Hynafiaethau Edeyrnion/Eisteddfodau Edeyrnion
← Tarddiad Enwau | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
List of Subscribers → |
PENOD IV.
EISTEDDFODAU EDEYRNION.
Y MAE yr Eisteddfod Gymreig yn hen sefydliad, wedi ei drosglwyddo drwy yr oesau er y canrifoedd cyntaf. Diau fod llawer tro wedi bod ar eu byd hwy fel pobpeth isloerawl arall. Byddent weithiau mewn gauaf du, gwgus, a phryd arall dan dywyniad siriol huan haf. Ceir yn ngwaith Pennant (vol. ii., cd. 1810) draethawd manwl a dysgedig yn rhoddi hanes yr Eisteddfodau yn Nghymru, yn nghyda darluniad da o'r prif gymeriadau yn nglŷn â hwy. Bu y beirdd yn cael eu dal mewn bri mawr yn nheuluoedd y tywysogion Cymreig, ac yn mhlith y prif fonedd. Derbynient ffafrau mewn cyflawnder, cynaliaeth gysurus, ac amddiffyniad i'w personau, ac ystyrid gwerth bardd yn gyfartal i bris 126 o wartheg. Tra y mae lluaws o bethau wedi codi yn y farchnad er y dyddiau dedwydd hyny, ofnwn fod bardd wedi myned i lawr gryn lawer yn marn y byd. Ystyrir dyn bellach yn llawer pwysicach na bardd.
Ond âg Eisteddfodau y parth hwn o wlad yr awen y mae a fynom ni, ac ni chaniata gofod ond i wneud nodiadau byrion. Yr oedd rhai o wŷr Edeyrnion yn wyddfodol ac yn cymeryd rhan yn yr Eisteddfod a gynaliwyd yn Nglynceiriog ddydd Iau y Dyrchafael, 1743—Y barnwr yn yr Eisteddfod hòno oedd Sion Prys, yr Almanaciwr dysgedig o Fryn Eglwys, ac Arthur Jones o Gyldini oedd yr enillydd. Fel hyn y canai y naill i'r llall—
"Arthur heb wâd yw athro'r beirdd,
Gan hwn y ceir canghenau cerdd;
De'wch, blant, yn bendant i'r bwrdd,
I godi hwn i'r gadair hardd."
Yr oedd Harri Parry o Graig-y-gath yn rhigymu yno yn ol ei arfer. Un o'r clerfeirdd oedd ef, ond bu mor anturus unwaith a myned i ymryson barddonol gyda Twm o'r Nant; ond dywedai Twm—
"Dolen a chortyn dwylath
I grogi y gwr o Graig y gath."
Cynelid cynulliadau y beirdd y cyfnod hwn mewn tafarndai, ac arferir cryn ryddid ar iaith pan y gelwir rhai o honynt yn Eisteddfodau o gwbl. Canu yn ddifyfyr y byddai y cystadleuwyr yn gyffredin, a'r goreu ar yr oll a ystyrid yn ben bardd y dydd. Lled ddireol fyddai amryw o'r rhai a ystyrient eu hunain yn blant Ceridwen, ac aml yr yfent yn helaethach o drwyth yr heidden nag o'r awen wir. Mae traddodiad yn ffynu fod Eisteddfod wedi ei chyhoeddi i fod yn Nghorwen unwaith, ac i fardd ddyfod ar ei drafael i chwilio am dani. Erbyn cyrhaedd y ty ni welai ond un bardd wedi meddwi, a dau delynor mewn ymryson; ac yna dywedai—
"Eisteddfod hynod i'w henwi—yw hon,
A'i hanes yn ddigri';
Dau delynor yn anfodloni,
A dyn o'i hwyl—dyna hi."
Cymerai rhai dynion hoff o segurdod a'r gyfeddach arnynt eu bod yn feirdd weithiau, er mwyn cael ymgysgodi yn ffafrau gwyr haelionus,—dynion na cheid awen yn eu penau mwy nag y ceir afalau yn tyfu ar bren onen. Un o'r tylwyth hwn, debygid, oedd y teiliwr o Benllyn y sonia Ap Vychan am dano, yr hwn a gredai mewn llenwi ei gylla ar draul eraill ar gyfrif y ddawn a dybiai oedd ganddo. Ond gwnaed deddf y gorfodid ef i dalu dros y cwmni oll os na allai wneud proest neu englyn iddo ei hunan o fewn cylch amser penodol. Ar ol bir ystyriaeth daeth allan y llinell hon——
"Dyma ddyn o Benllyn bwt."
Ond yn ei fyw ni allasai fyned yn mhellach; ond o drugaredd ato gorphenwyd y proest drosto gan un arall—
"A dawn hael o dan ei het:
A raid i we'ydd a phrydydd ffrwt,
Neu deiliwr sal dalu'r siot."
