Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Rhagair
Gwedd
← Humphrey Jones a Diwygiad 1859 | Humphrey Jones a Diwygiad 1859 gan Evan Isaac |
Cynnwys → |
RHAGAIR.
Ni wnaed erioed o'r blaen gais at roddi hanes Humphrey Jones yn fanwl a chyflawn; ac y mae pymtheng mlynedd ar hugain er ei farw. Ceir cylchgronau a llyfrau'n cyfeirio'n brin ato ef a'i waith, a'r cyfeiriadau fynychaf yn colli o ran cywirdeb.
Credaf nad oes fwy i'w ddywedyd am y Diwygiwr, na dim cywirach, nag a geir yn y llyfr hwn.
Y mae arnaf ddyled mawr i Mr. W. Garmon Evans, Oshkosh, Wisconsin, Unol Daleithiau, y Parch. J. J. Morgan, awdur y llyfr ar " Dafydd Morgan a Diwygiad '59," a Mr. John Edwards, M.A., Ysgol Sir, Llandeilo, am gywiro'r proflenni. Dymunaf ddiolch yn gynnes iddynt hwy a phawb eraill a'm cynorthwyodd.
Hydref, 1930.
EVAN ISAAC.