Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd y Maen Gwerthfawr

Oddi ar Wicidestun
Odlig arall i Anacreon Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Englyn ar Ddydd Calan, 1746


CYWYDD Y MAEN GWERTHFAWR, 1753.

CHWILIO y bum, uwch elw byd,
Wedi chwilio dychwelyd,
Chwilio am em berdrem bur,
Maen iasbis, mwy annisbur;
Hynodol em wen ydoedd
Glaerbryd, a DEDWYDDYD oedd.
Mae (er Naf) harddaf yw hi,
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr,
Ffulliwn[1] hyd ddau begwn byd,
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd,
Chwiliwn o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain a phob gwlad araul,
Cyffed ag y rhed yr haul,
Hyd gyhydlwybr yr wybren,
Lle'r a wawl holl awyr wen;
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg;
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd annghyfanedd fyd,

Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisian—glawdd na thawdd, na thawl.
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais,
Llemdost i mi'r bell ymdaith,
A phellaf gwacaf y gwaith,
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi;
Nid oes dwr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.
Da gwyr IESU, deigr eisioes
Dros fy ngran drwstan a droes,
Pond dlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!

Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall,
Cynull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddiau dwfn addysg,
Sophyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhai'n, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl,
Maen â'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wâg
O byst aur, â'u bost orwag,
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawd byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae son mai haws hyny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffol eiriau a ffiloreg.


Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw,
Sywlyfr[2] y Brenhin Selef,[3]
A Llyfr pur Benadur Nef,
Deufab y brenhin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd,
Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenhin mawr dirfawr a doeth,
Rhi'n honaid[4] ar frenhinoedd,
Praff deyrn, a phen prophwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o b'ai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw'?
Ar ol pob peth, pregethu
Mor ynfyd y byd y bu,
Gair a dd'wedai gwir ddidwyll,
Llawn yw'r byd ynfyd o dwyll,
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd, gwagedd i gyd.
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf islaw ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd em wen;
Ni chair yr em hardd-drem hon
Ar gyrau'r un aur goron,
Na chap Pâb, na chwfl abad,[5]
Na llawdr[6] un ymerawdr mâd.

Llyna sylwedd llên Selef,
Daw'n ail efengyl Duw Nef
D'wedai un lle nad ydoedd,
Ar ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn Nefoedd, hoff lysoedd fflwch,
Fan deg! yn Nef fendigaid,

Tlws ar bob gorddrws a gaid,
Pob careg sydd liwdeg lwys,
Em wridog ym Mharadwys;
Ac yno cawn ddigonedd
Trwy rad yr Ion mâd a'n medd.
Duw'n ein plith, da iawn ein plaid,
F'a'n dwg i Nef fendigaid.
Drosom, Iachawdwr, eisoes
Rhoes ddolef, daer gref, ar groes,
Ac eiddo ef, Nef a ni,
Dduw anwyl, fa'i rhydd ini.

Molaf fy Naf yn ufudd,
Nid cant, o'm lladdant, a'm lludd,
Dyma gysur pur heb ball,
Goruwch a ddygai arall;
Duw dy hedd rhyfedd, er hyn,
Bodloni bydol annyn.
Boed i angor ei sorod,
I ddi-ffydd gybydd ei gôd
I minau boed amynedd,
Gras, iechyd, hawddfyd, a hedd.

Nodiadau

[golygu]
  1. Brysiwn.
  2. Llyfr doeth
  3. Solomon
  4. Enwog
  5. Hwd yr Abad
  6. Unigol am lodrau