Neidio i'r cynnwys

Hwian-gerddi Cymraeg F' Ewyrth Huw

Oddi ar Wicidestun
Hwian-gerddi Cymraeg F' Ewyrth Huw

gan Owen Morgan Edwards

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia

"CAS GWR NAS CARO'R WLAD A'I MACCO"

GAIR AT BLANT CYMRU.

(Dyweyd wrth y post i'r pared glywed."—HEN DDIAREB.)

Amcan y casgliad bychan hwn o "Hwian-Gerddi" ydyw ceisio eich denu i ymarfer y Gymraeg, a' magu awydd ynoch am ddyfod i gydnabyddiaeth a'r trysorau gwerthfawr sydd yn perthyn i Lenyddiaeth Cymru; a chredwn nad oes ffordd well i gychwyn na rhoddi i chwi dameidiau difyrus, ond diniwed. Y mae gan bob cenedl arall lawer o rigymau cyffelyb wedi eu cyhoeddi; paham, gan hyny, yr amddifedir Plant Cymru o'r hyn sydd yn rhoddi pleser iddynt?

Mae un peth yn sicr, os na chewch rai yn y Gymraeg, fe fynwch rai o rywle; a beth mor naturiol ag i chwi droi at y rhai Saesneg? yr hyn a gwyd ynoch hoffder at yr iaith sydd yn darparu gogyfer a'ch chwaeth plentynaidd, ac felly yr esgeuluswch y Gymraeg, gan nad oes dim pleser i'w gael wrth ei dysgu; ond gobeithiwn y gwna y llyfryn hwn ddangos i chwi fod yr hen Gymraeg yn meddu darnau lawn mor ddifyrus i blant ag a geir mewn unrhyw iaith.

Os rhoddwch groesaw iddo, cewch ychwaneg yn fuan. Wrth ddysgu y Cerddi i "Gymru Fydd," daw i gof eich rhieni neu eich cyfeillion lawer adgof felus am "Gymru Fu"

Cyflwynir ef i chwi gyda'r gobaith y bydd yn gymhorth i enyn ynoch gariad at EICH GWLAD, EICH IAITH, A'CH CENEDL, gan

"F'EWYRTH HUW."

NODIAD.—Gan fod nifer o'r Cerddi hyn wedi eu hysgrifenu i'r casgliad hwn, a rhai o honynt wedi eu cymeryd o Weithiau CEIRIOG, nis gall

eraill eu cyhoeddi heb ganiatad.

Y Wyddor Gymraeg.

A sydd am Arthur a Gwyr y Ford Gron.

B sydd am Buddug, Brenhines ddewr fron.

C sydd am Ceiriog, a'i "Oriau yr Ha'."

CH am y Chwaeth sy'n dewis y da.

D yw y Delyn a'i seiniau lawn swyn.

DD yw'r Ddallhuan, drwy'r nos dd'wed ei chwyn.

E am yr Efail, lle'r bedol a wnaed.

F am y Falwen a deithia heb draed.

FF am y Ffermwr i'rfarchnad a ddel.

G am y Gwenyn sy'n casglu y mel.

NG geir yn Nghymru, mor anwyl i ni.

H oedd ein Hywel fu'n Frenin o fri.

I yw yr Ieir sy'n dodwy bob dydd.

L oedd Lygoden o'r trap ddaeth yn rhydd.

LL am Llywelyn "Ein Llyw Olaf" ni.

M sydd am Madog a groesoedd y lli'.

N yw y Nyth o fwswg' a phlu'.

O yw yr Olwyn mewn melin a dry.

P am ein Poli sy'n gwatwar o hyd.

PH am ei Phriod sy'n "dafod i gyd."


R sydd am Ryddid, mor werthfawr i'n yw!

S am y Sipsiwn mewn pebyll sy'n byw

T am y Teiliwr ar ddeilen mewn coed.

TH gyda Thithau fu'n gyfaill erioed.

U sydd am Urddas i'r diwyd a'r da.

W sydd am Wialen, a chosbi'r drwg wna.

