Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd i'w gyflwyno i Dywysawg Cymru

Oddi ar Wicidestun
Unig Ferch y Bardd Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Englynion i ofyn Cosyn Llaeth-geifr


CYWYDD,

I'w gyflwyno i DYWYSAWG CYMRU, Wyl Ddewi 1753, ar y testyn sy'n canlyn, sef, Reget patriis virtutibus orbem.

Pwy ddysg im'? Pa dduwies gain?
Wir araith i arwyrain,
Gŵraf[1] edlin[2] brenhinwawr,
Blaenllin Cymru fyddin fawr?
Ai rhaid awen gymengoeg
O drum Parnassus gwlad Roeg?
Cyfarch cerddber Bieriaid,[3]
Am achles hoff—les a phlaid?
Ni cheisiaf, nid af i'w dud,
Glod o elltydd gwlad alltdud,
Ofer y daith, afraid oedd,
Mwyneiddiach yw'n mynyddoedd,
Lle mae awen ddiweniaith,
Gelfydd yn mhob mynydd maith,
Na wna'n eglur neu'n wiwglod,
Ond da, a ryglydda glod.

Pan danwyd poenau dunych,
A braw du'n ael Brydain wych,
Pan aeth FFREDRIG[4] i drigias,
Da iawn fro, Duw Nef a'i ras,
Rhoe GYMRU hen uchenaid,
A thrwm o bob cwm y caid,
Trystlais yn ateb tristlef,
Prydain, ac wylofain lef.

O'r tristwch du-oer trosti,
Nid hawdd y dihunawdd hi,
Fal meillion i hinon haf,
O rew—wynt hir oer auaf;

Iach wladwyr eilchwyl ydym,
Oll yn awr, a llawen ŷm,
Ni fu wlad o'i phenadur
Falchach ar ol garwach gur.

Llyw o Udd[5] drud llewaidd draw,
I ni sydd, einioes iddaw,
Udd gwrawl, haeddai gariad,
Por dewr, a ddirprwy ei dad;
Ni bu ryfedd rinweddau,
Ym maboed erioed ar Iau,
Arwr a fydd, ddydd a ddaw,
Mawreddog,—Ammor[6] iddaw!

Hiroes i wâr Gaisar gu,
Di-orn oes i deyrnasu;
A phan roddo heibio hon
I gyraedd nefol goron,
Nefol goron gogoniant
Yn oediog, lwys enwog sant,
Poed TRYDYDD SIOR ein IOR ni,
O rinwedd ei rieni,
Yn iawnfarn gadarn geidwad,
I'w dir, un gyneddf a'i dad.

Am a ddywaid maddeuant
A gais yr awen a gânt.
Hyn o'ch clod mewn tafodiaith,
A dull llesg hen dywyll iaith;
Mawr rhyddid Cymru heddyw,
Llawen ei chân, llonwych yw,
Trwy eu miloedd tra molynt
Eu Noddwr, hoyw gampwr gynt;
Llyw diwael yn lle Dewi,
Ior mawr, wyt yn awr i ni;
Ti ydyw'n gwarlyw gwirles,
Ti fydd ein llywydd a'n lles,

Os dy ran, wr dianhael,
A wisg y genhinen wael,
Prisiaf genhin brenhinwych
Uwch llawrydd tragywydd gwych.


Nodiadau

[golygu]
  1. Gwrolaf.
  2. Tywysog coronog—" Anrhydeddusaf wedi'r brenin yw edling braint neu eni."—CYF HYWEL DDA.
  3. Pierides—yr Awenau Groegaidd
  4. Bu Ffredrig, tywysog Cymru, farw o flaen ei dad, George II., ac felly ei fab ef George III., gwrthddrych y cywydd, a olianodd ei daid,
  5. Arglwydd,
  6. Hawddamor,