Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd i'r Calan, 1752
← Englyn ar Ddydd Calan, 1746 | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Cywydd i'r Calan, 1755 → |
CYWYDD I'R CALAN
(Sef dydd genedigaeth y Bardd a'i Fab hynaf,) yn y flwyddyn 1752.
CYN bod gwres i'r haul tesfawr,
A gorphen ffurfafen fawr,
Difai y creawdd Dofydd
Olau teg a elwid dydd;
A Duw, gan hyfryted oedd,
Dywedai mai da ydoedd.
Cywraint fysedd a neddair![1]
Gywir Ion, gwir yw ei air.
Hardd gweled y planedau,
A'u llwybr yn y gylchwybr gau;
Tremiadau tramwyedig,
A chall yn deall eu dig.[2]
Canfod, a gwych eurddrych oedd,
Swrn nifer o ser nefoedd,
Rhifoedd o ser, rhyfedd son!
Crogedig uwch Caergwydion,[3]
Llun y llong,[4] a'i ddehonglyd,
Arch NO,[5] a'i nawdd tra bawdd byd,
A'r Tewdws,[6] dŵr ser tidawg,
A thid[7] nas rhifid y rhawg.
Er nifer ser y nefoedd,
Nifer fawr o wychder oedd,
Ac er lloer wen ysplenydd,
Nid oes dim harddach na dydd,
Gwawl unwedd â goleunef,
Golau o ganwyllau nef.
Oes a wâd o sywedydd
Lle del, nad hyfryd lliw dydd?
Dra bostio hir drybestod;[8]
Mor rhyfedd rhinwedd y rhod,
Oer syganed wres Gwener[9]
Pan el i ias oerfel ser.
Duw deg lwys! da yw dy glod,
Da, Wirnaf, yw pob diwrnod,
Un radd pob dydd o naddynt,
Pob dydd fal eu gilydd gynt,
Uchder trenydd fal echdoe,
Nid uwch oedd heddyw na doe;
Nes it' draw neillduaw dydd
Dy hunan, da wahanydd,
Dy'gwyl yn ol dy degwaith,
Yn gorphen ffurfafen faith;
Na chwynwn yt, Ion, chwenych
Dydd o saith, wedi'r gwaith gwych;
Yn talmu da fu dy fod,
Sabbath ni châi was hebod.
Mawr yw dy rad, wiwdad Ion,
Da oedd gael dyddiau gwylion,
Da'r tro yt' eu gwylio gynt,
Duw awdwr, a da ydynt;
Da dy grog ddihalogwyl,
Dy grog oedd drugarog wyl,
Er trymed dy gur tramawr,
Penllad yw'th gyfodiad fawr.
Da fyg dy Nadolyg, Dad,
Da iawn ydoedd d'enwaediad;
Calan, fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi,
Da, coeliaf, ydyw Calan,
A gŵyl a ddirperai gân
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf!
Ar ddydd Calan i'm ganwyd,
Calan, nid anniddan wyd;
Gwaeth oedd genedigaeth Io,[10]
Diwrnod a gwg Duw arno,
Calan wyt ni'th cwliai[11] Naf,
Dwthwn wyt na's melldithiaf.
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed[12] wyt;
Cyflym ydd â rym yr oes,
Duw anwyl, fyred einioes!
Diddam a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt,
Llawn afiaeth a llon iefanc,
Ddryw bach, ni chaid llonach llanc;
Didrwst ni bu mo'm deudroed
Ymhen un Calan o'm hoed,
Nes y dug chwech ar hugain
Fab ffraeth i Fardd meddfaeth main;
Er gweled, amryw Galan,
Gofal yn lle cynal cân,
Parchaf anrhydeddaf di,
Tymor nid drwg wyt imi.
Cofiaf, Galan, am danad,
Un dydd y'm gwnaethost yn dad,
Gyraist im' anrheg wiwrodd,
Calenig wyrenig[13] rôdd.
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd,
Rhoi im' lân faban o fardd,
Hudol am gân, hy' ydwyt,
O b'ai les gwawd, blysig wyt;
Dibrin wyf, cai di obrwy,
Prydaf i yt' (pa raid fwy?)
A chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.
Aed y Calendr yn hendrist,[14]
Aed cred i ammau oed Crist,
Syfled pob mis o'i safle,
Ac aed â gŵyl gyd ag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr,
Ni'm neccy almanacwr,
Cei fod ar dal y ddalen,
Diball it' yw dy bill hen;
Na syfl fyth yn is, ŵyl fawr,
Glyn yno, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi gwyl Ronwy,
A phoed yn brif ddigrifwyl,
I'r beirdd, newydd arab ŵyl
A bid ei phraff argraphu
Ar dalcen y ddalen ddu.
Llead[15] helaeth, lled dwylain,
Eangffloch, o liw coch cain.[16]
Nodiadau
[golygu]- ↑ Llaw—'A'i neddair, f'anwylgrair fwyn, y nyddodd fedw; yn addwyn.—DAFYDD AB GWILYM.
- ↑ Talfyriad o digwydd
- ↑ Enw yr hen seryddwyr Cymreig ar y Llwybr Llaethog
- ↑ Saith Seren Llong
- ↑ Cydser
- ↑ Twr Tewdws
- ↑ Cadwen
- ↑ Trafodaeth
- ↑ Y blaned Venus
- ↑ Job
- ↑ Beiai.
- ↑ 30 oed
- ↑ Bywiog
- ↑ Cyfeiriad at symudiad y Calan
- ↑ Darlleniad.
- ↑ Red Letter Day.