Hynafiaethau Edeyrnion/Cadwaladr Roberts

Oddi ar Wicidestun
Rhys Wyn ab Cadwaladr Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Robert Roberts, Bonwm

CADWALADR ROBERTS, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a anwyd yn Plasynfaerdref, Llandrillo, Tach, 26ain, 1837. Yr oedd o deulu parchus a chrefyddol. Dechreuodd bregethu yn y fl. 1859. Wedi treulio amryw flynyddau fel efrydydd yn Athrofa y Bala, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi dosbarth Cerygydruidion; ond cyn hir, cyfyngodd ei lafur i eglwysi Rhydlydan, Tymawr, a Chefnbrith. Bu farw Ebrill 13, 1875, yn 37 mlwydd oed. Yr oedd yn bregethwr melus, efengylaidd, a dylanwadol, a theimlid fod bwlch mawr wedi ei wneud gan angeu pan alwyd ef ymaith.—(Gwel ei Gofiant gan y Parch. J. Williams, Llandrillo).


Nodiadau[golygu]