Y yw yr Ynys lle'r ydym yn byw.
A wyddoch chwi 'henw? Wel, Prydain Fawr yw.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

1 2 3 4 5 6 7 8 9 0

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Robyn Goch.
(CERDD RWNAN).

Robyn Goch ar ben y rhiniog
A'i ddwy aden bach anwydog
Ac yn dwedyd yn ysmala
Mae hi'n oer fe ddaw yn eira


~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Tarw corniog tori cyrnau, Heglau baglog higlau byglau;
Higlau byglau heglau baglog, Tori cyrnau tarw corniog.

********

Troi a throsi; troi i b'le? I Abergele i yfed te.



Molyn Wy Melyn eisteddai ar fur,
Molyn Wy Melyn a gwympodd yn wir;
Nis gall Gwyr y Brenin na neb arall 'chwaith,
Fyth godi'r Wy Melyn ar y mur yr ail waith!



Cwn Caer,
Ceirw Corwen
Cerwch!



Mi fum yn gweini tymhor yn ymyl Ty'n-y-coed,
A dyna'r lle difyraf y bum i ynddo 'rioed!
Yr adar bach yn tiwnio, a'r coed yn suo 'nghyd,
Fy nghalon fechan dorodd er gwaetha' rhai'n i gyd.



Tri peth a fedr Elis,
Rhwymo'r eisin sil yn gidys,
Dal y gwynt a'i roi mewn wden,
Rhoi llyffethair ar droed malwen.



Dacw ddyn yn gyru moch,
Mochyn gwyn a mochyn coch,
Un yn wyn yn myn'd i'r cwt,
A'r llall yn goch a chynffon bwt.



Robyn y Rip a chwip yn ei law,
Daflodd fy nghap i ganol y baw.


 

Ladi fach benfelen,
Yn byw ar ben y graig,
Mi bobith ac mi olchith,
Gwnaiff imi burion gwraig.
Mi startsith ac mi smwddith,
Gwnaiff imi burion bwyd,
Tra bydd yr haul yn t'wynu
Ar ben y Gareg Lwyd.



Ci a chath a chyw a chywen,
Yw cwmpeini Marged Owen;
Pan fo Marged Owen brudda,
Daw y rhai'n o'i blaen i chwara.



Topsi, Tipsi, brechdan a chig,
Be' gei di'n well i ro'i wrth dy big.



Ladis bach y Pentre

Ladis bach y Pentre
Yn gwisgo capie lasie;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i'r llangcie;
Modrwy aur yn ngwydd y byd,
Tra'u 'sane i gyd yn fagsie!


Cobler Coch o Ruddlan
A aeth i foddi Cath,
Mewn cwd o lian newydd
Nad oedd o damaid gwaeth;
Y cwd aeth gyda'r afon
A'r gath a ddaeth i'r lan;
Ow'r Cobler Coch o Ruddlan,
On'd oedd o'n foddwr gwan?



Mae geny' fochyn bychan,
Mae geny' fochyn mawr,
Mae geny' fochyn arall,
'Dyw fychan nac yn fawr.


Dandi di, dandi do,
Welsoch ch'i 'sgidie newydd o?
Ar i fyny ar i waered,
Bydd y bychan bach yn cerdded
Bachgen da ydi Dafydd,
Am gadw 'sgidiau newydd;
Gwisgo 'r hen rai dan yr ha'
Bachgen da ydi Dafydd.



Owain bach a minne
Yn myn'd i werthu pinne;
Un pin, dau bin,
Tri phin am ddimme.


Robyn Goch yn mhlwy' Rhiwabon
Lyngcodd bar o fachau crochon;
Bu'n edifar ganddo ganwaith
Eisieu llyngcu llai ar unwaith.


Trot, trot, myn'd i'r dre,
Carlam, garlam, adre.


Dau droed bach yn myn'd i'r coed,
Esgid newydd am bob troed;
Dau droed yn dyfod adre'
Wedi colli un o'r 'sgidie!


Llanelli, Llangollen
A Chaerwys a Chorwen;
Llanelwy, Llanelian,
Tre'rg'lomen a'r Glyn;
Y Bala, Trenewydd a Thowyn Meirionydd,
Trawsfynydd, Llanufydd a Nefyn.


