Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Darn o Awdl i Dywysawg Cymru

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Cynghorfynt, neu'r Genfigen Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Dyledswydd a Doethineb Dyn

DARN O AWDL I DYWYSAWG CYMRU.
(Ar ddydd gwyl Dewi.)
Ar fesur Gwawdodyn hir.

DWYRE wawr fore erfai, arwain
Dymawr dydd eurwawr, da ei ddwyrain,
Dyddiaith ar euriaith i arwyrain;
Drudfawr briodawr, Eryr Brydain,
D'wysawg llym aerawg llu mirain—Dewi
Dewr Ri Lloegr wedi llyw goradain.

Dithau, 'r Pôr gorau, ddirper gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad
Deyrnwalch eurgeinwalch, o rhoi genad
Dygwn, cynyrchwn cu anerchiad;
Derbyn ddwys ofyn ddeisyfiad—maon[1]
Drudion dirolion dy oreuwlad.


Cymer, nid ofer yw ein defod,
Cymer, anhyber gwyl i'n hebod,
Cuaf wlad buraf ddyled barod
Cymru, rywioglu wir oreuglod;
Cymer, ein dewrner, fri'n diwrnod,—cymer,
O ber hyfodd—der ein hufudd-dod.


D.S.—Yr achos i'r awdl hon fod yn anorphen oedd i Oronwy gael ei
daro yn glaf gan y Cryd, pan oedd yn preswylio yn Walton.

Nodiadau

[golygu]
  1. Deiliaid