Yn y flwyddyn 1789 cynaliwyd Eisteddfod ar raddfa eangach na'r cyffredin yn Nghorwen, o dan arwydd Owain Glyndwr. Y llywydd oedd Thomas Jones y Cyllidydd, ac yr oedd yn wyddfodol yr enwogion Twm o'r Nant, R. Davies, Nantglyn, Jonathan Huws, Robert Williams, Trerhiwaedog, Gwallter Mechain, &c. Rhoddodd y llywydd y testynau canlynol i ganu arnynt:—1. Adferiad iechyd Sior y III.; 2. Y Frenhines Siarlot; 3. Mr. Pitt; 4 Etifedd Nannau; 5. Pont Corwen; 6. Yr Ysgyfarnog; 7. Dr. Willis, meddyg y brenin; 8. Owain Glyndwr; 9. Arglwydd Bagot; 10. Adardy Rug; 11. Cymdeithas y Gwyneddigion. Dyma englyn a gyfansoddwyd i Bont Corwen yn yr Eisteddfod—
"Saith gameg hardd-deg yw hi—seth ganllaw
Syth gynllwyn dwfr dani;
Syth glwm saith gloer yn poeri,
Safnau'r llwnc nas ofner lli."
Wele yn canlyn englyn Twm o'r Nant i "Adardy Rug,"—
"Pleserus heb liw sarug—anedd—dy
Mewn mynydd-dir mânrug;
Gorsedd Berwyn swydd barug,
Adail rwydd i deulu Rug.'
Anfonwyd cyfansoddiadau tri, sef eiddo Twm o'r Nant, Jonathan Huws, a Gwallter Mechain, i Gymdeithas y Gwyneddigion i farnu pa un o honynt a deilyngai y gadair arian. Rhoddwyd y llawryf i Walter Davies, nes y dywedid—
"Twm o'r Nant a'i fant fwyn
A ildiodd i Drefaldwyn.
Ond digiodd Twm, a mwmiai—
"Rhoi clod i Wallter ddallder, ddu,
Cyhoeddus cyn ei haeddu.'
Digiodd rhai o gyfeillion Twm yn aruthr, yn neillduol Dr. D. Samuel, yr hwn a aeth mor bell a cheisio gan un o'r blaid wrthwynebol fyned i ymladd omnest; ond diweddodd y cwbl yn dawel drwy i'r Doctor roddi anrheg i Twm o ysgrifbin arian, ac yn ysgrifenedig arno, "Rhodd Dafydd Samuel i T. Edwards, Penbardd Cymru. Anfonodd y bardd o'r Nant awdl o ddiolchgarwch yn ol iddo yntau. Cyflwynwyd medal arian hefyd yn yr Eisteddfod uchod i Lewis Roberts, Maentwrog, am ganu penillion gyda'r delyn deir-rhes. Cyhoeddid yn Eisteddfod Corwen fod yr un ganlynol i'w chynal yn y Bala. "I'r Bala'r tro nesa" 'rawn ni," meddai un; "Qes bai feddwl os byw fyddi," meddai un arall mewn mynyd.
Ceir hanes yn y Gwyliedydd, Goleuad Cymru, &., am nifer o Eisteddfodau yn cael eu cynal yn Edeyrnion yn y rhan gyntaf o'r ganrif hon. Weithiau ymgynullent yn y Stamp, Llangar; weithiau dan arwydd y Delyn yn Nghorwen; ac weithiau yn y Ddwyryd. Bu Peter Llwyd o Gwnodl yn Fardd y Gymdeithas am gryn amser, a'r Parch. Mr. Clough yn Llywydd. Bu y mân. Eisteddfodau hyn yn gyfleusdra i dynu egnion beirdd lleol da allan, megys Peter Llwyd, Eos Ial, Iolo Gwyddelwern, &c. Gwnaethant lawer tuag at ddwyn iaith a llenyddiaeth y Cymry i sylw ieuenctyd yr ardaloedd, gan greu rhyw gymaint o gyffro meddyliol, ac ysgwyd tonau llyn llonydd cymdeithas y dyddian hyny.
Cynaliwyd Eisteddfod fawr yn Nghorwen yn Awst, 1874, yr hon a barhaodd am ddau ddiwrnod, yn cael ei llywyddu gan yr Anrhydeddus C. H. Wynn, Rug; S. Holland, Ysw., A.S.; J. Parry Jones, Ysw., Dinbych; a T. Eyton Jones, Ysw., M.D., Gwrecsam, brodor o Edeynion. Ymgynullodd miloedd o bobl I'r babell eang, ac yn eu mysg rai o brif uchelwyr y wlad, a chyfrenid gwobrwyon am weithiau celfyddydol yn gystal ag am gerdd dafod a cherdd dant. Anhawdd peidio teimlo fod ysbryd yr oes wedi newid llawer. Nid y gwladgarwch goreu yw glynu yn gibddall wrth hen arferion, ond cadw rhinweddau ein hen dadau er newid y ffurf, ac ymwrthod â'u colliadau, er mai colliadau Cymry oeddynt.
GWELLIANT GWALL
Yn tudal. 17, yn lle Harri VII. darllener Harri II.
DIWEDD