Hynafiaethau Edeyrnion/Robert Roberts, Llansantffraid

Oddi ar Wicidestun
Robert Roberts, Bonwm Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Edward Samuel

ROBERT ROBERTS, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Llansantffraid, Corwen, a Chynwyd. Ganwyd ef yn Caregafon, plwyf Corwen, yn 1818; a bu farw yn Plasynhonwm, yn yr un plwyf, yn 1868. Llafuriodd yn ddyfal a llwyddianus yn y weinidogaeth, ac ysgrifenodd lawer i'r Greal, Seren Gomer, a chyfnodolion eraill. Rhagorai yn ei fedrusrwydd i drafod hanesiaeth eglwysig, Yr oedd hefyd yn wr cadarn mewn beirniadaeth Feiblaidd, ac uwchlaw'r cyfan yn Gristion gloew. (Gwel ei Gofiant gan H. C. Williams).


Nodiadau[golygu]