gymhen gu, hydr mydr, o'i medru,
Da ini garu doniau gwiwras.


19. Cyhydedd naw ban.

Bardd a fyddaf, ebrwydd ufuddol,
I'r Gymdeithas, wŷr gwiw, a'm dethol,
O fri i'n heniaith, wiw frenhinol,
Iawn, iaith geinmyg, yw ini'th ganmol.


20. Clogyrnach.

Fy iaith gywraint fyth a garaf,
A i theg eiriau, iaith gywiraf,
Iaith araith eirioes, wrol, fanol foes,
Er f'einioes, a'r fwynaf.


21. Cyrch a chwta

Neud, esgud un a'i dysgo,
Nid cywraint ond a'i caro,
Nid mydrwr ond a'i medro,
Nid cynil ond a'i cano,

Nid pencerdd ond a'i pyncio,
Nid gwallus ond a gollo
Natur ei iaith, nid da'r wedd,
Nid rhinwedd ond ar hono.


22. Gorchest y Beirdd.

Medriaith mydrau,
Wiriaith eiriau,
Araith orau,
Wyrth eres.
Wiwdon wawdiau,
Gyson geisiau,
Wiwlon olau,
Lân wiwles.


23. Cadwyn fer.

Gwymp odiaethol gamp y doethion,
A'r hynawsion wŷr hen oesol:
Gwau naturiol i gantorion
O hil Brython, hylwybr ethol.


24. Tawddgyrch cadwynog.

O'ch arfeddyd wŷch wir fuddiol,
Er nef, fythol, wyr, na fethoch:
Mi rof enyd amryw fanol,
Ddiwyd, rasol, weddi drosoch;
Mewn serch brawdol diwahanol,
Hoyw-wyr doniol, bir y d'unoch,
Cymru'n hollol o ddysg weddol,
Lin olynol, a lawn lenwoch.


Nodiadau

[golygu]
  1. Darfu
  2. Gelynion
  3. Eler