'Rol casglu y defaid yn nghorlan Ty'n Pant
Fe'u golchir yn lan yn llyn Melin Nant;
Ac wed'yn fe'u cneifir a nodir hwynt oll,
Er mwyn eu hadnabod os byth ant ar goll;
'Rol pobpeth fyn'd drosodd ant adref i'w lle,
Gan ddawnsio yn llawen a chanu Me! Me!


Hen wraig bach yn byw tan y gogor,
Hen ddrws bach yn cau ac yn agor.



Ifan Bach a Minne.

Ifan Bach a minne
Yn myn'd i Lunden G'lanme,
I godi gwarant ar y gath
Am yfed llaeth y bore;
Mae gwynt y mor yn oer y nos,
Gwell ini aros gartre.



Mi welais ddwy lygoden
Yn cario pont Llangollen,
Round about o gylch y ddol,
Ac yn eu hol drachefen.



Bum yn byw yn gynil, gynil,
Aeth un ddafad imi 'n ddwyfil;
Troi's i fyw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.



'Dos i'th wely rwan, 'dos i'th wely rwan,
'Dos i'th wely fel yr wyt, 'dos i'th wely rwan.




Hei Didl, Didl.

Hei didl, didl,
Y Gath gyda'r ffidl;
Dros y lleuad a'r Fuwch; try hwy!
Fe chwarddodd y Ci
Wrth gael y fath spri,
A dawnsiodd y Plat gyda'r Llwy!!




Tair Cath Fechan

Tair cath fechan
Yn eistedd yn ddiddan
O'r bibell yn pwffian mwg

O! mam bach anwyl
Nawn ni byth eto
Newchi byth eto
Sut rydych chi'n leicio
Y wialen am, fod yn rhai drwg

Miaw! miaw! Miaw
Fe fuom yn gathod bach drwg.
Miaw

Tair cath fechan
Yn eistedd yn anddiddan
O! pwffian y mwg


~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

Elwyn bach a finau,
Yn myn'd i ffair y Gla'mai;
Dod yn ol ar gefn y fran
A phwys o wlan am ddimau.



Hei, ge'l bach, Si Ho! Si Ho!
Werthsoch chi'r 'sgadan? Do, do, do!
Beth oedd eu pris hwy? Pump am ddwy.
Hei, ge'l bach, a bant a nhwy.



Pedoli, pedoli, pe-dinc,
Mi fyna'i phedoli pe costia 'i bunt;
Pedol a ho'l, o dan y droed ol,
A phedol yn eisiau o dan y droed ase
O waith y gof bach o Landybie.




Y Gath Ddu.

Mae geny' Gath Ddu,
Fu 'rioed ei bath hi;
Fe yrodd y Tarw
I ben coeden dderw;
A'i gwinedd a'i barf,
A rheiny mor hardd,

Hi helith y llygod
Yn lluoedd i'r ardd;
Daw eilwaith i'r ty
A thresia y ci,
Mi ro'wn i chwi gynghor
I gadw Cath Ddu.



I'r farchnad, i'r farchnad i brynu y moch,
Fath helynt d'od adre; hysoch! hysoch!
Ffordd yma, ffordd acw, waeth tewi na son,
Moch ydyw moch o Fynwy i Fon.



Gyru, gyru i Gaer, i briodi merch y Maer;
Gyru, gyru adre, wedi priodi er's diwrnodie.



Yr Hin-Fynegydd.

Mae gan i, ac mae gan lawer,
Gloc ar fur i gadw amser;
Mae gan Moses, Pant-y-maesydd,
Un yn ty i gadw tywydd.
Trowch ei fys ef ar yr aswy,
Fe ddaw gwynt a gwlaw ofnadwy;

Os bydd eisieu'r storm ostegu
Yn y funud trowch o i fyny.
Trowch ei fys ef tua'r dehau,
Try yr hin a daw taranau;
Pan ddaw gwlaw i'n cyfarfodydd
Awn at Moses, Pant-y-maesydd.



