Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Awdl, yn ol dull Meilir Brydydd

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Farn Fawr Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Marwnad Lewis Morys

AWDL,[1]

Awdl yn ol dull Meilir Brydydd, pan gant i Drahaiarn fabCaradawc a Meilir mab
Rhiwallawn, yn iawn ysgrifenyddineth y Gogynfeirdd.

Y Bart du a gant Awdyl honn yn Llwyt y Llas Gwilym fab Hywel

YOLAFI Naf o nef im noddi
Yolaf nys tawaf pi les tewi
Am vap hywel hael hywaet vyg kri
Tawel vap hywel o hil cewri
Dypryd vym pryd ym pryderi lawer.
Am goryw bryder brutieu Sibli
Mi os canaf a syganai hi[2]
Neut (namwyn kelwyt) ti nym coeli
Celwytawc euawe eu broffwydi
Bob nos a dyt a fyt yth siommi
Gorpwyni dank ken trank a Duw tri
Tawaf nys doraf onys dori

Vyg geneu diheu diheur vi ith wyt.
Ys celwyt ni lwyt ny lut drychni
Map hywel gochel gyrch cymhelrhi
Er a droyttynt gynt geu broffwydi
Cyd bwynt hyd nemawr yth uawr voli
Gweckry eu geirieu geu a gwegi
Pan lat lat letir a llauyn llauyn llabir.
Yno y gwelir pwy a goeli
"Cet[3] buyf gwir nyt goreu vi o nep dyn
Y disgogan hyn o gryn gredi
Mal marchawc berthawe yt ymborthi
Mal gwron dragon dreic eryssi
Yg gwynias lleas llew a fethri
Ar yr asp yr yspys dyrcheui
Osswyt yn fwyr a lwyr lethi
Ny ryberis nef nep i'th dofi
Nyth rybar amhar ymhwrt beri
Ny digawn kadyr cyhydrec a thi

Er gwythuawr reityawr ny roti uram
Neut ny maccwys mam map a dori."
Andaw di breityawr brytest Sibli
Rinyeu ei geneu diheu dybi
Yn a egorwyf gwirion wyv i
Yn ethryb casswir pam ym cessi?
"Dieu[4] y dybyd dyt dynysgi
A rewin a thrin a thrwst ynni
A phan yssic lluric llwyr wae di
Can pan yssic lluric llaur a lyi
Diffeith woleith o wael dyli a gai
A chyn tervyn mei mawr egrygi
Neu dygyvyd llew llawn gwrhydri
Lleweit arwreit eryr cymmri
Yn wg digyurwg digyurag a thi
Tithau gan ei dwrf a lwrf lechi
Cyn nos gwener disgoganaf vi

Ucher yth later ti ny leti
A chan anreith gwoleith gwael dy uri
Diardwy abwy abar fyti
Esgyrn dy syrn hyd Sarn Teivi a grein
A byt lawen urein ar uraen weli."


Nodiadau

[golygu]
  1. Ymgais athrylith gref Goronwy i ddynwared geirwedd a sillebiaeth Meilir Brydydd, bardd Cymreig of gryn deilyngdod, yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, ydyw yr awdl hon. Bydd yn ddigon hawdd i'r darllenydd cywrain ddilyn rhediad y cyfansoddiad ond iddo ymgynghori hefo Geiriadur, yn enwedig yr eiddo Thomas Richards o Langrallo. yr hwn yn ol ei bris ydyw y goreu sydd genym -Cymraeg Saesneg
  2. Chwi a welwch nad oedd Sibli yn gwisgo dim clos; Sibylla oedd hi, mae yn debyg—YR AWDWR,
  3. Geiriau gau broffwyd yw y rhai hyn.-Yn Awdwr
  4. Geriau Sibli yw y rhai hyn.-Yr Awdwr