Hynafiaethau Edeyrnion/Owen Jones (Owain Myfyr)
← Meirion Goch | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Matthew Owain → |
OWEN JONES (Owain Myfyr).—Ganwyd y gwladgarwr haelfrydig a'r hynafiaethwr twymgalon hwn mewn ffermdy o'r enw Tyddyn Tudur, yn mhlwyf Llanfihangel Glyn Myfyr, sir Ddinbych, yn 1741. Mab ieuengaf i deulu parchus ydoedd yn y lle hwnw, am y rhai ni wyddys ond ychydig heblaw eu bod yn hanu o deulu hynafol. Pan yn dra ieuanc, danfonwyd ef i Lundain, a rhwymwyd ef yno yn egwyddorwas gyda Meistri Kidney a Nutt, Furriers, yn Thames Street. Yn mhen ysbaid cafodd gyfran yn y fasnach, a thrachefn olynodd hwynt; a pharhaodd i ddwyn y fasnach yn mlaen hyd ei farwolaeth. Ond er ei ofalon a'i lwyddiant masnachol, mynodd hamdden i dosturio wrth agwedd farwaidd llenyddiaeth ei wlad, i resynu dros ddifrawder ei gwŷr mawr o'i phlaid, ac i wneud ei oreu er dihuno doniau cysglyd ei gydwladwyr, ac arbed rhag difancoll ysgrifeniadau gwerthfawr ein hynafiaid oedd yn cael eu gorchuddio gan lwch a'u hysu gan bryfaid. Tynodd ei gynlluniau er mwyn dwyn ei amcanion gwiwglodus oddiamgylch, ac nid arbedodd nac arian nac amser er eu cyrhaedd. Yn 1772 bu yn offeryn i sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain, ac nid yn unig bu hon o fawr les er enyn cenedlgarwch yn mhlith Cymry y Brifddinas, ond bu o wasanaeth mawr hefyd trwy benodi a chynal Eisteddfodau mewn amrywiol barthau o Gymru. Ymroddodd yn ieuanc i gasglu ac adysgrifio hen ysgriflyfrau Cymreig, a pharhaodd yn ddiwyd wrth y gwaith hwn hyd ddiwedd ei oes; a blaenffrwyth yr ymdrech wladgarol hon ydoedd iddo argraffu yn 1789, a hyny yn hollol ar ei draul ei hun, gyfrol drwchus yn cynwys 592 o dudalenau, o gywyddau, &c., Dafydd ab Gwilym, gyda rhagymadrodd bywgraffyddol helaeth o'r bardd gan y Dr. O. Pugh. Tua dechreu y ganrif bresenol cyhoeddodd argraffiad newydd o Ddyhewyd y Cristion, sef cyfieithiad y Dr. John Davies y Fallwyd o'r Christian Resolution, er lles ysbrydol ei gydgenedl. Ond cofgolofn ardderchog ei yni cenedlgarol ydoedd ei gyhoeddiad o'r drysorfa werthfawr hono o lenyddiaeth hynafol Gymreig, "The Myvyrian Archeology of Wales." Cyhoeddodd Myfyr y gwaith mawr hwn yn hollol ar ei draul ei hun yn 1801—1807, mewn tair cyfrol wythblyg mawr. Cynwysa gynyrchion barddonol a rhyddieithol y Cymry o'r oesau boreuaf hyd derfyn y 13eg canrif; ac yr oedd y cyhoeddiad yn unig o hono yn costio i Myfyr dros fil o bunau. Rhoddwyd yr ysgrifeniadau crybwylledig i'r byd yn y dull cyntefig, gyda ffyddlondeb cydwybodol, trwy gynorthwy Dr. Pugh ac Iolo Morganwg—ond cofier ar draul Owain Myfyr; a phan ystyrier fod y rhan gyntaf o'r trysor— au llenyddol hyn heb fod erioed o'r blaen mewn argraff—fod llawer o honynt wedi eu hachub, yn ol pob tebygolrwydd, rhag dinystr anocheladwy; a phan gofier fod difaterwch cywilyddus yn ffynu yn gyffredinol gyda golwg ar lenyddiaeth Gymreig, fel yr oedd ad—daliad yn anobeithiol,—y mae yn aumhosibl prisio y weithred hon o eiddo