Hud a Lliw y Byd
Gwedd
gan Siôn Cent
- Un fodd yw’r byd, cyngyd cêl
- â phaentiwr delw â phwyntel,
- yn paentiaw delwau lawer,
- â llu o saint a lliw sêr.
- Fal hudol â’i fol hoywdew
- yn bwrw hud, i angwr glud glew
- dangos a wna, da diddim
- dwys ei dâl, lle nid oes dim.
- Felly’r byd hwn, gwn ganwaith,
- hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.
- Mae’r byd oll? Mawr bu dwyllwr.
- Mae Addaf fu gytaf gŵr?
- Mae Rwling frenin Corstinobl?
- Mae’r ddau mawr Babau? Mae’r bobl?
- Mae Sulus frenin Susil?
- Mae feirdd Ewropa? Mae fil?
- Alexander a dderyw,
- Ector, Arthur, eglur yw.
- Mae Gwenhwyfar, gwawn hoywwedd,
- merch Gogfran gawr, fawr a fedd,
- a’r sidan, eres ydiw,
- a’r gwallt llawn perles aur gwiw?
- Mae Tegfedd ryfedd yrhawg,
- Coelferch Owain Cyfeilawg?
- Mae Firain, eurfain wryd
- o Ffrainc, oedd decaf ei phryd?
- Mae Herod greulon honnaid?
- Mae Siarlymaen o’r blaen blaid?
- Mae Fasil fab? Mae Fosen?
- Mae Brutus fab Sulus hen?
- Mae Owain, iôr archfain oedd?
- Mae Risiard frenin? Mae’r oesoedd?
- Mae’r haelion bobl? Mae’r helynt?
- Mae’r gwyrda fu Gymry gynt,
- mae’r perchen tai? Mae’r parchau
- yn fab a welais yn fau?
- Ni ŵyr cennad goeladwy
- na herod gwynt eu hynt hwy.
- A’r undawns, gwn ei wrandaw,
- i ninnau diau y daw.
- Heliwm olud ehudwaith;
- hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.
- Anniweiriaf fu Ddafydd;
- Selyf ddoeth, salw fu ei ddydd.
- Dyryseinia dros annerch,
- Duc Iorc a rô forc i ferch.
- Maent hwy a’u gwragedd heddiw,
- a’u mawredd gwych a’u medd gwiw?
- Mae’r hud iaith? Mae’r rhai doethion?
- Mae’r saith gelfyddyd? Mae’r sôn?
- Mae catw ddoeth? Mae Cytal?
- Mae’r saith ddysg Fferyll, mawr sâl?
- Er ei gallter, med gwerin,
- a’i fawr gelfyddyd o’i fin,
- a’i hoced mawr a’i hwcian,
- aeth i’r ddaer fal gwâr gwan.
- Er eu dewred, wŷr diriaid.
- a’u balchedd rhyfedd a’u rhaid,
- yn diddim, awgrim ograff,
- i’r pridd ydd aethant, wŷr praff.
- O’r pridd ydd awn, er praw,
- i’r pridd ydd awn, er pruddaw.
- Afraid i dynn fryd ar dda
- a’i ryfig a’i wareufa
- a’i dolciog gorff a’i dalcen
- a’i bwys o bridd a’i bais bren;
- ac wythgant, meddant i mi,
- o bryfed yn ei brofi.
- Had daear ar hyd dwywaith;
- hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.
- Pan ddêl Crist, poen ddial cred,
- parth y gaer porth agored
- Dduw Sul i farn yn ddisom
- ar dda drwg, a’r ddôr drom,
- rhai’n crynu fal maeddu mab,
- eraill yn llawen arab;
- rhai a gaiff nefoedd i gyd
- rhai boenau, rhyfawr benyd.
- Yno y gwelwm, iôn gwiwlaith,
- hud a lliw, nid gwiw ein gwaith.
[[Categori:Cerddi Caeth]