Mae yn Nghaerfyrddin flawd ar werth,
Yn Rhondda berth i lechu;
Mae yn llyn Tegid ddwr a gro,
Ac efail go' i bedoli,
Ac yn Nghastell Dinas Bran
Farcutan wedi boddi.



Mae genyf ebol melyn,
Yn myn'd yn bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Fe reda ac fe gampia
Oddi yma i'r Felin Wen;
Fe red dros ugain milldir
Cyn tynu'r ffrwyn o'i ben.

Wanar yn twar
Yn ticar yn ten,
Potel o finegr, once again;
Cwesy, Cwesy, my good lady,
O U T— out,
Gwialen fedw Robyn Stowt;
Crwtyn bach, mab i wrach,
Dos di allan leidr bach.



Dwy wydd radlon, yn pori 'n nglan yr afon,
Yn rhadloned a'r rhadlonaf wydd, dwy wydd radlon.



Pirym Parym.

Helo! medde Jac y Do;
(Un garw am holi a 'mofyn ydi o):—
Paham y mae'n arw
Fod blewyn garw
Yn tyfu yn mlaen barf gafr?

Atebodd Bardd y Cenin,
A'i het ar dop ei goryn:—
Am ei bod yn pori
Dan y Pirym Parym,
Ar y Pirym Parym;
Dyna'r pam mae'n arw
Fod blewyn garw
Yn tyfu yn mlaen barf gafr!
*******
Si so, Jac y Go'; gwerthu 'r fuwch a lladd y llo.


Capten Cwac.

Mi welais long yn hwylio,
Yn hwylio ar y lli;
Ac O! 'roedd hon yn llawn yn mron
O bethau tlws i mi.

'Roedd ynddi 'falau cochion,
A stoc o eirin Mair;
Ei hwyliau o'ent o sidan gwyn
A'r llong ei hun o aur.

Y pymtheng morwr noeth eu traed
A weithient ar ei bwrdd,
O'ent bymtheng llyffant melyn mawr,
Y mwyaf allech gwrdd.

Hwyaden oedd y Cadben
O'r enw Twm Shon Jac;
A phan symudai'r llong drwy'r dwr,
Fe ganai "Cwac! Wac wac!!



Gwlaw, gwlaw, cadw draw,
Tyred eto ddydd a ddaw;
Haul, haul, brysia di,
Tywyna'n siriol arnom ni,
Fel b'o ini gael y c'naua'
Cyn y delo Galangaua'.



Gwrecsam fechan a Gwrecsam fawr,
Pentrefelin ac Adwy'r Clawdd,
Lletty Llygoden a Brandi Bach,
Cas-gen Dittw, Dafarn y Gath.

(Mae'r oll o'r uchod yn enwau lleoedd yn ardal Gwrecsam.)



Sion a Sian


Sion a Sian oddeutu'r tan
Yn bwyta blawd ac eisin man;
Maent yn hynod annghariadus,
Maent yn gas a drwg eu hewyllys;
'Sgluso 'u gwaith yn hwyr a boreu,
Hela straeon am y goreu.



'Roedd genyf ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Yn pori 'nglan yr afon
Yn mysg y ceryg man;
Ond daeth rhyw heliwr heibio,
Gosododd arni gi—
Ni welais byth mo'm dafad,
Nis gwn a welsoch chwi?

'Roedd bwch yn ymyl Merthyr
Yn eistedd ar stol bren,
A gwr gerllaw yn 'nelu
Ei wn at wningen wen;
Pan glywodd swn yr ergyd
Aeth Bili 'n gaclwm gwyllt,
A neidiodd dros y clochdy,
Ni welwyd mo'no byth!


Dammegion, &c.

Gofyniad: Beth yw ffynon wen lefrith
Ynghanol cae gwenith?
Atebiad: Buwch yn yr yd.

Gofyniad: Beth aiff yn gyflymach wedi tori ei choes?
Atebiad: Rhedynen.

Gofyniad: Gwydd o flaen gwydd, gwydd ar ol gwydd,
A rhwng pob dwy wydd, gwydd;
Sawl gwydd oedd yno?
Atebiad: Tair.