Myfyr yn rhy uchel. Y mae y gwaith gwerthfawr hwn wedi cael ei ailargraffu gan Mr. Gee, Dinbych. Heblaw yr ysgrifau a gyhoeddodd efe yn y Myvyrian, cadwodd y gweddill o honynt yn ofalus mewn ysgriflyfrau, a chwanegodd atynt gopiau llawysgrifol llenyddiaeth y genedl o 1300, lle y terfyna yr Archæology, hyd oes y Frenhines Elizabeth. Dywedir y costiodd casglu, ysgrifenu, a dosbarthu y rhai hyn iddo dros dair mil o bunau. Gadawodd ef hwynt i'w wraig, gan yr hon y pwrcaswyd hwynt i'w cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig, lle y maent yn awr, yn cynwys 47 cyfrol o brydyddiaeth, yn 16,000 o dudalenau, heblaw tua 2,000 o englynion. Mae yr un casgliad hefyd yn cynwys 53 cyfrol o ryddiaeth Cymreig, mewn tua 75,300 o dudalenau, yn cynwys llawer o ysgrifeniadau Cymreig ar amrywiol bynciau. Yr ysgrifau anmhrisiadwy hyn, oddigerth ychydig o honynt a gyhoeddwyd yn y Brython, Cymru Fu, &c., a orweddant yn domen farw a diles yn y gywreinfa genedlaethol. Yn 1805 efe a ddechreuodd gyhoeddi cylchgrawn Cymreig yn Llundain o'r enw y Greal, yn cynwys lluaws o hen ysgrifau Cymreig prinion a dyddorol, yn nghydag erthyglau gwreiddiol; ond ni chyhoeddwyd ond un gyfrol o hono, ac y mae hòno yn an. hawdd ei chael bellach. Yr oedd Myfyr hefyd yn meddu llawer Rhydd golygydd y rinweddau personol tra chanmoladwy. Cambro Briton un esiampl nodedig o hyn. Ychydig o flynyddau ar ol sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion, tynodd awdwr traethawd Cymreig enwog, i'r hwn y dyfarnwyd un o'r gwobrau, mewn canlyniad i hyny, sylw ei sylfaenydd haelfrydig. Y canlyniad angenrheidiol i hyny oedd, i ohebiaeth ddechreu rhyngddynt, yn ystod yr hon y cymhellodd ein Mecenas Cymr ei gyfa newydd i fynu y budd o addysg athrofaol i'w dalentau, gan ddefnyddio yn ei lythyr ar yr achlysur y geiriau nodedig hyn:—
"Mi ddygaf fi eich holl draul. Tynwch arnaf fi unrhyw symiau o arian a ddichon fod yn angenrheidiol i chwi tra yn yr athrofa, Ac amod yr ymrwymiad ydyw hyn: os dygwydd i mi trwy ryw anffawd mewn masnach fyned yn dlawd, ac i chwithau fod mewn sefyllfa o gyfoeth, fod i chwi y pryd hyny fy nghynal i." Nid oes brawf cryfach o'i ysbryd haelfrydig yn angenrheidiol. Dywedir mai unwaith yn unig y bu y boneddwr ieuanc a nodwyd dan yr angenrheidrwydd o wneud prawf o haelioni ei noddwr, ac iddo ei gael y pryd hyny yn llawn cystal a'i addewid; ac y mae yn sicr y cawsai ef yr un mor ffyddlon i'w air pe yr aethai ar ei ofyn drachefn. Dylid chwanegu hefyd, ddarfod i Myfyr, trwy ei graffder doeth yn yr amgylchiad yma, a thrwy ei gefnogaeth gymhelliadol, fod yn foddion i ddwyn person i'r cyhoedd a fu yn addurn wedi hyny i lenyddiaeth Gymreig. Wedi oes ddefnyddiol, efe a fu farw yn ei dy ei hun yn Thames Street, Medi 29, 1814, yn 73 oed, gan adael gweddw a thri o blant ar ei ol—un o ba rai, sef ei unig fab, Owen Jones, a ddaeth yn adeiladydd enwog, ac yn awdwr amrai lyfrau uchelbris ar y gelfyddyd hono. —Em. Welshmen; Cambrian Register; Cambro Briton.