Hynafiaethau Edeyrnion/Owain Gwynedd

Oddi ar Wicidestun
Owen Fychan Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Owain Brogyntyn

OWAIN GWYNEDD.—I. Y tywysog cadarn, oedd fab i Gruffydd ap Cynan, am yr hwn y soniwyd yn barod yn ei gysylltiad âg Edeyrnion. Ar farwolaeth ei dad, yn 1137, yn ol defod gwlad, rhanwyd tywysogaeth Cymru, a rhan Owain ydoedd gwlad Gwynedd. Ei weithred gyntaf fel tywysog ydoedd arwain rhyfelawd i'r Deheubarth, yr hwn a fu yn dra llwyddianus. Dinystrodd Gestyll Ystrad Meurig, a Phont Stephan, a llosgodd Gaerfyrddin i'r llawr. Yn 1144 darostyngodd gastell cadarn y Wyddgrug. Cyfeiriwyd mewn tudalen blaenorol at ei ymosodiad llwyddianus yn erbyn byddin Harri II., yn 1165. Yna cymerodd Owain Gastell Basingwerk, yn sir Fflint, gan ei lwyr ddinystrio; a buan ar ol hyny cyfarfu Cestyll Prestatyn a Rhuddlan â'r un dynged. Terfynodd ei oes fywiog yn 1169, a chladdwyd ef yn Mynachlog Bangor.—II. Ceir marwnad i un Owain Gwynedd yn y Gorchestion o waith Tudur Owain. Pwy oedd yr Owain Gwynedd hwnw sydd anhysbys, gan nas gall fod y tywysog na'r bardd adnabyddus. Fodd bynag, yr oedd yn byw yn Gwyddelwern, ac yno y claddwyd ef.

"Trist yw'n iaith trosto'n ei ol,
Gan ei ddwyn Owain Gwynedd,
Y fo'n Ial a fu'n y wedd
Gwyddelwern, y gwaeddolef,
Gwaed a wyl beirdd gwedi ef."


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owain Gwynedd
ar Wicipedia

Nodiadau[golygu]