Gofyniad: Mi gleddais hen gym'doges,
Ond ni gawn eto gwrdd;
Ar ddydd ei hadgyfodiad
Cawn wledda wrth y bwrdd.
Atebiad: Planu Pytaten.

Gofyniad: Beth sydd yn myn'd yn hirach wrth dori ei phen?
Atebiad: Ffos.

Gofyniad: Cnoc, cnoc yn y coed,
Pedwar llygad ac un troed.
Atebiad: Gordd mewn buddai gnoc.

Gofyniad: Mi fum yn claddu hen gydymaith
Gododd i fy mhen i ganwaith;
Yr wyf yn ofni er ei briddo
Y cyfyd i fy mhen i eto !
Atebiad: Meddwyn yn hau haidd.


Tri Gwr Doeth.

Aeth Tri Gwr doeth o'r Dyffryn
I'r mor mewn cawgen fenyn;
Pe buasai'r gawgen hono'n gryfach
Buasai 'm can yn llawer hirach.


Dull Deniadol a'r Dull Goreu i Ddysgu Cymraeg i'r Plant yn yr Ysgol Ddyddiol ac ar yr Aelwyd Gartref.

LLWYDDIANT Y TEGAN-LYFRAU (TOY-BOOKS).

Dim yn gyffelyb iddynt yn y Gymraeg o ran Mater, Darluniau, na Gwisg.

CYFRES YSGOL Y PLANT BACH. Gyda Darluniau Lliwiedig.

Bore Bywyd, 2g Myfanwy yn y Wlad, 3c.

Dof a Gwyllt, 2g.Dygwyl yn yr Hafod, 2g.

Cartre' Ifor, 2g.Enwau Pethau Cyffredin, 3c.

Trwy'r Post, 1g. yr un ychwanegol. Mae yr uchod yn hollol newydd.

HWIAN GERDDI CYMRAEG F'EWYRTH HUW,

Gyda Darluniau hardd, Llythyren fras, 3c.; trwy'r Post, 4c.

Gofynner i Lyfrwerthwr geisio rhai i chwi.

Mae'n amhosibl peidio meddwl am y golled gafodd plant Cymru cyn ymddangosiad y Teganlyfrau hyn. Mae plant yn hoff o bethau yn taro eu chwaeth, a chan nad oedd dim yn Gymraeg, troent at lyfrau y Saeson, ac felly collent flas at bethau Cymreig. Mae y llyfrau hyn yn rhwym o amwylo y Gymraeg i'r plant.

Dywed un o Arolygwyr Ysgolion Ei Fawrhydi,—"I am delighted with the Nursery Rhyme Books. It is sad to think that Welsh children have hitherto had none of these charming aids, which add so much to the joy of childhood."

Dywed Arolygwr arall,—"Your captivating Picture Books are an immense boon to the bairns of the Principality. They cannot fail to develop the children's powers of observation, and at the same time to assist them materially in learning the Welsh language."

Dywed y Proff. J. E. LLOYD, M.A., "They seem to me an admirable set, most opportunely issued at the present moment, when there is a diposition to adopt rational methods of teaching little Welsh children through the medium of their mother tongue." Dywed Mr. D. E. REES, Ysgolfeistr, Broughton,—"Your Welsh Toy Books are among. the most beautiful and attractive I have ever seen, and supply a long—felt want in the Welsh language. I feel sure, when these become sufficiently known, that they will find a prominent place in our Infants' Schools, and the lower standards of the Schools for older Scholars."

Dywed Mr. W. G. DODD, Llangollen, "I find your Welsh Toy Books most interesting, and I have no doubt they will be most helpful in any scheme we may adopt for the further teaching of Welsh in our Schools."

Amryw Lyfrau Gwobrwyon cymwys i Blant yr Ysgol Sul,—

Y BUGAIL DA,
Y SARFF BRES,
HANESION AM YR IESU,
HEN HANESION HOFF,
DEUWCH ATAF FI,
DAMEGION YR EFENGYL.

Gyda Darluniau Lliw CEINIOG y Llyfr.

HUGHES A'I FAB, Cyhoeddwyr, GWRECSAM.

Nodiadau

[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.