Hwn yw yr hyfryd fore ddydd
Gwedd
← Per fydd dy gofio, Iesu da | Hwn yw yr hyfryd fore ddydd gan Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) |
Dy enw Di, mor hynod yw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
138[1] Atgyfodiad Crist.
M. H.
1 HWN yw yr hyfryd fore ddydd
Y daeth ein Iesu mawr yn rhydd ;
Cydlawenhaed pob enaid trist
Y dedwydd ddydd y cododd Crist.
2 Bodlonwyd holl ofynion llawn
Y gyfraith yn ei berffaith Iawn;
Caed cymod dros bechadur trist:
Cyflawnwyd popeth—cododd Crist.
3 Goleuni ddaeth ar byrth y bedd:
Dynoliaeth bur, â newydd wedd,
A ddaw i'r lan o'r carchar trist
I fywyd dedwydd—cododd Crist.
4 Gwrandewch, y nefoedd! ddaear, clyw!
Dy feirwon eto a fydd byw ;
Preswylwyr llwch marwolaeth drist,
Deffrowch a chenwch—cododd Crist.
—Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 138, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930