Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig/Pennod V
← Pennod IV | Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
Pennod VI → |
PENNOD V.
"Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus. "Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith." —SOLOMON
Bu y Parch. Mr. Lloyd cystal a'i air. Cymerodd ofal dyfal am iechyd a chysur corfforol, yn gystal a diwylliad meddyliol, a chynydd crefyddol ei was, Huw Huws. Ac yr oedd Huw, yntau, yn ad-dalu yn dda i'w feistr am ei holl ofal a'i garedigrwydd, trwy ffyddlondeb diwyrni, fel gwas, a thrwy wneud y defnydd goreu o'i oriau segur i ddiwyllio ei feddwl. Yr oedd ei gynydd anianyddol a meddyliol yn gyflym ac amlwg. Tyfodd yn las-lanc cryf a gweithgar; ond yr oedd llawer o wahaniaeth rhyngddo ef a llafnau o'r un wedd ag yntau, yn gymaint ag fod trallodion blaenorol wedi dwyseiddio llawer ar ei feddwl, ei efrydiaethau noswyliol wedi gosod argraff o feddylgarwch ac uchafiaeth ar ei feddwl a'i ymadroddion, a'i ymlyniad diffuant wrth arferion crefyddol wedi ei nodi yn wrthddrych cellwair bechgyn anystyriol, a pharch a hoffder pob crefyddwr a'i hadwaenai.
Yr oedd Mr. Lloyd yn dal ychydig o dir, a daeth Huw yn wir wasanaethgar iddo fel llafurwr. Teimlai fod llafur yn fraint yn gystal ag yn ddyledswydd, ac nid yn orthrech a thrais. Nid oedd ef, fel llawer o'i gyfoedion a'i gydwladwyr, yn ystyried bod yn llafurwr yn un sarhad na chaethiwed, nac fod ei waith yn gorfod llafurio am ei gynhaliaeth yn ddiraddiad o angenrheidrwydd, eithr teimlai fod llafurio yn ffyddlawn, yn ei alluogi i fod yn ddefnyddiol i eraill yn gystal ag iddo ei hun,—yn foddion i ddysgyblu ei gymeriad ei hun—cyflawni dyben bywyd, a dwyn yn mlaen amcanion ei Greawdwr.
Nid ydym yn meddwl fod yr ystyriaethau hyn wedi cael eu ffurfio yn rheolaidd, yn gyfundraeth drefnus a chaboledig, gan Huw Huws. Yr oedd yn rhy ieuanc i hyny, efallai. Ond, er hyny, yr oeddynt yn gwreiddio yn ei feddwl, ac yn dylanwadu yn ddirgelaidd ar ei fyfyrdodau a'i fuchedd. Buasai yn synu ei hunan eu gweled yn ysgrifenedig, y pryd hwnw; ond buasai yn teimlo, ar yr un pryd, mai dyna ei syniadau ef.
Gyda 'i feddwl yn yr agwedd ddymunol yma y parhaodd i lafurio dros ei feistr a throsto ei hun, gan gadw ei feddwl bob amser yn hyderus ar y dyfodiant. Byddai yn derbyn llythyr, yn awr ac eilwaith, oddiwrth ei rieni; ac er nad oeddynt hwy yn mynegu iddo eu holl helyntion; eto, efe a deimlai, wrth ddarllen eu llythyrau, eu bod wedi cyfarfod ag amryw drallodion, er eu bod yn ceisio eu celu oddiwrtho ef. Cafodd awgrymiad aneglur am ddadfeiliad iechyd ei chwaer, Mari, a gofidiai yn ei galon nad oedd ef yn ddigon o ddyn i allu ei chadw hi, a'r rhelyw o'r teulu, yn awyr iach Cymru. Ond bachgen oedd eto; ac y mae cyflogau y cyfryw lafurwyr Cymreig yn fychan hyd yn nod pan lafuriant dan y meistriaid goreu.
Wedi bod yn ngwasanaeth Mr. Lloyd am ddwy flynedd, daeth cyfnewidiad drachefn ar ei amgylchiadau. Eglwys led dlawd oedd gan Mr. Lloyd; ond yr oedd ei dduwioldeb, ei weithgarwch, ei wybodaeth, a'i ddawn, yn ei gyfaddasu i gymeryd gofal o Winllan lawer eangach, lle y gallai wneud mwy o'i ol ar y byd. Ac yn mhen dwy flynedd ar ol dyfodiad Huw Huws ato fel gwas, cafodd gynyg ar fugeiliaeth Eglwys lawer mwy, mewn tref fawr, boblogaidd, lle y gallai weithredu ei holl alluoedd mewn maes digon i'w gyraeddiadau uchaf. Credodd y gweinidog mai Rhagluniaeth oedd yn nodi maes iddo fod yn fwy defnyddiol, a phenderfynodd ymadael o Fon; a chan nad oedd ganddo waith mwyach i Huw Huws, aeth at Mr. Owen, Plas Uchaf, amaethwr boneddigaidd, cyfoethog, dylanwadol, ac uchel ei gymeriad yn y wlad, i ofyn iddo gymeryd Huw yn was. Dywedodd Mr. Owen ei fod ef wedi siarad gyda dyn arall, ac wedi addaw ei gyfarfod yn y Ffair Pen Tymhor, i geisio ei gyflogi; ac ychwanegodd—"Os byddaf yn gweled y dyn hwnw yn ateb fy nyben, ac yn rhesymol yn ei ofynion; a'i gymeriad yn dda, ni's gallaf ei droi ymaith ar ol siarad âg ef; ond os na fydd yn union wrth fy modd, mi a gyflogaf Huw. Gan hyny, gwell i chwi, Mr. Lloyd, ddweyd wrtho am fy nghyfarfod yn y ffair fawr."