Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Marwnad Mr John Owen

Oddi ar Wicidestun
Englyn i John Dean Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cywydd i Ofyn Ffrancod

MARWNAD

I'r elusengar a'r anhepgor wrda, Mr. JOHN OWEN, o'r Plas yng Ngheidio, yn Lleyn, 1754.

1. Unodl union.

GWAE Nefyn gwae Leyn gul wedd!—gwae Geidio!
Gwae i giwdawd[1] Gwynedd!
Gwae oer farw gwr o fawredd!
Llwyr wae! ac y mae ym medd!


2. Proest Cyfnewidiog.

Achwyn mawr, och in' y modd!
Nid ael sech ond wylo sydd,
Gwayw yw i bawb gau y bedd
Ar Sion Owen berchen budd.


3. Proest Cadwynog.

Cadd ei wraig bêr drymder draw,
Am ei gwaraidd lariaidd lyw;
A'i blant hefyd frwynfryd[2] fraw,
Odid un fath dad yn fyw.


4. Unodl Grweca.

Mawr gwynaw y mae'r gweinion,
Gwae oll y sut golli Sion
Ni bu rwyddach neb o'i roddion,—diwg,
Diledwg i dlodion.


5. Unodl Gyrch.

Llyw gwaraidd llaw egored,
Rhwydd a gwiw y rhoddai ged;
Mwynwych oedd (y mae'n chwith!
Digyrith da ei giried.[3]


6. Cywydd Deuair hirion

Gwrda na phrisiai gardawd,
Ond o les a wnai i dlawd;


7. Cywydd Deuair byrion.—8. Awdl Gywydd.—9. Cywydd Llosgyrnawg.—a 10. Thoddaid ynghyd.

Ni bu neb wr,
Rhwyddach rhoddwr:
A mawr iawn saeth ym mron Sion,
Cri a chwynion croch wanwr.
Llawer teulu (llwyr eu toliant,
A'u gwall!) eusus a gollasant,
Syn addiant! Sion i'w noddi.

Bu ŷd i'w plith, a bwyd i'w plant,—eu rhaid
Hyd oni ailgaid yn y weilgi.


11. Gwawdodyn byr.

Sion o burchwant (os un) a berchid,
Synwyr goreu, Sion wâr a gerid,

Sion a felus iawn folid:—pan hunodd
Sion Owen gufodd, syn yw'n gofid.


12. Gwawdodyn hir.

Chwychwi y gweiniaid, och eich geni!
A marw'ch triniwr, mawr yw 'ch trueni!
Pwy rydd luniaeth (pa rodd y leni!)
Yn ail i Sion, iawn eleuseni?
Oer bod achos i'r byd ochi,—nis daw,
Er gofidiaw awr i gyfodi.


13. Byr a Thoddaid.

Ar hyd ei fywyd o'i fodd,—iawn haelwas,
Yn helaeth y rhanodd,
A'i Dduw eilwaith a addolodd,
Wiw ban dethol, a'i bendithiodd;
Diwall oedd, a da y llwyddodd,
Am elw ciried mil a'i carodd,
Hap llesol, pwy a'i llysodd?—Duw Un-Tri,
Ei Geli a'i galwodd.


14. Hir a Thoddaid

Wiwddyn cariadus, i Dduw Ion credodd,
Hoff oedd i'w Geidwad, a'i ffydd a gadwodd,
O'i orchymyn, i wyraw o chwimiodd,
Da fu y rheol, edifarhaodd,
Ym marwolaeth, e 'moralwodd[4]—â'i Ner,
A Duw, orau Byw-ner, a'i derbyniodd.


15. Hupynt byr

Os tra pherchid
O mawr eurid
Am arwredd
Deufwy cerid
Mwy yr enwyd
Am ei rinwedd


16. Hupynt hir.

Am ei roddion, a'i 'madroddion,
Hoyw wr cyfion, hir y cofier:
Ei blant grasol, Gan Dduw nefol,
Fwyn had ethol, a fendithier.—


17. Cyhydedd fer

Cu hil hynaws, cael o honynt,
Duw'n dedwyddwch, di'n Dad iddynt;
Yn ymddifaid na 'moddefynt
Gyrchau trawsder gwarchod trostynt.


18. Cyhydedd hir.

I'w gain fain fwynhael briod, hyglod hael,
Duw tirionhael, dod ti hir einioes;
Rhad ddifrad ddwyfron, amledd hedd i hon,
I hwylio'i phurion hil hoff eirioes.


19. Cyhydedd 9 ban.

Am a wna Wiliam[5] mwy na wyled,
Diwyd haelioni ei dad dilyned;
A digas eiriau da gysured,
Och a mawrgwyn ei chwaer Marged.


20. Clogyrnach.

Os rhai geirwir sy wŷr gorau,
I fyd saint e fudes yntau;
Draw, ddifraw ddwyfron,
I fâd lwysgad lon
Angylion yngolau.


21. Cyrch a Chwta.

Yn wych byth, ddinych y bo,
Yn iach wiwddyn (och!) iddo

Mae hi'n drist am hyn o dro,
Wir odiaeth wr ei ado;
Ni wiw i ddyn waeddi, O!
Och! war Owen! a chrio,
Dal yn ei waith, dilyn ef,
I'r wiwnef, fe'i ceir yno.


22 Gorchest y Beirdd.

Nid oes, Ion Dad, Na'n hoes, na'n had,
Na moes na mâd, na maws mwyn;
Dy hedd, Duw hael, Main fedd mae'n fael, .
A gwedd ei gael e gudd gŵyn


23. Cadwyn fyr,

Yn iach wrol oen awch araf,
I'r hygaraf wr rhagorol;
Ef i'w faenol a fu fwynaf,
Un diddanaf enaid ddoniol.


24. Tawddgyrch Cadwynog,
o'r hen ddull gywraint, fel y canai'r hen Feirdd; ac ynddo mae godidowgrwydd gorchestwaith, a chadwyn ddidor trwyddo.

Dolur rhy drwm! dramawr benyd,
Boenau dybryd, ebrwydd ddidol
Dwl Llyn a llwm, llai mael Gwyndyd,
Gan doi gweryd gwr rhagorol
Dirfawr adfyd, odfa ddyfryd,
Ddifrif oergryd, fyd anfadol
Dygn i'w edryd, adrodd enyd,
Ddwyn eu gwynfyd cyd, un cedol.


Arall o'r ddull newydd drwsgl, ar y groes gynghanedd, heb nemawr o gadwyn ynddo, ac nid yw'r fath yma amgen na rhyw fath ar gadwyn fyr gyfochr, a hupynt hir ynglyn a'u gilydd.

Doluriasant, dwl oer eisiau
Erinweddau, wr iawn noddol,

Llai eu ffyniant oll i'w ffiniau
Heb ei radau bu waredol
Cofiwn ninau ddilyn llwybrau
Ei dda foddau, oedd wiw fuddiol
Cawn, fal yntau, i'n heneidiau,
Unrhyw gaerau, Oen rhagorol.


Nodiadau

[golygu]
  1. Llwyth.
  2. Gofidus
  3. Elusen
  4. Taergeisiodd
  5. Mab i John Owen.